Jonathan Ingram
Bywgraffiad
Mae Jonathan yn Gyfarwyddwr Gweithredol gyda Buddsoddiadau Llywodraeth y DU (UKGI) ac ef yw Aelod Anweithredol Cyfranddalwyr y Bwrdd ar gyfer Cofrestrfa Tir EF.
Ymunodd Jonathan â Buddsoddiadau Llywodraeth y DU yn gynnar yn 2018 ac yn ogystal â bod yn rhan o’r tîm Sefyllfaoedd Arbennig, mae wedi cynnal nifer o adolygiadau llywodraethu o brif gyrff hyd braich y llywodraeth, wedi arwain adolygiad o ymagwedd y cwmni at ei rôl fel Cyfranddaliwr ac wedi arwain ei Swyddogaeth Risg.
Yn gyfreithiwr o ran ei gefndir, mae Jonathan wedi gweithio mewn cwmnïau cyfreithiol cenedlaethol a rhyngwladol a chyn hynny bu’n gyfarwyddwr Cwmni Buddiannau Cymunedol Chwaraeon. Mae gan Jonathan radd yn y Gyfraith o Brifysgol Leeds.
Aelod Anweithredol o'r Bwrdd
Mae Aelod Anweithredol o’r Bwrdd yn gyfrifol am herio’n adeiladol, a darparu arweiniad a chymorth i’r Bwrdd Gweithredol.