Ein defnydd o ynni
Rydym yn monitro ac yn cyhoeddi gwybodaeth ynglŷn â faint o ynni mae ein pencadlys yn ei ddefnyddio, yn rhan o'r ymdrechion i ostwng faint o ynni a ddefnyddir ac i fod yn fwy agored am weithrediadau a gwariant y llywodraeth.
Mae adrannau’r llywodraeth yn cystadlu ar hyn o bryd i ostwng allyriadau carbon ac i gyflawni addunedau yn ymwneud â’r amgylchedd a chynaliadwyedd.
See comparative data on departmental energy performance.
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cyhoeddi gwybodaeth ynglŷn â faint o ynni mae adeiladau ein swyddfeydd yn ei ddefnyddio. Mae hyn yn cynnwys data amser real sy’n dangos faint o ynni a ddefnyddir:
- energy use for 102 Petty France
- faint o ynni a ddefnyddir, cost ac allyriadau carbon deuocsid dros gyfnodau penodol o amser.
Mentrau arbed carbon
Rydym yn gwneud gwell defnydd o oleuo drwy:
- ddiffodd goleuadau dianghenraid mewn ystafelloedd cyfarfod
- addasu goleuadau’r ystafelloedd cyfarfod fel eu bod yn synhwyro symudiadau
- gostwng amser ymateb y peiriannau synhwyro symudiadau ar loriau swyddfeydd
- gostwng goleuo dianghenraid
Rydym yn targedu’r defnydd a wneir o ynni cyfrifiaduron drwy:
- dynnu’r holl beiriannau argraffu lleol sy’n printio un ochr
- ddefnyddio nodweddion gwyrdd rhagosodedig y cyfrifiaduron personol, monitorau, peiriannau ffacsio a pheiriannau argraffu er mwyn arbed ynni
- roi cynnig ar bolisi tymheredd rmannau gwag
- ddefnyddio bwyleri’n effeithlon
Hefyd, dim ond yn ystod oriau gweithio’r staff y mae peiriannau’r adeilad ar waith a chânt eu diffodd dros y penwythnosau.
Cynlluniau ar gyfer y dyfodol
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dal i weithio i ostwng y defnydd a wna o ynni gymaint ag sy’n bosibl a bydd yn cyflwyno mwy o gynlluniau’n fuan.