Sarah Doherty
Bywgraffiad
Ymunodd Sarah â Swyddfa’r Dyfarnwr ym mis Gorffennaf 2017 ac yn ddiweddar mae wedi ymgymryd â rôl newydd fel Pennaeth Mewnwelediad, Ymgysylltu a Dysgu ar ôl arwain ar Reoli a Thrawsnewid Busnesau yn y gorffennol.
Cyn ymuno â Swyddfa’r Dyfarnwr, bu Sarah yn gweithio i CThEM lle ymgymerodd ag amrywiaeth o rolau mewn meysydd treth arbenigol, gan gynnwys arwain a rheoli timau gwasanaethau cwsmeriaid, rheolwr cwynion a chyswllt â rhanddeiliaid gydag Ymarferwyr Ymddiriedolaethau ac Ystadau.
Mae Sarah yn aelod o Gymdeithas yr Ombwdsmon ac mae’n hyfforddwr cryfderau achrededig.
Pennaeth Mewnwelediad, Ymgysylltu a Dysgu
Mae gan y Pennaeth Mewnwelediad, Ymgysylltu a Dysgu rôl arwain a rheoli drosfwaol sy’n gyfrifol am sefydlu a gweithredu cynlluniau i ddatblygu ac ymsefydlu ein gwerthoedd sefydliadol.