Aelod anweithredol o'r bwrdd, IPO

Harriet Kelsall

Bywgraffiad

Mae Harriet Kelsall yn un o’r dylunwyr pwrpasol ac arloeswyr busnes mwyaf uchel ei barch sy’n gweithio yn niwydiant gemwaith y DU heddiw. Sefydlodd hi ei busnes arobryn o fwrdd ei chegin ym 1998 ac yna dechreuodd ymgyrch i ddod â chynllun gemwaith pwrpasol cyraeddadwy i’r stryd fawr am y tro cyntaf. Hi oedd “Menyw Busnes Manwerthu y Flwyddyn” i Forward Ladies HSBC yn 2016, “Menyw Fanwerthu’r Flwyddyn” Everywoman yn 2011, un o chwe “menyw sydd wedi newid y byd busnes fwyaf” yng nghylchgrawn Sefydliad y Cyfarwyddwyr yn 2014 ac mae’n Rhyddfreiniwr y Cwmni Anrhydeddus o Eurofaint a Dinas Llundain (Worshipful Company of Goldsmiths and the City of London).

Ar ôl gorffen ei thymor fel cadeirydd Cymdeithas Genedlaethol y Gemwyr yn 2020, hi bellach yw’r dirprwy gadeirydd. Mae hi wedi bod yn gyfarwyddwr anweithredol i Gyngor Dilysnodi Prydain ers 2016 a chynghorodd yr Academi Sgiliau Creadigol a Diwylliannol ar sgiliau gemwaith o 2012-2018. Roedd hi’n Gyfarwyddwr Anweithredol y Cyngor Gemwaith Cyfrifol Rhyngwladol o 2016-2019.

Mae Harriet yn frwd dros helpu busnesau creadigol i ffynnu a’i llyfr ar y pwnc a enillodd yng Ngwobrau Llyfr Busnes y Flwyddyn 2019. Mae hi’n brif siaradwr rheolaidd ar ddechrau a thyfu busnesau creadigol a manteision dyslecsia ac mae hi’n siarad yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am fusnes cyfrifol. Mae Harriet yn byw yng Nghaergrawnt ac mae ganddi 2 blentyn.

Aelod anweithredol o'r bwrdd, IPO

Rôl ein Bwrdd Llywio yw cynghori Gweinidogion, trwy ein Cyfarwyddwr Cyffredinol, ar ein strategaethau a’n perfformiad (gan gynnwys targedau) fel y nodir yn ein Cynllun Corfforaethol. Mae hefyd yn rhoi arweiniad o safbwynt masnachol ar ein gweithrediad a’n datblygiad ar draws ystod o faterion. 

Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae’r Bwrdd Llywio wedi darparu cyngor ac arweiniad ar ystod eang o bynciau, megis ein Cynllun Corfforaethol, Targedau Asiantaeth, Polisi Eiddo Deallusol, Cyfrifon a Rheoli Risg. 

Mae’r Bwrdd Llywio yn cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn.

Intellectual Property Office