Cyfarwyddyd ymarfer 5: meddiant gwrthgefn (1) tir digofrestredig a (2) tir cofrestredig lle y caffaelwyd yr hawl i gofrestru cyn 13 Hydref 2003
Diweddarwyd 18 Medi 2023
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
Gall sgwatwyr gaffael teitl i dir digofrestredig trwy eu meddiant gwrthgefn dros gyfnod o amser. Mae hyn yn digwydd oherwydd bod effaith gadarnhaol y meddiant gwrthgefn yn rhoi teitl iddynt ynghyd ag effaith negyddol Deddf Cyfyngiadau Achosion 1980, sy’n dileu’r teitl dogfennol neu’r teitl papur (adran 17 o Ddeddf Cyfyngiadau Achosion 1980).
Yn ôl y gyfraith fel yr oedd cyn i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ddod i rym ar 13 Hydref 2003, roedd darpariaethau Deddf Cyfyngiadau Achosion 1980 yr un mor berthnasol i dir cofrestredig ag yr oedd i dir digofrestredig, ac eithrio’r ffaith fod adran 75(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 1925 yn rhagdybio bod ystad y perchennog cofrestredig yn cael ei dal ar ymddiried ar gyfer y sgwatiwr yn hytrach na chael ei dileu ar ddiwedd y cyfnod cyfyngu priodol. Roedd hyn yn rhoi’r hawl i’r sgwatiwr wneud cais i gofrestru yn lle’r perchennog cofrestredig presennol: adran 75(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 1925; Central London Commercial Estates Ltd yn erbyn Kato Kagaku Co Cyf [1998] 4 All ER 948, 958-959. Cafodd y math hwn o ymddiried ei ddileu o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 – nid oes unrhyw beth yn Neddf Cofrestru Tir 1925 sy’n cyfateb i adran 75(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 – ond mae paragraff 18(1) o Atodlen 12 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu bod gan sgwatiwr sydd eisoes yn fuddiolwr o dan ymddiried o’r fath hawl i gael ei gofrestru’n berchennog. Felly, mae’r darpariaethau trosiannol hyn ym mharagraff 18 o Atodlen 12 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 dim ond yn berthnasol i dir a gofrestrwyd cyn 13 Hydref 2003 lle y bu meddiant gwrthgefn ar gyfer y cyfnod cyfyngu priodol erbyn y dyddiad hwnnw.
Mae’r cyfarwyddyd hwn yn cwmpasu meddiant gwrthgefn tir digofrestredig a’r darpariaethau trosiannol ym mharagraff 18 o Atodlen 12 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
Sylwer nad yw cais i gofrestru o dan baragraff 18 o Atodlen 12 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn cael ei effeithio gan y drefn newydd mewn perthynas â thir cofrestredig a nodir yng nghyfarwyddyd ymarfer 4: meddiant gwrthgefn tir cofrestredig. Fodd bynnag, efallai bydd sgwatiwr sy’n gallu gwneud cais o dan Atodlen 12, paragraff 18 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn gallu gwneud cais o dan y drefn newydd hefyd. Os gwneir y ddau gais, byddwn yn cysylltu â chi i drafod sut byddwn yn ymdrin â’r ceisiadau. Ein nod cyffredinol fyddai prosesu unrhyw anghydfod sy’n codi o’r ceisiadau ar yr un pryd. Wrth gysylltu â chi, byddwn hefyd yn gofyn am gadarnhad ynghylch pa gais dylid ei drin fel y cyntaf.
Mae cynlluniau teitl yr holl deitlau cofrestredig yn dangos safle cyffredinol y terfynau yn unig, oni bai eu bod wedi’u dangos fel terfynau manwl yn unol ag adran 60 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Mae hyn yn golygu bod modd i ddarn o dir fod o fewn teitl cofrestredig, er ei fod y tu allan i’r ymyl goch ar gynllun y teitl. Ar y llaw arall, mae’n bosibl i ddarn o dir beidio â chael ei gynnwys o fewn y teitl cofrestredig, er ei fod o fewn yr ymyl goch ar gynllun y teitl. Mewn geiriau eraill, mae’n amhosibl i Gofrestrfa Tir EF ddiffinio union leoliad y terfyn o dan sylw.
Os oes gan y sgwatiwr deitl dogfennol i’r tir ac mai’r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd yw newid cynllun teitl y sgwatiwr a/neu gymydog y sgwatiwr i ddangos y terfyn cyffredinol yn fwy cywir, nid yw cais sy’n seiliedig ar feddiant gwrthgefn yn briodol. O dan amgylchiadau o’r fath, dylai’r sgwatiwr ystyried cais i newid naill ai:
- ei gynllun teitl
- ei gynllun ef a chynllun teitl ei gymydog
- gynllun teitl ei gymydog
er mwyn dangos y terfynau yn fwy cywir.
Rhaid defnyddio ffurflen AP1 i wneud cais o’r fath, gan nodi’r teitl(au) sydd i’w newid. Byddai’n rhaid i’r ceisydd nodi natur y newid a sail y cais yn glir. Byddai’n rhaid talu ffi sy’n cael ei asesu o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol.
Gellid ystyried y weithdrefn derfyn sydd wedi’i phennu.
2. Meddiant gwrthgefn – yr hanfodion
Rhaid ichi ddangos:
- bod gan y sgwatiwr feddiant ffeithiol o’r tir
- bod gan y sgwatiwr y bwriad angenrheidiol i feddu’r tir
- bod meddiant y sgwatiwr heb ganiatâd y perchennog
- bod pob un o’r uchod wedi bod yn wir am y sgwatiwr ac unrhyw ragflaenwyr y mae’r sgwatiwr yn hawlio drwyddynt am o leiaf 12 mlynedd cyn dyddiad y cais (gweler Y cyfnod cyfyngu)
2.1 Meddiant ffeithiol
Yn achos Powell yn erbyn McFarlane (1977) 38 P & CR 452, dywedodd Slade J:
“Factual possession signifies an appropriate degree of physical control. It must be a single and [exclusive] possession, though there can be a single possession exercised on behalf of several persons jointly. Thus an owner of land and a person intruding on that land without his consent cannot both be in possession of the land at the same time. The question what acts constitute a sufficient degree of exclusive physical control must depend on the circumstances, in particular the nature of the land and the manner in which land of that nature is commonly used or enjoyed. …Everything must depend on the particular circumstances, but broadly, I think what must be shown as constituting factual possession is that the alleged possessor has been dealing with the land in question as an occupying owner might have been expected to deal with it and that no one else has done so.”
Cymeradwyodd Tŷ’r Arglwyddi y datganiad hwn o’r gyfraith yn achos J A Pye (Rhydychen) Cyf yn erbyn Graham [2002] UKHL 30).
Lle’r oedd y tir yn dir agored yn flaenorol, mae ffens yn dystiolaeth gref o feddiant ffeithiol, ond nid yw naill ai’n anhepgor nac yn derfynol.
2.2 Y bwriad i feddu
Yr hyn sydd ei angen yw “not an intention to own or even an intention to acquire ownership but an intention to possess’ (Cyngor Sir Swydd Buckingham yn erbyn Moran (1988) 86 LGR 472, trwy Hoffman J, a gymeradwyodd Tŷ’r Arglwyddi yn achos J A Pye (Rhydychen) Cyf yn erbyn Graham [2002] UKHL 30). Mae hyn yn golygu ‘the intention, in one’s own name and on one’s own behalf, to exclude the world at large, including the owner with the paper title if he be not himself the possessor, so far as reasonably practicable and so far as the processes of the law will allow” (Powell yn erbyn McFarlane (1977) 38 P a CR 452, 471-472, trwy Slade J, a gymeradwyodd Tŷ’r Arglwyddi yn J A Pye (Rhydychen) Cyf yn erbyn Graham [2002] UKHL 30).
Lle bu modd i sgwatiwr sefydlu meddiant ffeithiol, bydd y bwriad i feddu yn cael ei gasglu’n aml o’r gweithredoedd sy’n ffurfio’r meddiant ffeithiol hwnnw. Ond ni fydd y casgliad hwn yn cael ei wneud bob amser, fel yr eglurodd Slade J yn Powell yn erbyn McFarlane ((1977) 38 P a CR 452, 476, dyfynnwyd gyda chymeradwyaeth gan yr Arglwydd Hutton yn J A Pye (Rhydychen) Cyf yn erbyn Graham [2002] UKHL 30, [2002] 3 All ER 865; [2002] 3 WLR 221; [2003] 1 P a CR 128):
“In my judgement it is consistent with principle as well as authority that a person who originally entered another’s land as a trespasser, but later seeks to show that he has dispossessed the owner, should be required to adduce compelling evidence that he had the requisite animus possidendi in any case where his use of the land was equivocal, in the sense that it did not necessarily, by itself, betoken an intention on his part to claim the land as his own and exclude the true owner.”
Mae defnyddio tir at ddibenion mynediad yn enghraifft o weithred amhendant. Gallai defnydd o’r fath dros amser beri hawddfraint trwy bresgripsiwn, ond nid yw, ar ei ben ei hun, yn ddigonol i sefydlu bwriad i feddu’r tir.
2.3 Meddiant heb ganiatâd y perchennog
Yn achos Cyngor Sir Swydd Buckingham yn erbyn Moran ( [1990] Pennod 623, 636), eglurodd Slade LJ:
“Possession is never ‘adverse’ within the meaning of the 1980 Act if it is enjoyed under a lawful title. If, therefore, a person occupies or uses land by licence of the owner with the paper title and his licence has not been duly determined, he cannot be treated as having been in ‘adverse possession’ as against the owner of the paper title.”
Sylwer nad yw’r gofyniad hwn nac unrhyw egwyddor arall o feddiant gwrthgefn yn atal y posibilrwydd o berchennog cofrestredig mewn meddiant gwrthgefn tir sy’n dod o fewn ei deitl cofrestredig ef ond hefyd o fewn teitl cofrestredig neu ddigofrestredig arall. Yn Rashid v Nasrulla [2018] EWCA Civ 2685, gwrthododd y Llys Apêl y dull cynharach yn Parshall v Hackney [2013] EWCA Civ 240, lle canfu Mummery LJ nad oedd perchnogion un eiddo mewn meddiant gwrthgefn “as their possession of the disputed land was referable to their registered title”.
3. Y cyfnod cyfyngu
3.1 Y cyfnod arferol
Mae Adran 15(1) o Ddeddf Cyfyngiadau Achosion 1980 yn datgan:
“No action shall be brought by any person to recover any land after the expiration of twelve years from the date on which the right of action accrued to him or, if it first accrued to some person through whom he claims, to that person.”
Daw hawl i weithredu, ac felly bydd y cyfnod cyfyngu yn dechrau treiglo, o ddechrau’r meddiant gwrthgefn (paragraffau 1 ac 8 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyfyngiadau Achosion 1980).
3.2 Cyfnodau estynedig
Caiff y terfyn amser 12 mlynedd ei ymestyn i 30 mlynedd ar gyfer y Goron (sy’n cynnwys tir ym meddiant adrannau’r llywodraeth (adran 37(3) o Ddeddf Cyfyngiadau Achosion 1980; gweler Adverse Possession (ail argraffiad) gan Jourdan a Radley-Gardner, paragraffau 14.05 ac 14.06)). Dyma’r cyfnod cyfyngu perthnasol, felly, pan fydd y perchennog yn gwmni a ddiddymwyd; mae eiddo cwmni o’r fath yn breinio yn y Goron neu un o’r Dugiaethau Brenhinol fel bona vacantia: Deddf Cwmnïau 2006, adran 1012. Os bydd amser yn dechrau treiglo yn erbyn cwmni sy’n cael ei ddiddymu cyn i’r deuddeg mlynedd ddod i ben, bydd y cyfnod cyfyngu yn dod yn ddeng mlynedd ar hugain o ddechrau’r meddiant gwrthgefn. Dylech, felly, gynnal chwiliad cwmni lle bo’r perchennog yn gwmni.
Mae’r cyfnod cyfyngu yn 30 mlynedd ar gyfer unrhyw gorfforaeth eglwysig undyn (esgobion, ficeriaid a deiliaid swydd arbennig eraill yn Eglwys Lloegr) (paragraff 10 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyfyngiadau Achosion 1980). Mae’r cyfnod 12 mlynedd yn berthnasol, fodd bynnag, i gorfforaethau cyfansawdd, fel Comisiynwyr yr Eglwys, ymddiriedolaeth esgobaethol, neu un o golegau Rhydychen neu Gaergrawnt. Lle mae’r tir yn flaen traeth ym meddiant y Goron, y cyfnod yw 60 mlynedd (paragraff 11 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyfyngiadau Achosion 1980). Mae’r cyfnod 12 mlynedd arferol yn berthnasol i flaen traeth ym meddiant partïon ac eithrio’r Goron.
Gall y cyfnod cyfyngu arferol gael ei ymestyn hefyd trwy anallu’r person gyda hawl i adennill y tir (adran 28 o Ddeddf Cyfyngiadau Achosion 1980), trwy dwyll neu gelu achos gweithred yn fwriadol, a thrwy gamgymeriad (adran 32 o Ddeddf Cyfyngiadau Achosion 1980). Caiff rhywun ei ystyried yn analluog os yw’n blentyn (o dan 18 oed), neu heb fod yn ei lawn bwyll (adran 38(2) o Ddeddf Cyfyngiadau Achosion 1980). Byddwn yn cymryd yn ganiataol nad yw un o’r ffactorau hyn yn berthnasol oni bai bod y dystiolaeth yn dangos fel arall.
Lle bo’r tir yn cael ei ddal ar ymddiried mae ystad yr ymddiriedolwyr yn parhau, hyd yn oed ar ôl terfyn y cyfnod cyfyngu yn eu herbyn, nes bydd hawliau gweithredu’r holl fuddiolwyr wedi cael eu rhwystro (adran 18(3) o Ddeddf Cyfyngiadau Achosion 1980). Lle bo rhyw arwydd bod ymddiriedolwyr yn dal y tir ar ymddiried ar ran buddiolwyr heblaw hwy eu hunain, rydym yn annhebygol o allu cofrestru gydag unrhyw beth heblaw teitl amodol oni bai bod y sgwatiwr yn gallu penderfynu manylion yr ymddiried ac yn gallu profi bod hawliau gweithredu’r holl fuddiolwyr wedi cael eu rhwystro. Yn ddadleuadwy, mae’r ffaith fod ystad yr ymddiriedolwyr yn parhau yn y ffordd hon yn golygu na ellir gwneud cais lle y mae’r cyfnod cyfyngu y dibynnir arno’n cychwyn
- ar ôl marwolaeth y perchennog a thra bod ei ystad yn cael ei gweinyddu,
- ar ôl methdaliad y perchennog a thra bod ei eiddo’n cael ei weinyddu gan yr ymddiriedolwr mewn methdaliad, neu
- (sef cwmni) tra bo’r perchennog yn cael ei ddirwyn i ben. Yn yr holl achosion hyn, mae’r perchennog yn ddarostyngedig i ffurf o ymddiried (Ayerst v C & K (Construction) Ltd [1976] A.C. 167)
Nid yw amser yn treiglo yn erbyn un buddiolwr tra bo’r tir ym meddiant buddiolwr arall (paragraff 9 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyfyngiadau Achosion 1980. Gweler Earnshaw yn erbyn Hartley [1999] 3 WLR 709 ar gyfer gweithredu’r ddarpariaeth hon yng nghyd-destun buddiolwyr dan ddiffyg ewyllys).
3.3 Beth sy’n atal amser rhag treiglo?
At ddibenion Deddf Cyfyngiadau Achosion 1980, mae modd dod â chyfnod o feddiant gwrthgefn i ben trwy gydnabyddiaeth ysgrifenedig o deitl y perchennog wedi ei lofnodi gan y sgwatiwr: (adrannau 29(2) a 30(1) o Ddeddf Cyfyngiadau Achosion 1980). Gall cydnabyddiaeth lafar fod yn dystiolaeth nad oedd gan y sgwatiwr y bwriad angenrheidiol i feddiannu: Pavledes yn erbyn Ryesbridge Properties Cyf (1989) 58 P a CR 459. Mae cydnabyddiaeth ysgrifenedig asiant y sgwatiwr mor effeithiol ag un a lofnodwyd yn bersonol gan y sgwatiwr (adran 30(2) o Ddeddf Cyfyngiadau Achosion 1980). Caiff cynnig ysgrifenedig gan y sgwatiwr i brynu’r tir oddi wrth y perchennog ei drin fel cydnabyddiaeth (Edginton yn erbyn Clark [1964] 1 QB 367).
Os yw’r sgwatiwr yn dal i feddiannu ar ôl y gydnabyddiaeth, yna gall amser ddechrau treiglo eto. Ond ni fydd yn dechrau treiglo os yw’r gydnabyddiaeth yn peri newid yn y berthynas rhwng y sgwatiwr a’r perchennog (er enghraifft, rhoi prydles neu drwydded) fel nad yw mwyach yn feddiant gwrthgefn.
Unwaith y daeth y cyfnod cyfyngu i ben, nid yw unrhyw gydnabyddiaeth ddilynol yn adfywio hawl gweithredu’r perchennog (adran 29(7) o Ddeddf Cyfyngiadau Achosion 1980).
Nid yw hawlio meddiant o du’r perchennog yn atal amser rhag treiglo (Mount Carmel Investments Cyf yn erbyn Peter Thurlow Cyf [1988] 1 WLR 1078). Nid yw cyhoeddi achos sy’n cael ei ddiystyru’n ddiweddarach (Markfield Investments Cyfyngedig yn erbyn Evans [2001] 1 WLR 131), na gwneud ceisiadau neu wrthwynebiadau cysylltiedig i Gofrestrfa Tir EF yn gwneud hynny chwaith (J A Pye (Rhydychen) Cyf yn erbyn Graham [2000] Pennod 676 yn 699-703; cadarnhawyd ar apêl i Dŷ’r Arglwyddi, lle nad ystyriwyd y cwestiwn hwn: [2002] UKHL 30).
3.4 Sgwatwyr olynol
Gall y sgwatiwr drosglwyddo ei fudd yn y tir, er enghraifft i brynwr neu dan ewyllys neu ddiffyg ewyllys. Rhaid i’r prynwr neu fel arall ddilyn y sgwatiwr gwreiddiol ar unwaith i feddiant a’i ddal am weddill y 12 mlynedd (paragraff 8(2) o Atodlen 1 i Ddeddf Cyfyngiadau Achosion 1980).
Os yw ail sgwatiwr yn difeddu’r cyntaf, mae’r ail yn caffael mantais unrhyw amser oedd eisoes wedi treiglo yn erbyn y perchennog. Fodd bynnag, bydd y sgwatiwr cyntaf yn cadw’r hawl i adennill meddiant oddi wrth yr ail, nes bydd y cyfnod cyfyngu llawn wedi treiglo o’r dyddiad pan gafodd ei ddifeddu. Felly os yw B yn difeddu A (y perchennog) yn 1986 ac yna’n cael ei ddifeddu gan C yn 1994, mae A yn colli’r hawl i adennill meddiant oddi wrth C yn 1998 ond gallai B ddal i ddod ag achos meddiant yn erbyn C tan 2006. Un ffordd y gall ail sgwatiwr ddangos na fu iddo ddifeddu’r sgwatiwr cyntaf yw trwy gael trosglwyddiad o ystad, hawl neu fudd cyfan y sgwatiwr cyntaf yn y tir. Fodd bynnag, nid yw trosglwyddiad o’r fath yn hanfodol at ddibenion cofrestru. Bydd treigl amser yn peidio os yw sgwatiwr yn gadael y tir cyn i’r cyfnod cyfyngu ddod i ben. Os bydd ail sgwatiwr wedyn yn meddiannu, bydd amser yn dechrau treiglo o’r newydd yn erbyn y perchennog.
4. Gwneud cais i gofrestru ar sail meddiant gwrthgefn
4.1 Y cais – lle y mae’r tir yn ddigofrestredig
Rhaid ichi wneud y cais ar ffurflen FR1 (rheol 23 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Sylwer bod angen amgáu cynllun gyda’r ffurflen FR1 yn dangos y tir os nad yw’r disgrifiad llafar ym mhanel 2 o’r ffurflen FR1 yn ddigonol i nodi lleoliad a maint y tir ar fap yr Arolwg Ordnans. Mae’n anghyffredin nad yw cynllun yn angenrheidiol mewn cais meddiant gwrthgefn.
Wrth benderfynu pa ddosbarth teitl i wneud cais amdano ar ffurflen FR1, dylech ystyried y sylwadau yn Dosbarth teitl.
Byddwn yn dychwelyd y ffurflen FR1 atoch os ydych yn methu cwblhau panel 12.
Gyda’r ffurflen FR1, mae angen ichi anfon ffurflen DL yn ddyblyg yn rhestru’r dystiolaeth ddogfennol gefnogol (rheol 24 o Reolau Cofrestru Tir 2003), ynghyd â’r tâl priodol o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol a’r tâl archwilio – gweler Archwiliad.
Yn unol â’n Cyfarwyddyd: Dogfennau i’w hanfon gyda chais am gofrestriad cyntaf – Gweithredoedd coll a meddiant gwrthgefn, dim ond copïau ardystiedig o ffurflen ST1, ffurflen ST2, datganiadau statudol a thystiolaeth arall dylid eu cyflwyno. Bydd unrhyw ddogfennau gwreiddiol a gyflwynir yn cael eu sganio a’u dinistrio.
4.2 Y cais – o dan baragraff 18 o Atodlen 12 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 – lle y mae’r tir yn gofrestredig
Rhaid ichi wneud cais ar ffurflen AP1, (rheol 13 o Reolau Cofrestru Tir 2003) a chynnwys y tâl priodol o dan y Gorchymyn Ffi (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru). Byddwn yn dychwelyd fel cais diffygiol unrhyw gais mewn perthynas â thir nad oedd wedi’i gofrestru ar 13 Hydref 2003 ac unrhyw gais lle nad oes tystiolaeth o 12 mlynedd o leiaf o feddiant gwrthgefn erbyn y dyddiad hwnnw.
4.3 Llenwi ffurflenni FR1 ac AP1
Sylwer y diwygiwyd ffurflenni FR1 ac AP1 ar 1 Awst 2022 gan Reolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2022 i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth ychwanegol gael ei darparu pan wneir cais i gofrestru endid tramor yn berchennog ystad rydd-ddaliol mewn tir neu ystad brydlesol mewn tir a roddir ar gyfer tymor sy’n hirach na saith mlynedd o ddyddiad y rhoi, gan gynnwys lle gwneir y cais ar sail meddiant gwrthgefn. Mae’r wybodaeth hon yn ofynnol gan Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 a ddaeth i rym ar 1 Awst 2022. Gellir defnyddio fersiynau cyn-cychwyn y ffurflenni hyn hyd at 31 Hydref 2023 ond rhaid iddynt gynnwys rhif adnabod endid tramor y ceisydd. I gael rhagor o wybodaeth, gweler cyfarwyddyd ymarfer 78: endidau tramor.
Os mai endid tramor yw’r ceisydd, rhaid darparu rhif adnabod yr endid tramor a ddyroddir gan Dŷ’r Cwmnïau. Ni allwch wneud eich cais oni bai bod yr endid tramor wedi cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau.
4.4 Y dystiolaeth gefnogol
Fel arfer bydd y dystiolaeth gefnogol yn cynnwys un neu fwy datganiad o wirionedd neu ddatganiad statudol. Yn unol â’n polisi ar drin dogfennau, dim ond copïau ardystiedig o ffurflen ST1, ffurflen ST2, datganiadau statudol a thystiolaeth arall y dylid eu darparu. Os cyflwynir dogfennau gwreiddiol, byddwn yn eu sganio ac yn eu dinistrio.
Mae’n bosibl y bydd ffurflen ST1 yn cael ei defnyddio ar gyfer datganiad o wirionedd. Bwriad ffurflen ST1 yw darparu fframwaith ar gyfer y wybodaeth sydd angen ei chynnwys gyda’r cais lle y mae’r tir yn ddigofrestredig neu o dan baragraff 18 o Atodlen 12 (Ffurflen ST2 yw’r ffurflen gyfatebol ar gyfer ceisiadau rhent-dâl). Nid oes rhaid defnyddio’r ffurflen; bydd unrhyw ddatganiad o wirionedd neu ddatganiad statudol sy’n bodloni gofynion rheol 215A o Reolau Cofrestru Tir 2003 (Gweler Atodiad: datganiad o wirionedd) yn dderbyniol. Fodd bynnag, bydd defnyddio ffurflen ST1 yn eich helpu i gynnwys yr holl wybodaeth. Os nad ydych yn defnyddio ffurflen ST1, rhaid ichi ddarparu’r holl wybodaeth y gofynnir amdani ar y ffurflen – fel dyddiad dechrau a gorffen y meddiant gwrthgefn, y gweithredoedd y dibynnir arnynt i sefydlu’r meddiant ffeithiol angenrheidiol a’r bwriad i feddiannu ac ati.
Dylai’r datganiadau o wirionedd neu’r datganiadau statudol fod yn ffeithiol ac, yn ddelfrydol, yng ngeiriau’r person sy’n gwneud y datganiad yn hytrach nag mewn iaith a gopïwyd o lyfrau cynsail. Dylai’r person ddatgan yn benodol sut mae’n gwybod y ffeithiau, os nad yw hynny’n ddealledig yn y datganiad. Fel arfer bydd mwy o bwysau ar ddatganiad y sgwatiwr ei hun nag ar wybodaeth trydydd partïon sydd wedi gweld y sefyllfa ar y tir ond all fod heb unrhyw wybodaeth am fwriad y sgwatiwr na’i drafodion gyda’r perchennog. Fodd bynnag, gall datganiadau o wirionedd neu ddatganiadau statudol cymdogion a thrydydd partïon eraill, a anfonwyd gyda datganiad o wirionedd neu ddatganiad statudol y sgwatiwr, fod yn ddefnyddiol fel tystiolaeth gefnogol.
Ni allwn fyth ddweud beth fydd canlyniad cais cyn iddo gael ei wneud. Cyn gwneud y penderfyniad hwn, rhaid i ni dderbyn yr holl dystiolaeth gan y ceisydd, cael ymateb i’r ymholiadau a wnaed ac aros nes bod cyfnodau amser y rhybuddion a gyflwynwyd gennym wedi dod i ben. Oherwydd hyn, ac i osgoi rhoi geiriau yng nghegau pobl, peidiwch ag anfon datganiadau o wirionedd neu ddatganiadau statudol drafft atom i’w cymeradwyo.
4.5 Chwiliadau
Os yw’r perchennog yn gwmni (neu’n ymddangos ei fod yn gwmni), dylech gynnal chwiliad cwmni priodol er mwyn canfod a yw’r cwmni wedi’i ddiddymu a chael manylion unrhyw bridiannau y mae’r cwmni wedi ymrwymo iddynt mewn perthynas â’r tir. Dylech anfon canlyniadau’r chwiliad gyda’r cais (Gweler y sylwadau am gwmnïau sydd wedi’u diddymu: Cyfnodau estynedig).
Dylech chwilio’r map mynegai i weld a yw’r tir yn gofrestredig ai peidio.
Os yw’r tir yn ddigofrestredig, dylech anfon tystysgrifau chwiliad pridiannau tir gyda’r cais ar gyfer y sgwatiwr, y perchennog ac unrhyw berchnogion blaenorol y gwyddys amdanynt.
Bydd angen ichi wneud chwiliad cofrestru tir comin ac anfon yr ymateb i’r chwiliad os yw’r tir yn ddigofrestredig ac os oes posibilrwydd rhesymol bod y tir yn dir comin neu’n faes tref neu bentref. Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi cyhoeddi guidance note on adverse possession of common land and town or village greens sydd ar gael ar wefan GOV.UK. (Nid yw Cofrestrfa Tir EF yn cyd-fynd o anghenraid â’r holl ddatganiadau barn ynglŷn â’r gyfraith a fynegir yn y nodyn cyfarwyddyd).
4.6 Priffordd
Ni fyddwn yn cwblhau cais cofrestriad cyntaf yn seiliedig ar feddiant gwrthgefn i’r graddau y mae’r tir o dan sylw o fewn priffordd sydd i’w chynnal ar draul y cyhoedd. Ni ellir colli teitl awdurdod priffyrdd i’r wyneb (trwy rinwedd adran 263 o Ddeddf Priffyrdd 1980) trwy feddiant gwrthgefn, felly nid oes gan y sgwatiwr ystad yn yr wyneb (neu, ymddengys wedi hynny, yn y tir o dan neu’r awyrle uwchben yr wyneb), y mae modd ei gofrestru (R (on the application of Wayne Smith) v The Land Registry (Peterborough Office) [2010] EWCA Civ 200).
Os yw cais am gofrestriad cyntaf yn berthnasol i dir o fewn priffordd nad yw’n gynaliadwy ar draul y cyhoedd a chaiff y cais ei gwblhau i gynnwys y briffordd, bydd y teitl cofrestredig yn ddarostyngedig i’r hawl tramwy cyhoeddus (bydd yr hawl hon yn fudd gor-redol: paragraff 5 o Atodlen 1 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Os yw cais o dan baragraff 18 o Atodlen 12 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn berthnasol i’r tir ac yn cael ei gwblhau, bydd y teitl cofrestredig, i’r graddau y mae’n cynnwys y briffordd, yn ddarostyngedig i’r hawl tramwy cyhoeddus ac, os yw’r briffordd yn gynaliadwy ar draul y cyhoedd, yn destun ystad yr awdurdod priffyrdd yn yr wyneb; bydd yr hawl tramwy ac ystad yr awdurdod priffyrdd yn parhau i weithredu fel buddion gor-redol (Secretary of State for the Environment v Baylis (Gloucester) Cyf (2000) 80 P a CR 324).
5. Ymateb Cofrestrfa Tir EF a chofrestru
5.1 Archwiliad
Yn aml nid yw’r datganiadau mewn datganiadau o wirionedd neu ddatganiadau statudol, er nad yn anwir, yn rhoi darlun cyflawn. Er enghraifft, gall y person sy’n gwneud y datganiad fod wedi anghofio crybwyll clwyd mewn nodwedd sy’n ymddangos, o fap yr Arolwg Ordnans, fel petai’n rhwystro mynediad o dir cyffiniol. Fel arfer, felly, bydd angen i arolygwr tir o’r Arolwg Ordnans archwilio’r tir a gweld ei adroddiad cyn y gallwn gofrestru gydag unrhyw ddosbarth teitl.
Byddwch chi, y sgwatiwr a’r perchennog (os yw’n hysbys) yn cael clywed am yr archwiliad cyn ei fod yn cael ei gynnal.
Os yw’r tir yn ddigofrestredig, rhaid i’r sgwatiwr dalu am yr archwiliad o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gan wneud hynny gyda’r tâl am y cais wrth gyflwyno ffurflen FR1 (y darpariaethau perthnasol o dan y Gorchymyn Ffi yw cymalau 11 a 13(4)) (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru). Ad-delir y tâl hwn os na chyflawnir arolwg am unrhyw reswm. Os yw’r tir yn gofrestredig, bydd y tâl presennol am y cais sy’n daladwy o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol yn cynnwys y tâl am yr archwiliad.
5.2 Cyfraith achosion
Byddwn yn archwilio pob cais yn unigol. Byddwn yn ystyried cyfraith achosion sy’n ymwneud â meddiant gwrthgefn, ond mae angen ichi gofio y bydd y llys wedi clywed tystiolaeth a dadleuon o’r 2 ochr ac y byddwn ni fel arfer dim ond wedi clywed fersiwn y sgwatiwr o’r digwyddiadau. Ac, er y gall y ffeithiau mewn unrhyw gais fod yn debyg ar yr wyneb i’r rhai mewn achos a adroddwyd, maent yn annhebygol o fod yn union yr un fath.
5.3 Rhybuddion
Os, ar sail y dystiolaeth rydym wedi’i gweld, y credwn ei bod yn debygol y bu meddiant gwrthgefn dros y cyfnod gofynnol, bydd pawb sydd â budd yn y tir yn ôl y wybodaeth sydd ar gael neu ein gwybodaeth leol yn cael gwybod am y cais. Os yw’r tir yn gofrestredig, byddwn yn rhybuddio’r perchennog cofrestredig ac unrhyw arwystlai cofrestredig.
Ni fyddwn yn cwblhau cais am gofrestriad cyntaf yn seiliedig ar feddiant gwrthgefn os yw’r tir perthnasol wedi’i leoli o fewn priffordd sy’n gynaliadwy ar draul y cyhoedd. Mae wyneb priffordd o’r fath yn breinio yn yr awdurdod priffyrdd (adran 263 o Ddeddf Priffyrdd 1980). Mewn perthynas â thir digofrestredig, mae’n ymddangos nad oes modd caffael teitl i’r wyneb trwy feddiant gwrthgefn (Bwrdeistref Bromley yn Llundain yn erbyn Morritt (1999) 79 P a CR 536. Dywedodd Mummery LJ:
“As a matter of law, an adverse possession or squatter’s title cannot be acquired to land over which a public right of way exists.”)
Byddwn yn hysbysu’r awdurdod priffyrdd perthnasol os oes posibilrwydd y bydd priffordd sy’n gynaliadwy ar draul y cyhoedd yn cael ei chynnwys yn y cais am gofrestriad cyntaf. Fe’ch cynghorir i holi’r awdurdod priffyrdd cyn cyflwyno cais am gofrestriad os yw’n ymddangos y gall y tir gynnwys priffordd.
5.4 Dosbarth teitl
Fel arfer, os yw’r cais yn ymwneud â thir digofrestredig, ni fyddwn yn cofrestru’r sgwatiwr gyda theitl llwyr os nad ydym yn fodlon bod ei feddiant gwrthgefn wedi rhwystro teitl y perchennog. Fel arfer bydd hyn yn digwydd dim ond:
- os ydym yn gwybod beth yw’r teitl hwnnw
- rydym yn fodlon bod y perchennog wedi cydsynio i’r sgwatiwr gael ei gofrestru’n berchennog y tir neu nad oes sail ddilys iddo wrthwynebu hynny
Mewn unrhyw achos arall byddwn yn cofrestru gyda theitl meddiannol yn unig, ac ni fyddwn yn cofrestru hyd yn oed gyda’r teitl hwn mewn achosion lle mae gwir amheuaeth. Mae hyn yn rhannol oherwydd, lle bo’r sgwatiwr yn aros mewn meddiant am 12 mlynedd, gallwn drosi teitl meddiannol yn deitl llwyr (adran 62(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Gwnawn hyn hefyd oherwydd bod angen i ni gofio hawliau’r perchennog. Byddai’n anghywir anhwyluso’r perchennog trwy ei orfodi i wneud cais cywiro os yw’r dystiolaeth yn gadael amheuaeth wirioneddol ynglŷn ag a yw’r sgwatiwr wedi bodloni gofynion Meddiant gwrthgefn: yr hanfodion.
Os ydym yn cwblhau cais o dan baragraff 18 o Atodlen 12 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002, byddwn yn cofrestru’r sgwatiwr gyda’r un dosbarth teitl â’r perchennog cofrestredig.
5.5 Cofnodion amddiffynnol a chofnodion eraill
Trwy beidio â bod yn brynwr am werth, mae sgwatiwr wedi’i ymrwymo gan yr holl hawliau cyfreithiol ac ecwitïol sy’n bodoli (Parthed Contract Nisbet a Potts (1906) 1 Pennod 386).
Lle na diddwythwyd teitl y perchennog, byddwn fel arfer yn gwneud cofnod amddiffynnol mewn perthynas â chyfamodau cyfyngu ac, mewn ardaloedd lle maent yn gyffredin, rhent-daliadau. Bydd y cofnod yn debyg i’r canlynol:
Mae’r tir yn ddarostyngedig i’r [cyfamodau cyfyngu] [a] [rhent-daliadau] a all fod wedi eu gosod arno neu oedd yn bodoli cyn [dyddiad y cofrestriad cyntaf] ac yn dal i fodoli ac y gellid eu gorfodi.
Ni fyddwn, fodd bynnag, yn gwneud cofnod amddiffynnol os ydym yn fodlon, yn ôl y dystiolaeth sydd ar gael, nad oes ond y perygl lleiaf bod cyfamodau cyfyngu neu rent-daliadau heb eu dadlennu yn effeithio ar y tir.
Lle cofrestrwyd hawddfreintiau perthynol dros y tir mewn cofrestri teitlau cyffiniol, byddwn yn cofrestru rhybudd o’r hawddfreintiau hynny yng nghofrestr teitl newydd y sgwatiwr.
Wrth gwblhau cais o dan baragraff 18 o Atodlen 12 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002, byddwn naill ai’n cofrestru’r sgwatiwr yn berchennog y teitl presennol os yw’r cais yn berthnasol i’r teitl cofrestredig cyfan neu, os yw’n berthnasol i ran o deitl presennol, byddwn yn dileu’r tir o’r teitl hwnnw ac yn cofrestru’r sgwatiwr yn berchennog o dan rif teitl newydd. Yn achos yr ail, byddwn yn dwyn yr holl gofnodion goddrychol ymlaen i’r teitl newydd.
5.6 Arwystlon
Fel rheol, ni fydd teitl y sgwatiwr yn ddarostyngedig i arwystl gan y perchennog a grëwyd ar ôl dechrau’r meddiant gwrthgefn. Lle y mae’r meddiant gwrthgefn yn digwydd ar dir digofrestredig, yr ystad sy’n cael ei chofrestru ar hyn o bryd yw’r un a gododd ar ddechrau’r meddiant gwrthgefn; bryd hynny nid oedd unrhyw arwystl, felly ni all effeithio ar ystad y sgwatiwr ac mae ganddo hawl i gael ei gofrestru’n rhydd ohono. Os yw’r meddiant gwrthgefn yn ymwneud â thir cofrestredig, mae’r hawl i gofrestru sydd wedi’i chaffael neu’n cael ei chaffael gan y sgwatiwr yn fudd gor-redol yn awtomatig (adran 70(1)(f) o Ddeddf Cofrestru Tir 1925), ac oddi ar 13 Hydref 2003 mae’r hawl i gofrestru wedi gweithredu fel budd gor-redol os oes gan y sgwatiwr union feddiannaeth (paragraff 2 o Atodlen 3 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Hyd at, ac yn cynnwys 12 Hydref 2006 roedd hefyd yn fudd gor-redol ynddo ei hun).
Os yw arwystl y perchennog yn rhagflaenu’r meddiant gwrthgefn, gall amser ddechrau treiglo yn erbyn yr arwystlai ar yr un pryd ag y mae’n dechrau treiglo yn erbyn perchennog y tir, ond dim ond os yw’r ad-daliadau morgais yn dod i ben gyda’r meddiant gwrthgefn. Ni fydd amser yn dechrau treiglo lle bydd ad-daliad morgais diweddarach gan y perchennog neu’r sgwatiwr yn ystod y meddiant gwrthgefn (adran 29(3) o Ddeddf Cyfyngiadau Achosion 1980). Wrth gwrs, lle bo’r meddiant gwrthgefn yn cynnwys rhan o’r tir a arwystlwyd yn unig – efallai yn ddarn o ardd tŷ – mae’n debygol y bydd y perchennog wedi parhau i wneud yr ad-daliadau. Yna bydd teitl y sgwatiwr yn ddarostyngedig i’r arwystl (Nid oes unrhyw ddosraniad o ddyled y morgais. I sicrhau rhyddhau’r tir o’r arwystl, rhaid i’r sgwatiwr dalu’r swm llawn sy’n weddill: Carroll yn erbyn Manek (2000) 79 P a CR 173).
Byddwn yn anfon rhybudd ynglŷn â’r cais at unrhyw arwystlai y gellir ei adnabod. Rhaid ichi nodi a ydych yn ceisio cofrestru’n rhydd o’r arwystl neu’n ddarostyngedig i’r arwystl. Os byddwch yn ceisio cofrestru’n rhydd o’r arwystl, mae angen i’r dystiolaeth a gyflwynwch i gefnogi’r cais ddangos ar ba sail yr hawliwch fod teitl y sgwatiwr yn rhydd o’r arwystl. Os byddwch yn ceisio cofrestru’n ddarostyngedig i’r arwystl, bydd unrhyw rybudd a roddwn ar yr arwystlai yn gwneud yn glir ein bod yn bwriadu cofnodi’r arwystl ar y teitl newydd, neu gofrestru’r sgwatiwr yn berchennog yn ddarostyngedig i’r arwystl, oni bai bod yr arwystlai yn cytuno’n benodol i ryddhau ei hawliau yn y tir.
6. Gwrthwynebu cais y sgwatiwr
Rhaid i unrhyw un sydd am wrthwynebu cais gyflwyno datganiad ysgrifenedig i’r cofrestrydd wedi ei lofnodi ganddo ef neu ei drawsgludwr. Rhaid iddo ddatgan bod y gwrthwynebydd yn gwrthwynebu’r cais, datgan sail y gwrthwynebiad a rhoi enw a chyfeiriad llawn y gwrthwynebydd ar gyfer gohebu. Rhaid i hwn fod yn gyfeiriad post, p’un ai a yw yn y Deyrnas Unedig ai peidio. Mae modd cynnwys cyfeiriadau post, ebost neu DX eraill hefyd, ond ni ellir nodi mwy na 3 chyfeiriad ar gyfer gohebu (rheolau 19 a 198 o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Os caiff gwrthwynebiad ei dderbyn, nid oes modd penderfynu’r cais nes bydd y gwrthwynebiad wedi ei derfynu, oni bai bod y cofrestrydd yn fodlon bod y gwrthwynebiad yn ddi-sail (adran 73(5) a (6) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Os yw’r cofrestrydd yn penderfynu nad yw’r gwrthwynebiad yn ddi-sail, rhaid hysbysu’r sgwatiwr neu ei drawsgludwr am y gwrthwynebiad (adran 73(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Bydd y cofrestrydd yn gofyn i’r 2 ochr wedyn a ydynt am drafod ac a ydynt yn credu bod modd dod i gytundeb. Os bydd pawb yn ymateb yn gadarnhaol, bydd y cofrestrydd yn rhoi amser iddynt ddatrys y sefyllfa drwy ddod i gytundeb. Fodd bynnag, unwaith y daw i’r amlwg bod y 2 ochr yn methu dod i gytundeb, rhaid i’r cofrestrydd gyfeirio’r mater at y tribiwnlys (adran 73(7) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Bydd y cofrestrydd yn gwneud hyn ar unwaith os nad yw’r partïon yn dymuno trafod.
Yna bydd y tribiwnlys naill ai’n pennu dyddiad ar gyfer gwrandawiad i benderfynu’r mater neu’n cyfeirio un ochr i ddechrau achos yn y llys. Os yw’n penderfynu clywed y mater, bydd yn rhoi rhagor o fanylion o’r drefn i’w dilyn a’r sefyllfa o ran costau.
Mae angen i sgwatiwr ystyried y pwyntiau hyn cyn gwneud cais ar sail meddiant gwrthgefn. Hyd yn oed os nad yw’r cais yn arwain at achos llys neu wrandawiad byddwn:
- yn rhybuddio’r perchennog (os yw’n hysbys)
- o dan amgylchiadau cyfyngedig efallai y bydd y sgwatiwr yn gorfod talu’r costau a ddaw i ran y perchennog o ganlyniad i gais y sgwatiwr
Lle bo anghydfod yn cael ei ddatrys heb benderfyniad barnwrol, fel pan fydd y sgwatiwr yn tynnu’r cais am gofrestriad cyntaf yn ôl, gall rhywun ofyn i’r cofrestrydd wneud gorchymyn am gostau lle bu ymddygiad yr ochr arall yn afresymol mewn perthynas â’r achos. Bydd y cofrestrydd yn ystyried yr holl gyflwyniadau a wnaed iddo a’r holl amgylchiadau, gan gynnwys ymddygiad y partïon a chanlyniadau unrhyw ymholiadau a wnaeth: rheol 202 o Reolau Cofrestru Tir 2003.
7. Materion prydlesol
7.1 Meddiant gwrthgefn tir prydlesol
Cyn gynted ag y bydd y sgwatiwr yn cymryd meddiant o dir wedi ei brydlesu, mae amser yn treiglo yn erbyn y tenant.
Pan fo’r brydles yn ddigofrestredig, nid yw’r tenant bellach yn gallu adennill meddiant y tir oddi wrth y sgwatiwr ar ddiwedd y cyfnod cyfyngu. Fodd bynnag, gall ildio’r brydles i’r landlord o hyd: Fairweather v St Marylebone Property Co Ltd [1963] AC 510. Mae’n dilyn bod yr ystad rydd-ddaliadol a gafodd y sgwatiwr o’r foment y cymerodd feddiant yn dda yn erbyn yr holl fyd heblaw am rifersiynwr.
O ganlyniad, ein harfer oedd gwrthod cais am gofrestriad cyntaf yn seiliedig ar feddiant gwrthgefn lle’r oedd y brydles yn ddigofrestredig. Erbyn hyn, rydym yn barod i fwrw ymlaen â chais o’r fath ar yr amod (i) nad oes unrhyw rifersiwn rhydd-ddaliol neu brydlesol cofrestredig yn bodoli a (ii) bod y cofrestrydd wedi ei fodloni bod y posibilrwydd o ildio gyda rifersiynydd wedyn yn mynnu hawliad i feddiannu yn erbyn y sgwatiwr yn ddigon annhebygol i’w anwybyddu. Fel arfer, teitl prydlesol cymwys roddir i unrhyw gofrestriad sy’n deillio o hyn. Mae’n deitl rhydd-ddaliol oherwydd mai dyna’r ystad a gaffaelir bob tro o ganlyniad i feddiant gwrthgefn ystad digofrestredig. Yr eithriad fydd pan fo’r sgwatiwr ei hun yn denant sy’n llechfeddiannu o dir prydlesol ac nad yw’r rhagdybiaeth yn Smirk v Lyndale Developments Ltd [1975] 1 Ch 317 yn cael ei gwrthbrofi, pan roddir teitl prydlesol cymwys i’r cofrestriad dilynol. Bydd yr amod yn debyg i’r canlynol:
AMOD: Mae’r teitl hwn yn deillio o feddiant gwrthgefn yr ystad brydlesol o dan brydles ddyddiedig… ac a wneir rhwng… Eithrir o effaith cofrestru unrhyw ystad, hawl neu fudd yn groes i neu mewn rhan-ddirymiad i deitl y perchennog sy’n bodoli ar adeg cofrestru neu sy’n gallu codi wedyn ac unrhyw hawl gan yr unigolyn ar y pryd i’r rifersiwn a ddisgwylir ar dymor y brydles i gymryd meddiant ar ôl ildio’r brydles.
Lle mae’r brydles yn gofrestredig, a daeth y cyfnod cyfyngu i ben cyn 13 Hydref 2003, nid oes gan y tenant yr hawl hon i ildio’r brydles: Spectrum Investment Co v Holmes [1981] 1WLR 221; Central London Commercial Estates Ltd v Kato Kagaku Co Ltd [1998] 4 All ER 948. Felly bydd unrhyw gofrestriad ar gyfer y sgwatiwr yn cael ei roi gyda theitl prydlesol.
Nid yw amser yn treiglo yn erbyn y landlord nes bod y brydles yn dod i ben – ond bydd amser yn parhau i dreiglo yn erbyn y landlord yn ystod cyfnod y brydles os yw’r meddiant gwrthgefn wedi dechrau cyn y brydles.
Mae methu talu rhent cyn i’r brydles ddod i ben yn amherthnasol. Fodd bynnag:
- lle bo dieithryn, yn honni’n anghyfreithlon fod ganddo hawl i’r tir mewn rifersiwn, yn cael y rhent
- lle bo’r brydles yn ysgrifenedig (heb ei rhoi gan y Goron) trwy’r hyn y cedwir rhent nad yw’n llai na £10 y flwyddyn (20 swllt y flwyddyn neu uwch os rhoddwyd y brydles cyn 1 Awst 1980), a
- lle ni cheir unrhyw rent wedi hynny gan y person sydd â’r hawl yn gyfreithlon
bydd cyfnod y meddiant gwrthgefn, o blaid y dieithryn sy’n cael y rhent, yn dechrau ar y dyddiad y talwyd y rhent iddo gyntaf: Atodlen 1, Rhan 1, paragraffau 6 ac 8(3)(b), ac Atodlen 2, paragraff 8 i Ddeddf Cyfyngiadau 1980.
Lle cofrestrwyd y rifersiwn cyn 13 Hydref 2003 ac erbyn y dyddiad hwnnw roedd y cyfnod cyfyngu angenrheidiol wedi dod i ben, mae’r sefyllfa’r un fath ac mae hawl gan y dieithryn i gael ei gofrestru o dan Atodlen 12, paragraff 18 i Ddeddf Cofrestru 2002.
7.2 Llechfeddiannau o dir prydlesol
7.2.1 Llechfeddiant o dir prydlesol gan denant sy’n sgwatio ar ystad rydd-ddaliol ddigofrestredig ac yn gwneud cais cofrestriad cyntaf am deitl prydlesol
Os yw’r sgwatiwr yn prydlesu tir cyffiniol, rhagdybir fel arfer bod y llechfeddiant yn ychwanegiad at ei brydles. Bydd y tir ychwanegol yn cael ei ildio i’r landlord pan ddaw’r denantiaeth i ben (Gweler Smirk yn erbyn Lyndale Developments Cyf [1974] 3 WLR 91 a’r awdurdodau y cyfeirir atynt ynddo. Cadarnhaodd y Llys Apêl yr hyn a ddywedwyd gan Pennycuick V-C ar fater llechfeddiant gan denant: [1975] Pennod 317, 337. Gweler hefyd Tower Hamlets yn erbyn Barrett [2005] EWCA Civ 923).
Os yw’r ceisydd yn derbyn bod y rhagdybiaeth yn berthnasol (gallech gynnwys y wybodaeth hon yn y datganiad o wirionedd neu’r datganiad statudol – gweler Y dystiolaeth gefnogol), rhaid ichi gyflwyno’r cais ar ffurflen FR1 (rheol 23 o Reolau Cofrestru Tir 2003), gan nodi dosbarth teitl y brydles berthnasol ar banel 4. Rhaid bod mwy na 7 mlynedd o dymor prydles ddogfennol y sgwatiwr ar ôl (adran 3(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Bydd unrhyw rybudd (gweler Rhybuddion) a anfonwn yn nodi’n glir bod y ceisydd yn ceisio cofrestru teitl i’r tir, ar ôl llechfeddiannu am y cyfnod perthnasol o dan Ddeddf Cyfyngiadau Achosion 1980, ar y sail bod y tir bellach wedi’i gynnwys yn y daliad sy’n cael ei gynnwys yn y brydles, a bydd yn cynnwys manylion y brydles.
Os yw’r cais yn cael ei gwblhau, byddwn yn nodi yn y gofrestr eiddo bod y tir a lechfeddiannwyd bellach yn cael ei ddal dros dymor y brydles ac fel ychwanegiad iddi, er nad oedd yn rhan o’r tir gwreiddiol a lesiwyd.
7.2.2 Llechfeddiant o dir prydlesol gan denant sy’n sgwatio ar ystad rydd-ddaliol ddigofrestredig ac yn gwneud cais cofrestriad cyntaf am deitl rhydd-ddaliol
Os yw’r ceisydd yn honni bod y rhagdybiaeth bod y tir yn ychwanegiad at y brydles yn amherthnasol, rhaid ichi gyflwyno’r cais ar ffurflen FR1 (rheol 23 o Reolau Cofrestru Tir 2003), gan nodi dosbarth teitl y rhydd-ddaliad perthnasol ar banel 4. Dylech gynnwys yr holl dystiolaeth sydd ar gael ynglŷn â theitl prydlesol y tenant sy’n sgwatio (os nad yw’n gofrestredig) yn ogystal â’r dystiolaeth gefnogol y cyfeirir ati yn Y dystiolaeth gefnogol.
Os cyflwynir tystiolaeth sy’n gwrthddweud y rhagdybiaeth ac os yw’r cais yn mynd rhagddo, byddwn yn rhybuddio landlord y tenant sy’n sgwatio am y cais. Bydd y rhybudd yn cyfeirio at y rhagdybiaeth. Os nad oes modd canfod pwy yw landlord y tenant sy’n sgwatio, byddwn yn gallu ystyried cofrestru gyda theitl amodol yn unig. Bydd yr amod yn seiliedig ar y ffaith bod gorfodi unrhyw ystad, hawl neu fudd sy’n niweidio neu’n ymeithrio o deitl teitl y perchennog sy’n bodoli adeg y cofrestru neu’n gallu codi wedyn yn cael ei eithrio o effaith cofrestru.
7.2.3 Llechfeddiant o dir prydlesol gan denant sy’n sgwatio ar dir cofrestredig a gofrestrwyd ar 13 Hydref 2003, yn dilyn cyfnod o 12 mlynedd o feddiant gwrthgefn erbyn y dyddiad hwnnw, gyda’r tenant yn derbyn y rhagdybiaeth bod y llechfeddiant yn ychwanegiad at ei brydles
Os yw’r rhagdybiaeth bod y llechfeddiant yn ychwanegu at y brydles yn berthnasol, ni all y sgwatiwr sy’n denant fod yn fuddiolwr o dan ymddiried o dan adran 75(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 1925 ac felly ni all geisio am gofrestriad o dan baragraff 18 o Atodlen 12 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Fodd bynnag, gallwch wneud cais ar ffurflen FR1 (rheol 23 o Reolau Cofrestru Tir 2003) am gofrestriad cyntaf o’r teitl prydlesol a gafaelwyd erbyn 13 Hydref 2003. Gellir gwneud hyn ar yr amod bod mwy na 7 mlynedd o dymor prydles ddogfennol y sgwatiwr ar ôl (adran 3(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Amod arall yw nad yw’r teitl wedi’i golli wedyn trwy gofrestru gwarediad cofrestradwy o’r ystad gofrestredig ar gyfer cydnabyddiaeth â gwerth ar adeg pan nad oedd yr ystad brydlesol yn fudd gor-redol (adran 29 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Bydd unrhyw rybudd (gweler Rhybuddion) a gyflwynir gennym yn ei gwneud yn glir bod y ceisydd yn ceisio cofrestru teitl i’r tir ar y sail, ar ôl llechfeddiannu am y cyfnod perthnasol o dan Ddeddf Cyfyngiadau Achosion 1980, bod y tir bellach wedi’i gynnwys yn y daliad sy’n ffurfio’r brydles, a bydd yn cynnwys manylion y brydles. Bydd hefyd yn ei gwneud yn glir bod rhybudd ynglŷn â budd prydlesol y tenant sy’n sgwatio yn cael ei gynnwys yn y teitl cofrestredig sydd eisoes yn bodoli.
Os yw’r cais yn cael ei gwblhau, byddwn yn nodi yn y gofrestr eiddo bod y tir a lechfeddiannwyd bellach yn cael ei ddal dros dymor y brydles ac fel ychwanegiad iddi, er nad oedd yn rhan o’r tir gwreiddiol a lesiwyd. Os yw’r llechfeddiant wedi digwydd ar dir tenant arall a bod prydles ddogfennol y sgwatiwr ar gyfer tymor hwy na’r tymor a ganiatawyd ar gyfer y tenant arall, bydd y nodyn hefyd nodi’n glir bod y tir yn cael ei ddal fel ychwanegiad at brydles ddogfennol y sgwatiwr, ond dim ond am gyfnod lesio’r brydles i’r tenant arall y bu’r sgwatiwr yn sgwatio ar ei dir.
7.2.4 Llechfeddiant o dir prydlesol gan denant sy’n sgwatio ar dir cofrestredig a gofrestrwyd ar 13 Hydref 2003, yn dilyn cyfnod o 12 mlynedd o feddiant gwrthgefn erbyn y dyddiad hwnnw, gyda’r tenant yn gwrthod y rhagdybiaeth bod y llechfeddiant yn ychwanegiad at ei brydles
Os yw’r ceisydd yn honni nad yw’r rhagdybiaeth bod y tir yn ychwanegiad at y brydles yn berthnasol, a’ch bod yn dymuno gwneud cais am gofrestriad o dan baragraff 18 o Atodlen 12 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002, rhaid ichi ddefnyddio ffurflen AP1 (rheol 13 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Dylech gynnwys yr holl dystiolaeth sydd ar gael ynglŷn â theitl prydlesol y tenant sy’n sgwatio (os yw’n ddigofrestredig) yn ogystal â’r dystiolaeth gefnogol y cyfeirir ati yn Y dystiolaeth gefnogol.
Os cyflwynir tystiolaeth sy’n gwrthddweud y rhagdybiaeth ac os yw’r cais yn mynd rhagddo, byddwn fel arfer yn rhybuddio landlord y tenant sy’n sgwatio am y cais yn ogystal â pherchennog cofrestredig y teitl sy’n cael ei effeithio gan y cais. Bydd unrhyw rybudd i’r landlord yn cyfeirio at y rhagdybiaeth sy’n gweithredu lle mae sgwatiwr yn denant, a bydd yn nodi’r rhesymau pam mae’r tenant yn credu bod y rhagdybiaeth yn amherthnasol.
8. Rhent-daliadau
Cyn 6 Ebrill 2014, roedd rhent-daliadau’n cael eu cynnwys yn niffiniad ‘tir’ at ddibenion adrannau 15 a 17 o Ddeddf Cyfyngiadau 1980 fel y gallai sgwatiwr gaffael teitl i rent-dâl trwy feddiant gwrthgefn. Mae Cofrestrfa Tir EF yn cydnabod bod ansicrwydd yn y gyfraith ynghylch meddiant gwrthgefn rhent-daliadau o 6 Ebrill 2014 yn dilyn newidiadau a wnaed i adran 38 o Ddeddf Cyfyngiadau 1980 gan Atodlen 14 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007. Tynnwyd ‘Rhent-daliadau’ o ddiffiniad ‘tir’ yn adran 38, gyda’r canlyniad ei bod yn ymddangos nad yw adrannau 15 a 17, sy’n gweithredu mewn perthynas â thir yn unig, yn berthnasol i rent-daliadau.
Hyd nes y datrysir yr ansicrwydd hwn, bydd Cofrestrfa Tir EF yn delio â cheisiadau i ddileu rhybudd am rent-dâl nad yw wedi ei gofrestru yn ei rinwedd hun fel a ganlyn.
8.1 Daeth y cyfnod meddiant gwrthgefn a hawliwyd i ben cyn 6 Ebrill 2014
Ni fydd y newidiadau i Ddeddf Cyfyngiadau 1980 yn effeithio ar y sefyllfa lle’r oedd y cyfnod meddiant gwrthgefn gofynnol eisoes wedi cronni cyn 6 Ebrill 2014.
8.2 Daeth y cyfnod meddiant gwrthgefn a hawliwyd i ben ar ôl 6 Ebrill 2014
Os yw perchennog y rhent-dâl yn hysbys, bydd Cofrestrfa Tir EF yn anfon rhybudd am y cais i ddileu’r rhybudd am y rhent-dâl. Bydd y rhybudd yn cynnwys manylion yr ansicrwydd yn ymwneud â Deddf Cyfyngiadau 1980. Os nad yw perchennog y rhent-dâl yn hysbys neu os yw anfon rhybudd yn annhebygol o fod yn effeithiol, bydd Cofrestrfa Tir EF yn ystyried y cais yn y ffordd arferol. Os nad yw’r cofrestrydd yn fodlon bod y rhent-dâl wedi dod i ben, gall nodi yn y gofrestr fanylion yr amgylchiadau y mae’r ceisydd yn honni bod y budd wedi ei bennu (rheol 87(4) o Reolau Cofrestru Tir 2003).
8.3 Ceisiadau o dan y darpariaethau trosiannol (Atodlen 12, paragraff 18 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
Nid yw’r newid i Ddeddf Cyfyngiadau 1980 yn effeithio ar geisiadau darpariaethau trosiannol oherwydd mae’n rhaid bod y cyfnod meddiant gwrthgefn wedi cael ei gwblhau erbyn 13 Hydref 2003.
Lle bo’r rhent-dâl, testun y cais, hefyd yn effeithio ar dir arall (ac nid oes dosraniad ffurfiol) mae posibilrwydd y gallai rhywun heblaw’r ceisydd fod wedi talu’r rhent (er enghraifft, o dan ddosraniad anffurfiol). Byddai hyn yn atal unrhyw gyfnod cyfyngu rhag rhedeg ac felly’n atal terfyniad y rhent-dâl gan feddiant gwrthgefn. Yn y sefyllfa hon, gallai fod yn anodd i geisydd ddarparu tystiolaeth foddhaol o feddiant gwrthgefn a fyddai’n caniatáu i gais fynd yn ei flaen. Ar gyfer ceisiadau i ddileu rhybudd am rent-dâl digofrestredig sydd hefyd yn effeithio ar dir arall, os nad oes tystiolaeth ddigonol nad oes unrhyw un wedi talu’r rhent, gellir ystyried cofnod ‘honedig’ o dan reol 87 (4) o Reolau Cofrestru Tir 2003.
9. Amddiffyniad cyn cofrestru’r sgwatiwr
Ni fyddwn yn cofrestru teitl sgwatiwr i dir digofrestredig oni bai bod tystiolaeth o feddiant gwrthgefn am o leiaf 12 mlynedd. At hyn, yn y cyfamser, ni all y sgwatiwr gyflwyno rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf (yn amodol ar yr hyn sy’n cael ei ddweud yn y paragraff nesaf). Bydd y sgwatiwr yn honni bod yn berchennog ystad gyfreithiol mewn tir ar sail meddiant, ac ni ellir cyflwyno rhybuddiad ar sail perchnogaeth o ystad rydd-ddaliol mewn tir (adran 15(1)(a) ac adran (3)((a)(i) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) mewn perthynas â’r ystad y mae gan y sgwatiwr deitl iddi (Rosenberg yn erbyn Cook (1881) 8 QBD 162, 165, ys dywedwyd gan Jessel MR). Ac nid ydym yn credu y gall sgwatiwr honni i gael hawl i fudd sy’n effeithio ar ystad amodol (ystad mewn tir y perchennog ar bapur). Mae adran 15(1)(b) ac adran 132(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu bod cyfeiriadau at fudd sy’n effeithio ar ystad yn “hawl wrthwynebus yn effeithio ar y teitl i’r ystad”: mae’n anodd gweld sut y gellid disgrifio ystad rydd-ddaliol sgwatiwr, cyn i’r cyfnod cyfyngu ddod i ben, fel hawl wrthwynebus yn effeithio ar deitl y perchennog ar bapur. Fodd bynnag, mae’n bosibl na fydd y sgwatiwr yn colli budd meddiant gwrthgefn pan fydd y teitl papur yn cael ei gofrestru am y tro cyntaf. Bydd y cofrestriad cyntaf yn gamgymeriad os yw’n digwydd ar ôl i’r teitl papur gael ei ddileu, felly dylai’r sgwatiwr allu gwneud cais am newidiad (paragraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002) (gan fod y teitl cofrestredig wedi cau) a chais am gofrestriad cyntaf o’i deitl ei hun. Os oes gan y sgwatiwr union feddiannaeth neu os yw’r perchennog cyntaf wedi cael rhybudd o ystad y sgwatiwr, bydd yr ystad sydd wedi ei breinio yn y perchennog yn ddarostyngedig i’r ystad honno: adran11(4)(b) a (c) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Ni fydd newid y gofrestr, felly, yn cael effaith niweidiol ar deitl y perchennog. Mae hyn yn golygu na fydd y newid yn arwain at gywiriad, ac ni fydd gan y perchennog hawl i indemniad os yw’r teitl yn gaeedig: paragraff 1(1)(a) a 11(2)(b) o Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Os ceir y cofrestriad cyntaf cyn i’r teitl papur gael ei ddileu ond bod y sgwatiwr yn aros mewn meddiant gwrthgefn, gall wneud cais i gofrestru fel perchennog yr ystad gofrestredig o dan Atodlen 6 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ar ddiwedd cyfnod 10 mlynedd o feddiant gwrthgefn (Er mwyn bodloni paragraff 1 o Atodlen 6).
Ymddengys bod y sefyllfa yn wahanol pan fydd y sgwatiwr yn olynydd yn y teitl i sgwatiwr cynharach sydd wedi trosglwyddo’r ystad feddiannol. Os nad yw’r sgwatiwr yn gwneud cais am gofrestriad cyntaf o fewn 2 fis i drosglwyddiad yr ystad feddiannol, bydd y teitl i’r ystad yn dychwelyd i’r trosglwyddwr/sgwatiwr cyntaf, a fydd yn ei dal ar ymddiried noeth ar gyfer y sgwatiwr (adrannau 6 a 7 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Ymddengys y byddai’r un dychweliad yn digwydd pe bai’r sgwatiwr yn gwneud cais am gofrestriad cyntaf ond bod y cais yn cael ei ddileu (Sainsbury’s Supermarket Cyf yn erbyn Olympia Homes Cyf [2005] EWHC 1235 yn [67]-[71]). Felly, bydd gan y sgwatiwr fudd llesiannol yn yr ystad rydd-ddaliad hon a gall, os yw’n dymuno (Rhaid i unigolyn gyflwyno rhybuddiad heb achos rhesymol; mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol i unrhyw un sy’n dioddef niwed yn sgil ei thorri: adran 77 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002), gyflwyno rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf ar y sail fod ganddo hawl i fudd sy’n effeithio ar ystad rydd-ddaliad gyfreithiol mewn tir (adran 15(1)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Yr ystad rydd-ddaliol berthnasol yw’r ystad feddiannol sy’n destun trosglwyddiad gan y sgwatiwr blaenorol), yn hytrach na bod yn berchennog ystad o’r fath. Noder bod y rhesymeg hon yr un mor berthnasol p’un ai a yw’r teitl dogfennol wedi’i ddileu erbyn i’r ystad feddiannol gael ei throsglwyddo ai peidio.
Mae hawl y sgwatiwr i gael ei gofrestru o dan baragraff 18 o Atodlen 12 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn hawl berchnogol ac mae’n gallu bod yn fudd gor-redol. Ni chollir yr hawl o ganlyniad i gofrestru trosglwyddiad neu warediad cofrestradwy arall ar gyfer cydnabyddiaeth â gwerth, ar yr amod bod y sgwatiwr yn parhau i fod yn union feddiannydd adeg y gwarediad (adran 29(2)(a)(ii); paragraff 2 o Atodlen 3 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002, . Nid oes sicrwydd a oes angen union feddiannaeth adeg cofrestru’r gwarediad i’r hawl fod yn fudd gor-redol: Thomson yn erbyn Foy [2009] EWHC 1076).
10. Atodiad: datganiad o wirionedd
Dull o ddarparu tystiolaeth i gefnogi cais yw datganiad o wirionedd. O ganlyniad i newidiadau a wnaed gan Reolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2008, gellir ei dderbyn at ddibenion cofrestru tir yn lle datganiad statudol.
Fe’i mabwysiadwyd gan Gofrestrfa Tir EF yn dilyn y cynsail a osodwyd gan y llysoedd sifil i dderbyn datganiad o wirionedd fel tystiolaeth yn lle affidafid neu ddatganiad statudol.
10.1 Gofynion
At ddibenion cofrestru tir, diffinnir datganiad o wirionedd fel a ganlyn (rheol 215A o Reolau Cofrestru Tir 2003):
- fe’i gwneir yn ysgrifenedig
- rhaid iddo gael ei lofnodi gan yr unigolyn sy’n ei wneud (os nad yw’n gallu llofnodi – gweler Datganiad o wirionedd a wneir gan unigolyn nad yw’n gallu ei lofnodi)
- nid oes rhaid iddo gael ei dyngu na’i dystio
- rhaid iddo gynnwys datganiad o wirionedd ar y ffurf ganlynol: ‘Credaf fod y ffeithiau a’r materion a gynhwysir yn y datganiad hwn yn wir.’
- os yw trawsgludwr yn gwneud y datganiad neu’n ei lofnodi ar ran rhywun arall, rhaid i’r trawsgludwr ei lofnodi yn ei enw ei hun a nodi ei swyddogaeth – gweler Llofnod gan drawsgludwr
10.2 Datganiad o wirionedd wedi ei lofnodi gan unigolyn nad yw’n gallu darllen
Os yw datganiad o wirionedd i’w lofnodi gan unigolyn nad yw’n gallu ei ddarllen, rhaid iddo:
- gael ei lofnodi ym mhresenoldeb trawsgludwr
- cynnwys tystysgrif a wnaed ac a lofnodwyd gan y trawsgludwr ar y ffurf ganlynol:
“Yr wyf fi [enw a chyfeiriad y trawsgludwr] yn ardystio fy mod wedi darllen cynnwys y datganiad o wirionedd hwn ac wedi egluro natur ac effaith unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ynddo a chanlyniadau gwneud datganiad ffug i’r unigolyn sy’n gwneud y datganiad hwn a’i harwyddodd neu a roddodd [ei nod ef] neu [ei nod hi] yn fy mhresenoldeb ar ôl iddo yn gyntaf (a) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad (b) cymeradwyo bod y cynnwys yn gywir ac (c) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad o wirionedd a chanlyniadau gwneud datganiad ffug.”
10.3 Datganiad o wirionedd gan unigolyn nad yw’n gallu ei lofnodi
Lle y mae datganiad o wirionedd i’w wneud gan unigolyn nad yw’n gallu ei lofnodi, rhaid iddo:
- nodi enw llawn yr unigolyn hwnnw
- gael ei lofnodi gan drawsgludwr yn ôl cyfarwyddyd ac ar ran yr unigolyn hwnnw
- cynnwys tystysgrif wedi ei gwneud a’i llofnodi gan y trawsgludwr hwnnw ar y ffurf ganlynol:
“Yr wyf fi [enw a chyfeiriad y trawsgludwr] yn ardystio bod [yr unigolyn sy’n gwneud y datganiad o wirionedd hwn] wedi ei ddarllen yn fy mhresenoldeb, cymeradwyo bod y cynnwys yn gywir a’m cyfarwyddo i’w arwyddo ar [ei ran] [ei rhan] neu [Rwyf wedi darllen cynnwys y datganiad o wirionedd hwn ac wedi egluro natur ac effaith unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ynddo a chanlyniadau gwneud datganiad ffug i’r unigolyn sy’n gwneud y datganiad hwn a’m cyfarwyddodd i’w arwyddo ar [ei ran] neu [ei rhan] ar ôl iddo yn gyntaf (a) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad (b) cymeradwyo bod y cynnwys yn gywir ac (c) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad o wirionedd a chanlyniadau gwneud datganiad ffug.”
10.4 Llofnod gan drawsgludwr
Lle y mae trawsgludwr yn gwneud datganiad o wirionedd, neu lle y mae trawsgludwr yn gwneud ac yn llofnodi tystysgrif ar ran rhywun sydd wedi gwneud datganiad ond nad yw’n gallu ei ddarllen neu ei lofnodi, rhaid i’r trawsgludwr:
- ei arwyddo yn ei enw ei hun ac nid yn enw ei gwmni neu gyflogwr
- rhaid iddo nodi ym mha swyddogaeth mae’n ei arwyddo a lle bo’n briodol, enw ei gwmni neu gyflogwr
11. Pethau i’w cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.