Prif Swyddog Cyllid a Comisiynydd Sicrwydd Treth

Justin Holliday

Bywgraffiad

Ymunodd Justin â CThEF ym mis Awst 2013 o’r Swyddfa Gartref.

Graddiodd Justin o Brifysgol Rhydychen ac ers hynny mae wedi gweithio i amrywiaeth o sefydliadau yn y sector preifat, llywodraeth leol a chanolog.

Mae Justin yn gyfrifydd cymwys CIPFA. Penodwyd Justin yn Brif Swyddog Cyllid ym mis Mehefin 2015.

Prif Swyddog Cyllid

Mae’r Prif Swyddog Cyllid yn gyfrifol am sicrhau’r safonau uchaf o reolaeth ariannol yn CThEF ac am arwain y cyfarwyddiaethau Masnachol, Ystadau a Gwasanaethau Cymorth, Cyllid ac Archwilio Mewnol.

Cyllid a Thollau EF

Comisiynydd Sicrwydd Treth

Comisiynydd Sicrwydd Treth CThEF yw Pennaeth y Proffesiwn Treth, ac mae’n darparu ac yn goruchwylio’r gwaith o roi sicrwydd i setliadau treth mawr.

Mae’r Comisiynydd yn goruchwylio’r trefniadau sicrwydd a llywodraethu anghydfodau sy’n caniatau i Senedd San Steffan a’r cyhoedd fod yn hyderus bod CThEF yn diogelu’r dreth gywir o dan y gyfraith wrth fynd i’r afael ag anghydfodau treth.

Nid yw’r Comisiynydd yn cysylltu’n uniongyrchol a threthdalwyr i drafod eu rhwymedigaethau treth penodol, ac nid yw’n gyfrlfol ychwaith am enedau gweithredol CThEF sy’n rheoli cydymffurfiad trethdalwyr.

Cyllid a Thollau EF