Amdanom ni

Mae’r Gwasanaeth Prawf yn wasanaeth cyfiawnder troseddol statudol sy’n goruchwylio troseddwyr sydd ar ddedfrydau cymunedol neu’n cael eu rhyddhau i’r gymuned o’r carchar.


Cyfrifoldebau

Mae ein cyfrifoldebau hefyd yn golygu darparu cyngor i lysoedd ar ddedfrydu, darparu rhaglenni ad-dalu cymunedol ac ymddygiadol, a darparu gwybodaeth i ddioddefwyr troseddau difrifol.

Rydym yn gyfrifol am reoli dedfrydau yng Nghymru a Lloegr, ynghyd â Rhaglenni Achrededig, Gwaith Di-dâl, ac Ymyriadau Strwythuredig.

O ran Rheoli Dedfrydau mae ein ffocws ar gryfhau perthynas yr ymarferydd prawf â phobl ar gyfnod prawf, gan ddefnyddio’r sgiliau allweddol, y gweithgareddau a’r ymddygiadau priodol i gyflawni’r canlyniadau mwyaf effeithiol ac i alluogi troseddwyr i wneud newidiadau cadarnhaol i’w bywydau. Bydd hyn yn cynnwys rheoli a chyflawni cynlluniau dedfrydu yn fwy cyson, asesu a rheoli risg yn well, yn ogystal â llwythi achosion mwy cytbwys a gwell proses dyrannu achosion i gefnogi hyn.

O ran Gwaith Di-dâl, Rhaglenni Achrededig ac Ymyriadau Strwythuredig, ein nod yw sicrhau bod lleoliadau a rhaglenni ar gael yn lleol, gyda phroses asesu a chynefino drylwyr, cynnal adolygiadau mwy rheolaidd o achosion gweithredol a sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer staff sy’n darparu ymyriadau.

Bydd ymyriadau eraill sy’n diwallu anghenion adsefydlu ac ailsefydlu yn cael eu darparu gan ddarparwyr Gwasanaethau Adsefydlu wedi’u Comisiynu, gydag achosion yn cael eu rheoli yn ôl y risg, yr angen a’r math o ddedfryd. Ym mis Mai 2021, cyhoeddodd y llywodraeth fuddsoddiad cychwynnol o £195 miliwn, a ddyfarnwyd i 26 o sefydliadau ar draws Cymru a Lloegr i ddarparu gwasanaethau cymorth hanfodol, fel cyngor ar waith a thai, ym meysydd Gwaith, Hyfforddiant ac Addysg, Llety a Lles Personol, a Gwasanaethau Menywod, a fydd yn helpu i leihau aildroseddu.

O ran ailsefydlu, rydyn ni wedi creu system cyn-rhyddhau well. Bydd swyddog cymunedol cyfrifol yn arwain yr holl weithgareddau cyn-rhyddhau, gan gynnal asesiad cynhwysfawr a datblygu cynllun dedfrydu sy’n cyd-fynd a’r anghenion, y risg a materion yn ymwneud â dioddefwyr. Bydd hyn yn berthnasol i unigolion cyn eu rhyddhau yn ystod eu cyfnod terfynol yn y carchar, yn ystod y cyfnod pontio, ac ar ôl eu rhyddhau.

Mae ein staff prawf yn hanfodol i gyflawni’r model gwasanaethau prawf newydd. Rydyn ni’n parhau i fuddsoddi yn y sgiliau, y galluoedd a’r ffyrdd o weithio sydd eu hangen arnyn nhw i wneud eu gwaith i’r safon uchel a nodwyd yn ein Strategaeth Gweithlu Prawf, a gyhoeddwyd y llynedd. Rydym yn datblygu cofrestr broffesiynol, sy’n seiliedig ar safonau moesegol a safonau hyfforddi, i sicrhau bod ymarferwyr prawf yn cael yr hyfforddiant, y cymwysterau a’r gydnabyddiaeth y mae arnyn nhw eu hangen ac y maen nhw’n eu haeddu ar gyfer gyrfa hir ac effeithiol.

Pwy ydym ni

Ar 26 Mehefin 2021, unwyd y Gwasanaethau Prawf, gan ddod â 7,000 o weithwyr prawf proffesiynol i’n model newydd, naill ai’n uniongyrchol yn y Gwasanaethau Prawf neu’n cael eu cyflogi gan un o’r sefydliadau a benodwyd i ddarparu Gwasanaethau Adsefydlu wedi’u Comisiynu i droseddwyr. Erbyn hyn, mae gennym dros 28,000 o staff yn gyflogedig yn y Gwasanaethau Prawf yng Nghymru a Lloegr ac rydym yn parhau i recriwtio. Ym mis Mehefin 2021, fe wnaethom gyhoeddi bod 1,000 o swyddogion prawf wedi’u recriwtio, gan gyrraedd targed y llywodraeth a osodwyd ym mis Gorffennaf 2020.

Rydym nawr yn gweithredu’r diwygiadau i’n gwasanaethau prawf sydd wedi’u nodi yn ein Model Gweithredu Targed, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2021. Bydd y diwygiadau hyn yn darparu system brawf gryfach a mwy sefydlog a fydd yn lleihau aildroseddu, yn cefnogi dioddefwyr troseddau, ac yn cadw’r cyhoedd yn ddiogel, tra’n helpu troseddwyr i wneud newidiadau cadarnhaol i’w bywydau.

Ein blaenoriaethau

Ein blaenoriaeth yw amddiffyn y cyhoedd drwy adsefydlu troseddwyr yn effeithiol, drwy leihau’r pethau sy’n cyfrannu at droseddu a galluogi troseddwyr i weddnewid eu bywydau.

Ein Strwythur Rhanbarthol

Mae 12 rhanbarth prawf yng Nghymru a Lloegr, a phob un yn cael eu goruchwylio gan Gyfarwyddwr Prawf Rhanbarthol. Y Cyfarwyddwyr Prawf Rhanbarthol yw:

  • Nic Davies i Gymru
  • Andrea Bennett, Gogledd Orllewin Lloegr
  • Chris Edwards, Manceinion Fwyaf
  • Bronwen Elphick, Gogledd Ddwyrain Lloegr
  • Kilvinder Vigurs, Swydd Efrog a Humber
  • Jamie-Ann Edwards, Gorllewin Canolbarth Lloegr
  • Martin Davies, Dwyrain Canolbarth Lloegr
  • Alex Osler, Dwyrain Lloegr
  • Mary Pilgrim, Llundain
  • Angela Cossins, De Orllewin Lloegr
  • Gabriel Amahwe, Canol De Lloegr
  • Linda Neimantas, Caint, Surrey a Sussex

Gwybodaeth gorfforaethol

Cael mynediad at ein gwybodaeth

Swyddi a chontractau