Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cwsmeriaid a Strategaeth

Mike Harlow

Bywgraffiad

Ymunodd Mike â Chofrestrfa Tir EF fel Cwnsler Cyffredinol a Dirprwy Brif Gofrestrydd Tir yn Chwefror 2018 ac ymgymerodd â’r rôl Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir Dros Dro o 1 Ionawr 2019 tan 11 Tachwedd 2019.

Graddiodd Mike o Goleg Imperial mewn peirianneg fecanyddol cyn newid i’r gyfraith. Yna bu’n gweithio fel cyfreithiwr yn Llundain am 15 mlynedd, yn gweithredu ar ran cleientiaid eiddo masnachol.

Treuliodd Mike 11 o flynyddoedd yn English Heritage fel ei gyfarwyddwr cyfreithiol ac ysgrifennydd corfforaethol. Cafodd brofiad ar lefel bwrdd o newid sefydliadol sylweddol a diwygio mawr o’r gyfraith a pholisi treftadaeth.

Ar ôl treulio 4 blynedd fel Cwnsler Cyffredinol a Dirprwy Brif Gofrestrydd Tir, ymgymerodd Mike â rôl Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cwsmeriaid a Strategaeth.

Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cwsmeriaid a Strategaeth

Mae’r rôl yn gyfrifol am strategaeth gorfforaethol, ymgysylltu allanol, cysylltiadau cwsmeriaid, dylunio gwasanaethau a rheoli cynnyrch, datblygu polisi a dylunio menter ac mae’n dirprwyo ar ran y Prif Weithredwr.

Cofrestrfa Tir EF