Guy Opperman

Bywgraffiad

Bu’n Weinidog Gwladol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau rhwng 13 Tachwedd 2022 a 27 Hydref 2023, ac yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr un adran rhwng 14 Mehefin 2017 ac 8 Medi 2022.

Gwasanaethodd fel Chwip y Llywodraeth (Arglwydd Gomisiynydd Trysorlys EM) o 12 Mai 2015 i 14 Mehefin 2017. Cafodd ei ethol yn AS Ceidwadol dros Hexham ym mis Mai 2010.

Addysg

Addysgwyd Guy yn Ysgol Harrow; aeth ymlaen i ddarllen y gyfraith ym Mhrifysgol Buckingham. Enillodd hefyd ddiploma dosbarth cyntaf o Brifysgol Lille.

Gyrfa wleidyddol

Gwasanaethodd Guy fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Mark Harper, y Gweinidog Mewnfudo ar y pryd. Gwasanaethodd fel Chwip Cynorthwyol y Llywodraeth o fis Mai 2015 tan fis Gorffennaf 2016.

Gyrfa cyn gwleidyddiaeth

Galwyd Guy i’r bar ym 1989.Treuliodd ugain mlynedd fel bargyfreithiwr a bu hefyd yn Gyfarwyddwr busnes peirianneg ei deulu tan 2009.

Bywyd personol

Mae Guy yn joci amatur ac enillodd ei fuddugoliaeth gyntaf yn 1985.