Canllawiau

Canllaw teithio i deithwyr awyr

Diweddarwyd 25 Ionawr 2024

Mae hwn yn ganllaw i’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau fel teithiwr awyr.

Darllenwch y crynodeb ar wahân o’ch hawliau fel teithiwr awyr.

1.  Cyflwyniad

Mae’r canllaw hwn yn nodi beth y mae angen i chi, fel teithiwr, ei wybod am eich hawliau a’ch cyfrifoldebau wrth hedfan. Mae’n rhannu eich siwrnai yn gamau:

Mae’r canllaw hefyd yn egluro beth y gallwch ei ddisgwyl gan eich cwmni hedfan, asiantaeth deithio, trefnydd taith a maes awyr. Mae’n nodi’r arferion gorau ar gyfer trin teithwyr. Yn ogystal, mae’n amlinellu’r pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu i wneud eich profiad o’r daith yn un mor gadarnhaol ag sy’n bosibl.

Fel teithiwr, mae gennych hefyd gyfrifoldebau penodol i wneud yn siŵr bod popeth sydd ei angen ar gyfer eich taith gennych chi, ac i gyfathrebu â’ch cwmni hedfan a’r maes awyr (naill ai’n uniongyrchol neu drwy eich asiant teithio neu drefnydd taith) cyn teithio os oes gennych ofynion arbennig.

Mae’r rhan fwyaf o siwrneiau awyr yn digwydd yn ddidrafferth, ac mae hedfan fel arfer yn brofiad cadarnhaol. Serch hyn, gall pethau fynd o chwith weithiau, a dyma pam y mae rheoliadau sy’n rhoi hawliau i chi wrth deithio mewn awyren. Mae’r hawliau hyn yn bodoli er mwyn sicrhau eich bod yn cael triniaeth deg fel teithiwr, ac maent yn cynnwys mesurau i’ch amddiffyn os bydd pethau’n mynd o chwith, er enghraifft os bydd eich hediad yn cael ei ganslo neu ei ddal yn ôl.

Datblygodd y llywodraeth y canllaw hwn mewn partneriaeth â’r sector hedfan, y diwydiant teithio, pobl anabl a grwpiau defnyddwyr. Mae’r canllaw yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi ar gyfer teithio mewn awyren. Nid yw’n ddogfen sydd â grym cyfreithiol, ond mae’n amlinellu’r hawliau presennol y gellir eu gorfodi yn unol â’r gyfraith. Gwnaethpwyd pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth sydd yn y canllaw hwn mor gyfredol ag sy’n bosibl.

Darllenwch y rhestr wirio teithio awyr ar gyfer teithio o’r DU.

Darllenwch y cyngor teithio diweddaraf ar gyfer mynd dramor.

2.  Archebu a chyn i chi deithio

Mae’r adran hon yn ymdrin â:

Efallai y bydd ar deithwyr anabl a phobl sydd ag anawsterau symud angen cymorth ychwanegol gan eu cwmni hedfan neu faes awyr. Gweler adran hygyrchedd a chymorth y canllaw hwn.

2.1 Eich hawliau wrth archebu

Rhaid i delerau ac amodau eich archeb fod ar gael ar yr adeg rydych yn archebu eich hediad gan y cwmni hedfan, yr asiant teithio neu drefnydd y daith rydych yn gwneud yr archeb gydag ef. Rhaid iddynt fod yn glir, yn hawdd i’w deall ac yn hawdd i ddod o hyd iddynt. Rhaid iddynt hefyd roi gwybodaeth glir ynglŷn â beth i’w wneud os bydd teithiau’n cael eu canslo, neu ddyddiadau’n cael eu newid, ac os bydd angen i chi ailarchebu.

Rhaid i gwmnïau hedfan ddangos yr holl drethi, ffioedd a chostau sydd wedi’u cynnwys yn eich tocyn. Mae’r rhain yn daliadau gorfodol angenrheidiol sydd wedi’u cynnwys yn y pris a ddangosir ar gyfer eich tocyn.

Dylai cwmnïau hedfan ac asiantaethau teithio sy’n gwerthu tocynnau hedfan nodi’n glir ar yr adeg y gwneir yr archeb a oes unrhyw daliadau ychwanegol am fanion ychwanegol dewisol, er enghraifft, lwfans bagiau, a dewis sedd. Dylid nodi’r taliadau hyn yn glir ar ddechrau’r broses archebu a dylent fod yn ddewisol. Dylai fod yn bosibl i chi archebu’r hediad neu’r gwyliau heb fod angen ychwanegu’r elfennau ychwanegol hyn.

Ni ddylai unrhyw daliadau ychwanegol gael eu hychwanegu at eich archeb am gymorth ar gyfer teithwyr anabl a theithwyr sydd ag anawsterau symud, neu am gario cyfarpar meddygol a hyd at 2 ddarn o gyfarpar symudedd i bob teithiwr.

Os ydych wedi archebu gwyliau pecyn sy’n cynnwys hediad, er enghraifft hediad a llety neu hediad a llogi car, mae’n bosibl y byddwch yn cael eich diogelu dan gynllun Trwyddedu Trefnwyr Teithiau Awyr (ATOL) a bydd gennych Dystysgrif ATOL yn brawf o hynny. Mae hyn yn golygu, os bydd eich trefnydd teithiau yn mynd yn fethdalwr (sy’n anghyffredin iawn) cyn i chi deithio, efallai y gallwch wneud cais i’r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) am ad-daliad dan y cynllun ATOL. Os byddwch dramor ar adeg y methiant, bydd y CAA yn eich helpu i ddychwelyd gartref i’r DU.

Mae’r cynllun ATOL hefyd yn gymwys i rai gwerthiannau hediad yn unig sy’n cael eu gwneud drwy asiantaethau teithio, ond nid yw gwerthiannau hediad yn unig sydd wedi’u harchebu’n uniongyrchol â chwmnïau awyrennau gwasanaethau rheolaidd neu ag asiantaethau tocynnau cwmnïau hedfan yn cynnwys amddiffyniad ATOL.

Os ydych wedi archebu eich gwyliau gan ddefnyddio cerdyn credyd a bod y taliad dros £100, efallai y bydd gennych amddiffyniad rhag colled ariannol o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr.

Darllenwch fwy am ansolfedd cwmni hedfan neu drefnydd pecyn.

Os ydych wedi archebu gydag asiant teithio neu drefnydd teithiau, maen nhw’n gyfrifol am sicrhau eich bod yn cael manylion ynglŷn â sut i gofrestru ar gyfer eich hediad ynghyd ag unrhyw ddogfennau sy’n ofynnol.

2.2 Pethau i’w gwirio pan fyddwch yn archebu a chyn i chi deithio

Mae nifer o wahanol ddewisiadau ar gael i bobl sy’n dewis teithio drwy’r awyr. Mae hyn yn cynnwys archebu yn bersonol, dros y ffôn neu ar-lein gyda chwmni hedfan, asiant teithio neu drefnydd teithiau.

Mae opsiynau hefyd o ran y mathau o docynnau, er enghraifft:

  • archebu fel rhan o becyn
  • taith unffordd neu ddwyffordd
  • tocynnau hyblyg neu anhyblyg

Gall yr holl wahanol opsiynau hyn o ran tocynnau olygu bod gennych hawl i wahanol hawliau defnyddwyr ac amddiffyniadau os bydd pethau’n mynd o chwith. Er enghraifft, os ydych yn archebu hediad yn uniongyrchol gyda’ch cwmni hedfan, y cwmni sy’n gyfrifol am ddatrys unrhyw broblem gyda’ch hediad. Os ydych yn archebu hediad fel rhan o becyn, siaradwch â’ch gweithredwr teithiau pecyn i ddechrau.

Mae’n bwysig eich bod yn gwirio cyn i chi archebu a’ch bod yn deall yr amddiffyniadau a’r cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â’ch archeb, er mwyn sicrhau eich bod yn barod ar gyfer eich taith.

Ar ôl i chi archebu eich hediad, mae’n bwysig eich bod yn paratoi cyn i chi deithio, gan gynnwys sicrhau bod yr holl ddogfennau sydd eu hangen i deithio gennych.

Gwiriwch y telerau a’r amodau ac edrychwch a oes taliadau ychwanegol

Cyn ymrwymo i archebu hediad, gwiriwch brif delerau ac amodau eich tocyn i wneud yn siŵr nad oes dim byd annisgwyl yn digwydd yn nes ymlaen ar y daith.

Er enghraifft, efallai y byddech yn hoffi gwirio a ydych yn archebu tocyn penodedig ynteu docyn hyblyg, faint yw’r lwfans bagiau a’r ffioedd cysylltiedig, ac unrhyw gostau y gallech orfod eu talu os bydd angen i chi newid neu ganslo’r archeb. Os ydych wedi archebu hediad fel rhan o becyn, dylech hefyd wirio telerau ac amodau’r pecyn.

Mae rhai cwmnïau hedfan yn codi tâl am gynnyrch a gwasanaethau ychwanegol, er enghraifft lwfans bagiau, prydau bwyd yn ystod hediad neu ddewis eich sedd cyn teithio. Gwiriwch a oes unrhyw gostau ychwanegol a allai fod yn gymwys cyn i chi wneud eich archeb.

Gwiriwch gyngor teithio ar gyfer y gwledydd rydych yn teithio iddynt

Mae’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) yn darparu cyngor teithio. Mae hyn yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd, diogelwch eiddo a diogelwch personol, gofynion mynediad a rhybuddion teithio ar gyfer pob gwlad.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r cyngor hwn ac yn cofrestru ar gyfer rhybuddion ebost awtomatig i gael eich hysbysu os bydd rhywbeth yn newid.

Edrychwch ar y rhestr gwledydd A-Z sy’n cynnwys cyngor teithio tramor gan yr FCDO.

Gwnewch yn siŵr bod eich pasbort neu ddogfen deithio yn ddilys

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr holl ddogfennau angenrheidiol gennych pan fyddwch yn teithio.

Gwiriwch y gofynion mynediad ar gyfer y wlad y mae arnoch eisiau teithio iddi.

Bydd y cyngor teithio hwn yn dweud wrthych pa ddogfennau y mae arnoch eu hangen, faint o amser y mae arnoch ei angen ar eich pasbort neu ddogfen deithio er mwyn teithio dramor, ac am faint y gallwch aros. Dylai deiliaid pasbort y DU wirio’r wybodaeth hon ar gyfer teithio i ardal yr UE neu ardal Schengen, gan fod y rheolau wedi newid ers i’r DU adael yr UE.

Os ydych yn teithio â phasbort y DU, efallai y bydd angen i chi adnewyddu eich pasbort.

Darllenwch sut i adnewyddu eich pasbort.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn caniatáu digon o amser i ddiweddaru eich pasbort.

Darganfyddwch am amseroedd prosesu gan Swyddfa Basbort EF.

Os ydych yn deithiwr sydd â phasbort nad yw’n basbort y DU, byddai’n well gwirio gyda llysgenhadaeth eich gwlad yn y DU.

Gweld rhestr o lysgenadaethau tramor ac uchel gomisiynau yn y DU.

Gwiriwch a oes angen fisa a beth yw’r gofynion mynediad

Gwiriwch a oes angen fisa a beth yw’r gofynion mynediad ar gyfer y wlad rydych yn teithio iddi. Mae gan rai gwledydd ofynion mynediad penodol, gan gynnwys:

  • fisa i ymweld, gweithio neu astudio dramor
  • awdurdodiad teithio electronig

Darllenwch am ofynion ar gyfer teithiau busnes i’r UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein.

Efallai y bydd gan wledydd ofynion mynediad sy’n gysylltiedig ag iechyd. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi ddangos prawf o frechiad neu brawf negyddol ar gyfer salwch neu glefyd, er enghraifft y dwymyn felen neu COVID-19 i gael mynd i’r wlad.

Darganfyddwch ofynion iechyd a brechlynnau gwledydd penodol yng Nghanolfan a Rhwydwaith Cenedlaethol Iechyd Teithwyr y DU.

Gwiriwch ddogfennau teithio a gofynion mynediad ar gyfer y DU

Os ydych yn teithio neu’n dychwelyd i’r DU, bydd angen i chi sicrhau bod y dogfennau teithio a’r fisas cywir gennych, lle bo’n briodol.

Gwirio gofynion mynediad y DU.

Gwnewch yn siŵr bod yr yswiriant teithio cywir gennych

Fe’ch cynghorir i gael yswiriant teithio sy’n addas i’ch cynlluniau a’ch anghenion. Gwiriwch beth sy’n cael ei yswirio, gan gynnwys triniaeth feddygol, amharu ar deithio, gweithredu diwydiannol, methiant ar ran y cwmni hedfan a gweithgareddau wedi’u cynllunio, er enghraifft chwaraeon antur fel y bo’n briodol.

Yn ddelfrydol, dylid trefnu yswiriant teithio ar yr adeg rydych yn archebu, neu cyn gynted ag y bo modd ar ôl hynny, er mwyn sicrhau bod gennych yswiriant ar gyfer unrhyw broblemau a allai godi cyn eich taith. Er enghraifft, rhag ofn y bydd angen i chi ganslo.

Gwiriwch delerau ac amodau eich yswiriant a gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth nad yw wedi’i gynnwys. Dylai hyn fod wedi’i nodi’n glir yn nogfen y polisi yswiriant.

Os nad oes gennych yswiriant priodol, gallech fod yn atebol am gostau argyfwng, gan gynnwys triniaeth feddygol, a allai gostio miloedd o bunnoedd.

Pan fyddwch yn teithio, gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd â manylion eich polisi yswiriant gyda chi, gan gynnwys rhif y polisi a rhif ffôn eich cwmni yswiriant i gael cymorth mewn argyfwng.

Rhannwch fanylion eich polisi â phobl rydych yn teithio gyda nhw a ffrindiau neu deulu gartref, rhag ofn y bydd angen iddyn nhw gysylltu â’ch cwmni yswiriant ar eich rhan.

Darllenwch am yswiriant teithio.

Argymhellir eich bod yn gwneud cais am Gerdyn Yswiriant Iechyd Byd-eang y DU (GHIC) sy’n caniatáu i chi gael gofal iechyd wedi’i ariannu gan y wladwriaeth yn Ewrop am gost is neu weithiau am ddim.

Bydd angen i chi gael yswiriant teithio digonol o hyd yn ogystal â’r GHIC.

Gwnewch gais am yswiriant gofal iechyd GHIC a EHIC ar wefan y GIG.

Gwiriwch eich lwfans bagiau ac unrhyw gyfyngiadau

Gwnewch yn siŵr bod gennych lwfans bagiau priodol ar gyfer eich taith. Efallai y byddech yn hoffi ystyried a allwch deithio â bagiau llaw yn unig.

Mae cyfyngiadau caeth ar gyfer beth a faint o bethau y gallwch eu cario mewn bagiau llaw. Gall y cyfyngiadau amrywio o’r naill gwmni hedfan i’r llall, gan gynnwys maint y bag y gallwch ei ddefnyddio fel bag llaw. Mae’n bwysig gwirio’r wybodaeth gan eich cwmni hedfan am hyn. Os yw eich bag yn rhy fawr neu’n rhy drwm, efallai y codir tâl ychwanegol am gario’r bag.

Os ydych yn defnyddio meddyginiaeth, ystyriwch gario’r feddyginiaeth yn eich bag llaw er mwyn osgoi unrhyw broblemau os caiff eich hediad ei ddal yn ôl, neu rhag ofn i’r bagiau rydych wedi eu cofrestru fynd ar goll.

Cyfeiriwch at delerau ac amodau eich cwmni hedfan ynglŷn â nwyddau peryglus ac eitemau sydd wedi’u gwahardd.

Darllenwch am gyfyngiadau bagiau llaw ym meysydd awyr y DU.

Cofrestru ar-lein

Mae llawer o gwmnïau hedfan yn cynnig yr opsiwn o gofrestru ar-lein. Yn achos rhai cwmnïau hedfan, dyma’r unig opsiwn di-dâl, ac mae’n bosibl y codir tâl arnoch os byddwch yn cofrestru yn y maes awyr. Dylech gofrestru cyn gynted ag y gallwch.

Os ydych wedi cofrestru ar-lein, gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd â’ch tocyn byrddio gyda chi i’r maes awyr. Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau hedfan, asiantaethau teithio a threfnwyr teithiau yn caniatáu i chi naill ai argraffu’r tocyn byrddio neu ei lawrlwytho i’ch ffôn symudol. Bydd gan lawer o gwmnïau hedfan eu hap eu hunain.

Os yw’r archeb yn cynnwys nifer o bobl, er enghraifft eich teulu, fel arfer gallwch gofrestru pawb yr un pryd os ydynt wedi cydsynio. Gall teithwyr eraill sydd ar yr archeb lawrlwytho eu tocynnau byrddio eu hunain o’r ap os defnyddir un, neu efallai y gallwch anfon y tocynnau byrddio fel negeseuon testun neu ebost at y teithwyr sydd ar yr archeb.

Os ydych wedi archebu drwy drydydd parti, er enghraifft asiant teithio neu drefnwr teithiau, gwiriwch eu cyfarwyddiadau ynglŷn â sut i gofrestru ar gyfer eich hediad, gan ei bod yn bosibl bod manylion archebu penodol neu gyfeirnodau archebu y mae angen i chi eu rhoi. Os cewch unrhyw broblemau cofrestru, cysylltwch â’ch asiant teithio neu drefnydd eich taith.

Gwnewch yn siŵr bod gan eich cwmni hedfan, asiant teithio neu drefnydd taith wybodaeth gyfredol amdanoch, rhag ofn y bydd angen iddo gysylltu â chi.

Cynlluniwch eich taith i’r maes awyr

Edrychwch ar wefan y cwmni hedfan cyn i chi deithio i ddarganfod pryd y mae angen i chi fod yn y maes awyr. Eich cyfrifoldeb chi yw cyrraedd y maes awyr a’r gât gadael mewn pryd. Os byddwch yn hwyr ac yn colli eich hediad, efallai y bydd angen i chi dalu am hediad arall i fynd â chi i’ch cyrchfan.

Cynlluniwch eich taith i’r maes awyr ymlaen llaw, gan gynnwys pa fath o drafnidiaeth y byddwch yn ei ddefnyddio i gyrraedd yno, a gadewch ddigon o amser i gyrraedd a chofrestru. Sylwer, fodd bynnag, y gall cyrraedd cyn yr amser cofrestru achosi mwy o dagfeydd yn y maes awyr.

3.  Yn ystod y daith

Yn ystod eich taith, mae nifer o bethau i baratoi ar eu cyfer. Mae’r adran hon yn amlinellu gwybodaeth a chyngor ar gyfer pob cam o’ch taith:

Efallai y bydd ar deithwyr anabl a phobl sydd ag anawsterau symud angen cymorth ychwanegol gan eu cwmni hedfan neu’r maes awyr. Gweler adran hygyrchedd a chymorth y canllaw hwn.

3.1 Yn y maes awyr

Cofrestru

Mae’r amseroedd cofrestru yn amrywio o’r naill gwmni hedfan i’r llall, ac yn dibynnu ar y gyrchfan, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio hyn ymlaen llaw.

Mae’n bwysig caniatáu digon o amser i gofrestru a gadael eich bagiau (gan gynnwys y man gadael bagiau hunanwasanaeth) yn ogystal â mynd drwy’r mesurau diogelwch ac ymlaen at y gât gadael. Fel arfer bydd eich cwmni hedfan yn dweud wrthych faint o’r gloch y mae angen i chi gofrestru a chyrraedd y gât gadael.

Peidiwch â chyrraedd yn gynharach na’r amser cofrestru cynharaf a nodwyd (oni bai fod y cwmni hedfan yn dweud yn wahanol), gan na fyddwch yn gallu cofrestru cyn yr amser hwnnw.

Efallai y bydd cwmnïau hedfan yn argymell ffrâm amser ychydig yn hwy ar gyfer teithwyr anabl a phobl sydd ag anawsterau symud, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadarnhau hyn cyn eich hediad.

Teithio drwy’r maes awyr a’r mesurau diogelwch

Bydd angen i chi fynd drwy fesurau diogelwch y maes awyr cyn cyrraedd y man gadael. Bydd angen i chi ddangos eich tocyn byrddio i’r swyddogion diogelwch. Mae hyn yn helpu i sicrhau eich bod chi a’ch eiddo yn ddiogel ar yr awyren.

Mae cyfyngiadau o ran pa eitemau y gallwch eu cario yn eich bag llaw wrth fynd ar awyren yn y DU, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r rheolau.

Yn ogystal, ceisiwch dynnu unrhyw eitemau, er enghraifft hylifau, o’ch bag llaw cyn i chi gyrraedd y ciw diogelwch. Bydd hyn yn eich helpu i fynd drwy’r gwiriadau diogelwch cyn gynted ag sy’n bosibl.

Gwiriwch beth y gallwch ei roi yn eich bag llaw a beth na allwch ei roi ynddo.

Ar ôl i chi fynd drwy’r mesurau diogelwch, bydd sgriniau’r maes awyr yn dangos rhif y gât ar gyfer mynd ar eich awyren mewn da bryd cyn amser hedfan.

Bydd arwyddion yn eich tywys i gyfeiriad y gât gadael. Mae rhai gatiau yn bellach na’i gilydd o’r lolfa adael, felly gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o amser i ddod o hyd i’r gât iawn.

Ar ôl cyrraedd y gât gadael, bydd angen i chi gyflwyno eich tocyn byrddio a’ch pasbort.

Yfed alcohol

Mae’n anghyfreithlon i fod yn feddw neu dan ddylanwad cyffuriau anghyfreithlon tra ar awyren. Os byddwch yn feddw yn y maes awyr, mae’n bosibl na chewch fynd ar yr awyren a bydd angen i chi wneud trefniadau teithio newydd ar eich cost eich hun. Os byddwch yn yfed alcohol yn y maes awyr, gwnewch hynny yn gyfrifol.

Darllenwch am ganlyniadau ymddygiad sy’n tarfu ar eraill ar wefan One Too Many.

3.2 Ar yr awyren

Gwybodaeth am ddiogelwch

Eich cyfrifoldeb chi yw gwrando ar y briff diogelwch a darllen y cerdyn gwybodaeth am ddiogelwch a fydd yn rhoi gwybodaeth hanfodol ynglŷn â lleoliad allanfeydd a chyfarpar argyfwng. Gan fod hyn yn gallu amrywio o’r naill fath o awyren i’r llall, mae’n bwysig eich bod yn gwneud hyn bob tro y byddwch yn hedfan.

Mae cwmnïau hedfan yn gyfrifol am gyfathrebu gwybodaeth hanfodol ynglŷn â diogelwch hediad mewn fformat hygyrch, er enghraifft, braille, sain, neu brint bras. Gadewch i’ch cwmni hedfan wybod ar yr adeg y byddwch yn archebu os oes arnoch angen gwybodaeth hygyrch a pha fformat yw’r un mwyaf buddiol i chi.

Tarfu ar bobl eraill ar yr awyren

Dylech ymddwyn yn barchus tuag at holl staff y maes awyr, ac ar yr awyren, a dylech ddisgwyl i’r holl staff ddangos parch tuag atoch chi drwy gydol eich taith.

Gall ymddygiad sy’n tarfu ar bobl eraill achosi i chi golli eich gwyliau, cael dirwy, gwaharddiad am oes rhag mynd ar awyren neu euogfarn droseddol.

Mae’n anghyfreithlon i fod yn feddw neu dan ddylanwad cyffuriau anghyfreithlon tra ar awyren. Mae angen i chi fod mewn cyflwr ffit i adael yr awyren mewn argyfwng. Os ydych yn feddw, gallai hyn effeithio ar eich diogelwch chi eich hun a phobl eraill.

Os byddwch yn tarfu ar bobl eraill ar yr awyren, drwy ymddygiad meddw neu mewn ffordd arall, gallwch wynebu hyd at 2 flynedd o garchar a dirwy. Gallech hefyd wynebu hyd at 5 mlynedd o garchar a dirwy am beryglu diogelwch awyren.

Os bydd yr awyren yn gorfod newid ei chwrs oherwydd eich ymddygiad, bydd yn rhaid i chi dalu’r costau, sydd fel arfer yn amrywio o £10,000 i £80,000. Gall y cwmni hedfan hefyd eich gwahardd rhag hedfan gyda nhw eto.

Darllenwch am ganlyniadau ymddygiad sy’n tarfu ar bobl eraill ar wefan One Too Many.

3.3 Cyrraedd y maes awyr rydych yn hedfan iddo

Rheoli’r ffin

Ar ôl i chi lanio yn y maes awyr rydych yn hedfan iddo a gadael yr awyren, gofynnir i chi ddangos eich pasbort ac unrhyw ddogfennau mynediad sy’n ofynnol gan y wlad rydych yn mynd iddi i swyddogion mewnfudo yn y man rheoli’r ffin. Mae’n bosibl y bydd eich pasbort yn cael ei stampio yno, gan ddibynnu ar eich cyrchfan.

Gwiriwch y gofynion mynediad ar gyfer y wlad rydych yn mynd iddi.

Ar ôl i chi fynd drwy’r man rheoli pasbortau, os gwnaethoch gofrestru bagiau, dilynwch yr arwyddion at y man casglu bagiau.

3.4 Teithio yn ôl i’r DU

Rhaid i chi gael y dogfennau teithio a’r fisas cywir, lle bo’n briodol, i deithio yn ôl i’r DU.

Darllenwch am fisas y DU a mewnfudo.

Rheoli pasbort y DU

Pan fyddwch yn cyrraedd maes awyr yn y DU, bydd eich pasbort, neu lle bo’n briodol, dogfen adnabod ac unrhyw ddogfennau mynediad, yn cael eu gwirio. Os oes arnoch angen fisa i ddod i’r DU, mae’n bosibl y gofynnir i chi ei ddangos ar y ffin.

Bydd arwyddion clir i ddangos ble i fynd pan fyddwch yn dod oddi ar yr awyren a pha giw rheoli ffiniau i ymuno ag ef.

Dylech gadw eich pasbort a’ch dogfennau teithio gyda chi bob amser – peidiwch â chael eich temtio i’w cadw yn eich cês dillad oherwydd bydd angen i chi ddangos eich pasbort pan fyddwch yn cyrraedd. Pan fyddwch yn cyrraedd man rheoli pasbortau’r DU, er mwyn osgoi oedi:

  • estynnwch eich pasbort a daliwch ef ar agor ar y dudalen lle mae’r llun
  • tynnwch eich het, clustffonau a sbectol haul
  • rhowch ffonau symudol neu gyfrifiaduron llechen o’r neilltu pan fydd hi’n amser mynd at swyddog Llu’r Ffiniau
  • arhoswch gyda’ch gilydd pan fyddwch yn teithio fel teulu neu grŵp

Gallwch ddefnyddio eGatiau awtomatig mewn rhai meysydd awyr os oes gan eich pasbort ‘sglodyn’ arno. Mae hyn yn gyflymach na’r sianeli eraill fel arfer.

Symbol biometrig pasbort.

Passport biometric symbol.

Gallwch ddefnyddio eGatiau:

  • os oes gennych symbol biometrig ar glawr eich pasbort
  • os ydych yn 10 oed a throsodd (rhaid i bobl ifanc 10 i 17 oed fod yng nghwmni oedolyn)
  • os ydych naill ai:
    • yn ddinesydd Prydeinig
    • yn wladolyn un o wledydd yr UE, Awstralia, Canada, Gwlad yr Iâ, Japan, Liechtenstein, Seland Newydd, Norwy, Singapore, De Korea, y Swistir neu UDA
    • yn aelod o’r Gwasanaeth Teithwyr Cofrestredig

Os nad oes gan eich pasbort ‘sglodyn’ sy’n caniatáu i chi ddefnyddio eGât, bydd angen i’ch pasbort gael ei wirio gan swyddog Llu’r Ffiniau wrth y ddesg fewnfudo.

Llu Ffiniau llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am reoli’r ffiniau. Mae’n fater o ddiogelwch gwladol ac nid cyfrifoldeb eich cwmni hedfan neu’r maes awyr yw hyn.

Darllenwch ynglŷn â sut i deithio’n gyflymach drwy ffin y DU.

Darllenwch ynglŷn â dod i’r DU drwy’r man rheoli ffiniau.

Tollau’r DU

Mae’r hyn y gallwch chi ei ddod gyda chi i’r DU yn dibynnu ar y man rydych yn teithio ohono.

Darllenwch ynglŷn â dod â nwyddau i’r DU at ddefnydd personol.

Rhaid i chi ddatgan wrth swyddogion y tollau:

  • unrhyw beth dros eich lwfans ddi-doll
  • nwyddau sydd wedi’u gwahardd neu eu hatal yn y DU
  • nwyddau rydych yn bwriadu eu gwerthu
  • mwy na £10,000 (neu swm cyfwerth) mewn arian parod, os ydych yn dod o’r tu allan i’r UE

Darllenwch am fynd ag arian parod i mewn ac allan o’r DU.

Rhaid i chi ddatgan nwyddau masnachol o bob math. Nid oes lwfansau personol ar gyfer nwyddau rydych yn dod â nhw i’r DU i’w gwerthu neu eu defnyddio yn eich busnes.

Darllenwch ganllawiau Cyllid a Thollau EF ynglŷn â dod â nwyddau masnachol i Brydain Fawr.

Mae’n bosibl y cewch chi a’ch bagiau eu harchwilio am unrhyw beth y mae’n rhaid i chi ei ddatgan.

Darllenwch am archwilio bagiau.

4.  Beth os bydd pethau’n mynd o chwith?

Mae’r rhan fwyaf o hediadau yn mynd yn eu blaenau yn gwbl ddidrafferth, neu heb fawr o drafferth. Yn anffodus, mae pethau’n mynd o chwith weithiau, ac mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth yw eich hawliau pan fydd hyn yn digwydd:

Gall fod yn rhwystredig iawn os nad yw pethau wedi mynd yn unol â’r disgwyl ar eich taith. Os byddwch yn cael problemau pan fyddwch yn teithio mewn awyren, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, mae gennych hawliau i sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth glir, cymorth tra byddwch yn aros, ad-daliadau cyflym neu hediadau eraill, ac mewn rhai achosion, iawndal ychwanegol.

Gan ddibynnu sut a pha wasanaethau teithio rydych wedi eu harchebu a beth sydd wedi digwydd, bydd gennych wahanol hawliau a bydd gwahanol weithredwyr yn gyfrifol am yr hawliau hynny. Mae’r canllaw hwn yn ymwneud â’ch hawliau pan fyddwch yn teithio mewn awyren, ac o ganlyniad, yn canolbwyntio ar yr hawliau y bydd eich cwmni hedfan yn eu rhoi i chi yn ystod unrhyw darfu ar eich taith. Fodd bynnag, os oes gennych hawliau eraill, er enghraifft, oherwydd eich bod wedi archebu gwyliau pecyn, amlinellir y rhain isod hefyd.

Os bydd unrhyw beth yn tarfu ar eich hediad a’ch bod wedi archebu gwyliau pecyn, dywedwch wrth drefnydd y pecyn. Mae trefnydd eich pecyn yn gyfrifol am eich gwyliau cyfan, ac mae angen iddo wybod os oes rhywbeth yn tarfu ar wasanaethau. Mae’n bwysig gwneud hyn ar unwaith er mwyn iddo allu rheoli agweddau eraill ar eich archeb.

Mae’r wybodaeth a ganlyn yn berthnasol i hediadau sy’n dod dan gyfraith y DU yn unig. Mae’n gymwys i bob hediad o’r fath, sut bynnag y gwnaethoch chi archebu’r hediad. I fod yn gymwys, rhaid i’ch hediad naill ai:

  • adael maes awyr yn y DU gydag unrhyw gwmni hedfan
  • cyrraedd maes awyr yn y DU gyda chwmni hedfan o’r UE neu’r DU
  • cyrraedd maes awyr yn yr UE gyda chwmni hedfan o’r DU

4.1 Eich hawl i wybodaeth gan eich cwmni hedfan

Os byddwch yn cael problemau gyda’ch hediad, er enghraifft oedi neu ganslo, neu os nad ydych yn cael mynd ar yr awyren (hynny yw, mae’r hediad yn gadael ond rydych chi’n cael eich atal rhag hedfan er eich bod wedi cyrraedd y gât gadael mewn da bryd), rhaid i gwmnïau hedfan roi gwybodaeth i chi am eich hawliau o ran cymorth, ad-daliadau ac iawndal.

Dylai’r wybodaeth gael ei rhoi yn fuan a dylai fod ar ffurf hysbysiad ysgrifenedig. Yn aml bydd hyn drwy ebost (ond efallai na fydd hyn yn bosibl, er enghraifft, os yw’r oedi neu’r canslo yn digwydd yn agos iawn at yr amser gadael) a dylid ei rhoi i chi wrth y ddesg gofrestru os ydych yn y maes awyr.

Rhaid i’r wybodaeth amlinellu’r rheolau ar gyfer cymorth, ad-daliadau ac iawndal a dylai fod ar gael i bob teithiwr y mae ei hediad yn cael ei ganslo, sy’n profi oedi o 2 awr o leiaf, neu nad yw’n cael mynd ar awyren. Rhaid i gwmnïau hedfan sicrhau bod y wybodaeth hon yn cael ei darparu mewn fformat sy’n hygyrch i bob teithiwr.

Disgwyliadau rhesymol ynglŷn â derbyn gwybodaeth gan eich cwmni hedfan

Mae’r llywodraeth yn disgwyl i bob cwmni hedfan sicrhau, wrth roi gwybodaeth i deithwyr ynglŷn â’u hawliau pan fydd rhywbeth yn amharu ar eu taith, bod y wybodaeth yn cael ei darparu yn gyflym a’i bod mor hawdd ag sy’n bosibl i’w dilyn. Dylai hyn gynnwys darparu dolen glir i’r dudalen berthnasol ar y we er mwyn hawlio ad-daliad ac iawndal os nad yw hynny’n digwydd yn awtomatig.

Mae’r llywodraeth yn disgwyl i’r diwydiant ddefnyddio ymarfer da a sicrhau bod gwybodaeth ynglŷn â sut i gwyno hefyd ar gael yn rhwydd ar wefannau ac apiau cwmnïau hedfan a meysydd awyr.

Mae hefyd yn ymarfer da i gwmnïau hedfan a meysydd awyr ddarparu gwybodaeth am unrhyw gyrff datrys anghydfod eraill y maent yn aelodau ohonynt. Mae’n ofynnol iddynt hysbysu teithwyr sut i gysylltu â chyrff o’r fath os na allwch ddod i gytundeb â’r cwmni hedfan neu’r maes awyr.

4.2 Eich hawliau os caiff eich hediad ei ddal yn ôl

Os caiff eich hediad ei ddal yn ôl am gyfnod sylweddol, mae gennych hawl i ofal a chymorth tra byddwch yn aros am eich hediad.

Os byddwch dros 3 awr yn hwyr yn cyrraedd eich cyrchfan derfynol, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i iawndal hefyd.

Mae’r wybodaeth yn yr adran hon hefyd yn gymwys os bydd oedi â hediad yn golygu eich bod yn colli hediad cysylltu.

Gofal a chymorth os bydd hediad yn cael ei ddal yn ôl yn sylweddol

Os bydd eich hediad yn cael ei ddal yn ôl yn sylweddol, mae gennych hawl i ofal a chymorth gan eich cwmni hedfan nes byddwch yn gallu hedfan. Mae hyn yn cynnwys prydau bwyd a lluniaeth, ffordd o gyfathrebu (yn aml drwy ad-dalu cost eich galwadau), llety dros nos, os oes angen, a chludiant i’r llety hwnnw ac oddi yno.

Mae eich hawl i dderbyn gofal a chymorth yn dibynnu ar hyd eich hediad ac am faint o amser y mae wedi cael ei ddal yn ôl.

Tabl 1: Gofal a chymorth ar gyfer hediadau wedi’u dal yn ôl am gyfnod sylweddol
Hyd yr hediad Amser aros
Hediad pellter byr o lai na 1500km (e.e. Glasgow i Amsterdam) Mwy na 2 awr
Hediad pellter canolig o 1500km – 3500km (e.e. Dwyrain Canolbarth Lloegr i Marrakesh) Mwy na 3 awr
Hediad pellter hir sydd dros 3500km (e.e. Llundain i Efrog Newydd) Mwy na 4 awr

O bryd i’w gilydd, os bydd rhywbeth mawr yn tarfu ar yr hediad, mae’n bosibl na fydd cwmnïau hedfan yn gallu trefnu’r gofal a’r cymorth hwn. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y gofynnir i chi wneud eich trefniadau rhesymol eich hun, yna hawlio’r gost yn ôl gan eich cwmni hedfan.

Os byddwch yn gorfod talu am bethau o’ch poced eich hun, cadwch bob derbynneb a chofiwch mai dim ond costau rhesymol all fod yn gymwys ar gyfer ad-daliad. Er enghraifft, nid yw cwmnïau hedfan yn debygol o roi ad-daliad i chi am bethau fel gwestai moethus neu alcohol. Dylai cwmnïau hedfan ddarparu canllawiau ynglŷn â beth sy’n gostau rhesymol yn yr amgylchiadau hyn. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, holwch eich cwmni hedfan.

Iawndal am oedi â hediadau

Rhaid i gwmnïau hedfan roi iawndal i chi os bydd eich hediad yn cyrraedd ei gyrchfan fwy na 3 awr yn hwyr ac nad yw’r oediad wedi’i achosi gan amgylchiadau eithriadol.

Darllenwch fwy am amgylchiadau eithriadol.

Mae swm yr iawndal sydd ar gael yn dibynnu ar hyd eich hediad.

Tabl 2: Iawndal am oedi â hediad
Hyd hediad Iawndal
Hediad pellter byr o lai na 1500km (e.e. Glasgow i Amsterdam) £220
Hediad pellter canolig o 1500km – 3500km (e.e. Dwyrain Canolbarth Lloegr i Marrakesh) £350
Hediad pellter hir sydd dros 3500km (e.e. Llundain i Efrog Newydd) £520 neu £260 os byddwch yn cyrraedd eich cyrchfan ag oediad o lai na 4 awr

Oedi sydd dros 5 awr

Os yw’r oediad yn fwy na 5 awr, rhaid i’ch cwmni hedfan gynnig ad-daliad i chi cyn pen 7 niwrnod a hediad yn ôl i’ch man gadael cyntaf, lle bo’n gymwys. Mae’n bosibl mai talu ad-daliad mewn talebau yn unig y bydd y cwmni hedfan yn ei wneud os byddwch yn cytuno â hyn.

Os gwnaethoch chi golli eich hediad cysylltu oherwydd bod eich hediad cyntaf wedi cael ei ddal yn ôl, mae gennych hawl i hediad yn ôl i’ch man gadael gwreiddiol.

Os ydych yn dewis dal i gymryd yr hediad ar ôl oediad o 5 awr neu fwy, gallwch hawlio ad-daliad fel y nodir uchod.

4.3 Eich hawliau os caiff eich hediad ei ganslo

Os caiff eich hediad ei ganslo, mae gennych hawl i ad-daliad llawn neu hediad arall. Yn ogystal, os byddwch yn dewis hediad arall a’ch bod yn aros yn y maes awyr, mae gennych hawl i ofal a chymorth. Mewn rhai amgylchiadau, gan ddibynnu ar y cyfnod hysbysu ynglŷn â’r canslad a hyd unrhyw oedi cyn cael hediad arall, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i iawndal ychwanegol.

Ad-daliad neu ailgyfeirio

Os caiff eich hediad ei ganslo gan y cwmni hedfan (beth bynnag oedd y rheswm dros ganslo), mae gennych hawl i ddewis rhwng:

  • ad-daliad, yn cael ei dalu cyn pen 7 niwrnod a hediad yn ôl i’r man gadael cyntaf cyn gynted ag y bo modd (lle bo’n gymwys) neu
  • cael eich ailgyfeirio dan amodau tebyg – gall hyn gynnwys â chwmni hedfan arall neu ddull gwahanol o deithio

Gofal a chymorth

Os ydych yn aros yn y maes awyr am hediad arall, rhaid i’r cwmni hedfan ddarparu gofal a chymorth i chi nes byddwch yn hedfan. Mae hyn yn cynnwys prydau bwyd a lluniaeth a ffordd i chi gyfathrebu (yn aml drwy ad-dalu cost eich galwadau). Os yw’r canslad neu’r oedi yn golygu arhosiad dros nos mae gennych hawl i lety mewn gwesty a chludiant rhwng y maes awyr a’r llety.

O bryd i’w gilydd, os bydd rhywbeth mawr yn tarfu ar yr hediad, mae’n bosibl na fydd cwmnïau hedfan yn gallu trefnu’r gofal a’r cymorth hwn. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y gofynnir i chi wneud eich trefniadau rhesymol eich hun, yna hawlio’r gost yn ôl gan eich cwmni hedfan.

Os byddwch yn gorfod talu am bethau o’ch poced eich hun, cadwch bob derbynneb a chofiwch mai dim ond costau rhesymol all fod yn gymwys ar gyfer ad-daliad. Er enghraifft, nid yw cwmnïau hedfan yn debygol o roi ad-daliad i chi am bethau fel gwestai moethus neu alcohol. Dylai cwmnïau hedfan ddarparu canllawiau ynglŷn â beth sy’n gostau rhesymol yn yr amgylchiadau hyn. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, holwch eich cwmni hedfan.

Iawndal am ganslo hediadau

Yn ogystal ag ad-daliad neu hediad arall, efallai y bydd gennych hawl i iawndal hefyd. Mae hyn yn gymwys:

  • os cafodd eich hediad ei ganslo cyn pen 14 diwrnod o’r amser yr oeddech i fod i adael
  • cyn belled na chafodd yr hediad ei ganslo oherwydd amgylchiadau eithriadol

Darllenwch fwy am amgylchiadau eithriadol.

Mae rhai achosion lle na fyddai iawndal ar gael, hyd yn oed pe bai’r hediad wedi’i ganslo cyn pen 14 diwrnod. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cawsoch eich hysbysu ynglŷn â’r canslad rhwng 7 ac 14 diwrnod cyn yr adeg yr oeddech i fod i adael a chawsoch gynnig hediad arall a oedd yn golygu eich bod yn gadael dim mwy na 2 awr cyn yr amser yr oeddech i fod i adael, ac yn cyrraedd eich cyrchfan derfynol cyn pen 4 awr ar ôl yr amser yr oeddech i fod i gyrraedd
  • cawsoch eich hysbysu ynglŷn â’r canslad lai na 7 niwrnod cyn yr amser yr oeddech i fod i adael a chawsoch gynnig hediad arall a oedd yn golygu eich bod yn gadael dim mwy nag 1 awr cyn yr amser yr oeddech i fod i adael, ac yn cyrraedd eich cyrchfan derfynol cyn pen 2 awr ar ôl yr amser yr oeddech i fod i gyrraedd

Mae swm yr iawndal yn dibynnu ar hyd eich hediad ac amser yr hediad arall a gynigir i chi.

Tabl 3: Iawndal am hysbysiad 7 i 14 diwrnod cyn canslo hediad
Hyd hediad Hyd y tarfu Iawndal
Hediad pellter byr o lai na 1,500km (e.e. Glasgow i Amsterdam) Cyrraedd y gyrchfan derfynol 2 awr neu fwy yn ddiweddarach £220
Hediad pellter byr o lai na 1,500km (e.e. Glasgow i Amsterdam) Cyrraedd y gyrchfan derfynol lai na 2 awr yn ddiweddarach £110
Hediad pellter canolig o 1,500km – 3,500km (e.e. Dwyrain Canolbarth Lloegr i Marrakesh) Yn cychwyn fwy na 2 awr cyn eich hediad gwreiddiol, ac yn cyrraedd y gyrchfan derfynol 3 awr neu fwy yn ddiweddarach £350
Hediad pellter canolig o 1,500km – 3,500km (e.e. Dwyrain Canolbarth Lloegr i Marrakesh) Yn cychwyn 2 awr cyn eich hediad gwreiddiol, ac yn cyrraedd y gyrchfan derfynol lai na 3 awr yn ddiweddarach £175
Hediad pellter hir o dros 3,500km (e.e. Llundain i Efrog Newydd) Cyrraedd y gyrchfan derfynol 4 awr neu fwy yn ddiweddarach £520
Hediad pellter hir o dros 3,500km (e.e. Llundain i Efrog Newydd) Yn cychwyn lai nag 1 awr cyn eich hediad gwreiddiol, ac yn cyrraedd y gyrchfan derfynol lai na 4 awr yn ddiweddarach £260
Tabl 4: Iawndal am lai na 7 niwrnod o rybudd cyn canslo hediad
Hyd hediad Hyd y tarfu Iawndal
Hediad pellter byr o lai na 1,500km (e.e. Glasgow i Amsterdam) 2 awr neu fwy yn y gyrchfan derfynol £220
Hediad pellter canolig o 1,500km – 3,500km (e.e. Dwyrain Canolbarth Lloegr i Marrakesh) 3 awr neu fwy yn y gyrchfan derfynol £350
Hediad pellter hir o dros 3,500km (e.e. Llundain i Efrog Newydd) 4 awr neu fwy yn y gyrchfan derfynol £520
Hediad pellter hir o dros 3,500km (e.e. Llundain i Efrog Newydd) Llai na 4 awr yn y gyrchfan derfynol £260

4.4 Amgylchiadau eithriadol 

Weithiau mae oedi hir neu gansladau yn digwydd oherwydd ‘amgylchiadau eithriadol’. Mae hyn yn golygu bod yr oedi wedi’i achosi gan rywbeth y tu hwnt i reolaeth y cwmni hedfan, a bod y cwmni hedfan wedi cymryd pob cam rhesymol i osgoi’r tarfu. 

Nid oes rhestr bendant o amgylchiadau eithriadol, ond mae’r enghreifftiau yn cynnwys: atal hediadau oherwydd tywydd gwael, canslo/oedi oherwydd penderfyniadau rheoli traffig awyr, trychinebau naturiol, aderyn yn taro awyren neu ansefydlogrwydd gwleidyddol. 

Os caiff oedi hir neu ganslo ei achosi gan amgylchiadau eithriadol, ni fydd iawndal ar gael i deithwyr. Os nad ydych yn siŵr beth yw’r rheswm dros ganslo neu oedi, cysylltwch â’ch cwmni hedfan i ddechrau.

4.5 Eich hawliau os bydd gormod o seddi wedi’u harchebu ar gyfer eich hediad ac nad ydych yn cael mynd ar yr awyren

Weithiau mae cwmnïau hedfan yn derbyn mwy o archebion ar gyfer hediad nag sydd yna o seddi, sy’n golygu ar adegau prin iawn, y gall teithiwr gael ei atal rhag mynd ar yr awyren er nad yw wedi gwneud dim o’i le.

Gallai hyn fod am nifer o resymau. Er enghraifft, mae rhai cwmnïau hedfan yn derbyn gormod o archebion ar gyfer eu hediadau gan fod rhai pobl yn archebu lle ond ddim yn cyrraedd yn y diwedd, neu efallai y bydd angen i gwmni hedfan ddefnyddio awyren lai nag a fwriadwyd. Mae hyn yn wahanol i achosion pan gaiff teithwyr eu hatal rhag mynd ar yr awyren am resymau rhesymol, er enghraifft ymddygiad sy’n tarfu ar bobl eraill, dogfennau anghywir, neu resymau diogelwch.

Os bydd gormod o bobl yn cyrraedd ar gyfer yr hediad, rhaid i gwmnïau hedfan ofyn am wirfoddolwyr i ddechrau. Mae hyn yn golygu y gellid gofyn i chi ildio eich sedd yn wirfoddol yn gyfnewid am fuddion y cytunir arnynt rhyngoch chi a’r cwmni hedfan, er enghraifft talebau. Yn ogystal, byddai gennych hawl i ddewis rhwng ad-daliad cyn pen 7 niwrnod neu gael eich ailgyfeirio dan amgylchiadau tebyg.

Os na fydd digon o bobl yn gwirfoddoli, gall y cwmni hedfan wrthod cludo teithwyr heb ofyn a ydynt yn cytuno. Mae rhai pobl yn cyfeirio at hyn fel cael ‘hergwd’ oddi ar hediad.

Os bydd hyn yn digwydd i chi, dan gyfraith y DU mae gennych hawl i:

  • ddewis rhwng ad-daliad cyn pen 7 niwrnod neu gael eich ailgyfeirio dan amodau tebyg (gallai hyn gynnwys â chwmni hedfan arall neu ddull gwahanol o deithio)
  • gofal a chymorth megis prydau bwyd a lluniaeth a llety dros nos os oes angen, cyn belled eich bod wedi cofrestru ar gyfer eich hediad mewn pryd
  • iawndal

Mae swm yr iawndal yn dibynnu ar hyd eich hediad ac amser yr hediad arall a gynigir i chi.

Tabl 5: Iawndal os bydd gormod o archebion ar gyfer eich hediad ac nad ydych yn cael mynd ar yr awyren

Hyd hediad Hyd y tarfu Iawndal
Hediad pellter byr o lai na 1,500km (e.e. Glasgow i Amsterdam) Cyrraedd y gyrchfan derfynol 2 awr neu fwy yn ddiweddarach £220
Hediad pellter byr o lai na 1,500km (e.e. Glasgow i Amsterdam) Cyrraedd y gyrchfan derfynol lai na 2 awr yn ddiweddarach £110
Hediad pellter canolig o 1,500km – 3,500km (e.e. Dwyrain Canolbarth Lloegr i Marrakesh) Cyrraedd y gyrchfan derfynol 3 awr neu fwy yn ddiweddarach £350
Hediad pellter canolig o 1,500km – 3,500km (e.e. Dwyrain Canolbarth Lloegr i Marrakesh) Cyrraedd y gyrchfan derfynol lai na 3 awr yn ddiweddarach £175
Hediad pellter hir o dros 3,500km (e.e. Llundain i Efrog Newydd) Cyrraedd y gyrchfan derfynol 4 awr neu fwy yn ddiweddarach £520
Hediad pellter hir o dros 3,500km (e.e. Llundain i Efrog Newydd) Cyrraedd y gyrchfan derfynol lai na 4 awr yn ddiweddarach £260

Canslo, oedi ac atal rhag mynd ar awyren os ydych wedi archebu gwyliau pecyn

Os ydych wedi archebu pecyn a oedd yn cynnwys hediad, mae gennych hawl o hyd i’r hawliau a amlinellwyd uchod gan eich cwmni hedfan os caiff yr hediad ei ganslo, neu ei ddal yn ôl am gyfnod sylweddol, neu os nad ydych yn cael mynd ar yr awyren.

Os caiff eich hediad ei ganslo neu ei ddal yn ôl a’ch bod wedi archebu gwyliau pecyn, efallai y bydd y cwmni hedfan yn hysbysu trefnydd eich pecyn, a fydd yn cysylltu â chi ymlaen llaw ac yn aildrefnu eich hediadau neu’n canslo ac yn ad-dalu eich pecyn. Os bydd y cwmni hedfan yn cysylltu â chi yn uniongyrchol, cysylltwch â threfnydd eich pecyn a gadewch iddo wybod am unrhyw opsiynau eraill a gynigiwyd i chi. Mae hyn er mwyn i’r cwmni allu eich helpu chi a rheoli agweddau eraill ar eich pecyn.

Yn ogystal, os na ellir aildrefnu eich hediad, a bod eich gwyliau yn cael ei ganslo neu bod trefniadau newydd yn golygu bod eich gwyliau wedi’i newid yn sylweddol (a fydd yn dibynnu ar yr amgylchiadau), yna rhaid i drefnydd eich pecyn gynnig ad-daliad i chi. Efallai hefyd y bydd trefnydd y pecyn yn penderfynu cynnig yr opsiwn o becyn arall i chi o’r un ansawdd neu o ansawdd gwell, neu becyn arall o ansawdd is am bris is.

Dylech siarad â threfnydd eich pecyn cyn gynted ag y bo modd os oes unrhyw beth yn tarfu ar eich hediad.

4.6 Beth i’w wneud os byddwch yn colli eich hediad cysylltu

Dylech siarad â’ch cwmni hedfan os yw’r hediad rydych wedi’i archebu yn cynnwys hediadau cysylltu (wedi’u harchebu i gyd gyda’i gilydd fel un archeb) a’ch bod wedi colli eich hediad cysylltu:

  • oherwydd bod eich hediad blaenorol wedi cael ei ddal yn ôl
  • oherwydd bod eich hediad blaenorol wedi cael ei ganslo
  • oherwydd oedi cyn cael cymorth hygyrchedd

Dylai eich cwmni hedfan helpu i drefnu hediad arall er mwyn i chi allu parhau â’ch taith.

Os ydych wedi archebu hediadau ar wahân sydd ar archebion gwahanol, efallai na fydd y cwmnïau hedfan yn gallu eich helpu yn y sefyllfaoedd uchod.

Tarfu ar eich taith oherwydd oedi cyn cael cymorth hygyrchedd

Os byddwch yn colli eich hediad neu eich cysylltiad oherwydd oedi cyn cael cymorth arbennig, siaradwch â’ch cwmni hedfan a all helpu i wneud trefniadau i sicrhau eich bod yn gallu parhau â’ch taith.

Os oes gennych bryderon ynglŷn â darparu cymorth hygyrchedd, cysylltwch â’r maes awyr sy’n gyfrifol am ddarparu’r gwasanaeth hwn.

4.7 Eich hawliau a beth i’w wneud os bydd eich bagiau ar goll, wedi’u difrodi neu wedi’u dal yn ôl

Nid yw’n debygol iawn, ond os digwydd i’ch bag beidio â chyrraedd yr ystafell fagiau, neu os bydd wedi ei ddifrodi, mae’n hanfodol eich bod yn dweud wrth eich cwmni hedfan pan fyddwch yn cyrraedd y maes awyr rydych yn hedfan iddo. Mae gan y rhan fwyaf o’r cwmnïau hedfan ddesg bagiau ddynodedig yn yr ardal casglu bagiau.

Efallai y bydd arnoch eisiau cynnwys yswiriant ar gyfer blerwch wrth drin bagiau yn eich yswiriant teithio.

Ambell waith gall bagiau gael eu dal yn ôl, yn enwedig os bu’n rhaid i chi newid awyren yn ystod eich taith.

Os bydd eich bag wedi cael ei ddal yn ôl, bydd angen i chi gysylltu â staff y cwmni hedfan ar unwaith i roi disgrifiad er mwyn iddynt allu dod o hyd i’ch bag. Dylech ddangos y dderbynneb a gawsoch ar gyfer eich bag wrth gofrestru (pen tag y bag), sy’n dangos cod adnabod rhyngwladol y bag. Efallai y byddai’n fuddiol cael llun o’ch bag ar eich ffôn rhag ofn i rywbeth ddigwydd iddo.

Bydd llawer o gwmnïau hedfan yn rhoi ad-daliad i chi am bethau hanfodol y mae’n rhaid i chi eu prynu pan fydd eich bag wedi cael ei ddal yn ôl. Os ydych oddi cartref gallai hyn gynnwys nwyddau ymolchi hanfodol, dillad isaf a chostau golchi dillad. Cofiwch gadw derbynebau.

Os caiff eich bagiau eu colli neu eu difrodi, bydd cwmnïau hedfan yn atebol am eich colledion, gan ddibynnu ar werth y bag a gollwyd a hyd at uchafswm o tua £1,300.

Os caiff eich bag ei ddifrodi neu ei golli, mae angen i chi gyflwyno hawliad ysgrifenedig i’r cwmni hedfan.

Ar gyfer difrod, mae angen i chi wneud hyn cyn pen 7 niwrnod.

Ar gyfer bagiau sydd wedi’u dal yn ôl, y terfyn amser ar gyfer yr hawliad yw 21 diwrnod. Caiff bag ei ystyried yn fag sydd wedi’i golli ac nad oes modd dod o hyd iddo ar ôl treulio 21 diwrnod yn chwilio amdano, a gellir cyflwyno hawliad ar ôl hynny.

Bydd yn rhaid i chi ddangos bod eich bag a’i gynnwys yn werth y swm rydych yn ei hawlio drwy ddarparu prawf o’i brynu. Tynnir dibrisiant fel y gwêl y cwmni hedfan orau.

Darllenwch am ddatrys problemau bagiau wedi’u colli a’u difrodi.

4.8 Eich hawliau a beth i’w wneud os caiff eich cyfarpar symudedd eu difrodi neu eu colli

Mae cwmnïau hedfan a meysydd awyr yn cymryd difrod neu golli cyfarpar symudedd o ddifri a byddant yn gwneud beth bynnag y gallant i helpu.

Os caiff eich cyfarpar symudedd eu colli neu eu difrodi, siaradwch â’ch cwmni hedfan a’r maes awyr ar unwaith er mwyn iddynt allu gwneud trefniadau i’ch helpu. Gall hyn gynnwys darparu cyfarpar dros dro i chi, trefnu cludiant ymlaen, trefnu gwaith atgyweirio, a darparu iawndal lle bo’n gymwys.

Efallai y byddech yn hoffi tynnu llun o’ch cyfarpar cyn iddo gael ei lwytho i’r awyren ac o unrhyw ddifrod a achoswyd, y gallwch ei rannu gyda’r cwmni hedfan a’r maes awyr.

Os caiff cadeiriau olwyn neu gyfarpar symudedd eraill eu colli neu eu difrodi wrth gael eu symud yn y maes awyr neu eu cludo i’r awyren, rhaid i’r cwmni hedfan roi iawndal i chi. Mae hyn wedi’i gyfyngu i tua £1,300. Efallai y byddech yn hoffi cael yswiriant ar gyfer eich cyfarpar symudedd.

Gallwch hefyd wneud cwyn os oes angen.

4.9 Ansolfedd cwmni hedfan neu drefnydd pecyn

Ar adegau prin iawn, gall y cwmni hedfan neu’r cwmni rydych wedi archebu gydag ef fynd yn fethdalwr a rhoi’r gorau i fasnachu cyn i chi deithio, neu tra byddwch dramor.

Bydd swm eich amddiffyniad ariannol yn dibynnu ar y canlynol:

  • a wnaethoch brynu’r hediadau ar wahân i weddill eich gwyliau neu drip
  • a wnaethoch brynu’r hediad fel rhan o becyn, fel arfer drwy asiant teithio neu drefnydd taith
  • eich dull o dalu

Fel arfer, bydd gwyliau pecyn sy’n cynnwys hediad (er enghraifft, hediad a gwesty) wedi ei ddiogelu dan gynllun Trwyddedu Trefnwyr Teithio Awyr (ATOL).

Os oes gan eich hediad amddiffyniad ATOL

Os nad ydych wedi teithio eto, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais i’r CAA am ad-daliad dan y cynllun ATOL.

Os byddwch dramor ar adeg methiant y cwmni awyr neu’r trefnydd, efallai y gall y CAA eich helpu i ddod gartref i’r DU.

Ewch â’ch Tystysgrif ATOL gyda chi ar eich trip a chadwch hi’n ddiogel. Mae’n egluro pa amddiffyniad sydd gennych a beth i’w wneud os bydd trefnydd y daith yn mynd yn fethdalwr ac yn rhoi’r gorau i fasnachu.

Darllenwch am amddiffyniad ATOL.

Os nad ydych yn siŵr a oes gennych amddiffyniad ATOL

Os gwnaethoch archebu hediad ar ei ben ei hun yn uniongyrchol gan gwmni hedfan â gwasanaethau rheolaidd sy’n mynd yn fethdalwr yn dilyn hynny, mae’n bosibl na fydd gennych amddiffyniad ATOL. Mae’n bosibl y bydd eich yswiriant teithio chi yn gymwys ar gyfer methiant cwmni hedfan.

Os gwnaethoch archebu eich hediad drwy asiant teithio, dylech ofyn i’r asiant a oedd gan eich hediad amddiffyniad ATOL, neu a oes ganddo yswiriant methiant cwmni hedfan â gwasanaethau rheolaidd.

Os oes gennych yswiriant teithio, mae’n bosibl y bydd y sawl sy’n eich yswirio yn talu costau nad ydynt yn dod dan ATOL. Darllenwch eich polisi a chysylltwch â’ch cwmni yswiriant.

Os gwnaethoch dalu â cherdyn

Os gwnaethoch archebu gwyliau pecyn neu hediad â cherdyn credyd, a bod y gost yn fwy na £100, bydd eich archeb yn cael ei diogelu’n gyfreithiol dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr.

Gall taliadau cerdyn credyd dan £100, a phob pryniant cerdyn debyd o unrhyw werth, roi hawliau ad-daliad i chi dan gynlluniau ‘chargeback’ y diwydiant cardiau.

Darllenwch am ‘chargeback’.

Os oes gennych amddiffyniad ATOL, darllenwch wefan CAA i gael mwy o wybodaeth. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, gall y CAA roi cymorth uniongyrchol i chi, neu eich cyfeirio at eich banc neu’r sawl a roddodd y cerdyn i chi.

Darllenwch am amddiffyniad ATOL.

Os nad oes gennych amddiffyniad ATOL, cysylltwch â’ch banc neu’r sawl a roddodd y cerdyn i chi i ddarganfod a allwch wneud hawliad dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr neu gynlluniau ‘chargeback’.

Os gallwch hawlio dan yswiriant teithio a hefyd gan eich banc neu’r sawl a roddodd y cerdyn i chi, dylai eich darparwr yswiriant a’r banc eich helpu i weld beth yw eich opsiynau.

Os nad ydych yn hapus â’ch banc, y sawl a roddodd y cerdyn i chi neu eich cwmni yswiriant teithio, rhaid i bob cwmni ariannol ac yswiriant ganiatáu i chi wneud cwyn ffurfiol a dweud wrthych sut i wneud un. Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd y maent wedi ymdrin â’r gŵyn neu eu penderfyniad, yna gallwch gyflwyno eich cwyn i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.

4.10 Sut i wneud cwyn

Dan gyfraith y DU, mae gennych hawl i hawlio iawndal mewn nifer o amgylchiadau, fel y nodwyd yn yr adrannau uchod.

Nid oes proses hawlio safonol, felly cysylltwch â’ch cwmni hedfan yn uniongyrchol os ydych yn credu bod gennych hawliad dilys.

Bydd angen i’ch cwmni hedfan gael gwybodaeth fanwl er mwyn prosesu eich hawliad. Mae’n help i ddarparu cymaint o fanylion ag sy’n bosibl, gan gynnwys rhif yr hediad, cyfeirnod yr archeb, y meysydd awyr rydych yn hedfan ohonynt ac iddynt, manylion ynglŷn â ble y digwyddodd y tarfu a gwybodaeth am yr amgylchiadau, er enghraifft hyd yr oedi.

Gall gymryd tipyn o amser i’r cwmni hedfan brosesu eich hawliad os oedd y tarfu’n ddifrifol ac os yw’n prosesu llawer o hawliadau.

Os caiff eich hawliad ei wrthod, dylai’r cwmni hedfan egluro pam. Os nad ydych yn fodlon â’r penderfyniad gallwch uwchgyfeirio eich hawliad fel y nodir isod.

4.11 Datrys problemau a sut i gwyno

Cysylltu â’ch cwmni hedfan neu faes awyr

Dylai’r hawliau a nodir uchod gynnig amddiffyniad i chi pan fydd pethau’n mynd o chwith. Fodd bynnag, os nad ydych yn hapus â’ch profiad, a’ch bod yn teimlo nad yw eich cwmni hedfan neu’r maes awyr wedi cyflawni ei gyfrifoldebau i chi, gallwch wneud cwyn. Mae hyn yn cynnwys os oedd arnoch angen cymorth arbennig ac na chawsoch y cymorth a’r gefnogaeth y gofynasoch amdani.

Os oes gennych gŵyn, dylech gysylltu’n uniongyrchol â’r maes awyr neu’r cwmni hedfan y mae gennych broblem ag ef, neu gyda’r asiant teithio neu’r trefnydd taith a wnaeth archebu eich pecyn. Mae’n bosibl y bydd gan feysydd awyr a chwmnïau hedfan ddulliau gwahanol o gyflwyno cwynion, felly edrychwch ar eu gwefan neu ap, neu ffoniwch eu llinell gwasanaeth i gwsmeriaid. Dylai’r cwmni hedfan wneud y broses o gwyno yn syml ac yn hawdd i gwsmeriaid ei defnyddio.

Ni ddylech orfod talu unrhyw gostau (er enghraifft costau galwadau ffôn cyfradd bremiwm) i ddatrys eich problem.

Dylech gael ymateb cyn pen 8 wythnos, neu ymateb dros dro os oes angen ymchwilio ymhellach i’ch cwyn.

Dylech geisio datrys unrhyw broblemau gyda’r cwmni hedfan, asiant teithio, gweithredwr teithiau neu faes awyr yn uniongyrchol.

Darllenwch awgrymiadau’r CAA ar gyfer cwyno.

Os nad ydych yn fodlon â’r ymateb

Os ydych eisoes wedi cwyno wrth y maes awyr neu’r cwmni hedfan, ac nad ydych yn fodlon â’r ymateb a gawsoch, neu eu bod heb gyfathrebu â chi cyn pen 8 wythnos ar ôl i chi anfon eich cwyn, gallwch roi cynnig ar y canlynol:

  1. cyfeirio eich cwyn at ddarparwr dull amgen o ddatrys anghydfod (ADR) y mae’r cwmni hedfan neu’r maes awyr yn aelod ohono. Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau hedfan y DU a rhai meysydd awyr yn aelodau o ddarparwr ADR
  2. os nad oes gan y maes awyr neu’r cwmni hedfan gytundeb â darparwr ADR, gallwch gyfeirio eich cwyn at y CAA
  3. ar gyfer cwynion sy’n ymwneud â hediadau i Ogledd Iwerddon ac oddi yno cysylltwch â Chyngor Defnyddwyr Gogledd Iwerddon ar 0800 121 6022 neu [email protected]
  4. os ydych yn anfodlon â chanlyniad ADR, gallwch ddewis gwneud achos cyfreithiol uniongyrchol drwy’r llys

Os oes gennych anghydfod na allwch ei ddatrys gydag asiant teithio neu drefnydd teithiau sy’n aelod o’r Gymdeithas Deithio (ABTA), mae gan ABTA hefyd gynllun ADR y gallwch ei ddefnyddio.

Darllenwch sut i ddatrys anghydfod ag aelod o ABTA.

Os nad yw’r asiant teithio neu drefnydd y daith yn aelod o ABTA, cysylltwch â Cyngor ar Bopeth.

Dull amgen o ddatrys anghydfod

Cyflwynwyd dull amgen o ddatrys anghydfod (ADR) fel bod teithwyr yn gallu datrys cwynion yn rhad ac yn gyflym ac osgoi gorfod mynd i’r llys. Mae’r penderfyniad gan ddarparwr ADR yn rhwymo’r cwmni hedfan neu’r maes awyr os byddwch yn derbyn y penderfyniad.

Gallwch gyfeirio eich cwyn at ddarparwr ADR os yw’r maes awyr neu’r cwmni hedfan yn aelod o gynllun ADR ac:

  • nad ydych yn fodlon â’r ymateb rydych wedi ei gael gan eich cwmni hedfan neu’r maes awyr yn dilyn eich cwyn
  • nad ydych wedi derbyn ymateb terfynol cyn pen 8 wythnos ar ôl gwneud eich cwyn gychwynnol

Mae cyrff ADR yn ymdrin â chwynion sy’n ymwneud â’r canlynol:

  • peidio â chael mynd ar awyren, oedi, neu ganslo
  • difrodi neu golli bagiau
  • problemau a wynebir gan deithwyr anabl neu deithwyr sydd ag anawsterau symud
  • unrhyw anghydfodau mwy cyffredinol lle rydych yn teimlo eich bod wedi cael eich camarwain neu’n teimlo bod telerau ac amodau wedi’u torri

Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau hedfan y DU a rhai meysydd awyr yn aelodau o gynllun. Dylai cwmnïau hedfan a meysydd awyr nodi’n glir a ydynt yn aelod o ADR pan fyddwch yn gwneud cwyn.

Gweld rhestr y CAA o feysydd awyr a chwmnïau hedfan sy’n aelodau o gynllun ADR.

Os nad yw eich cwmni hedfan yn aelod o gynllun ADR

Os nad yw’r cwmni hedfan neu’r maes awyr rydych wedi cyflwyno cwyn iddo yn aelod o gynllun ADR, gallwch gyfeirio eich cwyn at Dîm Cyngor a Chwynion Teithwyr (PACT) y CAA . Gall tîm PACT y CAA benderfynu a ydynt yn meddwl bod gennych hawliad dilys a thrafod y mater gyda’r cwmni hedfan neu’r maes awyr dan sylw. Sylwer nad oes sail gyfreithiol i orfodi’r penderfyniadau hynny.

Ni allwch gyfeirio cwyn at y CAA oni bai eich bod wedi cyflwyno cwyn i’ch cwmni hedfan neu faes awyr ac nad ydych yn fodlon â’r canlyniad, neu os ydych wedi gwneud y gŵyn ond heb gael ymateb cyn pen 8 wythnos.

Yr unig gwynion y bydd PACT yn ymdrin â hwy fydd cwynion sy’n ymwneud â’r canlynol:

  • gwrthod mynediad i awyren, oedi, neu ganslo
  • difrodi neu golli eiddo
  • problemau a wynebir gan deithwyr anabl neu deithwyr ag anawsterau symud
  • unrhyw anghydfodau mwy cyffredinol lle rydych yn teimlo eich bod wedi cael eich camarwain neu’n teimlo bod telerau ac amodau wedi cael eu torri

Nid oes gan PACT bwerau cyfreithiol, felly ni fydd unrhyw benderfyniad y byddant yn ei wneud ynglŷn â chanlyniad eich cwyn yn rhwymo’r maes awyr neu’r cwmni hedfan.

Ar gyfer cwynion sy’n ymwneud â hediadau i Ogledd Iwerddon ac oddi yno cysylltwch â Chyngor Defnyddwyr Gogledd Iwerddon.

Achos llys

Os nad ydych wedi gallu datrys eich cwyn gyda’r maes awyr neu gwmni hedfan, ac nad yw corff ADR annibynnol, PACT neu’r Cyngor Defnyddwyr yng Ngogledd Iwerddon wedi gallu ymyrryd yn llwyddiannus, gallwch ddewis mynd â’ch achos i’r llys.

Efallai y byddech yn hoffi gofyn am gyngor cyfreithiol cyn cymryd y cam hwn gan fod hawliadau llys yn gallu bod yn gostus ac yn gallu cymryd amser. Gall cyngor cyfreithiol hefyd fod yn gostus, ond mae rhai opsiynau, er enghraifft, drwy Cyngor ar Bopeth.

5. Hygyrchedd – cymorth i deithwyr anabl a phobl ag anawsterau symud

Yn ogystal â’r hawliau a amlinellwyd yn y canllaw hwn, mae hawliau a gofynion eraill i deithwyr anabl a phobl sydd ag anawsterau symud. Mae’r adran hon yn amlinellu hawliau’r teithwyr hyn a’r pethau y gallai fod angen iddynt eu gwneud a’u hystyried wrth deithio drwy’r awyr:

Mae hawliau cyfreithiol pobl anabl a phobl sydd ag anawsterau symud wedi’u hamlinellu yng nghyfraith y DU. Mae’r hawliau hyn yn ymwneud â phob teithiwr anabl a theithwyr sydd ag anawsterau symud wrth deithio drwy’r awyr.

Ni all cwmni hedfan wrthod gadael i chi hedfan gydag ef oherwydd eich anabledd oni bai fod rhesymau y gellir eu cyfiawnhau dros wneud hynny ar hediad penodol. Gall y rhesymau hyn fod oherwydd diogelwch, neu’r ffaith ei bod yn amhosibl i chi fynd ar yr awyren oherwydd maint yr awyren neu ei drysau. Byddai angen i’ch cwmni hedfan roi manylion y rhesymau hynny yn yr achosion hynny.

Rhaid darparu pob gwybodaeth hanfodol am eich hediad mewn fformat sy’n hygyrch i chi, er enghraifft mewn braille, sain neu brint bras.

5.1 Cymorth hygyrchedd

Cyfeirir at gymorth hygyrchedd yn aml fel cymorth arbennig.

Gall rhai teithwyr brofi heriau wrth geisio canfod eu ffordd o gwmpas amgylchedd y maes awyr a’r cwmni hedfan a bod angen cymorth hygyrchedd i’w helpu i wneud hynny. Yn y DU mae gan deithwyr anabl a phobl sydd ag anawsterau symud hawl gyfreithiol i gymorth hygyrchedd di-dâl sy’n briodol i’w hanghenion, o’r adeg y byddant yn cyrraedd y maes awyr, nes byddwch yn gadael yr awyren yn y maes awyr rydych yn teithio iddo. Gallai hyn gynnwys:

  • help i fynd o’r maes parcio neu’r man gollwng teithwyr i derfynfa’r maes awyr
  • help i gofrestru eich bagiau, gan gynnwys defnyddio mannau gadael bagiau a chiosgau cofrestru hunanwasanaeth
  • help i symud drwy’r maes awyr
  • mynd ar yr awyren a mynd i’ch sedd
  • cymorth yn ystod yr hediad
  • mynd oddi ar yr awyren
  • trosglwyddo rhwng hediadau

Bydd staff y cwmni hedfan yn darparu cymorth â symud i gyfleusterau toiled os oes angen. Ni fyddant yn gallu eich helpu i ddefnyddio cyfleusterau toiled, bwyta neu gymryd meddyginiaeth. Os oes arnoch angen cymorth â’r tasgau hynny, bydd angen i chi ddod â rhywun gyda chi a all ddarparu cymorth i chi.

Efallai y bydd cwmni hedfan yn gofyn i rai teithwyr sydd â gofynion hygyrchedd deithio gyda rhywun arall a all ddarparu cymorth yn ystod yr hediad. Mae hwn yn fesur diogelwch i deithwyr na fyddent yn gallu mynd oddi ar yr awyren ar eu pen eu hunain mewn argyfwng. Bydd eich cwmni hedfan yn darparu manylion i chi pan fydd hyn yn ofynnol, ac mae’n bosibl y bydd yn gwrthod gadael i chi fynd ar yr awyren os nad oes rhywun a all ddarparu cymorth. Bydd angen i’r sawl sy’n dod gyda chi brynu ei docyn teithio ei hun.

Mae’n bosibl y bydd gan wledydd eraill gyfreithiau tebyg sy’n nodi bod gennych hawl i gymorth hygyrchedd. Cysylltwch â’ch cwmni hedfan, asiant teithio neu drefnydd taith i ddarganfod mwy.

Gellir darparu cymorth i:

  • bobl hŷn
  • menywod beichiog sydd ag anawsterau symud
  • pobl â chyflyrau dros dro sy’n gwneud symud yn anodd, er enghraifft, rhywun sydd wedi torri ei goes ac sydd â’i goes mewn cast
  • pobl sydd ag anableddau corfforol, er enghraifft defnyddwyr cadair olwyn neu bobl sydd â nam ar eu golwg neu eu clyw
  • pobl sydd ag anawsterau anweladwy, er enghraifft pobl ag awtistiaeth, gorbryder neu iselder
  • pobl sydd â chyflyrau iechyd cronig, er enghraifft cyflyrau calon, anawsterau anadlu, clefyd Alzheimer neu dementia

Nid yw hon yn rhestr swyddogol. Cysylltwch â’ch cwmni hedfan, asiant teithio neu drefnydd taith cyn gynted ag y bo modd i drafod eich anghenion os ydych yn teimlo y gallai fod arnoch angen cymorth hygyrchedd wrth deithio drwy’r awyr.

Nid oes rhaid i chi ddarparu tystiolaeth feddygol i brofi eich angen am gymorth hygyrchedd. Ni ddylai neb ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o’r fath.

Ar gyfer rhai cyflyrau iechyd, gellir gofyn am brawf eich bod yn ddigon da i hedfan. Mae’n bosibl y bydd ar y cwmni hedfan angen rhagor o fanylion os oes lle i bryderu ar sail diogelwch. Mae hyn yn wahanol i’ch hawl i gymorth hygyrchedd, ac fel arfer bydd yn gais syml am wybodaeth am eich cyflwr.

Trefnu cymorth hygyrchedd wrth archebu a chyn i chi deithio

Os ydych yn meddwl y gallai fod arnoch angen cymorth hygyrchedd wrth deithio drwy’r awyr, mae’n bwysig iawn eich bod yn hysbysu eich cwmni hedfan cyn gynted ag y bo modd ar ôl gwneud eich archeb. Rhowch fanylion ynglŷn â’r cymorth rydych yn meddwl y gallai fod arnoch ei angen yn y maes awyr ac i fynd ar yr awyren, gan gynnwys a fydd arnoch angen cadair olwyn ai peidio.

Dylai’r cymorth fod yn rhywbeth sy’n diwallu eich anghenion ac yn eich helpu i deithio. Er enghraifft, os oes gennych nam bychan, efallai y bydd arnoch angen rhywun i’ch hebrwng drwy derfynfa’r maes awyr, i fynd drwy’r mesurau diogelwch, i ddod o hyd i siopau, tai bwyta a thoiledau, ac i ddod o hyd i’r gât gadael. Os nad ydych yn gallu cerdded yn bell, efallai y byddech yn elwa o ddefnyddio cadair olwyn neu fygi trydan gan y maes awyr i’ch helpu i gyrraedd yr amwynderau a’r gât gadael.

Dylech hysbysu eich cwmni hedfan o leiaf 48 awr cyn i chi deithio. Os na allwch wneud hyn, gadewch i’ch cwmni hedfan wybod beth yw eich gofynion cyn gynted ag y bo modd ar ôl archebu. Bydd yr hysbysiad hwn yn rhoi amser i’r cwmni hedfan wneud trefniadau angenrheidiol ar gyfer yr hediad a rhannu gwybodaeth gyda’r maes awyr.

Gadewch i’ch cwmni hedfan wybod os ydych yn teithio gyda chymhorthion symudedd sy’n gweithio â batri neu gi cymorth cydnabyddedig. Mae hyn yn rhoi amser i’r cwmni wneud gwiriadau ychwanegol a bydd yn lleihau’r tebygolrwydd o oedi pan fyddwch yn cyrraedd y maes awyr.

Bydd y maes awyr yn trefnu bod cymorth hygyrchedd ar gael yn y maes awyr, gan gynnwys eich helpu i fynd ar yr awyren a dod oddi arni a symud unrhyw gyfarpar.

Bydd meysydd awyr a chwmnïau hedfan yn gwneud eu gorau i’ch helpu i wneud eich taith mor ddirwystr a phleserus ag sy’n bosibl. Os na fyddwch yn rhoi rhybudd ymlaen llaw, gall fod yn anodd iddynt ddarparu cymorth wedi’i deilwra i ddiwallu eich anghenion.

Gadewch i’ch cwmni hedfan wybod cyn gynted ag y bo modd os bydd unrhyw beth yn newid cyn eich hediad. Bydd y cwmni’n rhannu’r wybodaeth hon â’r maes awyr, er mwyn sicrhau ei fod yn gallu darparu’r gwasanaeth gorau posibl i chi.

Rhowch fanylion eich gofynion cymorth hygyrchedd pan fyddwch yn archebu hediad drwy asiant teithio neu drefnydd taith. Efallai y gallant ofyn am gymorth hygyrchedd i chi gan y maes awyr a’r cwmni hedfan.

Gwnewch yn siŵr bod eich cwmni hedfan yn gwybod os bydd arnoch angen cymorth yn y wlad rydych yn hedfan iddi. Bydd yn gadael i chi wybod beth sydd ar gael ac yn trefnu hyn i chi. Gallwch hefyd ofyn yn y maes awyr rydych yn hedfan iddo pa gymorth sydd ar gael.

5.2 Cyfarpar symudedd

Gallwch gario hyd at 2 eitem o gyfarpar symudedd yn ddi-dâl, gan gynnwys cymhorthion symudedd sy’n gweithio â batri. Nid yw hyn yn cyfrif fel rhan o’ch lwfans bagiau.

Mae rheoliadau diogelwch cymhleth yn gysylltiedig â chludo cymhorthion symudedd sy’n gweithio â batri. Er mwyn sicrhau bod y cwmni hedfan yn gallu llwytho eich cymhorthion symudedd yn ddiogel i howld cargo yr awyren, dylech roi gwybod iddo cyn gynted ag sy’n bosibl cyn yr hediad ynghylch y canlynol:

  • pwysau a mesuriadau’r cyfarpar, yn ei faint parod-i’w-lwytho lleiaf
  • y math o fatri a’i fesuriadau
  • pa rannau y gellir eu tynnu i ffwrdd, neu na ddylid eu tynnu i ffwrdd, er enghraifft rhannau a allai dorri’n hawdd

Mae rhybudd ymlaen llaw yn rhoi amser i staff y cwmni hedfan ddeall sut i osod cymhorthion symudedd at ei gilydd yn iawn a sut i’w tynnu oddi wrth ei gilydd. Ceisiwch roi gwybodaeth i’r cwmni hedfan ynglŷn â gwerth eich cyfarpar symudedd, a holwch a fydd yswiriant ar ei gyfer pe bai unrhyw ddifrod yn digwydd.

Efallai hefyd y byddech yn hoffi:

  • gwirio gofynion penodol eich cwmni hedfan mewn cysylltiad â chymhorthion symudedd
  • dod â chyfarwyddiadau ysgrifenedig gyda chi sy’n dangos sut i drin a thrafod cymhorthion symudedd
  • tynnu unrhyw ddarnau y gellir eu tynnu i ffwrdd o gymhorthion symudedd a’u pacio ar wahân mewn bag i’w gario gyda chi i helpu i atal colled neu ddifrod
  • trefnu yswiriant teithio ar gyfer eich cymhorthion symudedd rhag ofn i rywbeth gael ei golli neu ei ddifrodi

Darllenwch am eich hawliau os caiff eich cyfarpar symudedd eu colli neu eu difrodi.

Darllenwch am gludo cymhorthion symudedd trydan ar awyrennau (PDF, 346KB, 14 tudalen).

5.3 Cyfarpar meddygol a meddyginiaeth

Mae gennych hawl i gymryd cymaint o feddyginiaeth ag y bydd arnoch ei hangen gyda chi ar eich hediad, ond mae’n bosibl y gofynnir i chi ddarparu tystysgrif gan eich meddyg. Dewch â llythyr gan eich meddyg ar gyfer eich presgripsiynau, oherwydd mae’n bosibl y bydd angen i chi ei ddangos i’r staff diogelwch yn y maes awyr neu i staff y cwmni hedfan.

Dylech wirio gyda’ch cwmni hedfan cyn i chi deithio os oes angen i chi gario mwy o feddyginiaeth hylifol nag y mae’r rheolau diogelwch presennol yn eu caniatáu, neu os oes angen i chi gario nodwyddau neu chwistrellau yn eich bag llaw. Bydd angen i chi ddatgan hynny wrth y swyddogion diogelwch.

Ystyriwch ddod â’ch holl feddyginiaeth yn eich bag llaw rhag ofn y bydd oedi, neu rhag ofn i’ch bagiau fynd ar goll. Bydd hyn yn sicrhau bod y feddyginiaeth y mae arnoch ei hangen wrth law bob amser.

Mae’n anghyfreithlon i ddod â rhai mathau o feddyginiaethau i mewn i rai gwledydd. Dylech wirio â llysgenhadaeth neu uchel gomisiwn y wlad i weld beth yw’r cyfyngiadau.

Gweld rhestr o lysgenadaethau ac uchel gomisiynau yn y DU.

Gallwch hefyd ddod â rhai mathau o gyfarpar meddygol a chyfarpar symudedd ar yr awyren gyda chi. Er enghraifft, baglau neu ddyfeisiau meddygol bach megis peiriannau pwysedd positif parhaus yn y llwybr anadlu (CPAP), nebiwleiddwyr neu beiriannau dialysis cludadwy. Bydd eich cwmni hedfan yn cadarnhau beth y gallwch ddod ag ef ar fwrdd yr awyren gyda chi a beth y bydd yn rhaid ei storio yn yr howld.

Mae’n bosibl y bydd gan gwmnïau hedfan reolau gwahanol ynglŷn â chario ocsigen ar fwrdd yr awyren ac efallai y bydd rhai yn codi tâl am hyn. Os oes arnoch angen ocsigen ar fwrdd yr awyren, mae’n bwysig eich bod yn gwirio polisi ocsigen y cwmni hedfan rydych yn hedfan gydag ef cyn i chi deithio.

Darllenwch am deithio gydag ocsigen.

5.4 Cŵn cymorth cydnabyddedig

Rhaid i gwmnïau hedfan ganiatáu i chi deithio gyda’ch ci cymorth cydnabyddedig yn y caban yn ddi-dâl.

Cysylltwch â’ch cwmni hedfan ymlaen llaw i wirio a ellir cludo eich ci cymorth.

Rhaid i gŵn cymorth fodloni meini prawf penodol i deithio gyda chi yn y caban. Rhaid i chi gael tystiolaeth ddogfennol ardystiedig i brofi hyn.

Mae cwmnïau hedfan y DU fel arfer yn cydnabod cŵn tywys neu gŵn cymorth sydd wedi’u hyfforddi gan sefydliadau sy’n aelodau o naill ai:

Bydd angen i’ch ci cymorth eistedd ar y llawr o flaen y sedd. Siaradwch â’ch cwmni hedfan os ydych yn meddwl na fydd hyn yn bosibl, er enghraifft os yw eich ci yn gi o frîd mawr.

Wrth deithio gyda’ch ci cymorth, mae’r rheolau y bydd yn rhaid i chi eu dilyn yn dibynnu ar y wlad rydych yn mynd iddi neu’n dod ohoni. Cyn i chi deithio, dylech wirio:

Darllenwch am deithio gyda chŵn cymorth.

5.5 Anableddau anweladwy

Os oes gennych anabledd anweladwy, efallai y byddech yn hoffi defnyddio laniard neu fathodyn sy’n dangos i staff yn y maes awyr y gallai fod arnoch angen cymorth ychwanegol. Mae hyn yn ddewisol ond gall fod yn ddefnyddiol er mwyn cyfathrebu â staff a gwneud i chi deimlo’n fwy hyderus. Gallwch gael y rhain yn y maes awyr, neu drwy rai elusennau anabledd.

Laniard blodau haul.

Sunflower lanyard.

5.6 Alergeddau bwyd

Os oes gennych alergedd bwyd, rhowch wybod i’r cwmni hedfan cyn gynted ag y bo modd, a hynny os yw’n bosibl ar yr adeg y byddwch yn gwneud eich archeb.

Mae cwmnïau hedfan yn cymryd lles eu teithwyr o ddifri, a bydd ganddynt bolisi ar gyfer rheoli eich alergedd. Gall y polisïau hyn amrywio o’r naill gwmni hedfan i’r llall, felly holwch eich cwmni hedfan cyn teithio.

Dylech hefyd roi gwybod i staff y gât gadael am unrhyw alergeddau difrifol sydd gennych fel bod criw y caban yn gallu paratoi ar eich cyfer.

Efallai hefyd y byddech yn hoffi ystyried mesurau eraill, er enghraifft mynd â’ch bwyd eich hun a gwneud yn siŵr bod unrhyw feddyginiaethau gennych. Dylech gario pob meddyginiaeth gyda chi yn eich bag llaw mewn lle hawdd mynd ato.

Os ydych wedi archebu â chwmni hedfan neu drwy drydydd parti, er enghraifft asiant teithio neu drefnydd teithiau, mae’n bosibl hefyd y gallwch ofyn am fath arbennig o bryd bwyd drwyddyn nhw. Siaradwch â’ch cwmni hedfan, asiant teithio neu drefnydd teithiau. Mae’n bosibl na fydd y cwmnïau hedfan yn gallu gwarantu y bydd bwyd heb alergenau ar fwrdd yr awyren.

Darllenwch am deithio ag alergedd.

5.7 Yn y maes awyr

Gall meysydd awyr fod yn llefydd prysur, lle mae llawer o bobl yn teithio i wahanol gyrchfannau gyda gwahanol gwmnïau hedfan. I wneud yn siŵr eich bod yn cael profiad dirwystr yn y maes awyr, mae’n syniad da i baratoi ar gyfer torfeydd a chiwiau. Y lleoedd mwyaf cyffredin ar gyfer ciwiau yw’r mannau cofrestru a’r gwiriad diogelwch.

Mae rhai terfynfeydd maes awyr yn fawr, ac mae cryn bellter rhwng gwahanol ardaloedd ynddynt. Mae gan y rhan fwyaf o feysydd awyr fapiau ar eu gwefannau sy’n dangos cynllun y derfynfa ac yn rhoi gwybodaeth am y pellteroedd. Fel arfer mae’r mapiau hefyd yn dangos ble gallwch ddod o hyd i seddi a ble mae’r toiledau. Efallai y bydd gan rai meysydd awyr fideos ar eu gwefannau i ddangos sut le sydd y tu mewn i’r terfynfeydd.

Fel arfer mae gan derfynfeydd meysydd awyr oleuadau llachar yn y prif ardaloedd a choridorau. Gall rhai o’r arwynebau fod yn llachar neu adlewyrchu golau’r amgylchedd. Er enghraifft, waliau gwahanu, lloriau a sgriniau gwybodaeth. Gall terfynfeydd hefyd fod yn llefydd swnllyd lle mae ychydig o eco. Mae’n bosibl y bydd arogleuon cryf mewn rhai ardaloedd.

Os oes gennych sensitifrwydd synhwyraidd, edrychwch ar wefan y maes awyr neu cysylltwch â thîm cymorth y maes awyr i drafod ystafelloedd synhwyraidd neu ystafelloedd tawel a llwybrau sy’n haws i’w defnyddio.

Cyrraedd y maes awyr

Os byddwch yn parcio mewn maes parcio arhosiad canolig neu hir, fel arfer bydd angen i chi ganfod eich ffordd eich hun i’r derfynfa gan ddefnyddio gwasanaeth bws y maes awyr. Yn y DU, mae gan y cerbydau hyn ramp fel arfer, fel bod defnyddwyr cadair olwyn yn gallu mynd iddynt.

Gallwch ofyn am gymorth wrth ddesg gwasanaeth cymorth y tu mewn i adeilad y derfynfa.

Desg cymorth arbennig ym Maes Awyr Gatwick.

Special assistance desk at Gatwick Airport.

Rhaid i feysydd awyr leoli pwyntiau cymorth mewn mannau amrywiol ar ffin y maes awyr. Gall pwyntiau cymorth fod y tu mewn neu’r tu allan i’r derfynfa, gan gynnwys ger pwyntiau gollwng, meysydd parcio, gorsafoedd trenau a therfynfeydd bysiau. Fel arfer mae desgiau gwasanaeth cymorth wedi’u lleoli yn agos at brif ddrysau yr ardal adael neu ger y man cofrestru.

Fel arfer mae gan bwyntiau cymorth logo yn gysylltiedig ag anabledd ac maent yn cynnwys cloch neu ffôn er mwyn i chi allu galw am gymorth pan nad oes staff yno. Mae’n bosibl y bydd rhai meysydd awyr yn cynnig ffyrdd eraill o gysylltu â staff cymorth wrth gyrraedd y maes awyr, er enghraifft anfon negeseuon drwy WhatsApp neu ap arall ar eich ffôn neu ddyfais symudol. Dylech edrych ar wefan y maes awyr cyn cychwyn eich taith i weld sut mae cysylltu â staff pwynt cymorth.

Pwynt cymorth anawsterau symud ym Maes Awyr Gatwick.

Reduced mobility help point at Gatwick Airport.

Pan fyddwch yn cyrraedd y maes awyr ewch at bwynt cymorth cyn mynd drwy’r man diogelwch.

Mae’r cymorth y gallwch ddisgwyl ei gael yn y maes awyr yn cynnwys:

  • symud o’r pwynt dynodedig i’r man cofrestru
  • cymorth yn y man cofrestru a’r man gadael bagiau
  • mynd ymlaen o’r cownter cofrestru drwy’r maes awyr, gan gynnwys mynd drwy’r man diogelwch a chyrraedd y gât gadael
  • help i fynd ar yr awyren a mynd i’ch sedd
  • mynd at gyfleusterau toiled, er na fydd y staff yn gallu eich helpu yn y toiled
  • gadael yr awyren ar ôl i chi gyrraedd eich cyrchfan a newid hediadau

Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i’r staff cymorth pa gymorth sydd orau i chi. Er enghraifft, os oes arnoch angen help i gerdded neu os oes arnoch angen rhywun i’ch hebrwng at y gât gadael. Mae’r staff wedi cael eu hyfforddi i roi cymorth amrywiol. Ni ddylech byth gael cymorth nad yw’n addas ar gyfer eich anghenion neu sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus.

Os yw’n well gennych, gall eich teulu neu ffrindiau eich helpu, yn hytrach na staff y maes awyr. Dylai aelod o’r teulu neu ffrind sy’n teithio gyda chi allu dod gyda chi drwy’r maes awyr.

Cadeiriau olwyn meysydd awyr

Os oes arnoch angen cadair olwyn i deithio o amgylch y maes awyr ond nad oes gennych un, gall y maes awyr ddarparu un i chi. Efallai nad oes gan feysydd awyr gadeiriau olwyn sy’n gyrru eu hunain, ond gall aelod o’r teulu neu ffrind sy’n teithio gyda chi eich helpu i symud drwy’r maes awyr.

Os oes gennych eich cadair olwyn eich hun neu gymorth symudedd sy’n gweithio â batri dylech allu defnyddio eich cyfarpar eich hun nes byddwch yn cyrraedd y gât gadael.

Man gwirio diogelwch

Yn y man gwirio diogelwch, bydd angen i chi dynnu hylifau o’ch bag llaw, gan gynnwys meddyginiaeth hylifol. Os oes gennych fwy o hylif na’r hyn a ganiateir, neu os ydych yn teithio â chwistrellau, nodwyddau neu gyfarpar meddygol, er enghraifft pwmp inswlin neu fag stoma, dylech ddatgan hyn wrth y staff diogelwch. Efallai y bydd angen i chi ddod â llythyr doctor yn nodi bod y rhain yn angenrheidiol.

Gallwch ofyn am chwiliad diogelwch preifat os nad ydych yn gallu mynd drwy’r offer sgrinio diogelwch. Dylai’r staff diogelwch sicrhau eu bod yn gwneud y chwiliad mor ddiffwdan ag sy’n bosibl.

5.8 Ar yr awyren

Os ydych wedi gofyn am gymorth, byddwch yn cael eich helpu i gyrraedd y gât gadael ac i fynd ar yr awyren. Gallai hyn olygu defnyddio lifftiau neu gadeiriau olwyn. Efallai hefyd y byddwch yn cael cymorth i fynd i’ch sedd, a chymorth â thasgau fel gosod eich bag llaw yn ei le. Yn aml iawn byddwch yn cael mynd ar yr awyren yn gyntaf, ond ni fydd hyn yn digwydd bob amser.

Mae’n bosibl y defnyddir gwahanol gyfarpar wrth ddarparu’r cymorth hwn. Gall y cyfarpar hwn amrywio gan ddibynnu ar y maes awyr rydych yn hedfan ohono. Gallai hyn gynnwys ambiwlifftiau (y cyfeirir atynt hefyd fel lifftiau uchel), rampiau, a chadeiriau olwyn ‘trosglwyddo’ bach.

Mae’n ofynnol i gwmnïau hedfan wneud pob ymdrech resymol i drefnu seddi i ddiwallu eich anghenion. Mae hyn yn cynnwys gwneud pob ymdrech i sicrhau bod rhywun sy’n teithio gyda chi yn cael eistedd wrth eich ymyl.

Gall staff y cwmni hedfan hefyd eich helpu i fynd at gyfleusterau toiled ar yr awyren, ond ni fyddant yn gallu eich helpu yn y toiled. Mae’r cyfleusterau’n dibynnu ar y math o awyren a’r cwmni hedfan, felly mae’n bwysig trafod eich anghenion ar yr awyren gyda’r cwmni hedfan cyn i chi deithio.

Trefnu sedd ar yr awyren

Bydd cwmnïau hedfan yn gwneud ymdrechion rhesymol i drefnu sedd sy’n diwallu eich anghenion unigol, heb dâl ychwanegol. Er enghraifft, eich rhoi i eistedd ar sedd wrth y partisiwn yn yr awyren i chi gael mae mwy o le. Mae hyn yn dibynnu os oes lle ar gael, ac mae’n amodol ar ofynion diogelwch. Er enghraifft, mae’n bosibl na fyddwch yn gallu eistedd ar sedd wrth ddrws mynd allan mewn argyfwng.

Os oes gennych chi rywun arall gyda chi a all ddarparu cymorth i chi, bydd y cwmni hedfan yn gwneud ymdrechion rhesymol i gael sedd i chi yn ymyl y person hwnnw.

5.9 Cyrraedd y wlad rydych yn hedfan iddi neu gyrraedd y DU

Pan fyddwch yn cyrraedd, dylai cadeiriau olwyn a chymhorthion symudedd gael eu dychwelyd i chi wrth ddrws y caban, oni bai eich bod wedi gofyn am gael eu casglu yn y man casglu bagiau.

Os ydych wedi gofyn am gymorth, siaradwch ag aelod o griw y caban cyn gadael yr awyren. Efallai y byddant yn gofyn i chi aros ar yr awyren tra bydd trefniadau’n cael eu gwneud i’ch helpu.

Gallai cymorth hygyrchedd pan fyddwch yn cyrraedd y DU a thramor gynnwys help i wneud y canlynol:

  • dod oddi ar yr awyren drwy ddarparu lifftiau, cadeiriau olwyn neu gymorth arall
  • symud o’r awyren i’r ystafell fagiau i gasglu bagiau
  • cwblhau gweithdrefnau mewnfudo a thollau
  • mynd ymlaen o’r ystafell fagiau i fan dynodedig
  • symud i gyfleusterau toiled, er na fydd staff yn gallu eich helpu yn y toiled

6. Adborth

Gallwch anfon adborth neu sylwadau am y canllaw teithio i deithwyr awyr i [email protected].