The Rt Hon Damian Green

Bywgraffiad

Penodwyd Damian Green Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ar 14 Gorffennaf 2016. Cafodd ei ethol fel AS Ceidwadol dros Ashford yn 1997.

Addysg

Cafodd Damian ei addysgu yn Ysgol Reading a Choleg Balliol, Rhydychen. Ef oedd Llywydd Undeb Rhydychen yn 1977.

Gyrfa

O 1978 i 1992 bu’n gweithio i’r ‘BBC’ a ‘The Times’, yn ogystal â ‘Channel 4’, lle yr oedd yn gynhyrchydd a chyflwynydd sy’n arbenigo mewn rhaglenni busnes. Yn 1992 ymunodd ag uned polisi John Major, lle bu’n gweithio am 2 flynedd.

Gyrfa wleidyddol

Cafodd Damian nifer o swyddi yng Nghabinet yr Wrthblaid, gan gynnwys Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Addysg a Sgiliau o 2001 i 2003, Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Drafnidiaeth rhwng 2003 a 2004 a Gweinidog yr Wrthblaid dros Fewnfudo o 2005 i 2010. Gwasanaethodd fel y Gweinidog dros Plismona, Cyfiawnder Troseddol a Ddioddefwyr (ar y cyd â‘r Swyddfa Gartref) o fis Medi 2012 i fis Gorffennaf 2014.

Ef oedd y Gweinidog Gwladol dros Fewnfudo o fis Mai 2010 i fis Medi 2012.

Cyhoeddiadau