Simon Hayes
Bywgraffiad
Ymunodd Simon Hayes â Chofrestrfa Tir EM fel y Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir ar 11 Tachwedd 2019. Daw Simon yn lle Mike Harlow a fu’n Brif Weithredol a Phrif Gofrestrydd Tir Dros Dro er Ionawr 2019.
Ymunodd Simon â’r Swyddfa Gartref ym 1997 a bu ganddo sawl swydd ar draws yr heddlu, cyfiawnder troseddol a pholisi mewnfudo cyn cael ei benodi’n Bennaeth Staff ar gyfer Asiantaeth Ffiniau’r DU (UKBA) yn 2005. Yn 2008 cafodd Simon ei benodi’n Gyfarwyddwr Rhanbarthol cyntaf UKBA ar gyfer gwledydd America, wedi ei leoli yn Washington DC.
Dychwelodd Simon i’r DU yn 2012 i fod yn Gyfarwyddwr Rhyngwladol Fisâu a Mewnfudo’r DU (UKVI). Fel Cyfarwyddwr Rhyngwladol, roedd Simon yn gyfrifol am orchwylio gweithrediad fisâu, y rhwydwaith byd-eang o Ganolfannau Ceisiadau Fisa, a phartneriaethau mudo rhyngwladol.
Yn 2014 cafodd Simon ei benodi’n Gyfarwyddwr Fisâu a Dinasyddiaeth yn UKVI. Roedd cyfrifoldebau Simon yn cynnwys goruchwylio holl lwybrau ymwelwyr, twristiaid, gwaith, astudio a dinasyddiaeth, yn ogystal â’r system nawdd mewnfudo. Sefydlodd y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer dinasyddion sy’n preswylio yn y DU, a gafodd ei lansio’n llwyddiannus yn 2019 hefyd.
Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir
Mae’r Prif Gofrestrydd Tir yn gyfrifol am gadw’r cofrestri tir ac mae ganddo’r holl bwerau, cyfrifoldebau a dyletswyddau a roddir ac a osodir gan y gyfraith mewn perthynas â hynny.
Mae’r Prif Gofrestrydd Tir hefyd yn Brif Weithredwr a Phrif Swyddog Cyfrifyddu Cofrestrfa Tir EM. Mae’r rôl hon yn gyfrifol am reolaeth effeithlon ac effeithiol y sefydliad o ddydd i ddydd, gan gynnwys goruchwylio ei amcanion a gweithredu strategaeth fusnes a chynllun busnes cymeradwy.