Ymchwil yn MOJ
Rhaglen ymchwil a dadansoddi y Weinyddiaeth Cyfiawnder.
Ein dull o ran ymchwilio a dadansoddi
Mae’r Weinyddiaeth Cyfiawnder (MOJ) yn cynnal rhaglen helaeth o waith dadansoddol a gwaith sy’n seiliedig ar ymchwil. Mae timau amrywiol o arbenigwyr o wahanol feysydd yn cynghori, yn herio ac yn cefnogi’r Weinyddiaeth Cyfiawnder a’i gweinidogion i ddarparu system gyfiawnder o’r radd flaenaf.
Mae’r ymchwil a’r gwaith dadansoddi a gynhelir o fewn y weinyddiaeth yn cynnwys:
- Ymchwil cymdeithasol sylfaenol, adolygiadau ymchwil a rheoli ymchwil allanol a gomisiynir
- Darparu ystadegau cyfiawnder a dadansoddi data eilaidd
- Dadansoddiadau costau a buddion, asesiadau effaith a modelu econometrig
- Rhagweld, modelu a dadansoddi perfformiad
- Delweddu data, dadansoddi uwch a pheirianneg data
Rydym yn defnyddio offer, technegau a methodolegau arloesol i gydweithio ar draws adrannau yn ogystal ag yn allanol.
Meysydd o Ddiddordeb mewn perthynas ag Ymchwil
Mae’r ddogfen Meysydd o Ddiddordeb mewn perthynas ag Ymchwil yn rhan o uchelgais yr MOJ i roi tystiolaeth wrth wraidd y system gyfiawnder.
Mae’r Meysydd o Ddiddordeb mewn perthynas ag Ymchwil yn tynnu sylw at feysydd strategol allweddol lle byddem ni fel adran yn hoffi gweld cynnydd yn y sylfaen dystiolaeth.
Rydym yn awyddus i weithio mewn partneriaeth â chymunedau a chyllidwyr ymchwil allanol i gryfhau a datblygu’r sylfaen dystiolaeth.
Cynnal ymchwil
Mae’r dolenni isod yn cwmpasu’r prosesau sydd ar gael i hwyluso mynediad at ddata MOJ yn ogystal â’r Llysoedd, y Tribiwnlysoedd a’r Gwasanaethau Carchardai a Phrawf i wneud gwaith ymchwil
Gwaith Ymchwil i Garchardai yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi (HMPPS)
Gwaith Ymchwil i Lysoedd yng Ngwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (HMCTS)
Research through Data First
Gwaith Ymchwil arall yn ymwneud â chyfiawnder