Siarter gwybodaeth bersonol

Mae’r siarter gwybodaeth hon yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gan Swyddfa Cymru pan fyddwn yn casglu, cadw neu ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol.


Cynnwys

  1. Sut i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol
  2. Swyddog Diogelu Data

Byddwn yn sicrhau ein bod yn trin yr holl wybodaeth bersonol yn unol â deddfwriaeth diogelu data, gan gynnwys y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018.

Pan fydd Swyddfa Cymru yn casglu, yn cadw, yn defnyddio neu’n prosesu eich data personol mewn unrhyw ffordd, mae gennych hawl i gael gwybod:-

  • at ba ddiben mae’r data’n cael ei ddefnyddio, a beth yw ein sail gyfreithiol dros ei brosesu

  • am ba hyd y byddwn yn cadw eich data, a gyda phwy y byddwn yn ei rannu

  • a fydd yn cael ei drosglwyddo neu ei ddefnyddio y tu allan i’r DU neu’r UE, a pha fesurau diogelu cyfreithiol sydd ar waith i’w ddiogelu

  • am unrhyw hawliau sydd gennych, gan gynnwys yr hawl i weld eich gwybodaeth, neu i wrthwynebu ein defnydd ohoni

  • am eich hawl i gwyno i’r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi’n teimlo bod eich gwybodaeth bersonol wedi cael ei chamdrafod

  • pwy yw ein Swyddog Diogelu Data (cynghorydd annibynnol ar faterion diogelu data)

Mae gennych hawl hefyd i fod yn dawel eich meddwl bod eich gwybodaeth bersonol:-

  • yn cael ei diogelu a’i chadw’n ddiogel

  • yn cael ei chadw’n gywir ac yn gyfredol

  • ddim yn cael ei defnyddio at ddibenion sy’n anghydnaws â’r rhai y cafodd ei chasglu ar eu cyfer

  • yn cael ei chadw dim ond cyhyd ag y bo’i hangen at y diben y cafodd ei chasglu ar ei gyfer (oni bai fod yn rhaid ei chadw fel rhan o’r cofnod hanesyddol)

Rhagor o wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn rydyn ni’n defnyddio gwybodaeth bersonol ar ei gyfer ar gael yn ein Hysbysiad Preifatrwydd Privacy Notice_EN (PDF, 318 KB, 6 thudalen).

Sut i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol

Os hoffech chi gael copi o unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi, cysylltwch â Swyddfa Cymru:-

Y Tîm Gohebu 

Tŷ Gwydyr 

Llundain 

SW1A 2NP 

E-bost: [email protected]

Swyddog Diogelu Data

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut mae’r adran yn trin eich data personol, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data (DPO) yr adran.

Mae’r Swyddog Diogelu Data yn darparu cyngor annibynnol ac yn monitro defnydd Swyddfa Cymru o wybodaeth bersonol. Gallwch gysylltu â nhw drwy’r cyfeiriad canlynol:-

Swyddog Diogelu Data 

Swyddfa Cymru

Tŷ Gwydyr 

Whitehall 

Llundain 

SW1A 2NP