Cyfarwyddwr Masnachol

Darren Thompson

Bywgraffiad

Dychwelodd Darren i DVLA yn 2023 fel Cyfarwyddwr Masnachol.

Addysg

Mae gan Darren radd mewn Economeg a MBA o Brifysgol Abertawe a chafodd ei ethol y llynedd yn Gymrawd y Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi.

Gyrfa

Mae gan Darren yrfa o gyflawni yn y Proffesiwn Masnachol Sector Cyhoeddus. Datblygodd ac ymsefydlodd broses Sicrhau Caffael yn yr Adran Drafnidiaeth a’i hasiantaethau yn 2013, cyflwynodd nifer o gaffaeliadau proffil uchel gan ddefnyddio’r Ddeialog Gystadleuol a gweithdrefnau a drafodwyd, gan gyflawni arbedion mawr a chefnogi ffyrdd newydd o weithio wedi’u digido.

Yn ddiweddar, mae Darren wedi bod yn aelod o Uwch Dîm Gwasanaeth Masnachol y Goron yn arwain y Tîm Caffael Cynorthwyol, sy’n ymgymryd â chaffael ar ran cwsmeriaid y sector cyhoeddus yn erbyn dros 80 o gytundebau masnachol i lefel uchel o foddhad cwsmeriaid. Trwy gydol y pandemig, cefnogodd timau Darren yr Adran Iechyd ac Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA), gan ddyfarnu dros 300 o gontractau yn y categorïau Rheoli Cyfleusterau, Technoleg, Logisteg, Canolfan Gyswllt ac Ymgynghori.

Cyfarwyddwr Masnachol

Bu’n gyfrifol am ddarparu arweiniad masnachol, caffael a datblygu busnes ar lefel strategol a gweithrediadol, yn lleihau costau nad yw’n gysylltiedig â staff ac yn chwilio am gyfleoedd i farchnata a datblygu gwasanaethau’r DVLA.

Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau