The Rt Hon Thérèse Coffey
Bywgraffiad
Penodwyd Thérèse Coffey yn Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 8 Medi 2019.
Yn flaenorol roedd Thérèse yn Weinidog Gwladol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig rhwng 25 Gorffennaf 2019 ac 8 Medi 2019.
Cyn hynny roedd hi’n Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig rhwng 17 Gorffennaf 2016 a 25 Gorffennaf 2019. Fe’i hetholwyd yn AS Ceidwadol Arfordir Suffolk ym mis Mai 2010.
Addysg
Graddiodd Thérèse o Goleg Prifysgol Llundain (UCL) gyda PhD mewn cemeg.
Gyrfa Wleidyddol
Gwasanaethodd Thérèse Coffey fel Dirprwy Arweinydd Tŷ’r Cyffredin rhwng mis Mai 2015 a mis Gorffennaf 2016.
Gwasanaethodd Thérèse ar y Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon nes iddi gael ei phenodi’n Ysgrifennydd Preifat Seneddol i Michael Fallon, y Gweinidog Busnes ac Ynni. Mae Thérèse wedi ymgyrchu i atal y doll A14, gwella profiad y GIG i gleifion a gwell band eang.
Gyrfa y tu allan i wleidyddiaeth
Gweithiodd Thérèse i’r cwmni rhyngwladol Mars. Pan gymhwysodd Thérèse fel cyfrifydd rheoli siartredig, daeth yn Gyfarwyddwr Cyllid ar gyfer is-gwmni yn y DU o Mars. Mae hi hefyd wedi gweithio yn y BBC.
Bywyd personol
Mae Thérèse yn mwynhau gwylio pêl-droed, garddio a cherddoriaeth, yn enwedig Muse. Mae hi’n aelod o CAMRA (Ymgyrch dros Real Ale).