Lynette Rose
Bywgraffiad
Ymunodd Lynette â DVLA yn 1989. Gweithiodd mewn nifer o rolau ar draws yr asiantaeth cyn dechrau yn y rôl Cyfarwyddwr Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu ym Mawrth 2019.
Addysg
Mae gan Lynette BA Anrhydedd mewn Saesneg ac Astudiaethau Americanaidd o Brifysgol Cymru (Abertawe).
Gyrfa
Mae Lynette yn was sifil proffesiynol. Mae wedi treulio’r 15 mlynedd diwethaf ar ystod o newidiadau polisi a deddfwriaethol, gan gynnwys mentrau proffil uchel i foderneiddio gwasanaethau megis diddymu y gwrth-ddalen cerdyn-llun a’r ddisg dreth cerbyd. Mae hefyd wedi cefnogi datblygu strategaeth y DVLA. Cyn hyn, gweithiodd mewn nifer o rolau ar draws yr asiantaeth a oedd yn cynnwys rôl allweddol mewn trosglwyddo newid diwylliannol, rheolaeth rhaglen a gwasanaethau corfforaethol.
Cyfarwyddwr Dros Dro
Yn gyfrifol am arweinyddiaeth gyffredinol y DVLA.