Guidance

Datganiad hygyrchedd ar gyfer y System Olrhain Gwartheg CTS Ar-lein

Published 20 December 2024

Applies to England and Wales

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch.

  • Ar gyfer pobl sydd ond yn defnyddio bysellfwrdd, nid yw pob swyddogaeth – megis y calendr ar gyfer dewis dyddiadau – yn hygyrch ac nid oes unrhyw ddolenni neidio i flociau osgoi cynnwys a ailadroddir.

  • Ar gyfer pobl â golwg gwan neu sy’n lliwddall, defnyddir lliw fel yr unig ddull o gyfleu gwybodaeth, sy’n ei gwneud yn anodd gweld y cynnwys. At hynny, nid yw’r cynllun lliw a ddefnyddir gan y gwasanaeth yn gwahaniaethu’n dda rhwng lliwiau, sy’n golygu y gall fod yn anodd gweld y cynnwys.

  • Ar gyfer pobl y mae angen testun mwy o faint arnynt neu y mae angen iddynt chwyddo i mewn, nid yw’r gwasanaeth yn ail-lifo cynnwys i un golofn pan gaiff ei chwyddo ac mae angen sgrolio’n fertigol ac yn llorweddol er mwyn symud o amgylch y gwasanaeth. Wrth newid y bwlch rhwng testun neu’r bwlch rhwng geiriau, caiff rhywfaint o’r cynnwys ei docio ac ni fydd yn weladwy.

  • Ar gyfer pobl sy’n defnyddio rhaglenni darllen sgrin, nid yw’r testun cyswllt yn gwneud synnwyr allan o’i gyd-destun. Ni chaiff cynnwys gweledol na chydberthnasau ei gyfleu (eu cyfleu) yn rhaglennol sy’n golygu ei bod yn anodd gwahaniaethu rhwng y penawdau a’r cynnwys cysylltiedig, heb allu gweld yr arddull weledol. Defnyddir lluniau fel rheolyddion rhyngweithiol heb yr un o’r semantigau sydd eu hangen i nodi mai rheolyddion yw’r lluniau.

  • Ar gyfer pobl sy’n defnyddio meddalwedd rheoli â llais, nid oes rhai labeli wedi’u cynnwys yn enw eu helfen ffurf gysylltiedig, sy’n golygu y gallwch wynebu rhwystrau wrth geisio llywio drwy elfennau rhyngweithiol.

  • Ar y cyfan, ni all defnyddwyr ymestyn eu sesiynau a chaiff sesiynau eu terfynu bob 30 munud. Mae teitlau tudalennau yr un peth drwy gydol y gwasanaeth ac nid ydynt yn amrywio i ddisgrifio pwnc na diben y dudalen unigol.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os bydd angen i chi gael gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei deall, recordiad sain neu braille:

  • e-bost [email protected]

  • ffoniwch dîm SOG Ar-lein – 03450501235, Nam ar y Clyw (Typetalk) 1800103450501234

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb i chi o fewn 14 diwrnod gwaith. 

Rhoi gwybod am broblemau ynglŷn â hygyrchedd ar y wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu os byddwch o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, anfonwch neges e-bost i: [email protected].

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os byddwch yn anfodlon ar y ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cymorth a Chyngor ar Gydraddoldeb (EASS)Equality Advisory and Support Service.

Cysylltu â ni dros y ffôn neu drwy ymweld â ni

Rydym yn darparu gwasanaeth trosglwyddo testun i bobl sy’n F/fyddar, sydd â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd.

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu i ddehonglydd Iaith Arwyddion Prydain fod yn bresennol. I gael gwybod sut i gysylltu â ni, ewch i CTS Ar-lein (defra.gov.uk)

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Defra yn ymrwymedig i sicrhau bod ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 Web Content Accessibility Guidelines (WCAG) 2.1, o ganlyniad i’r achosion o ddiffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Mae nifer o eitemau sy’n defnyddio arddull weledol i gyfleu gwybodaeth nad yw’n cael ei chyfleu’n rhaglennol, megis:

  • penawdau sy’n weledol adnabyddadwy nad ydynt wedi’u marcio fel penawdau

  • penawdau tablau nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer tablau data

  • dim cysylltiad rhaglennol rhwng cynnwys sydd wedi’i gysylltu’n weledol

  • dim dolen rhwng grŵp o fotymau radio a’u hallwedd

  • nid yw labeli wedi’u marcio fel y cyfryw

  • defnyddir lluniau fel rheolyddion rhyngweithiol

Nid yw’r un o’r eitemau hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Chydberthnasau (A) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1. Efallai na all pobl sy’n defnyddio rhaglen darllen sgrin ddeall cyd-destun y wybodaeth y maent yn ei chyrchu ac efallai na allant ddefnyddio’r gwasanaeth.

Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.2 Dilyniant Ystyrlon (A) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1. Efallai na fydd pobl sy’n ddall neu sydd â nam ar eu golwg yn gallu deall trefniadaeth y dudalen na’r cynnwys sydd ar gael. Efallai na all pobl sydd ond yn defnyddio bysellfyrddau i symud o amgylch y gwasanaeth weld cynnwys.

Defnyddir system “goleuadau traffig” i roi cyfarwyddiadau i ddarparwyr sy’n ymwneud â lliw’r golau. Mae’r dull hwn o arddangos gwybodaeth yn dibynnu ar liw yn unig. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.3 Nodweddion Synhwyraidd (A) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1. Efallai na all pobl sy’n ddall neu sydd â nam ar eu golwg weld y cynnwys sy’n cael ei gyfleu yn y ffordd a ddisgrifir.

Lliw yw’r unig ddull a ddefnyddir i roi gwybod i’r defnyddiwr am symudiadau gwartheg sy’n achosi problemau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.1 Y Defnydd o Liwiau (A) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1. Efallai na all pobl sy’n lliwddall ddeall yr ystyr a gyflëir gan y lliw.

Mae’r lliw oren a ddefnyddir ar gyfer penawdau yn tueddu i arwain at gymhareb cyferbynnedd lliwiau wael, sy’n golygu ei bod yn anodd gweld y cynnwys. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.3 Cyferbynnedd (Isafswm) (A) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1. Efallai y bydd pobl sydd â nam ar eu golwg yn ei chael hi’n anodd darllen y cynnwys ar y wefan.

Nid yw’r wefan yn ymateb i’r prawf ail-lifo o gwbl ac mae’n cadw ei chynllun aml-golofn diofyn, sy’n golygu bod angen sgrolio’n fertigol ac yn llorweddol er mwyn symud o amgylch. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.10 Ail-lifo (A) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1. Bydd yn rhaid i bobl â golwg gwan y mae angen testun mwy o faint arnynt sgrolio i weld y dudalen gyfan neu ni fyddant yn gallu ei darllen os bydd y testun yn gorgyffwrdd â thestun arall.

Mae ychwanegu testun neu fwlch rhwng geiriau yn achosi i gynnwys gael ei docio ac i wybodaeth gael ei cholli. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.12 Bwlch rhwng Testun (AA) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1. Bydd pobl, yn enwedig pobl y mae angen iddynt newid y testun i’w gwneud yn haws i’w ddarllen, yn ei chael hi’n anodd darllen testun gan na allant ehangu’r bwlch heb i gynnwys gael ei docio.

Nid yw elfennau ffurf megis y gwymplen bwrpasol a’r calendr yn hygyrch gan ddefnyddio’r bysellfwrdd yn unig. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.1.1 Bysellfwrdd (A) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1. Ni all pobl sydd ond yn defnyddio bysellfwrdd weld rhannau o wybodaeth ar y wefan.

Caiff defnyddwyr eu hallgofnodi ar ôl 30 munud o anweithgarwch ac ni allant ymestyn y cyfnod hwn o amser. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.2.1 Amseru y Gellir ei Addasu (A) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1. Efallai na all pobl y mae angen mwy o amser arnynt i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt a’i deall, wneud hynny heb i’w sesiwn gael ei therfynu.

Nid oes unrhyw ddolenni neidio yn y gwasanaeth. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.1 Blociau Osgoi (A) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1. Efallai na all pobl gyrraedd prif gynnwys y gwasanaeth yn gyflym ac mae’n bosibl y bydd y diffyg blociau osgoi yn golygu y bydd angen i bobl wneud nifer o drawiadau bysellau (neu weithredoedd tebyg) i fynd heibio i gynnwys a ailadroddir, neu orfod clywed yr un cynnwys, ar bob tudalen drwy gydol y gwasanaeth.

Nid yw teitlau tudalennau yn unigryw. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.2 Penawdau Tudalennau (A) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1. Efallai na all pobl nodi’n gyflym nac yn hawdd a yw’r wybodaeth a geir ar y dudalen we yn berthnasol i’w hanghenion. Efallai na all pobl ddeall cynnwys y dudalen yn gywir ac efallai y bydd yr anghysondeb rhwng teitl y dudalen a’r prif bennawd yn eu drysu.

Nid yw nifer o ddolenni drwy gydol y gwasanaeth yn gwneud synnwyr allan o’u cyd-destun, gan eu bod yn defnyddio testun megis “Cliciwch yma”. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.4 Diben y Ddolen (A) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1. Efallai na all pobl ag anableddau gweledol ddeall diben y ddolen heb wybod cyd-destun y ddolen.

Dim ond un ffordd sydd i symud o amgylch y wefan. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.5 Sawl Ffordd (AA) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1. Efallai na all pobl ddod o hyd i gynnwys sydd ei angen arnynt yn hawdd ac, felly, efallai na allant ddefnyddio’r gwasanaeth.

Ceir rheolyddion rhyngweithiol lle mae’r teitl yn drech na’r label gysylltiedig. Felly, ni allai meddalwedd rheoli â llais ryngweithio â’r elfen oherwydd diffyg cyfatebiaeth. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.5.3 Label yn yr Enw (A) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1. Efallai y bydd pobl sy’n defnyddio meddalwedd rheoli â llais yn ei chael hi’n anodd defnyddio rheolyddion.

Wrth ddefnyddio’r fersiwn Gymraeg o’r gwasanaeth, nid yw’r tag iaith wedi’i raglennu’n gywir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.1.1 Iaith y Dudalen (A) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1. Efallai na all technoleg gynorthwyol megis rhaglenni darllen sgrin nodi’r iaith a ddefnyddir yn gywir, a allai greu problemau o ran cyhoeddi cynnwys ar draws y gwasanaeth.

Nid yw’r gair Cymraeg yn cynnwys y priodoleddau er mwyn i raglen darllen sgrin gyhoeddi’r cynnwys hwn yn Gymraeg. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.1.2 Iaith Rhannau (A) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1. Efallai na all technoleg gynorthwyol megis rhaglenni darllen sgrin nodi’r iaith a ddefnyddir yn gywir, a allai greu problemau o ran cyhoeddi cynnwys mewn ieithoedd gwahanol.

Gellir canfod sawl gwall dosrannu wrth ddilysu’r HTML ar draws y wefan. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.1 Dosrannu (A) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1. Efallai y gall pobl sy’n defnyddio technolegau cynorthwyol wynebu ymddygiad annisgwyl am ei bod yn bosibl na all y cynnwys gael ei ddosrannu oherwydd gwallau yn y cod.

Nid oes gan luniau sydd wedi’u gwneud yn rhyngweithiol â JavaScript unrhyw semantigau i ddarparu enw na rôl a fyddai ar gael i dechnolegau cynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth (A) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1. Efallai na all pobl sy’n defnyddio technolegau cynorthwyol weld y cynnwys na gweithredu’r gwasanaeth gan nad oes unrhyw briodoleddau hygyrch.

Nid yw’r neges statws ar y dudalen “Gweld Crynodeb Gwartheg” wedi’i marcio fel y cyfryw yn rhaglennol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.3 Negeseuon Statws (AA) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1. Efallai na fydd pobl yn ymwybodol o’r adborth hwn am yr hyn y mae’n rhaid iddynt ei wneud ar y gwasanaeth ac efallai y bydd hyn yn peri dryswch ynghylch a oes unrhyw beth y mae angen i’r defnyddiwr ei wneud.

Nid yw’n cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Cwmpesir pob achos o ddiffyg cydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd gan faich anghymesur.

Baich anghymesur

Er mwyn sicrhau bod SOG Ar-lein yn cydymffurfio’n llawn â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1, byddai angen creu 230 o dudalennau (192 o sgriniau dynamig a 94 o sgriniau sefydlog). Ar gyfer Gweithredu Prosiect AMLS2 a SOG Ar-lein, amcangyfrifir y byddai Taliadau untro yn cyfateb i £2,000,000-£3,800,000, heb gynnwys Treuliau na TAW. At hynny, cyfnod byr o amser sydd ar ôl ar gyfer y cynnyrch hwn.

Felly, rydym yn maentumio y byddai cost diweddaru SOG Ar-lein yn faich anghymesur.

I weld y datganiad baich anghymesur llawn, cliciwch yma.

Llunio’r datganiad hygyrchedd hwn

Lluniwyd y datganiad hwn ar 21 Mawrth 2024.

Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 21 Mawrth 2024.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 28 Chwefror 2024.

Cynhaliwyd y prawf gan Dîm Hygyrchedd Defra. Gwnaethom ddewis sampl o chwe thudalen i’w profi fel enghreifftiau o’r prif fathau o dudalennau a ddefnyddir ar draws y gwasanaeth.