Paul Maynard
Bywgraffiad
Penodwyd Paul Maynard yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 13 Tachwedd 2023.
Bu’n Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Drafnidiaeth rhwng Gorffennaf 2019 a Chwefror 2020.
Bu hefyd yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder rhwng Mai 2019 a Gorffennaf 2019.
Cyn hynny roedd yn Chwip y Llywodraeth (Arglwydd Gomisiynydd Trysorlys EF). Roedd Paul yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Drafnidiaeth rhwng Gorffennaf 2016 ac Ionawr 2018. Cafodd ei ethol yn AS Ceidwadol dros Blackpool North a Cleveleys ym mis Mai 2010.
Addysg
Addysgwyd Paul yng Ngholeg St Ambrose, Altrincham a Choleg y Brifysgol, Rhydychen lle bu’n astudio hanes.
Gyrfa y tu allan i wleidyddiaeth
Cyn mynd i’r Senedd, gweithiodd Paul fel ymgynghorydd gwleidyddol ac ysgrifennwr areithiau.