Gweithio i MOJ

Gyrfaoedd yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder


Mae ein prosesau recriwtio’n cael eu tywys gan egwyddorion recriwtio comisiwn y gwasanaeth sifil

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gyflogwr cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob unigolyn sydd â’r cymwysterau priodol beth bynnag fo’u

  • hoedran
  • anabledd
  • hunaniaeth o ran rhywedd neu ailbennu rhywedd
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth, neu
  • unrhyw nodwedd amherthnasol arall.

Rydym hefyd yn gweithredu cynllun gwarantu cyfweliad i bobl anabl sy’n ateb y meini prawf gofynnol ar gyfer penodi (fel y maent wedi eu diffinio gan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995).

Buddion a gwobrau i weithwyr

Mae’r buddion a’r gwobrau i weithwyr yn cynnwys:

  • mynediad at gynllun disgownt i staff y Weinyddiaeth Cyfiawnder
  • mynediad at raglen cymorth i weithwyr sy’n darparu cyngor cyfrinachol, gwybodaeth a sesiynau cwnsela
  • yr opsiwn i ymuno ag Undeb Llafur
  • cynllun gwobrwyo yn ystod y flwyddyn ar gyfer cyflawniadau personol neu gyflawniadau tîm untro eithriadol
  • absenoldeb salwch ar gyflog llawn, ac yna hanner cyflog, hyd at yr uchafswm a ganiateir gan y cynllun perthnasol

Hyblygrwydd

Mae’r trefniadau hyblygrwydd yn cynnwys:

  • lwfansau hael ar gyfer gwyliau â thâl sy’n dechrau ar 25 diwrnod y flwyddyn, ac yn codi wrth i’ch gwasanaeth gynyddu (pro rata i staff rhan-amser) yn ogystal â 9 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint
  • absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu a rhiant o hyd at 26 wythnos o gyflog llawn ac yna 13 wythnos o dâl statudol a 13 wythnos arall heb dâl
  • amser i ffwrdd i ddelio ag argyfyngau, sefyllfaoedd annisgwyl a rhai amgylchiadau arbennig eraill nas cynlluniwyd
  • amser i ffwrdd o’r gwaith gyda thâl ar gyfer dyletswyddau gwasanaeth cyhoeddus, er enghraifft os ydych yn filwr wrth gefn yn y lluoedd arfog
  • polisïau cyfeillgar i deuluoedd gan gynnwys patrymau gweithio hyblyg
  • oriau gweithio hyblyg, yn amodol ar anghenion busnes

Gwneud cais am swydd

Dewch o hyd i swydd yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder

Rydym yn asesu ymgeiswyr am swyddi yn erbyn Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil. Cymwyseddau yw’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ymddygiadau sydd eu hangen i wneud swydd yn effeithiol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych ymholiad am y broses recriwtio gallwch gysylltu â’r Weinyddaeth Gyfiawnder. Ffôn: 0845 241 5359 Llun i Gwener, 8am - 6pm

E-bost: [email protected]

Os byddwch yn teimlo na chafodd eich cais ei drin yn unol ag egwyddorion recriwtio comisiwn y gwasanaeth sifil ac rydych eisiau cwyno, gallwch gysylltu â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i gychwyn. Os nad ydych yn fodlon gyda’r ymateb, gallwch gysylltu â Chomisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Gwiriadau am eich cefndir

Os byddwch yn cael swydd yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, byddwch yn cael gwiriad cofnodion troseddol Disclosure Scotland ac efallai y byddwn yn gwneud gwiriad cofnodion troseddol neu wrthderfysgaeth yn dibynnu ar rôl a lleoliad eich swydd.