David Jones
Bywgraffiad
Penodwyd David Jones yn Gyfarwyddwr Anweithredol y DVLA ym mis Chwefror 2024.
Addysg
Aeth David i’r ysgol yn Wrecsam lle cafodd ei eni. Aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd lle graddiodd mewn Athroniaeth.
Gyrfa
Dechreuodd David ei yrfa fel Prif Swyddog Technoleg Aspro Travel o Gaerdydd, cyn sefydlu cwmni meddalwedd, Travelink, a werthodd yn 2005. Am yr ychydig flynyddoedd nesaf, bu David yn gweithio ym maes ymgynghori ac fel Angel Buddsoddi, gan gadeirio nifer o gwmnïau technoleg hefyd.
Yn 2009 ymunodd David â Bwrdd GIG Caerdydd a’r Fro fel Cyfarwyddwr Anweithredol a dilynodd hyn gyda rolau Cyfarwyddwr Anweithredol ar gyfer Cymwysterau Cymru, Bwrdd GIG Aneurin Bevan ac Awdurdod Cyllid Cymru.
Yn 2019 penodwyd David i fwrdd Ofcom fel yr aelod anweithredol cyntaf dros Gymru, gan roi’r gorau iddi ym mis Rhagfyr 2023.
Yn 2022 penodwyd David i Fwrdd Ofwat.
Rolau anweithredol eraill
Ar hyn o bryd mae David yn Gyfarwyddwr Anweithredol yn Ofwat ac yn gyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr yn CxB, sefydliad gwirfoddol sy’n gwella goruchwyliaeth byrddau o seiberddiogelwch.
Cadeirydd Anweithredol
Yn gyfrifol am gyflwyno syniadau ac yn darparu cyngor, o’i phrofiad yn y byd busnes ehangach ac o’i safbwynt hi fel dinesydd preifat.