Carol Bristow
Bywgraffiad
Penodwyd Carol Bristow yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro CThEF dros Ffiniau a Masnach ym mis Ebrill 2022, gan ddechrau yn ei rôl ym mis Mai 2022.
Yn ystod ei gyrfa yn y Gwasanaeth Sifil, mae Carol wedi bod mewn amrywiaeth o rolau arwain ers ymuno â Chyllid y Wlad a hyfforddi fel Arolygydd Trethi. Mae hyn wedi cynnwys rheoli rhaglen gyda chyflwyniad Hunanasesiad, polisi treth uniongyrchol rhyngwladol, rheolaeth weithredol a Strategaeth a Chynllunio.
Ei rôl flaenorol oedd Cyfarwyddwr Cyfarwyddiaeth Polisi Unigolion. Cyn hynny roedd ganddi amrywiaeth o uwch rolau yn CThEF, gan gynnwys Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Cwsmeriaid Unigol, ac yna Polisi Canolog. Bu’n Gyfarwyddwr Strategaeth, gan arwain gwaith ar Adolygiad o Wariant 2010, Pennaeth i’r Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Polisi Canolog a Phennaeth Proffesiwn Polisi CThEF cyn symud i Dreth Bersonol, gan arwain Cwsmer, Cynnyrch a Phroses.
Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro Ffiniau a Masnachu
Mae gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol Ffiniau a Masnachu gyfrifoldeb cyffredinol am arwain a chyflawni trawsnewidiad trefniadau ffiniau a thollau ar ôl Ymadael â’r UE a hwyluso masnach gyda phartneriaid rhyngwladol.
Mae gan y rôl hefyd gyfrifoldeb adrannol am gyflenwi refeniw tollau wrth y ffin, gan weithio’n agos gyda Llu’r Ffiniau.