Mandy Fields
Bywgraffiad
Penodwyd Mandy yn Rheolwr Busnes, sef uwch arweinydd y Grŵp Trawsnewid a Rheoli Busnes (BMTG), ym mis Chwefror 2021.
Ymunodd Mandy â BMTG yn 2019, gan gychwyn fel arweinydd gweithredol ar gynllunio’r gweithlu a chyllid. Mae’n gweithio yn Swyddfa’r Dyfarnwr ers 2011.
Cyn ymuno â Swyddfa’r Dyfarnwr, roedd Mandy yn gweithio yn CThEM. Ymunodd â Thollau Tramor a Chartref fel Arolygydd TAW yn wreiddiol, ac roedd hi’n gweithio’n bennaf fel Arbenigwraig TAW ac Arbed Treth yn adran Busnesau Mawr CThEM.
Rheolwr Busnes
Mae swydd y Rheolwr Busnes yn cwmpasu pob swyddogaeth rheoli busnes yn Swyddfa’r Dyfarnwr, gan gynnwys arwain ar ein rhaglen drawsnewid digidol.