Tony Ackroyd
Bywgraffiad
Penodwyd Tony yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau a Gwasanaethau Cwsmeriaid yn Mehefin 2014.
Addysg
Mae ei addysg bellach yn cynnwys Tystysgrif Cenedlaethol Uwch mewn Astudiaethau Busnes.
Gyrfa
Bu Tony yn gweithio mewn nifer o swyddi uwch yn y sector preifat gan gynnwys gweithio fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn Nuance, lle bu’n gyfrifol am 8,000 o weithwyr mewn busnes sy’n tyfu yn gyflym yn darparu gwasanaethau telathrebu ar draws y byd.
Mae gan Tony gefndir o reoli canolfannau cyswllt gan gynnwys BSkyB Limited, lle bu’n gyfrifol am arolygu darparu gwasanaethau a swyddogaethau prosesu gweinyddol ar gyfer pob canolfan cyswllt Sky.
Mae gan Tony ddiddordeb mewn deall anghenion y cwsmer ac yn darparu gwasanaeth rhagorol. Yn ystod ei gyfnod fel Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid yn Tesco, gweithredwyd nifer o fentrau a enillodd gwobrau diwydiannol.
Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Gwasanaethau Cwsmeriaid
Mae gan y Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Gwasanaethau Cwsmeriaid gyfrifoldeb am greu a chadw 90 miliwn o gofnodion gyrwyr a cherbydau yn fawl cywir. Mae’r rôl yn ffocysu ar ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid o ansawdd uchel gyda phwyslais mawr ar gynyddu’r argaeledd o sianeli digidol. Mae effeithlonrwydd cyflenwi gweithredol hefyd yn ffactor allweddol gyda gwerth am arian ar flaen y broses cynllunio a gwneud penderfyniadau.