Amdanom ni
Mae Swyddfa’r Dyfarnwr yn ymchwilio i gŵynion am Gyllid a Thollau EM (CThEM) ac am Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA). Rydym yn adolygu penderfyniadau’r Swyddfa Gartref ynghylch hawl i iawndal o dan y Cynllun Iawndal Windrush. Yn ychwanegol, rydym yn ymchwilio i gŵynion ynghylch sut y gwnaeth y Swyddfa Gartref ddelio â hawliad am iawndal. Bydd Swyddfa’r Dyfarnwr yn ystyried a yw’r sefydliad wedi gweithredu ei reolau, safonau, arweiniad a chodau ymarfer yn deg ac yn gyson. Mae ein penderfyniadau’n seiliedig ar dystiolaeth ffeithiol y gŵyn neu’r cais am adolygiad.
Yr hyn yr ydym yn ei wneud
Rôl Swyddfa’r Dyfarnwr yw:
- darparu gwasanaeth hygyrch a hyblyg, a gwneud penderfyniadau teg a diduedd
- cefnogi ac annog datrysiadau effeithiol
- defnyddio dealltwriaeth ac arbenigedd i gefnogi’r sefydliadau i ddysgu o gŵynion ac i wella gwasanaethau i gwsmeriaid
Dysgwch ragor am yr hyn y gallwn ymchwilio iddo yn CThEM ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio neu yn y Swyddfa Gartref.
Annibyniaeth
Mae’r Dyfarnwr a Swyddfa’r Dyfarnwr yn darparu adolygiad annibynnol a diduedd o gŵynion.
Mae Swyddfa’r Dyfarnwr o fewn yr un endid cyfreithiol â Chomisiynwyr CThEM, ac mae’r staff yn gyflogeion CThEM.
Mae’r Dyfarnwr yn ddeiliad swydd – nid yw’n gyflogai CThEM nac yn swyddog i CThEM – ac mae’n gweithio y tu allan i CThEM. Mae ganddo’r awdurdod personol annibynnol i adolygu cwynion.
Diogelir yr annibyniaeth drwy delerau penodi’r Dyfarnwr.
Ein gwasanaeth i gwsmeriaid
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni
Byddwn yn:
- eich trin mewn ffordd gwrtais a phroffesiynol
- gofalu am yr wybodaeth a rowch i ni
- cyfathrebu â chi gan ddefnyddio iaith syml, a chan osgoi jargon
- esbonio sut yr ydym yn delio â’ch cwyn
Yr hyn a ddisgwyliwn gennych chi
Rydym yn disgwyl i chi drin ein staff, a’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu, â pharch. Mae ein polisi gweithredoedd cwsmeriaid yn esbonio sut yr ydym yn delio â gweithredoedd annerbyniol.