Hilary Newiss
Bywgraffiad
Mae Hilary yn gyfreithiwr ac yn gyn bartner mewn cwmni cyfreithiol yn y ddinas, yn arbenigo mewn Eiddo Deallusol. Ers gadael y ddinas, mae hi wedi gwasanaethu ar sawl bwrdd cyhoeddus ym meysydd gwyddoniaeth, arloesi, iechyd a moeseg gan gynnwys y Comisiwn Geneteg Dynol, y Bwrdd Llywodraethu Gwybodaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Bwrdd Moeseg a Llywodraethu Biobanc, y Panel Cynghori ar Wybodaeth y Sector Cyhoeddus a Sefydliad Francis Crick. Ar hyn o bryd mae hi’n Ymddiriedolwr yr Amgueddfa Astudiaethau Natur, lle mae’n cadeirio’r Pwyllgor Archwilio a Risg, yn Gyfarwyddwr anweithredol y Rhwydwaith Arloesi Iechyd ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol y Catapwlt Therapi Celloedd a Genynnau. Mae hi newydd ymddeol fel Cadeirydd National Voices, y grŵp ymbarél o elusennau sy’n eirioli dros ofal sy’n troi o amgylch cleifion.
Fe wnaeth hi wasanaethu ar y Pwyllgor Cynghori ar Eiddo Deallusol 20 mlynedd yn ôl a chadeiriodd hi’r is-bwyllgor ar hawlfraint. Ar hyn o bryd mae hi ar y paneli cynghori ar gyfer data a gwyddorau bywyd ar gyfer y Practical Law Company, lle roedd hi’n awdur sefydlu’r adrannau hawlfraint a dyluniadau.
Aelod anweithredol o'r bwrdd, IPO
Rôl ein Bwrdd Llywio yw cynghori Gweinidogion, trwy ein Cyfarwyddwr Cyffredinol, ar ein strategaethau a’n perfformiad (gan gynnwys targedau) fel y nodir yn ein Cynllun Corfforaethol. Mae hefyd yn rhoi arweiniad o safbwynt masnachol ar ein gweithrediad a’n datblygiad ar draws ystod o faterion.
Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae’r Bwrdd Llywio wedi darparu cyngor ac arweiniad ar ystod eang o bynciau, megis ein Cynllun Corfforaethol, Targedau Asiantaeth, Polisi Eiddo Deallusol, Cyfrifon a Rheoli Risg.
Mae’r Bwrdd Llywio yn cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn.