Kirsty Cooper
Bywgraffiad
Mae Kirsty Cooper yn Ysgrifennydd Cwmni a Chwnsler Cyffredinol ar gyfer Aviva. Mae ganddi radd Baglor y Gyfraith o Brifysgol Glasgow, ac mae wedi cymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal â’r Alban. Mae hefyd yn un o raddedigion rhaglen rheolwr cyffredinol INSEAD.
Mae gan Kirsty dros 25 mlynedd o brofiad yn Aviva, yswiriwr mwyaf y DU. Sefydlodd y swyddogaeth gyfreithiol ac ysgrifenyddol fel tîm byd-eang ac mae ei chyfrifoldebau yn cynnwys darparu gwasanaethau cyfreithiol i’r grŵp, gwasanaethau ysgrifenyddol cwmni, polisi cyhoeddus a chyfrifoldeb corfforaethol. Mae hefyd yn cynorthwyo’r Cadeirydd a’r Bwrdd i gyflawni eu cyfrifoldebau. Cafodd ei phenodi i’r Grŵp Gweithredol ym Mai 2012.
Mae Kirsty yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr y Tŷ Opera Brenhinol ac mae wedi gwasanaethu ar Fwrdd yr English National Ballet. Yn 2016 a 2017 gwasanaethodd fel aelod o’r Comisiwn Asedau Segur, a adroddodd i’r Llywodraeth ym Mawrth 2017.
Aelod Anweithredol o'r Bwrdd
Mae Aelod Anweithredol o’r Bwrdd yn gyfrifol am herio’n adeiladol, a darparu arweiniad a chymorth i’r Bwrdd Gweithredol.
Comisiynydd Asedau Segur
Mae comisiynwyr yn cynorthwyo’r Cadeirydd i gyflawni’r cylch gorchwyl ar gyfer y Comisiwn Asedau Segur Annibynnol.
Comisiwn Asedau Segur Annibynnol
Dormant Assets Commissioner
Commissioners support the Chair in meeting the terms of reference for the Independent Dormant Assets Commission.