Laurie Benson
Bywgraffiad
Mae Laurie Benson yn gyn weithredwr cyfryngau byd-eang sydd bellach yn cynghori byrddau ar drawsnewid eu sefydliadau a manteisio ar fuddion technoleg ddigidol. Mae ganddi gymysgedd o brofiad gweithredol a bwrdd yn y sector preifat a chyhoeddus.
Penodwyd Laurie gan y Swyddfa Cymdeithas Sifil a DCMS i wasanaethu ar fwrdd Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr ar adeg o drawsnewid sefydliadol rhwng 2016-2019. Mae Laurie hefyd yn eistedd ar Fwrdd Ymddiriedolwyr Amgueddfa’r Awyrlu Brenhinol, corff hyd braich sy’n gysylltiedig â’r Weinyddiaeth Amddiffyn. Yn y sector preifat, mae Laurie yn Gyfarwyddwr Anweithredol ac yn Gadeirydd Archwilio Christie Group Plc. Mae ei phortffolio bwrdd hefyd yn cynnwys Cyfarwyddwr Anweithredol The Medical Algorithms Company, llwyfan data a thechnoleg yn y sector gofal iechyd.
Aelod anweithredol o'r bwrdd, IPO
Rôl ein Bwrdd Llywio yw cynghori Gweinidogion, trwy ein Cyfarwyddwr Cyffredinol, ar ein strategaethau a’n perfformiad (gan gynnwys targedau) fel y nodir yn ein Cynllun Corfforaethol. Mae hefyd yn rhoi arweiniad o safbwynt masnachol ar ein gweithrediad a’n datblygiad ar draws ystod o faterion.
Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae’r Bwrdd Llywio wedi darparu cyngor ac arweiniad ar ystod eang o bynciau, megis ein Cynllun Corfforaethol, Targedau Asiantaeth, Polisi Eiddo Deallusol, Cyfrifon a Rheoli Risg.
Mae’r Bwrdd Llywio yn cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn.