Angela MacDonald
Bywgraffiad
Daeth Angela yn Ddirprwy Brif Weithredwr Cyllid a Thollau EF (CThEF) ac yn Ail Ysgrifennydd Parhaol ym mis Awst 2020. Mae Angela yn weithiwr proffesiynol ym maes Gweithrediadau gyda 30 mlynedd o brofiad o ddarparu gwasanaethau, trawsnewid a newid yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
Ymunodd Angela â’r Gwasanaeth Sifil yn 2009 i gyflwyno diwygiadau ym maes Cynnal Plant. Yn dilyn pedair blynedd fel Cyfarwyddwr yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, gan arwain y gwaith o ddarparu a thrawsnewid gwasanaethau, symudodd Angela i CThEF yn 2017 a daeth yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Cwsmeriaid.
Cyn ymuno â’r Gwasanaeth Sifil, bu Angela yn gweithio mewn nifer o rolau gweithredol, gwerthu a marchnata yn Aviva plc a’i gwmnïau etifeddiaeth.
Dirprwy Brif Weithredwr a’r Ail Ysgrifennydd Parhaol
Mae’r Dirprwy Brif Weithredwr a’r Ail Ysgrifennydd Parhaol yn arwain 50,000 o gydweithwyr yn CThEF sy’n darparu gwasanaeth cwsmeriaid a gweithgarwch cydymffurfio a gorfodi ar draws yr holl drethi. Yn ogystal, mae’r Dirprwy Brif Weithredwr yn atebol am y rhaglenni trawsnewid a newid sy’n sicrhau bod polisi’r llywodraeth a system dreth ddigidol, fodern yn cael eu gweithredu.
Mae’r Dirprwy Brif Weithredwr yn Gomisiynydd Treth ac yn atebol i Senedd San Steffan am redeg CThEF yn effeithiol ac yn effeithlon.