Ymchwil yn Cofrestrfa Tir EF
Trosolwg o ymchwil a wneir gan Gofrestrfa Tir EF.
Ein gwaith
Rydym yn cofrestru perchnogaeth tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr.
Mae ymchwil yn ein helpu i ddylunio gwasanaethau sy’n gweithio’n dda i’n cwsmeriaid ac yn ein helpu i ddeall eu budd i gwsmeriaid a’r farchnad eiddo ehangach.
Ein hymchwil presennol
Arolwg chwarterol cyflym i gwsmeriaid
Fel rhan o’n hymchwil barhaus, bydd Savanta, ein partner asiantaeth ymchwil allanol, yn cysylltu â chwsmeriaid dros y ffôn a thrwy ebost bob chwarter. Mae’r arolwg yn olrhain tueddiadau boddhad cwsmeriaid dros y flwyddyn ac yn ein hysbysu lle mae angen gwella gwasanaethau. Mae’r arolwg ffôn yn cymryd tua 15 munud a’r arolwg ebost yn cymryd tua 10 munud.
Cynhelir ymchwil ar gyfer yr arolwg hwn ym mis Chwefror, Mehefin, Medi, a Thachwedd hyd at Ragfyr bob blwyddyn. Mae ymchwil yn para tua 3 wythnos.
.
Ymchwil canolfan gwasanaeth i gwsmeriaid
Fel ffordd o sicrhau bod Cofrestrfa Tir EF yn darparu gwasanaeth rhagorol, bydd arolygon byr yn cael eu hanfon at gwsmeriaid yn dilyn rhyngweithio dros y ffôn. Bydd modd optio allan os nad ydych am gael y rhain.
Ymuno â’n paneli
Ydych chi’n defnyddio gwasanaethau Cofrestrfa Tir EF fel cwsmer busnes (er enghraifft, fel cyfreithiwr, trawsgludwr neu roddwr benthyg)?
Mae tîm Mewnwelediad Cwsmeriaid a’r Farchnad yng Nghofrestrfa Tir EF yn cynnal ymchwil rheolaidd gydag ystod eang o gwsmeriaid busnes hefyd, gan gynnwys y rhai sydd wedi ymuno â’n panel ymchwil proffesiynol. Am ragor o fanylion, ymunwch â’n Panel Ymchwil Mewnwelediad Cwsmeriaid.
Mae adborth panel wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu’n gwasanaethau presennol fel MapSearch, Ffurflen RXC, Ask for Guidance ac yn fwyaf diweddar, yr ymgyrch Digital by Default. Mae gwaith parhaus yn cynnwys profi pecyn hyfforddi gyda chwsmeriaid i gefnogi eu dechreuwyr newydd neu fel dull o loywi ar gyfer staff presennol, yn ogystal â phrosiect ynghylch cyfrifo ffïoedd Graddfa 2.
Cysylltu
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected].