Ein llywodraethiant
Cyfansoddiad, Pwyllgor Rheoli, Uwch-dîm Rheoli ac Is-bwyllgorau'r Bwrdd Parôl.
Cyfansoddiad
Mae gan y Bwrdd Parôl Gyfansoddiad, wedi’i gymeradwyo gan ei aelodau a’r Pwyllgor Rheoli ym mis Ebrill 2015, sy’n esbonio ei statws cyfreithiol a rolau a chyfrifoldebau ei Swyddogion Gweithredol a’i Bwyllgorau.
Pwyllgor Rheoli
Mae’r Pwyllgor Rheoli’n cwrdd o leiaf wyth gwaith y flwyddyn. Mae’n gyfrifol am:
- Gosod amcanion a chynlluniau busnes y Bwrdd Parôl
- Adolygu gwybodaeth reoli allweddol ynghylch perfformiad a gweithrediadau’r Bwrdd Parôl
- Cymeradwyo cyllideb a chyfrifon blynyddol y Bwrdd Parôl
- Cymeradwyo polisi gwaith achos y Bwrdd Parôl
- Diogelu annibyniaeth a didueddrwydd y Bwrdd Parôl
Mae Cylch Gwaith a Gweithdrefnau Gweithredu llawn ar gyfer y Pwyllgor Rheoli yma:
Aelodau
Aelodau’r Pwyllgor Rheoli yw:
- Caroline Corby, Cadeirydd
- Martin Jones, Prif Swyddog Gweithredol
- Peter Rook, Is-gadeirydd Barnwrol
- Dale Simon CBE, Aelod Anweithredol o’r Pwyllgor
- Gary Sims, Aelod Anweithredol o’r Pwyllgor
- Simon Ash, Aelod o’r Bwrdd Parôl
- Jodi Berg, Aelod o’r Bwrdd Parôl
- Rob McKeon, Aelod o’r Bwrdd Parôl
Swyddog Cyfrifyddu
Y Prif Swyddog Gweithredol, Martin Jones, yw Swyddog Cyfrifyddu (AO) y Bwrdd Parôl. Mae’r Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol am:
- Gweithrediadau a Rheolaeth y Bwrdd Parôl o ddydd i ddydd
- Diogelu’r cyllid cyhoeddus y mae’n gyfrifol amdano.
- Sicrhau yr ymdrinir â’r cyllid cyhoeddus hwnnw’n briodol ac yn unol â’r rheolau a gyflwynir yn Rheoli Arian Cyhoeddus
- Cydymffurfio â chyfrifoldebau adrodd a chyfrifyddu i’r Senedd gan gynnwys rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Cadeirydd
Mae Cadeirydd y Bwrdd Parôl, Caroline Corby yn gyfrifol am:
- Cyfathrebu rhwng y Bwrdd Parôl a’r Gweinidog sy’n Gyfrifol
- Cynrychioli’r Bwrdd yn ei fusnes â’i randdeiliaid a’r cyhoedd.
- Sicrhau bod polisïau a gweithredoedd yn unol â chyfrifoldebau cyfreithiol y Bwrdd Parôl
- Cefnogi ac arfarnu perfformiad y Prif Weithredwr, y Pwyllgor Rheoli ac is-bwyllgorau
Yr Uwch-dîm Arweinyddiaeth
Mae’r Uwch-dîm Arweinyddiaeth yn cwrdd yn fisol ac mae’n gyfrifol am:
- Gynhyrchu cynllun busnes y Pwyllgor Rheoli, y datganiad llywodraethu corfforaethol a chyllideb y Bwrdd Parôl
- Monitro perfformiad a gwariant ariannol ar draws y sefydliad
- Adolygu risgiau’r sefydliad 4 gwaith y flwyddyn fel y gellir cymryd camau priodol i’w rheoli
Aelodau
Aelodau’r Uwch-dîm Arweinyddiaeth yw:
- Martin Jones, Prif Swyddog Gweithredol (Cadeirydd SMT)
- Stephanie McIntosh, Cyfarwyddwraig Prosiectau Arbennig
- Faith Geary, Prif Swyddog Gweithredu
- Tania Hornibrook, Pennaeth Gweithrediadau
- Michael Atkins, Pennaeth Cyfreithiol
- Angela Colyer, Pennaeth Polisi
- Gary Hopper, Pennaeth Llywodraethu
- Amarjit Lotey, Pennaeth Trawsnewid
- Jess Campbell, Pennaeth Pobl, Dysgu a Datblygu
- Simon Kay, Pennaeth Cyllid
Y Pwyllgor Archwilio a Risg
Mae’r pwyllgor yn cwrdd o leiaf 4 gwaith y flwyddyn ac mae’n gyfrifol am:
- Adrodd am ganlyniadau’r archwiliadau mewnol ac allanol i’r prif weithredwr
- Cynghori’r Bwrdd Parôl ar lywodraethu corfforaethol a rheoli risg, gan gynnwys diogelwch gwybodaeth
Aelodau
Mae’r pwyllgor yn cynnwys dau Aelod Anweithredol o’r Pwyllgor (y mae un ohonynt yn gyfrifydd cymwys) a dau Aelod o’r Bwrdd Parôl. Nhw yw:
- Gary Sims, Aelod Anweithredol o’r Pwyllgor a Chadeirydd ARC
- Martin Jones, Prif Swyddog Gweithredol
- Jodi Berg, Aelod o’r Bwrdd Parôl
- Phillip Geering, Aelod o’r Bwrdd Parôl
Mynychir cyfarfodydd hefyd gan gynrychiolydd Archwilio Mewnol y Weinyddiaeth Gyfiawnder a chynrychiolydd Archwilio Allanol.
Mae Cylch Gwaith a Gweithdrefnau Gweithredu llawn ar gyfer y Pwyllgor Archwilio a Risg yma:
Y Pwyllgor Safonau
Mae’r pwyllgor yn cwrdd o leiaf 4 gwaith y flwyddyn ac mae’n gyfrifol am:
- Gynghori ar faterion ynghylch safon ac ansawdd gwaith aelodau’r Bwrdd Parôl.
- Cynghori ar faterion ynghylch cefnogi a datblygu aelodau’r Bwrdd Parôl.
Aelodau
Mae’r pwyllgor yn cynnwys un o Aelodau Anweithredol y Pwyllgor, pedwar Aelod o’r Bwrdd Parôl, a’r Gyfarwyddwraig Datblygiad ac Arfer Aelodau. Nhw yw:
- Dale Simon CBE, Aelod Anweithredol o’r Pwyllgor a Chadeirydd SC
- Ei Anrhydedd y Barnwr Leslie Spittle, Aelod o’r Bwrdd Parôl
- Melanie Essex, Aelod o’r Bwrdd Parôl
- Andy Dale, Aelod o’r Bwrdd Parôl
- Pamela Attwell, Aelod o’r Bwrdd Parôl
- Stephanie McIntosh, Cyfarwyddwraig Datblygiad ac Arfer Aelodau
Mae Cylch Gwaith a Gweithdrefnau Gweithredu llawn ar gyfer y Pwyllgor Safonau yma:
Y Pwyllgor Adolygu
Pwrpas y pwyllgor hwn yw sicrhau bod gan y Bwrdd Parôl drefniadau ar waith i adolygu penderfyniadau i ryddhau troseddwyr ar drwydded barôl ac ar drwydded dros dro mewn achosion lle honnir bod y troseddwr wedi cyflawni trosedd ddifrifol arall. Mae’r pwyllgor yn cwrdd o leiaf 4 gwaith y flwyddyn.
Aelodau
Mae’r pwyllgor yn cynnwys Is-gadeirydd y Bwrdd Parôl, pedwar Aelod o’r Bwrdd Parôl, a thri aelod allanol. Nhw yw:
Cadeirydd y Pwyllgor Adolygu
- Ei Hanrhydedd y Barnwr Anne Molyneux
Aelodau’r Bwrdd Parôl
- Ei Anrhydedd y Barnwr Anthony Bate
- Sue Vivian-Byrne
- Malcolm Davidson
- Swydd Wag, Aelod Annibynnol
Aelodau Allanol
- Dr Colin Campbell
- Adrian Lee
- Stephanie McIntosh, Cyfarwyddwraig Datblygiad ac Arfer Aelodau
- Swydd Wag, Aelod Anweithredol o’r Pwyllgor
Adolygwyr
- Aruna Walsh, Aelod o’r Bwrdd Parôl
- Sian Flynn, Aelod o’r Bwrdd Parôl
- Clare Mitchell, Aelod o’r Bwrdd Parôl
- Lorraine Mosson-Jones, Aelod o’r Bwrdd Parôl
- Steve Pepper, Aelod o’r Bwrdd Parôl
Mae Cylch Gwaith a Gweithdrefnau Gweithredu llawn ar gyfer y Pwyllgor Adolygu yma: