Sir Richard Heaton KCB
Bywgraffiad
Sir Richard Heaton KCB wedi bod yn Ysgrifennydd Parhaol i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ers mis Awst 2015. Cyn hynny roedd yn Ysgrifennydd Parhaol i Swyddfa’r Cabinet (o fis Awst 2012).
Cychwynnodd Sir Richard ei yrfa fel bargyfreithiwr, ac ymunodd â’r Swyddfa Gartref fel cynghorwr cyfreithiol yn 1991. Yna gweithiodd mewn timau cyfreithiol ar draws y llywodraeth, gan ganolbwyntio’n arbennig ar gyfraith trosedd, y cyfansoddiad, a chyfraith hawliau dynol.
Dyma oedd ei swyddi diweddar o fewn y maes cyfreithiol ac oddi allan iddo:
- Cyfarwyddwr gwasanaethau cyfreithiol yn yr Adran Materion Cyfansoddiadol (sef y Weinyddiaeth Gyfiawnder erbyn hyn)
- Pennaeth cyfraith a llywodraethu yn yr Adran Gwaith a Phensiynau
- Cyfarwyddwr Cyffredinol dros bensiynau a chymdeithas sy’n heneiddio, yr Adran Gwaith a Phensiynau
Ef hefyd oedd y Prif Cwnsler Seneddol Cyntaf o 2012 hyd 2015.
Ym mis Ebrill 2014 daeth Richard yn Eiriolwr dros Hil y Gwasanaeth Sifil.