Prif Ysgrifennydd Parhaol a Phrif Weithredwr

Sir Jim Harra KCB

Bywgraffiad

Dechreuodd Jim ei yrfa yng Nghyllid y Wlad fel Arolygydd Trethi yn 1984. Ym mis Ionawr 2009, cafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Treth Gorfforaeth a Threth ar Werth (TAW), a, thrwy hynny, ysgwyddodd y cyfrifoldeb o wella’r gwaith o ddylunio a darparu ar gyfer y trethi busnes hyn.

Daeth Jim yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau Cwsmeriaid Treth Bersonol ym mis Mawrth 2011, ac yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau Treth Bersonol ym mis Hydref 2011. Cafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Cyffredinol Treth Busnes ar 16 Ebrill 2012. Dechreuodd Jim ei swydd fel yr Ail Ysgrifennydd Parhaol a Dirprwy Brif Weithredwr CThEF ar 1 Ionawr 2018.

Penodwyd Jim fel Prif Ysgrifennydd Parhaol a Phrif Weithredwr CThEF ym mis Hydref 2019.

Prif Ysgrifennydd Parhaol a Phrif Weithredwr

Mae Prif Ysgrifennydd Parhaol a Phrif Weithredwr Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn cadeirio’r Pwyllgor Gweithredol, ac yn gyfrifol am gyflwyno strategaeth, amcanion busnes a pherfformiad yr adran.

Yr unigolyn hwn yw’r Prif Swyddog Cyfrifyddu ac mae’n atebol i Senedd San Steffan am wariant a pherfformiad yr adran.

Cyllid a Thollau EF

Cyhoeddiadau