Mark Gray
Bywgraffiad
Graddiodd Mark o Rydychen â gradd mewn Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg, cyn dechrau ei yrfa yn gweithio fel ymgynghorydd strategaeth yn Deloitte.
Yn ystod ei gyfnod gyda Deloitte, bu’n gweithio ar draws ystod eang o ddiwydiannau a sectorau, o’r BBC i sefydliadau gweithgynhyrchu rhyngwladol. Yn 2011, symudodd i fancio manwerthu yn Barclays, gan weithio i ddechrau ar eu cynnig busnes cyn symud i forgeisi. Ymgymerodd â rôl cyfarwyddwr rhaglen ar gyfer digideiddio cynhwysfawr eu morgeisi.
Yn 2016, ymunodd Mark â Gwasanaeth Erlyn y Goron, fel Cyfarwyddwr Trawsnewid Digidol yn y lle cyntaf. Daliodd amryw o swyddi gweithredol gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ystod ei saith mlynedd yno, gan arwain ystod o swyddogaethau gan gynnwys digidol, technoleg, trawsnewid, masnachol, ystadau, diogelwch, a gweithrediadau. Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys goruchwylio trawsnewid Gwasanaeth Erlyn y Goron o weithio ar bapur i weithio’n ddigidol ac arwain yr ymateb parhad busnes i COVID-19. Yn fwyaf diweddar, ef oedd y Prif Swyddog Digidol a Gwybodaeth.
Ymunodd â Chofrestrfa Tir EF yn 2023 i arwain y Gyfarwyddiaeth Trawsnewid a Thechnoleg newydd.
Prif Swyddog Trawsnewid a Thechnoleg
- goruchwylio uchelgais trawsnewidiol y sefydliad a’r rhaglenni i gyflawni hyn
- datblygu, gweithredu a chynnal a chadw datrysiadau a systemau technoleg newydd a rhai sy’n bodoli
- gweithio ar draws y sefydliad a’r sector i wella gwasanaethau i gwsmeriaid a staff
- sicrhau bod technoleg y sefydliad yn wydn ac yn sail effeithiol i weithrediadau busnes CTEF
- cydweithio a chefnogi cydweithwyr i ymgorffori newidiadau yn llwyddiannus