Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth y Bwrdd Parôl a sut rydym yn monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Rydym yn credu y dylai ein pobl adlewyrchu a deall y gymdeithas amrywiol rydym yn ei gwasanaethu.
Mae’r Bwrdd Parôl wedi gwneud y canlynol:
-
ymrwymo i greu diwylliant cynhwysol lle bydd cyfleoedd cyfartal i bob aelod a staff waeth beth yw eu tarddiad ethnig, cred grefyddol, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, oedran neu unrhyw ffactor amherthnasol arall.
-
ymrwymo i hyfforddi ei aelodau i adnabod materion cydraddoldeb er mwyn gwneud yn siŵr nad oes gwahaniaethu wrth ystyried rhyddhau troseddwyr ar barôl.
Rydym yn ymgorffori cydraddoldeb yn ein hamcanion craidd, ac yn gwneud pob ymdrech i ddileu gwahaniaethu, creu cyfleoedd cyfartal a datblygu cysylltiadau gwaith da rhwng gwahanol bobl.
Mae’n ofynnol i ni ystyried pob unigolyn yn ei waith o ddydd i ddydd, ac wrth lunio polisïau a darparu gwasanaethau. Mae hyn yn unol â’r Ddyletswydd Cydraddoldeb sector cyhoeddus a gyflwynwyd gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Mae’n cynnwys cynnal Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar gyfer pob prosiect a menter, a bydd ein Fforwm Newid yn goruchwylio hynny.
Rydym yn dymuno i staff deimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi a bod ganddynt lais, felly mae gennym Grŵp Ymgysylltu â Gweithwyr i weithredu fel pwynt canolog i staff a rheolwyr gael trafod syniadau ar gyfer gwella a fydd yn gwneud y Bwrdd Parôl yn lle gwell fyth i weithio. Rydym yn cyfrannu at arolwg staff blynyddol y Gwasanaeth Sifil, ac yn gwerthuso a datblygu cynlluniau i ymateb i’r canfyddiadau. Yn ogystal, mae nifer o rwydweithiau staff y Weinyddiaeth Cyfiawnder y gall staff ac aelodau ymuno â nhw.
Mae gennym Grŵp Cynrychioli Aelodau sydd, drwy gysylltu â’r aelodaeth gyffredinol, yn gallu gweithredu fel cwndid ar gyfer trafodaethau rhwng aelodau a rheolwyr a chynnig safbwynt ystyriol i’r Pwyllgor Gweithredol mewn perthynas â datblygu polisïau ac arferion a all wella effeithiolrwydd gweithredol y Bwrdd Parôl.
Ffordd o ymdrin â Chydraddoldeb ac Amrywiaeth
Rydym wedi sefydlu Grŵp Cynghori Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (EDAG), sef grŵp sy’n cael ei arwain gan aelodau a staff, ac mae’n gwneud y canlynol:
- hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn y Bwrdd Parôl
- darparu dull integredig a rhagweithiol o fonitro, herio, dylanwadu a newid diwylliant y Bwrdd Parôl o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth.
- cynnal trafodaethau agored ynghylch materion cydraddoldeb ac amrywiaeth sy’n effeithio ar bob rhan o’r Bwrdd Parôl.
- Cynghori’r Tîm Uwch-reolwyr a’r Pwyllgor Rheoli ynghylch materion cydraddoldeb ac amrywiaeth sy’n effeithio ar y Bwrdd.
Mae’r EDAG yn cyfarfod bob chwarter, a gallwch ddarllen y Cylch Gorchwyl yma:
]Amcanion Cydraddoldeb
Ym mis Gorffennaf 2016, estynnodd yr EDAG wahoddiad i Keith Davies, Darlithydd Cyswllt o Brifysgol Kingston, i hwyluso gweithdy gyda aelodau’r EDAG, er mwyn dechrau’r broses o ddrafftio cynllun gweithredu sy’n cynrychioli barn staff ac aelodau’r Bwrdd Parôl. Mae Keith Davies wedi darparu hyfforddiant ynghlch amrywiaeth i’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, y Gwasanaeth Carchardai ac i Arolygiaeth Carchardai EM.
Ar ôl pennu fframwaith ar gyfer y cynllun gweithredu, daeth yr EDAG ynghyd eto mewn cyfarfod ym mis Hydref 2016 ac ym mis Ionawr 2017 i roi cnawd ar y cynllun ac i ystyried y camau nesaf. Cwblhawyd Strategaeth Cydraddoldeb yn ystod 2017 ac fe’i cyhoeddwyd yn fuan yn 2018.
Mae’r Strategaeth yn cynnwys tair blaenoriaeth. Y bwriad yw iddynt adlewyrchu blaenoriaethau’r Bwrdd Parôl: ein prosesau, ein pobl a gwelliant parhaus:
-
Prosesau parôl sy’n deg, hygyrch ac ymatebol
-
Sicrhau Bwrdd Parôl sy’n fwy cynrychiadol
-
Hyrwyddo diwylliant cynhwysol
O dan pob blaenoriaeth mae cyfres o amcanion i gefnogi’r broses o gyflawni’r blaenoriaethau.
Drwy’r strategaeth hon byddwn yn hyrwyddo ymrwymiad y Bwrdd Parôl i gyfleoedd cyfartal a datblygu diwylliant o amrywiaeth. Mae’r egwyddorion arweiniol o ran ymddygiad yn y gweithle, recriwtio a datblygu, tâl cysylltiedig a gweithdrefnau a thrin rhanddeiliaid, yn berthnasol i bob aelod a staff.
Gallwch ddarllen y strategaeth yma:
Cynllun Busnes
Wrth ddatblygu ein Cynllun Busnes cylchol, byddwn yn ystyried amcanion penodol yn ymwneud â’r blaenoriaethau cydraddoldeb. Bydd yr amcanion hyn yn cael eu hadolygu bob blwyddyn i wneud yn siŵr eu bod yn canolbwyntio ar feysydd i’w gwella.
Recriwtio Staff
Nod y Bwrdd Parôl yw bod yn gyflogwr amrywiol a chynhwysol, sy’n dod â buddion sylweddol i’r sefydliad, gan gynnwys creadigrwydd, mewnwelediad ac arloesedd.
Mae ein prosesau recriwtio a dethol wedi’u dylunio i helpu i sicrhau cyfle cyfartal i bob aelod o staff ac ymgeiswyr i’r sefydliad waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth neu fynegiant o rywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym yn dilyn y safonau uchel a osodwyd gan ein Partner Busnes Adnoddau Dynol ar gyfer prosesau recriwtio a dethol i wneud yn siŵr eu bod nhw’n deg, yn wrthrychol ac yn dryloyw. Rydym yn sicrhau yr ymdrinnir â cheisiadau yn effeithiol ac yn gyfrinachol, a’u bod nhw’n cael eu diogelu bob amser yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Os bydd ymgeisydd yn dweud bod ganddo ef/hi anabledd, byddwn yn rhoi cyfle iddynt rannu rhagor o wybodaeth gyda ni a’n helpu i ddeall a oes unrhyw addasiadau rhesymol y gallem eu gwneud fel nad ydynt dan anfantais.
Mae ein polisi hefyd yn nodi y bydd ymgeiswyr sy’n dweud bod ganddynt anabledd ac sy’n bodloni meini prawf y rôl maen nhw’n ymgeisio amdani yn sicr o gael mynd ymlaen i gam nesaf y broses.
Recriwtio Aelodau
Mae’n bwysig i sefydliad adlewyrchu’r gymuned mae’n ei gwasanaethu, ac mae’r Bwrdd Parôl yn benderfynol o gynyddu amrywiaeth ei aelodaeth.
Mae Caroline Corby, Cadeirydd y Bwrdd Parôl wedi siarad ar goedd am ymrwymiad y Bwrdd Parôl i gynyddu cynrychiolaeth BAME o fewn ei aelodaeth.
Er bod gan y Bwrdd gydbwysedd da o ran rhyw, gyda mwy na 50% o’r aelodaeth gyfredol o tua 240 yn ferched, dim ond 5% sy’n BAME a does dim cynrychiolaeth ar hyn o bryd o’r gymuned pobl dduon.
Yn ystod y tair blynedd nesaf, rydym wedi ymrwymo i raglen allgymorth a recriwtio barhaus i fynd i’r afael â’r mater hwn. Er mwyn sicrhau ei fod more effeithiol â phosib, byddwn yn cynnal ymgyrchoedd recriwtio wedi’u targedu mewn ardaloedd penodol yng Nghymru a Lloegr. Ymgyrch 2019 oedd y cyntaf o’r ymgyrchoedd hyn, a bydd yn cael ei dilyn gan ymgyrchoedd yn y Canolbarth a’r De Ddwyrain yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
I gael rhagor o wybodaeth am precriwtio aelodau, ewch i.
Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Fel Corff Cyhoeddus Anadrannol y Weinyddiaeth Gyfiawnder rydym yn croesawu’r egwyddorion a’r amcanion a nodwyd yn Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Weinyddiaeth Gyfiawnder 2018 -2025, a gellir ei darllen yma
Sefydliadau rydym ni’n gweithio gyda nhw
Mae aelodau a staff y Bwrdd Parôl yn gallu cael gafael ar dîm a rhwydweithiau Amrywiaeth a Chynhwysiant y Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan gynnwys:
- Proud - Cynrychioli buddiannau Staff Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME)
- Rhwydwaith Anabledd - Cynrychioli buddiannau gweithwyr ag anableddau.
- Spirit - Cefnogi buddiannau gweithwyr LGBTQI.
- Fforwm Cydraddoldeb Rhyw - Sicrhau nad yw rhyw yn effeithio ar hawliau a chyfleoedd, yn ogystal â hyrwyddo cydraddoldeb rhyw ar draws yr adran.
- Cristnogion yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder - Cynrychioli a darparu cefnogaeth i weithwyr allu mynegi eu ffydd yn briodol yn y gweithle
- Rhwydwaith Mwslimiaid y Weinyddiaeth Gyfiawnder - Gweithio i ddileu gwahaniaethu, hybu cyfleoedd cyfartal a meithrin cysylltiadau da ar gyfer cydweithwyr Islamaidd.
- Rhwydwaith Gofalwyr - Darparu cymorth, arweiniad a chyngor i gydweithwyr â chyfrifoldebau gofalu
- Rhwydwaith Rhieni - Cynrychioli a chefnogi rhieni yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder
- Rhwydwaith Rhannu Swyddi - Cynrychioli a chefnogi staff sy’n rhannu swyddi
Mae gan bob aelod a staff fynediad at PAM Assist, sef rhaglen gyfrinachol i gynorthwyo gweithwyr.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda Project Race, sef menter i wella cydraddoldeb hil ar draws y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda mwy na 20 o sefydliadau i ddatblygu ein ffordd o ymdrin â’n hymgyrchoedd recriwtio cyfredol, gan gynnwys Operation Black Vote, Black Training & Enterprise Group, JUST Yorkshire a gorsafoedd radio lleol.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda Keyring a change.org i ddatblygu fersiynau hawdd eu darllen o ddogfennau fel bod pob carcharor yn gallu cael gafael ar wybodaeth sy’n berthnasol i’w wrandawiad. Gallwch ddarllen y canllawiau EasyRead yma.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r Comisiynydd Dioddefwyr i wneud yn siŵr ein bod yn trin dioddefwyr trosedd gyda pharch ac urddas. Gallwch ddarllen ein hymrwymiad i ddioddefwyr trosedd yma.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r Comisiynydd Cymraeg ac fe gyhoeddwyd ein Cynllun Iaith Gymraeg a’r Cynllun Gweithredu sy’n mabwysiadu’r egwyddor y byddwn yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal cyn belled ag y bo hynny’n briodol ac yn ymarferol wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Gallwch ddarllen y Cynllun a’r Cynllun Gweithredu yma.