Ffioedd am wasanaethau sgil-gynhyrchion anifeiliaid a ddarperir gan APHA
Diweddarwyd 8 Tachwedd 2024
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr sefydliad neu safle i wneud cais am gymeradwyaeth neu gymeradwyaeth amodol i brosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid
O dan Erthygl 20 o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.
Rhaid i chi dalu am asesiadau cais p’un a gaiff eich cais ei gymeradwyo ai peidio.
Sut mae APHA yn codi tâl am yr amser a dreulir
Rhaid i chi dalu fesul chwarter awr neu lai am yr amser y bydd APHA yn ei dreulio yn archwilio eich safle, yn prosesu eich cais ac yn teithio i’ch safle ac oddi yno.
Bydd APHA yn cyfrifo eich ffioedd archwilio a theithio i’r chwarter awr (15 munud) llawn nesaf o waith. Er enghraifft, os bydd APHA yn treulio 20 munud ar eich archwiliad, byddwch yn talu am hanner awr.
Tabl 1
Gwasanaeth | Ffioedd |
---|---|
Amser teithio swyddog milfeddygol i safle ac oddi yno i gyflawni’r gweithgareddau yn nhablau 1 a 2. Codir fesul 15 munud, hyd at £132. | £22 |
Amser teithio swyddog technegol APHA i safle ac oddi yno i gyflawni’r gweithgareddau yn nhablau 1 a 2. Codir fesul 15 munud, hyd at £72. | £12 |
Ystyried cais i gymeradwyo safle rendro. Yn cynnwys ymweliad safle hyd at 60 munud. | £2,484 |
Ystyried cais i gymeradwyo sefydliad neu safle sy’n trawsnewid sgîl-gynhyrchion anifeiliaid a/neu gynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid yn gompost. Yn cynnwys ymweliad safle hyd at 60 munud. | £1,343 |
Ystyried cais i gymeradwyo sefydliad neu safle sy’n trawsnewid sgîl-gynhyrchion anifeiliaid a/neu gynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid yn fio-nwy. Yn cynnwys ymweliad safle hyd at 60 munud. | £1,343 |
Ystyried cais i gymeradwyo sefydliad neu safle sy’n ymdrin â sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar ôl eu casglu, gan gynnwys gweithgareddau didoli, torri, oeri, rhewi, halltu, tynnu crwyn, neu dynnu deunydd risg penodedig. Yn cynnwys ymweliad safle hyd at 60 munud. | £687 |
Ystyried cais i gymeradwyo sefydliad neu safle sy’n storio sgil-gynhyrchion anifeiliaid neu gynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid. Yn cynnwys ymweliad safle hyd at 60 munud. | £687 |
Ystyried cais i gymeradwyo safle llosgi. Yn cynnwys ymweliad safle hyd at 60 munud. | £557 |
Ystyried cais i gymeradwyo sefydliad neu safle sy’n gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes. Yn cynnwys ymweliad safle hyd at 60 munud. | £557 |
Amser ychwanegol swyddog milfeddygol ar y safle (dros 60 munud) yn asesu ei addasrwydd i’w gymeradwyo. Codir fesul 15 munud. | £22 |
Amser swyddog technegol APHA yn gweinyddu ymweliadau ychwanegol a gweithgareddau cysylltiedig. Codir fesul 15 munud. | £11 |
Ffi weinyddol am lunio anfonebau ar gyfer ymweliadau ychwanegol a gweithgareddau cysylltiedig. Codir fesul anfoneb. | £21 |
Ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr sefydliad neu safle am ymweliadau archwilio safle
O dan Erthygl 20 o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.
Sut mae APHA yn codi tâl am yr amser a dreulir
Rhaid i chi dalu fesul chwarter awr neu lai ar gyfer yr amser y mae APHA yn ei dreulio yn gwneud y canlynol:
- archwilio eich safle os bydd yr ymweliad safle yn para mwy na 30 munud
- trefnu ymweliad archwilio safle
Bydd APHA yn cyfrifo eich ffioedd archwilio a threfnu i’r chwarter awr (15 munud) llawn nesaf o waith. Er enghraifft, os bydd APHA yn treulio 20 munud ychwanegol ar eich archwiliad, ar ôl y 30 munud cyntaf, byddwch yn talu am hanner awr.
Tabl 2
Gwasanaeth | Ffioedd |
---|---|
Amser swyddog milfeddygol am ymweliad archwilio safle sy’n para mwy na 30 munud. Codir fesul 15 munud. | £22 |
Amser swyddog technegol APHA am ymweliad archwilio safle sy’n para mwy na 30 munud. Codir fesul 15 munud. | £12 |
Amser a dreulir gan swyddog technegol APHA yn trefnu ymweliad archwilio safle ac yn ymdrin ag unrhyw bwyntiau gweithredu yn dilyn yr ymweliad. Codir fesul 15 munud. | £11 |
Ffioedd ar gyfer 30 munud cyntaf ymweliad archwilio safle lle mae angen cynnal archwiliad blynyddol neu archwiliad bob dwy flynedd o sefydliad neu safle cymeradwy neu gofrestredig o dan y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol. | £219 |
Ffi flynyddol ar gyfer cwblhau 30 munud cyntaf pob un o’r pedwar ymweliad archwilio safle i archwilio sefydliad neu safle cymeradwy neu gofrestredig lle mae angen cynnal archwiliadau chwarterol o dan y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol. | £876 |
Ffi flynyddol ar gyfer cwblhau 30 munud cyntaf pob un o’r 12 o ymweliadau archwilio safle â sefydliad cymeradwy neu gofrestredig lle mae angen cynnal archwiliadau misol o dan y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol. | £2,628 |