Myrtle Lloyd
Bywgraffiad
Yn ystod ei gyrfa 19 mlynedd yn y Gwasanaeth Sifil, mae Myrtle wedi cael amrywiaeth o rolau arwain yn rhychwantu strategaeth, darparu rhaglenni/prosiectau, gweithrediadau a TG yn yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a’r Swyddfa Gartref. Cyn ymuno â Chyllid a Thollau EF (CThEF) yn 2021, roedd yn Brif Swyddog Gweithredu yn Swyddfa Basbort Ei Mawrhydi, yn ogystal â Chofrestrydd Cyffredinol dros Gymru a Lloegr. Yn ystod ei chyfnod gyda’r Swyddfa Gartref, roedd Myrtle hefyd yn Bennaeth Proffesiwn ar gyfer cyflenwi gweithredol.
Penodwyd Myrtle yn Gyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid ym mis Ionawr 2021, gan ddechrau yn ei rôl ym mis Chwefror 2021.
Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau i Gwsmeriaid
Mae gan Gyfarwyddwr Cyffredinol y Gwasanaethau i Gwsmeriaid gyfrifoldeb cyffredinol am sicrhau cysondeb yng ngwasanaethau cwsmeriaid CThEF ac am ddarparu’r cymorth cydgysylltiedig y maent yn ei ddisgwyl i gwsmeriaid, ar draws pob sianel, ac yn y ffordd sy’n gweddu orau iddynt.
Mae’r Grŵp Gwasanaethau i Gwsmeriaid yn rheoli’r rhan fwyaf o’r cyswllt sydd rhwng CThEF a threthdalwyr unigol, y sawl sy’n cael credydau treth, a busnesau bach a chanolig.