Neil Hartley
Bywgraffiad
Fe wnaeth Neil ymuno â’r IPO ym mis Ebrill 2015, mewn trefniant arloesol lle rhannwyd rôl y Cyfarwyddwr Cyllid â Thŷ’r Cwmnïau, lle bu Neil yn gweithio ers 2012. Parhaodd y trefniant hwn tan fis Ionawr 2018, pan symudodd Neil i weithio’n llawn amser yn yr IPO.
Cyn hynny, mae Neil wedi cael gyrfa amrywiol yn y sector cyhoeddus gan gynnwys swyddi cyllid a newid yn y Comisiwn Cynllunio Seilwaith a Swyddfa’r Llywodraeth ar gyfer y Rhanbarthau. Roedd swyddi cynharach yn cynnwys; CThEF, rheoleiddio ynni a’r Arolygiaeth Gynllunio. Mae Neil yn gyfrifydd cymwys CIPFA ac mae ganddo Ddiploma Ôl-raddedig mewn Cyllid Cyhoeddus ac Arweinyddiaeth o Ysgol Fusnes Warwig.
Cyfarwyddwr Cyllid, IPO
Yn gyfrifol am strategaeth, gweithrediadau a systemau ariannol, cyfrifon ac adroddiadau ariannol, cyllidebau, rheolaethau a chaffael.