Cadeirydd Anweithredol

Neil Sachdev

Bywgraffiad

Ymunodd Nilesh (Neil) Sachdev â Chofrestrfa Tir EM yn 2022 fel Cadeirydd Bwrdd Cofrestrfa Tir EM. Ar hyn o bryd, mae’n Gadeirydd East West Railway Company (EWR Co) hefyd, yn goruchwylio’r gwaith o ddarparu cyswllt rheilffordd uniongyrchol newydd rhwng Rhydychen a Chaergrawnt, ac yn Gadeirydd Bwrdd Trefniadaeth Seilwaith Amddiffyn y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol Network Rail Property Limited.

Mae Neil wedi dal amrywiaeth o uwch swyddi arwain yn y sectorau ynni, eiddo a manwerthu hefyd.

Cadeirydd Anweithredol

Mae Cadeirydd Bwrdd Cofrestrfa Tir EM yn cydweithio’n agos â’r Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir i arwain y gwaith o ddatblygu’r sefydliad. Mae’r rôl yn gyfrifol am sicrhau bod arferion llywodraethu priodol yn cael eu dilyn a bod perfformiad yn cael ei fonitro’n effeithiol.

Cofrestrfa Tir EF