Prif Swyddog Ariannol

Iain Banfield

Bywgraffiad

Ymunodd Iain â Chofrestrfa Tir EM yn Chwefror 2019 fel Prif Swyddog Ariannol. Cyn hynny, fe dreuliodd dwy flynedd a hanner yn yr Adran Masnach Ryngwladol, yn gyntaf fel y Dirprwy Gyfarwyddwr ar gyfer Cyllid Strategol ac yna Cyfarwyddwr Cyllid dros dro.

Mae Iain wedi bod yn y Gwasanaeth Sifil er 2001 mewn swyddi eraill gan gynnwys Cyfarwyddwr Cyllid ar gyfer Masnach a Buddsoddiadau’r DU, Partner Busnes Cyllid a rolau yn y Pwyllgor Gweithredol Rhanddeiliaid a’r Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau. Mae cyfrifoldebau trwy ei yrfa wedi cynnwys cynnal trafodaethau ar adolygiad o wariant, cynllunio busnes, cyfrifyddu rheoli a chyfrifyddu a rheolaeth ariannol.

Mae Iain yn gyfrifydd sector cyhoeddus cymwysedig, ac wedi ennill dwy brif wobr CIPFA am ei berfformiad yn ei arholiadau terfynol.

Prif Swyddog Ariannol

Mae’r Prif Swyddog Ariannol yn gyfrifol am reolaeth ariannol Cofrestrfa Tir EM a chydymffurfio â gofynion cyffredinol Cyfrifyddu’r Llywodraeth.

Mae’n goruchwylio’r gwaith o baratoi ein cyfrifon blynyddol ac yn gyfrifol am sicrhau bod y dangosydd perfformiad allweddol ar gyfer effeithlonrwydd yn cael ei gyflawni. Mae’n rhoi cyngor i’r Prif Weithredwr a’r Bwrdd Portffolio ar reoleidd-dra a phriodoldeb gwariant ac yn rhoi cyngor ar gontractau masnachol hefyd.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

Cyfarwyddwr Cyllid 2014 i 2016

Cofrestrfa Tir EF