Angela Morrison
Bywgraffiad
Ymunodd Angela Morrison gydag Ymchwil Canser y DU yn ddiweddar fel Prif Swyddog Gweithredu, lle mae’n gyfrifol am Gyllid, Adnoddau Dynol, Technoleg a Gwasanaethau Corfforaethol. Mae gyrfa Angela hyd yma wedi rhoi profiad gweithredol helaeth iddi o drawsnewid o dan arweiniad gweithredol a newid busnes yn ymwneud â digidol a thechnoleg ar draws y sector masnachol, gan gynnwys gwasanaethau ariannol a manwerthu.
Cyn ymuno gydag Ymchwil Canser y DU, roedd Angela yn Gyfarwyddwr Manwerthu, y Gadwyn Gyflenwi a Thechnoleg yn Debenhams a chyn hynny, bu’n Brif Swyddog Gwybodaeth i Sainsbury’s ac yna i Direct Line Group, lle bu’n rhan o’r timau gweithredol a aeth â’r sefydliadau trwy drawsnewidiadau mawr. Cyn ei gwaith yn Sainsbury’s, bu’n gweithio i ASDA Walmart am 10 mlynedd, lle bu’n dal swyddi cyfarwyddwr yn y DU ac Ewrop. Roedd y rolau hyn yn cynnwys Cyfarwyddwr E-Fasnach ASDA, lle sefydlodd fusnes bwydydd cartref ac ar-lein ASDA, a Chyfarwyddwr Strategaeth Ewropeaidd Walmart.
Yn Debenhams a Direct Line, arweiniodd Angela ddatblygiad eu strategaeth cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol. Yn ystod ei hamser yn Direct Line a Sainsbury’s, eisteddodd Angela ar Fwrdd Cynghori The Tech Partnership (E-sgiliau yn flaenorol), gan weithio gyda chyfoedion a chymheiriaid yn y sector gwasanaeth technoleg gwybodaeth i wella sgiliau technoleg gwybodaeth ym myd addysg a’r gweithle.
Aelod Anweithredol o'r Bwrdd
Mae Aelod Anweithredol o’r Bwrdd yn gyfrifol am herio’n adeiladol, a darparu arweiniad a chymorth i’r Bwrdd Gweithredol.