Jo Churchill
Bywgraffiad
Penodwyd Jo Churchill yn Weinidog Gwladol dros yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 13 Tachwedd 2023.
Cyn hynny, roedd hi’n Is-Siambrlen Tŷ Ei Fawrhydi (Chwip y Llywodraeth) rhwng 7 Medi 2022 a 13 Tachwedd 2023.
Bu’n Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig rhwng 17 Medi 2021 a 6 Gorffennaf 2022.
Bu’n Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol rhwng 26 Gorffennaf 2019 a 16 Medi 2021. Cyn hynny, roedd hi’n Chwip Cynorthwyol y Llywodraeth rhwng 9 Ionawr 2018 a 26 Gorffennaf 2019.