Caffael yn MOJ
Gwybodaeth am gaffael yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder a sut yr ydym yn gwella cyfleoedd caffael i fentrau bach a chanolig.
Cyflwyniad
Yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, rydym yn prynu amrywiol nwyddau a gwasanaethau i fodloni anghenion ein cwsmeriaid. Ar gyfer y rhan fwyaf o’n hymarferion caffael rydym yn cynnal proses dendro gystadleuol ac yn dilyn polisiau a rheoliadau caffael cyheoddus y DU. Mae ymarferion caffael yn rhwym wrth wahanol reoliadau a pholisïau yn ddibynnol ar eu gwerth.
Rydym yn cyhoeddi manylion cyfleoedd caffael a manylion dyfarnu contractau yn y mannau canlynol, lle bo’n berthnasol:
- Contracts Finder: Caiff cyfleoedd a dyfarniadau dros £10,000 eu cyhoeddi ar Contracts Finder. Mae’r cyfleoedd yn cynnwys cyfleoedd ‘byw’, cyfleoedd i’r ‘dyfodol’ sy’n debygol o fynd yn fyw yn y pum mlynedd nesaf, a chyfleoedd ‘ymgysylltu cynnar’ a ddefnyddiwn i helpu i ddatblygu syniadau a allai fod yn gyfleoedd i’r dyfodol.
- Find a Tender Service (FTS): Caiff cyfleoedd a dyfarniadau sy’n mynd dros y trothwyon a bennwyd yn unol â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 hefyd eu cyhoeddi ar FTS.
- Official Journal of the European Union (OJEU): Mae dyfarniadau ar gyfer contractau sy’n mynd dros yr un trothwyon y cyhoeddwyd hysbysiadau contract ar eu cyfer cyn diwedd y Cyfnod Pontio cyn gadael yr UE yn cael eu cyhoeddi yn OJEU yn ogystal ag yn yr FTS.
Darllenwch Rheoli Masnachol a Chontractau yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder i gael gwybodaeth am sut rydym wedi cael ein trefnu a pha fath o gontractau’r ydym yn gyfrifol amdanynt.
Trywyddau Masnachol MOJ
Mae trywyddau masnachol yr MOJ yn rhoi golwg ar ein gweithgaredd masnachol posibl dros y 18 mis nesaf. Rydym wedi cynnwys ein holl brosiectau blaenllaw a’r ymarferion caffael disgwyliedig sydd wedi’u prisio ar £10 miliwn a drosodd. Bwriedir y manylion a gyflwynir er gwybodaeth yn unig ac maent yn adlewyrchu trywydd caffael disgwyliedig yr MOJ ac nid yw’r MOJ yn gwneud dim ymrwymiad:
- y cynhelir ymarferiad caffael ar gyfer y gofynion a nodir yn y tabl
- y bydd gwerth blynyddol unrhyw gontract fel y nodir
- y bydd amseriad ymarferion caffael i’r dyfodol fel y nodir
Ni phenderfynwyd ar y llwybr cyrchu ar gyfer unrhyw ymarferiad caffael dilynol, er enghraifft, byddai drwy gyfrwng fframweithiau dan ofal Gwasanaethau Masnachol y Goron (CCS) neu drwy gystadlaethau agored. Ni all yr MOJ warantu y bydd y cyfleoedd hyn ar gael i’r holl gyflenwyr.
Byddwn yn adnewyddu ein trywydd masnachol cyhoeddedig bob 6 mis a bydd yn dal i gyhoeddi manylion ein holl gyfleoedd, gan gynnwys rhai a brisiwyd ar lai na £10 miliwn, ar Contracts Finder
Sut i dendro am gontract sector cyhoeddus
Mae’r arweiniad Sell goods or services to the public sector, yn rhoi gwybodaeth fanwl am y broses gaffael a thendro, sut i ddefnyddio Contracts Finder a sut i chwilio am gontract.
eGaffael
Mae eGaffael yn ffordd effeithlon, syml ac archwiliadwy o ddelio â chyrchu a chontractau. I gymryd rhan mewn digwyddiad eGaffael rhaid ichi gyflwyno datganiad o ddiddordeb mewn ymateb i dendr y mae’r MOJ wedi ei hysbysebu.
Gellir gwneud hyn drwy’r porth eSourcing.
Ar ôl cyflwyno datganiad o ddiddordeb, os nad yw eich sefydliad eisoes wedi cofrestru, fe wnawn anfon gwahoddiad i gofrestru atoch. Ar ôl cofrestru, cewch eich gwahodd i ddigwyddiad cyrchu.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r tîm eGyrchu ar [email protected] neu ffonio 0845 010 0132.
Y broses gwyno am gontractau a thendro
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ymrwymo i arferion gorau’r sector cyhoeddus. Caiff prosesau cystadleuol eu llywodraethu gan ddeddfau’r UE a deddfwriaeth y Deyrnas Unedig. Mewn pob gweithgaredd masnachol mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn glynu wrth y safonau proffesiynoldeb, ymddygiad moesol a didueddrwydd uchaf.
Rydyn ni wastad yn barod i gael adborth ar ein prosesau cystadleuol, boed hwnnw’n negyddol neu’n gadarnhaol, a byddwn yn ymateb i gwynion gan ddefnyddio’r broses gwyno hon.
Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i gynnal cyfrinachedd a byddwn yn cymryd camau priodol i’w sicrhau. Os ydych chi wrthi’n tendro am waith gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar hyn o bryd, gallwn eich sicrhau na fydd eich sylwadau’n cael dim effaith ar y broses deg a weithredwn i ddelio â’ch tendr.
Sut i gwyno
Dylai cwynion gael eu wneud yn ysgrifenedig i’r enw cyswllt ar gyfer y cylch tendro cystadleuol perthnasol. Dylai copi o’r holl gwynion gael eu hanfon i dîm Cydymffurfiaeth y Gyfarwyddiaeth Rheoli Masnachol a Chontractau (CCMD): [email protected]
Byddwn yn cydnabod pob cwyn yn ysgrifenedig cyn pen pum diwrnod gwaith ac ymdrechwn i ymateb cyn pen deg diwrnod gwaith. Os na ellir cyhoeddi ymateb llawn yn yr amser hwn, byddwn yn dweud wrthych faint y bydd yn ei gymryd.
Rydym yn monitro ac yn gwneud adroddiadau ar y cwynion a gawn a’n nod yw dysgu oddi wrthynt a gwella ein prosesau.
Gwybodaeth i’w chyflwyno wrth wneud cwyn
Os oes gennych sylw neu gŵyn am unrhyw agwedd ar gylch caffael cyfredol/diweddar, cyflwynwch yn ysgrifenedig fanylion llawn y cylch caffael y cyfeiriwch ato gan gynnwys os yn bosibl:
- Manylion unrhyw gyfeirnod
- Y nwyddau / gwasanaeth sydd dan sylw yn y tendr
- Manylion cyswllt y rheolwr contractau masnachol perthnasol
Os nad ydych yn fodlon â’r ymateb a gewch, cewch gysylltu â’r unigolyn a ymatebodd i’ch cwyn gychwynnol, neu enw cyswllt arall a enwir yn ein hymateb ichi. Caiff eich cwyn ei chydnabod yn ysgrifenedig cyn pen pum diwrnod gwaith ar ôl iddi ddod i law.
Os ydych chi’n dal yn anfodlon, yn ddibynnol ar ei natur, mae’n bosibl y cyfeiriwn eich cwyn i’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cyfreithiol os yn briodol. Caiff eich cwyn ei chydnabod yn ysgrifenedig cyn pen pum diwrnod gwaith ar ôl iddi ddod i law.
Telerau ac amodau archebion prynu’r MoJ
Telerau ac amodau archebion prynu cyffredinol y Weinyddiaeth Gyfiawnder:
General purchase order terms and conditions: goods
General purchase order terms and conditions: services
Government Facilities Service Limited (GFSL)
Telerau ac amodau archebion prynu Government Facility Services Limited (GFSL):
GFSL general purchase order terms and conditions: goods
GFSL general purchase order terms and conditions: services
Cysylltu â ni
I gael gwybodaeth neu arweiniad pellach, cysylltwch â ni drwy’r e-bost ar: [email protected].
Talu ein cyflenwyr yn brydlon
Ein nod yw talu’r holl anfonebau dilys ac awdurdodedig o fewn 5 diwrnod gwaith yn unol â’r cod talu prydlon. Ni fyddwn yn newid ein amodau a thelerau cytundebol presennol.
Diffinnir y dyddiad derbyn fel y diwrnod y derbyniwn eich anfoneb yn ein cyfeiriad ni.
Anfonebu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder
Wrth anfonebu rhaid i chi gynnwys:
- Rhif anfoneb / rhif adnabod unigryw
- dyddiad yr anfoneb
- eich enw a’ch manylion cyswllt
- enw a chyfeiriad yr adran / asiantaeth rydych chi’n ei hanfonebu
- eich manylion banc
- rhif yr archeb brynu a roddwyd i chi gan yr adran (rhif 11 digid)
- disgrifiad o’r gwasanaethau / nwyddau rydych chi’n codi tâl amdanynt
- y tâl y cytunwyd arno (os na, dadansoddiad o’r gwasanaethau gwaith sy’n gysylltiedig â’r arwystl, neu esboniad o’r gwahaniaeth rhwng y tâl gwirioneddol a’r un y cytunwyd arno)
- cadarnhad eich bod wedi cwblhau’r gwasanaethau’n llawn / wedi darparu’r nwyddau gan gynnwys y dyddiad
Sylwch: Dylid anfon anfonebau ar ffurf PDF os cânt eu cyflwyno trwy e-bost.
Anfonwch eich anfoneb i’r cyfeiriad e-bost a/neu bost canlynol:
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM
E-bost: [email protected]
SSCL – Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM,
Blwch Post 745,
Casnewydd,
Gwent,
NP10 8FZ
Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM
E-bost: [email protected]
SSCL – Y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr,
Blwch Post 741,
Casnewydd,
Gwent,
NP10 8FZ
Y Weinyddiaeth Gyfiawnder Gorfforaethol
E-bost: [email protected]
Y Weinyddiaeth Gyfiawnder,
Blwch Post 743,
Casnewydd,
Gwent,
NP10 8FZ
Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
E-bost: [email protected]
SSCL – Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid,
Blwch Post 771,
Casnewydd,
Gwent,
NP10 8FZ
Swyddfa Cymru
E-bost: [email protected]
SSCL – Swyddfa Cymru,
Blwch Post 768,
Casnewydd,
Gwent,
NP10 8FZ
Yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol
E-bost: [email protected]
SSCL – Yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol,
Blwch Post 747,
Casnewydd,
Gwent,
NP10 8FZ
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
E-bost: [email protected]
SSCL – Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus,
Blwch Post 767,
Casnewydd,
Gwent,
NP10 8FZ
Y Bwrdd Parôl
E-bost: [email protected]
SSCL – Y Bwrdd Parôl,
Blwch Post 773,
Casnewydd,
Gwent,
NP10 8FZ
Y Comisiwn Penodiadau Barnwrol
E-bost: [email protected]
SSCL – Y Comisiwn Penodiadau Barnwrol,
Blwch Post 774,
Casnewydd,
Gwent,
NP10 8FZ
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cyslltwch â’r llinell gymorth:
Y Ganolfan Gysylltu Cydwasanethau
E-bost: [email protected]
Ffôn: 0845 010 3502 [D.S. Bydd hyn yn newid i 0845 241 5351 o 12 Mehefin 2017]
Byddwn yn rhoi gwybod i chi os oes anghydfod ynghylch eich anfoneb a byddwn yn rhoi gwybod i chi gyda phwy i gysylltu os oes gennych ymholiadau pellach. Bydd y targed talu’n cael ei rewi tra bo’r anghydfod yn cael ei ddatrys.
Os yw eich anfoneb yn ddilys ac rydym yn cymryd mwy na 30 diwrnod i’w dalu, efallai y bydd gennych achos i gyrchu cymorth o dan y Ddeddf Taliadau Hwyr am Ddyledion Masnachol (Llog) 1998.
Ein perfformiad talu
Darperir data ar ein perfformiad ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiweddaf isod.
O 2020/21 ymlaen, mae ein data ar berfformiad talu’n brydlon yn cynnwys holl Asiantaethau’r MoJ, ALBs ac NDPBs. Ni chaiff Gov Facility Services Ltd, sy’n Gwmni Cyfyngedig Preifat, ei gynnwys: caiff ei ddata ef ar dalu’n brydlon ei gyhoeddi ar ddiwedd Medi ar dudalennau GFSL.
2023-24
Blwyddyn ariannol 2022/2023 | % o anfonebau a dalwyd o fewn 5 diwrnod | % o anfonebau a dalwyd o fewn 30 diwrnod | Cyfanswm yr arian dyledus i’w (£) | Swm y llog statudol a delir i gyflenwyr (£) |
---|---|---|---|---|
Chwarter olaf | 86.20% | 97.25% | TBC | TBC |
Ail chwarter | 85.93% | 96.90% | TBC | TBC |
Trydydd chwarter | 86.12% | 96.91% | TBC | TBC |
Pedwerydd chwarter | TBC | TBC |
2022-23
Blwyddyn ariannol 2022/2023 | % o anfonebau a dalwyd o fewn 5 diwrnod | % o anfonebau a dalwyd o fewn 30 diwrnod | Cyfanswm yr arian dyledus i’w (£) | Swm y llog statudol a delir i gyflenwyr (£) |
---|---|---|---|---|
Chwarter olaf | 85.16% | 96.88% | TBC | TBC |
Ail chwarter | 85.85% | 96.66% | TBC | TBC |
Trydydd chwarter | 86.67% | 96.39% | TBC | TBC |
Pedwerydd chwarter | 86.17% | 96.35% | TBC | TBC |
2021-22
Blwyddyn ariannol 2021/2022 | % o anfonebau a dalwyd o fewn 5 diwrnod | % o anfonebau a dalwyd o fewn 30 diwrnod | Cyfanswm yr arian dyledus i’w (£) | Swm y llog statudol a delir i gyflenwyr (£) |
---|---|---|---|---|
Chwarter olaf | 88.13% | 97.85% | TBC | TBC |
Ail chwarter | 87.22% | 97.50% | TBC | TBC |
Trydydd chwarter | 86.67% | 97.36% | TBC | TBC |
Pedwerydd chwarter | 86.44% | 97.25% | TBC | TBC |
2020-21
Blwyddyn ariannol 2020/2021 | % o anfonebau a dalwyd o fewn 5 diwrnod | % o anfonebau a dalwyd o fewn 30 diwrnod | Cyfanswm yr arian dyledus i’w (£) | Swm y llog statudol a delir i gyflenwyr (£) |
---|---|---|---|---|
Chwarter olaf | 84.3% | 96.5% | 380,108.80 | 3,230.33 |
Ail chwarter | 89.95% | 97.86% | TBC | TBC |
Trydydd chwarter | 87.12% | 97.18% | TBC | TBC |
Pedwerydd chwarter | 88.16% | 97.17% | TBC | TBC |
2019-20
Blwyddyn ariannol 2019/2020 | % o anfonebau a dalwyd o fewn 5 diwrnod | % o anfonebau a dalwyd o fewn 30 diwrnod | Cyfanswm yr arian dyledus i’w dalu (£) | Swm y llog statudol a delir i gyflenwyr (£) |
---|---|---|---|---|
Chwarter olaf | 85.41% | 96.87% | 518,023.56 | 8,860.49 |
Ail chwarter | 86.44% | 96.91% | 503,360.70 | 1,719.07 |
Trydydd chwarter | 85.98% | 96.71% | 391,863.37 | 2,248.91 |
Pedwerydd chwarter | 86.58% | 97.24% | 490,234.79 | 10,496.28 |
Gweithio â busnesau bach a chanolig (BBaCh)
Mae’r UE wedi diffinio BBaCh fel a ganlyn:
Categori | Cyfrif pennau | Trosiant | Cyfanswm y fantolen |
Canolig | <250 | £50 Miliwn | £43 Miliwn |
Bach | <50 | £10 Miliwn | £10 Miliwn |
Micro | <10 | £2 Miliwn | £2m |
Mae gan BBaChau rôl bwysig i’w chwarae yn economi’r Deyrnas Unedig ac yn Strategaeth Ar Agor am Fusnes y Llywodraeth. Mae’r Llywodraeth wedi gosod targed o 33% o holl wariant contractau’r Llywodraeth erbyn 2022.
Darllenwch ragor am gymorth y llywodraeth i BBaChau yn y Small and Medium Business Hub
Byddwn yn dangos ein hymrwymiad i’r Agenda BBaCh drwy sicrhau bod busnesau o bob maint yn gallu gweithio â ni a byddwn yn ymdrechu i gynyddu nifer y BBaChau sy’n gallu cystadlu am fusnes y llywodraeth.
Darllenwch ragor am strategaeth Open for Business y Llywodraeth.
Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cefnogi BBaChau
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cynhyrchu Cynllun Gweithredu ar gyfer BBaChau sy’n:
- Rhoi cefndir inni fel adran
- Yn dangos ein perfformiad yn y gorffennol a’n targedau ar gyfer y dyfodol
- Yn disgrifio’r canlyniadau yr ydym yn ceisio’u cael i BBaChau, ein cadwyn gyflenwi a rhai o’r camau y byddwn yn eu cymryd i’w cyflawni.
Bydd y mesurau hyn yn annog arloesedd ac yn ehangu cwmpas y busnesau sy’n gallu ymateb i’n gofynion. Rydyn ni’n gweithio i roi i’n holl gyflenwyr yr hyder i fuddsoddi er mwyn y dyfodol a’r gallu i gystadlu dan amodau sydd yr un fath i bawb.
Gwariant ar BBaCh
Mae Gwasanaeth Masnachol y Goron, sy’n rhan o Swyddfa’r Cabinet, yn adrodd ar wariant holl Adrannau’r Llywodraeth.
Byddwn yn ceisio ychwanegu at yr astudiaethau achos hyn i ddangos fel yr ydym yn dal i wneud cynnydd:
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth a chefnogaeth i BBaChau, cysylltwch â: [email protected]
Hysbysiad Preifatrwydd
Darllenwch ein