Apelio yn erbyn penderfyniad y llys mewn achosion sifil a theulu (EX340)
Diweddarwyd 30 Ebrill 2024
Ynglŷn â’r canllaw hwn
Bydd y canllaw hwn yn helpu chi os ydych eisiau apelio yn erbyn penderfyniad y llys mewn apeliadau sifil a theulu. Bydd yn dweud wrthych:
- beth i’w ystyried cyn ichi apelio
- beth sydd ei angen arnoch i apelio
- beth i’w ddisgwyl gan y broses apelio
Mae rhagor o wybodaeth am apelio yn nodiadau canllaw ffurflenni hysbysiad apelydd:
- Hysbysiad Apelydd ar gyfer pob apêl ac eithrio apeliadau ar y trac hawliadau bychain neu apeliadau i Adran Deulu’r Uchel Lys (N161)
- Apelio yn erbyn gorchymyn mewn achos a neilltuwyd i’r trac hawliadau bychain (N164)
- Hysbysiad apelydd ar gyfer apeliadau i Adran Deulu’r Uchel Lys
Canllaw yn unig yw hwn, efallai y byddwch eisiau ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol cyn gwneud unrhyw benderfyniad sy’n seiliedig ar y canllaw hwn. Os oes arnoch angen y canllaw hwn mewn fformat arall, er enghraifft mewn print bras, cysylltwch â’ch llys lleol.
Termau a ddefnyddir yn y canllaw hwn
- llys is – y llys lle gwnaed penderfyniad ynghylch eich cais
- llys apêl – y llys rydych yn apelio iddo
- apelydd – yr unigolyn sydd eisiau apelio
- Atebydd – y parti (unigolyn) arall neu bartïon eraill yn yr achos
Pryd allwch chi apelio yn erbyn canlyniad achos
Ni allwch apelio yn erbyn penderfyniad llys is dim ond am eich bod yn credu na ‘chafodd y barnwr bethau’n iawn’. Gallwch ond apelio os oes gennych seiliau cyfreithiol priodol - er enghraifft, os gallwch ddangos bod y penderfyniad yn anghywir o ganlyniad i gamgymeriad difrifol, neu oherwydd na chafodd y weithdrefn ei dilyn yn iawn.
Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch eich seiliau dros apelio, dylech geisio cyngor gan gynrychiolydd cyfreithiol, canolfan y gyfraith neu asiantaeth gynghori.
Cyn i chi apelio
Gall apelio fod yn broses gostus a hir. Dyma rai o’r pethau y mae angen ichi eu hystyried cyn cychwyn.
Efallai y bydd angen ichi gael caniatâd i apelio
Gan amlaf, bydd rhaid ichi ofyn am ganiatâd barnwr i apelio (oni bai eich bod eisoes wedi cael caniatâd yn eich gwrandawiad). Dim ond os bydd y barnwr yn credu bod gwir obaith i’r apêl lwyddo y bydd yn caniatáu ichi apelio, neu, bod yna reswm dilys arall i wrando’r apêl.
Dylech weithredu’n gyflym
Unwaith y bydd y llys wedi gwneud ei benderfyniad, dim ond cyfnod penodol o amser fydd gennych i apelio.
Rhaid ichi ffeilio eich hysbysiad apelydd:
- o fewn y terfyn amser a bennwyd gan y barnwr yr ydych chi’n apelio yn erbyn ei (g)orchymyn
- mewn achos teulu pan na fydd y barnwr wedi pennu cyfyngiad amser ond bod yr apêl yn erbyn penderfyniad rheoli achos neu orchymyn gofal interim o dan Adran 38 (1) Deddf Plant 1989, o fewn 7 diwrnod o’r dyddiad gwnaethpwyd y penderfyniad
- Yn y Llys Apêl, o fewn 21 diwrnod o’r dyddiad bu i’r llys wneud y penderfyniad - fodd bynnag, mae eithriadau, sydd wedi’u pennu yn Apelio i’r Llys Apêl: terfynau amser
- os na fydd y barnwr wedi pennu terfyn amser, o fewn 21 diwrnod i’r penderfyniad yr ydych eisiau apelio yn ei erbyn gael ei wneud
Efallai y bydd angen ichi gael cyngor cyfreithiol
Ni all staff y llys roi cyngor cyfreithiol i chi, er enghraifft p’un a ddylech chi apelio, neu p’un a fydd eich apêl yn llwyddiannus ai peidio. Mae llwyddiant eich apêl yn debygol o ddibynnu ar bwyntiau cyfreithiol a gweithdrefnol manwl, felly fe’ch cynghorir yn gryf i gael cyngor gan gynrychiolydd cyfreithiol.
Gallwch hefyd gael gwybodaeth a chyngor cyfreithiol am ddim gan ganolfan y gyfraith neu ganolfan Cyngor ar Bopeth. Gweler Cael cymorth ac arweiniad i gael mwy o wybodaeth a manylion cyswllt.
Efallai y bydd yn rhaid ichi dalu ffi
Fel arfer, bydd rhaid ichi dalu ffi llys pan fyddwch yn gwneud apêl. Fe gewch fanylion am ffioedd llys yma:
Efallai na fydd rhaid i chi dalu ffi, neu efallai cewch ostyngiad os nad oes gennych lawer o gynilon a buddsoddiadau, os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os ydych ar incwm isel. Weithiau gelwir hyn yn ‘dileu ffi’.
Gallwch wneud cais am help i dalu ffioedd llysoedd a thribiwnlysoedd ar-lein neu drwy ddefnyddio’r ffurflen Help i Dalu Ffioedd (EX160).
Mae’n bosib y dyfernir costau yn eich erbyn
Os byddwch yn colli eich apêl, mae’n bosib y dywedir wrthych am dalu costau’r unigolyn arall, gan gynnwys costau eu cynrychiolydd cyfreithiol, os oes ganddynt un.
Pan fyddwch angen caniatâd i apelio
Ni fydd angen caniatâd arnoch os ydych yn apelio:
- penderfyniad ynad lleyg yn y llys teulu
- gorchymyn traddodi
- gwrthodiad i gymeradwyo habeas corpus (gorchymyn sy’n datgan bod unigolyn yn y carchar yn gorfod cael ei ddyfarnu gan lys cyn iddo/iddi gael ei (g)orfodi gan y gyfraith i aros yn y carchar)
- gorchymyn llety diogel a wnaed dan adran 25 Deddf Plant 1989 neu adran 119 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Ym mhob achos arall, bydd arnoch angen gofyn am ganiatâd i apelio:
- os na wnaethoch ofyn am ganiatâd yn ystod eich gwrandawiad
- os gwnaethoch ofyn am ganiatâd yn ystod eich gwrandawiad ond gwrthodwyd eich cais
Yn y ddau achos, mae’n rhaid i chi gael caniatâd gan y llys apêl.
Hawliadau Bychain
Os na wnaethoch roi rhybudd i’r llys na fyddech yn mynychu’r gwrandawiad, gallwch wneud cais i roi’r dyfarniad o’r neilltu.
Os bu ichi roi rhybudd i’r llys na fyddwch yn mynychu’r gwrandawiad ac nid ydych yn cytuno â’r penderfyniad a wnaed gan y llys yn eich absenoldeb, bydd rhaid i chi apelio. Rhaid i chi wneud cais am ganiatâd gan y llys apêl.
Sut i wneud cais am ganiatâd i apelio
Os nad ydych wedi cael caniatâd i apelio gan y llys is, mae’n rhaid ichi wneud eich cais am ganiatâd i apelio yn yr hysbysiad apelydd. Gallwch wneud y cais am ganiatâd i apelio a chyflwyno’r apêl ar yr un pryd, gan ddefnyddio’r un ffurflen. Yr hysbysiad apelydd fydd naill ai ffurflen N161, N164 neu FP161 a bydd yn dibynnu ar y math o achos ac i ba lys yr ydych yn gwneud eich apêl.
Mae yna nodiadau canllaw wedi’u paratoi ar gyfer pob ffurflen, a dylech eu darllen yn ofalus cyn dechrau. Mae’r nodiadau’n dweud wrthych sut i lenwi’r ffurflen a pha ddogfennau y mae’n rhaid ichi eu darparu gyda’ch cais. Gallwch ddod o hyd i ddolenni i’r ffurflenni a’r canllaw yn yr adran Gwybodaeth am y canllaw hwn.
Os yw caniatâd i apelio eisoes wedi’i roi
Os ydych wedi cael caniatâd ac yn barod i gychwyn eich apêl, rhaid ichi lenwi’r hysbysiad apelydd (ac eithrio’r adrannau ynghylch caniatâd) a’i anfon gyda’r ffi briodol i’r llys apêl. Gelwir hyn yn ‘ffeilio apêl’.
Ni allwch gyflwyno tystiolaeth newydd yn eich cais heb ganiatâd y llys apêl. Tystiolaeth newydd yw tystiolaeth na chafodd ei defnyddio yn eich gwrandawiad, neu dystiolaeth sydd wedi dod i’r fei ers hynny.
Pryd i ffeilio’r apêl
Fel rheol, nodir erbyn pryd y bydd rhaid ichi ffeilio’ch apêl ar y gorchymyn a gawsoch yn rhoi caniatâd ichi apelio. Os nad oes dyddiad wedi’i bennu, rhaid ichi ffeilio eich hysbysiad apelydd o fewn 21 diwrnod i’r dyddiad pan gafodd y penderfyniad yn eich achos ei wneud. Mae terfynau amser ar gyfer apelio i’r Llys Apêl.
Os byddwch yn ffeilio hysbysiad apelydd anghyflawn a bod angen ichi ei newid ar ôl ei ffeilio, bydd angen ichi wneud cais i’r llys apêl er mwyn gwneud hyn.
I ba lys y gallwch wneud apêl
Mae hyn yn dibynnu ar y llys a lefel y barnwr a wnaeth y penderfyniad yn eich achos a’r math o orchymyn a wnaeth y barnwr, fel yr eglurir isod.
Achosion sifil
Y rheol gyffredinol yw, bydd apêl yn cael ei wrando gan farnwr ar y lefel nesaf. Er enghraifft:
- bydd apêl yn erbyn penderfyniad barnwr rhanbarth yn y llys sirol yn cael ei wrando gan farnwr cylchdaith yn y llys sirol.
- ymdrinnir ag apêl yn erbyn penderfyniad barnwr Uchel Lys gan y Llys Apêl
Achosion sifil, ac eithrio achosion ansolfedd
Llys Sirol
Barnwr sy’n penderfynu | Penderfyniad sy’n destun apêl | Gwrandewir gan |
---|---|---|
Barnwr Rhanbarth | Unrhyw benderfyniad, ac eithrio achos di-ansolfedd dan y Deddfau Cwmnïau / neu benderfyniad o ddirmyg llys | Barnwr Cylchdaith yn y llys sirol |
Barnwr Rhanbarth | Penderfyniad mewn achos di-ansolfedd dan y Deddfau Cwmnïau | Yr Uchel Lys neu’r Llys Apêl |
Barnwr Cylchdaith | Unrhyw benderfyniad oni bai am achosion dirmyg llys | Yr Uchel Lys |
Barnwr Cylchdaith | Penderfyniad mewn achos dirmyg llys | Y Llys Apêl |
Yr Uchel Lys
Barnwr sy’n penderfynu | Penderfyniad sy’n destun apêl | Gwrandewir gan |
---|---|---|
Meistr, cofrestrydd neu farnwr rhanbarth | Unrhyw benderfyniad | Yr Uchel Lys |
Barnwr Uchel Lys | Unrhyw benderfyniad | Y Llys Apêl |
Llys Adranno | Unrhyw benderfyniad oni bai am achosion dirmyg llys | Y Llys Apêl |
Llys Adrannol | Penderfyniad mewn achos dirmyg llys | Y Goruchaf Lys |
Llys Mentrau Eiddo Deallusol (IPEC)
Barnwr sy’n penderfynu | Penderfyniad sy’n destun apêl | Gwrandewir gan |
---|---|---|
Barnwr Rhanbarth | Unrhyw benderfyniad | Barnwr Mentrau |
Barnwr Mentrau | Unrhyw benderfyniad | Y Llys Apêl |
Achosion sifil, achosion ansolfedd
Llys Sirol
Barnwr sy’n penderfynu | Penderfyniad sy’n destun apêl | Gwrandewir gan |
---|---|---|
Barnwr Rhanbarth | Ansolfedd unigol | Barnwr Uchel Lys |
Barnwr Rhanbarth | Ansolfedd Corfforaethol | Barnwr Uchel Lys neu gofrestrydd |
Barnwr Cylchdaith | Unrhyw benderfyniad | Barnwr Uchel Lys |
Yr Uchel Lys
Barnwr sy’n penderfynu | Penderfyniad sy’n destun apêl | Gwrandewir gan |
---|---|---|
Meistr, cofrestrydd neu farnwr rhanbarth | Unrhyw benderfyniad | Barnwr Uchel Lys |
Barnwr Uchel Lys | Unrhyw benderfyniad | Y Llys Apêl |
Achosion teulu ym Mhrif Gofrestrfa’r Adran Deulu, gan gynnwys achosion dan Ddeddf Etifeddiant (Darpariaeth ar gyfer Teulu a Dibynyddion) 1975 ac achosion dan Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996.
Barnwr sy’n penderfynu | Penderfyniad sy’n destun apêl | Gwrandewir gan |
---|---|---|
Barnwr Rhanbarth | Unrhyw benderfyniad | Barnwr Uchel Lys (Adran Deulu) |
Barnwr Uchel Lys (Adran Deulu) | Unrhyw benderfyniad | Y Llys Apêl |
Ble i ffeilio apeliadau teulu
Barnwr Cylchdaith yn eistedd yn y llys teulu
Apelio os:
- un neu fwy o ynadon lleyg yn eistedd yn y Llys Teulu wnaeth y penderfyniad
- barnwr ar lefel Barnwr Rhanbarth yn eistedd yn y Llys Teulu wnaeth y penderfyniad
Barnwr Uchel Lys sy’n eistedd yn y Llys Teulu
Apelio os Barnwr Rhanbarth neu Uwch Farnwr Rhanbarth yn yr Adran Deulu yn eistedd yn y Llys Teulu yn gwrando achosion ariannol wnaeth y penderfyniad.
Barnwr Uchel Lys yn eistedd yn yr Uchel Lys
Apelio os mai unrhyw un o’r canlynol yn eistedd yn yr Uchel Lys wnaeth y penderfyniad:
- barnwr rhanbarth yn yr Uchel Lys
- dirprwy farnwr rhanbarth
- uwch farnwr rhanbarth yr Adran Deulu
- barnwr rhanbarth yr Adran Deulu
- barnwr costau
- unigolyn a benodwyd i weithredu fel dirprwy i farnwr costau
Neu apelio os barnwr rhanbarth neu gofiadur yn eistedd yn y llys teulu, oni bai lle bo enghraifft yn yr adran Llys Apêl yn berthnasol - gweler yr adran nesaf.
Y Llys Apêl
Apelio os gwnaed y penderfyniad gan farnwr cylchdaith neu gofiadur sy’n eistedd yn y Llys Teulu pan fydd yr apêl yn deillio o:
- benderfyniad neu orchymyn mewn achos dan:
- Rhan 4 neu 5, neu baragraff 19(1) Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989
- Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002
- penderfyniad neu orchymyn mewn perthynas ag achos dirmyg llys, lle gwnaethpwyd y penderfyniad neu’r gorchymyn hwnnw mewn, neu mewn cysylltiad â, math o achos a gyfeirir ato yn (a) uchod
- penderfyniad neu orchymyn a wnaed yn dilyn apêl i’r Llys Teulu (‘ail apêl’)
Neu apelio os gwnaethpwyd y penderfyniad gan:
- barnwr ar lefel Barnwr Uchel Lys
- barnwr Uchel Lys sy’n eistedd yn yr Uchel Lys (gan gynnwys unigolyn sy’n gweithredu fel barnwr yn unol ag adran 9(1) neu (4) Deddf Uwchlysoedd 1981)
Barnwr ar lefel Barnwr Uchel Lys
Apelio os Barnwr Costau wnaeth y penderfyniad.
Ail Apeliadau
Rhaid cyflwyno cais am ganiatâd i wneud apêl sy’n deillio o benderfyniad a wnaed yn y Llys Sirol, y Llys Teulu neu’r Uchel Lys a gafodd ei wneud ei hun yn dilyn apêl, i’r Llys Apêl.
Bydd y Llys Apêl dim ond yn rhoi caniatâd i apelio lle bo:
- gobaith gwirioneddol o lwyddo ac mae’r apêl yn codi pwynt pwysig o egwyddor neu ymarfer
- rheswm anorfod arall i’r Llys Apêl wrando’r apêl
Beth fydd yn digwydd nesaf
Ar ôl ichi ffeilio hysbysiad apelydd, bydd y llys yn anfon copïau o’r holl ddogfennau rydych wedi’u ffeilio at yr atebydd. Os ydych eisiau anfon copïau at yr atebydd eich hun, rhaid ichi ddweud wrth y llys. Bydd staff y llys yn anfon copïau wedi’u stampio â sêl y llys atoch, a rhaid ichi anfon y rheini at yr atebydd o fewn 7 diwrnod i’r dyddiad pan wnaethoch ffeilio eich hysbysiad apelydd.
Os ydych wedi ffeilio eich hysbysiad apelydd yn y Llys Apêl, rhaid i chi gyflwyno’r hyn a ganlyn ar yr atebydd eich hun o fewn 7 diwrnod o’r dyddiad bu ichi ffeilio’ch hysbysiad apelydd:
- copi o’r hysbysiad atebydd wedi’i stampio gyda sêl y llys
- seiliau’r apêl
Bydd beth fydd yn digwydd nesaf yn dibynnu ar a ydych yn ceisio caniatâd i apelio, ac ar ganlyniad unrhyw gais o’r fath.
Wedi cael caniatâd eisoes neu nid oes angen caniatâd
Bydd y llys yn anfon hysbysiad atoch yn dweud wrthych:
- pa bryd y gwrandewir eich apêl neu yn ystod pa gyfnod (a elwir yn ‘ffenestr restru’) y mae’n debygol o gael ei wrando
- beth y mae angen ichi ei baratoi ar gyfer gwrandawiad yr apêl (a elwir yn ‘gyfarwyddiadau’)
Wedi gwneud cais am ganiatâd i apelio
Trosglwyddir eich cais i farnwr, a fydd yn ei ystyried. Fel rheol, bydd hyn yn digwydd heb ichi orfod mynd i wrandawiad. Bydd y llys yn anfon gorchymyn atoch yn dweud beth yw penderfyniad y barnwr.
Rhoddwyd caniatâd
Mae’n bosib y cewch ganiatâd llawn i apelio neu ganiatâd gyda chyfyngiadau. Bydd y gorchymyn sy’n rhoi caniatâd ichi yn datgan pa bethau y cewch eu codi yn eich apêl a pha bethau na chewch eu codi.
Gwrthodwyd caniatâd
Os yw’r barnwr wedi ystyried eich caniatâd i apelio cais ar bapur, ac wedi ei wrthod, ac yn credu na ellir cyfiawnhau eich apêl mewn unrhyw ffordd, efallai y bydd yn gorchymyn na allwch ofyn i’w benderfyniad gael ei ailystyried mewn gwrandawiad. Os na fydd y barnwr yn gwneud y gorchymyn hwn, gallwch ofyn iddo/iddi ailystyried y penderfyniad mewn gwrandawiad.
I wneud hyn, mae’n rhaid i chi wneud cais o fewn 7 diwrnod i chi gael yr hysbysiad gwrthod ac mae’n rhaid i chi anfon copi o’ch cais at yr atebydd. Os na fyddwch yn gwneud cais o fewn 7 diwrnod, bydd y penderfyniad gwrthod yn derfynol.
Os caniateir ichi gael gwrandawiad a bod y caniatâd yn cael ei wrthod eto, nid oes modd apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.
Os cafodd y cais am ganiatâd ei wrthod gan y Llys Apêl ar bapur, yna ni allwch wneud cais arall.
Ceisiadau eraill
Os oes angen gwrandawiad ar wahân i ymdrin ag unrhyw geisiadau eraill rydych wedi’u gwneud gyda’ch hysbysiad apelydd - er enghraifft, cais am ragor o amser i gasglu’r dogfennau y mae eu hangen arnoch – bydd y llys yn rhoi gwybod ichi am amser a dyddiad y gwrandawiad hwn. Fel arall, bydd y llys yn penderfynu ynghylch y materion hyn ac yn rhoi gwybod ichi am y canlyniad.
Apêl gan yr Atebydd
Efallai y bydd yr atebydd yn anghytuno â phenderfyniad y llys is, neu efallai y bydd eisiau i’r penderfyniad hwnnw gael ei gadarnhau ond am resymau gwahanol i’r rhesymau a roddwyd gan y barnwr. Bydd angen caniatâd i apelio ar yr atebydd, yn union fel y mae angen caniatâd ar yr apelydd. Rhaid iddo/iddi lenwi hysbysiad atebydd, sy’n debyg i’r hysbysiad apelydd, a darparu dogfennau cefnogi, a rhaid iddo/iddi anfon y rheini atoch chi hefyd.
Fel rheol, bydd y llys yn gwrando apêl yr atebydd ar yr un pryd ag y bydd yn gwrando eich apêl chi.
Canolfannau apeliadau a gwrandawiadau
Mae’r tablau canlynol yn nodi’r lleoliadau y mae apêl yn mynd gerbron Barnwr Uchel Lys yn dilyn penderfyniad gan y Llys Sirol neu Farnwr Rhanbarth Uchel Lys.
Cylchdaith Canolbarth Lloegr
Llys | Canolfan apeliadau |
---|---|
Canolfan Gyfiawnder Cyfun Birmingham | Canolfan Gyfiawnder Cyfun Birmingham |
Boston | Lincoln |
Burton-upon-Trent | Nottingham |
Chesterfield | Nottingham |
Coventry | Coventry |
Derby | Nottingham |
Dudley | Walsall |
Henffordd | Caerwrangon |
Kettering | Northampton |
Kidderminster | Caerwrangon |
Caerlŷr | Caerlŷr |
Lincoln | Lincoln |
Mansfield | Nottingham |
Northampton | Northampton |
Nottingham | Nottingham |
Nuneaton | Coventry |
Redditch | Caerwrangon |
Stafford | Stoke-on-Trent |
Stoke-on-Trent | Stoke-on-Trent |
Telford | Telford |
Walsall | Walsall |
Warwick | Coventry |
Wolverhampton | Walsall |
Caerwrangon | Caerwrangon |
Cylchdaith Gogledd Ddwyrain Lloegr
Llys | Canolfan apeliadau |
---|---|
Barnsley | Sheffield |
Bradford | Bradford |
Darlington | Teesside |
Doncaster | Sheffield |
Durham | Newcastle-upon-Tyne |
Gateshead | Newcastle-upon-Tyne |
Grimsby | Kingston-upon-Hull |
Halifax | Bradford |
Harrogate | Leeds |
Hartlepool | Teesside |
Huddersfield | Bradford |
Kingston-upon-Hull | Kingston-upon-Hull |
Leeds | Leeds |
Newcastle-upon-Tyne | Newcastle-upon-Tyne |
North Shields | Newcastle-upon-Tyne |
Rotherham | Sheffield |
Scarborough | Leeds |
Scunthorpe | Kingston-upon-Hull |
Sheffield | Sheffield |
Skipton | Bradford |
South Shields | Newcastle-upon-Tyne |
Sunderland | Newcastle-upon-Tyne |
Teesside | Teesside |
Wakefield | Leeds |
Efrog | Leeds |
Cylchdaith Gogledd Orllewin Lloegr
Llys | Canolfan apeliadau |
---|---|
Barrow-In-Furness | Carlisle |
Penbedw | Lerpwl |
Blackburn | Preston |
Blackpool | Preston |
Bolton | Canolfan Gyfiawnder Cyfun Manceinion |
Burnley | Preston |
Bury | Canolfan Gyfiawnder Cyfun Manceinion |
Carlisle | Carlisle |
Canolfan Gyfiawnder Cyfun Caer | Canolfan Gyfiawnder Cyfun Caer |
Crewe | Canolfan Gyfiawnder Cyfun Caer |
Kendal | Carlisle |
Caerhirfryn | Preston |
Lerpwl | Lerpwl |
Canolfan Gyfiawnder Cyfun Manceinion | Canolfan Gyfiawnder Cyfun Manceinion |
Oldham | Canolfan Gyfiawnder Cyfun Manceinion |
Preston | Preston |
St Helens | Lerpwl |
Stockport | Canolfan Gyfiawnder Cyfun Manceinion |
Warrington | Canolfan Gyfiawnder Cyfun Caer |
Gorllewin Cumbria | Carlisle |
Wigan | Lerpwl |
Cylchdaith Cymru
Llys | Canolfan apeliadau |
---|---|
Aberystwyth | Abertawe |
Y Coed Duon | Canolfan Gyfiawnder Cyfun Caerdydd |
Brycheiniog | Abertawe |
Caernarfon | Wrecsam |
Caerdydd | Canolfan Gyfiawnder Cyfun Caerdydd |
Caerfyrddin | Abertawe |
Conwy a Cholwyn | Wrecsam |
Hwlffordd | Abertawe |
Llanelli | Abertawe |
Llangefni | Wrecsam |
Merthyr Tudful | Canolfan Gyfiawnder Cyfun Caerdydd |
Yr Wyddgrug | Wrecsam |
Casnewydd (Gwent) | Canolfan Gyfiawnder Cyfun Caerdydd |
Pontypridd | Canolfan Gyfiawnder Cyfun Caerdydd |
Port Talbot | Abertawe |
Y Rhyl | Wrecsam |
Abertawe | Abertawe |
Cylchdaith De Orllewin Lloegr
Llys | Canolfan apeliadau |
---|---|
Aldershot a Farnham | Caer-wynt |
Barnstaple | Barnstaple |
Basingstoke | Winchester |
Caerfaddon | Canolfan Gyfiawnder Cyfun Bryste |
Bodmin | Bodmin |
Bournemouth | Bournemouth |
Bryste | Canolfan Gyfiawnder Cyfun Bryste |
Cheltenham | Canolfan Gyfiawnder Cyfun Bryste |
Chippenham | Caer-wynt |
Caerwysg | Caerwysg |
Caerloyw | Canolfan Gyfiawnder Cyfun Bryste |
Newport (Ynys Wyth) | Caer-wynt |
Plymouth | Plymouth |
Portsmouth | Portsmouth |
Salisbury | Caer-wynt |
Southampton | Southampton |
Swindon | Swindon |
Taunton | Canolfan Gyfiawnder Cyfun Bryste |
Torquay a Newton Abbot | Torquay a Newton Abbot |
Trowbridge | Trowbridge |
Truro | Truro |
Weston-super-Mare | Canolfan Gyfiawnder Cyfun Bryste |
Weymouth a Dorchester | Caer-wynt |
Caer-wynt | Caer-wynt |
Yeovil | Bryste |
Cylchdaith De Ddwyrain Lloegr
Llys | Canolfan apeliadau |
---|---|
Banbury | Rhydychen |
Barnet | Barnet |
Basildon | Southend |
Bedford | Luton |
Bow | Bow |
Brentford | Brentford |
Brighton | Brighton |
Bromley | Bromley |
Bury St Edmunds | Caergrawnt |
Caergrawnt | Caergrawnt |
Caergaint | Caergaint |
Canolfan Gyfiawnder Cyfun Canol Llundain | Canolfan Gyfiawnder Cyfun Canol Llundain |
Chelmsford | Southend |
Chichester | Chichester |
Clerkenwell a Shoreditch | Clerkenwell a Shoreditch |
Colchester | Southend |
Croydon | Croydon |
Dartford | Dartford |
Eastbourne | Eastbourne |
Edmonton | Edmonton |
Guildford | Guildford |
Hastings | Hastings |
Hertford | Luton |
High Wycombe | Rhydychen |
Horsham | Horsham |
Hove | Hove |
Ipswich | Norwich |
Kingston-upon-Thames | Kingston-upon-Thames |
King’s Lynn | Norwich |
Lambeth | Lambeth |
Lewes | Lewes |
Luton | Luton |
Maidstone | Maidstone |
Mayor’s and City | Mayor’s and City |
Medway | Medway |
Milton Keynes | Rhydychen |
Norwich | Norwich |
Rhydychen | Rhydychen |
Peterborough | Caergrawnt |
Reading | Rhydychen |
Reigate | Reigate |
Romford | Romford |
Slough | Rhydychen |
Southend | Southend |
St Albans | Luton |
Staines | Staines |
Thanet | Thanet |
Tunbridge Wells | Tunbridge Wells |
Uxbridge | Uxbridge |
Wandsworth | Wandsworth |
Watford | Watford |
Willesden | Willesden |
Woolwich | Woolwich |
Worthing | Worthing |
Cael cymorth ac arweiniad
Dod o hyd i lys neu dribiwnlys
Mwy o wybodaeth am ddatrys anghydfodau cyfreithiol
Gallwch hefyd gael cyngor cyfreithiol am ddim gan un o ganolfannau’r gyfraith neu gan ganolfan Cyngor ar Bopeth.
Rhwydweithiau Canolfannau’r Gyfraith
Corff aelodaeth ar gyfer Canolfannau’r Gyfraith. Mae gwefan y rhwydwaith yn darparu manylion am sut i gysylltu â chanolfannau’r gyfraith lleol. Mae Canolfannau’r Gyfraith Lleol yn darparu cyngor wyneb yn wyneb rhad ac am ddim i bobl leol nad yw’n gallu fforddio talu am gyfreithiwr. Mae rhai ohonynt hefyd yn darparu cyngor dros y ffôn.
Cyngor ar Bopeth
Elusen a rhwydwaith o elusennau lleol sy’n cynnig cyngor cyfrinachol ar-lein, dros y ffôn, ac wyneb yn wyneb - yn rhad ac am ddim.
Sgwrsio ar-lein gydag ymgynghorydd
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Ar gau ar wyliau banc
Rhif ffôn: 0800 144 8848 (Lloegr) , 0800 702 2020 (Cymru)
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
I bobl ag anabledd
Os oes gennych anabledd sy’n golygu bod mynd i’r llys neu gyfathrebu’n anodd, neu os ydych angen unrhyw wybodaeth mewn fformat gwahanol, e.e. print mawr, cysylltwch â’r llys perthnasol a fydd yn gallu eich helpu.
Dod o hyd i fanylion cyswllt llys neu dribiwnlys
Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn un o asiantaethau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac mae’n gyfrifol am weinyddu’r llysoedd troseddol, sifil a theulu a thribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr, a thribiwnlysoedd sydd heb eu datganoli yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’n darparu system gyfiawnder deg, effeithlon ac effeithiol a weithredir gan farnwriaeth annibynnol.
Rydym yn anelu at sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad prydlon at gyfiawnder yn unol â’u gwahanol anghenion, boed yn ddioddefwyr trosedd neu’n dystion, yn ddiffynyddion a gyhuddwyd o gyflawni trosedd, yn ddefnyddwyr mewn dyled, yn blant mewn perygl o niwed, yn fusnesau sydd mewn anghydfodau masnachol neu’n unigolion sy’n mynnu eu hawliau cyflogaeth neu’n herio penderfyniadau cyrff y llywodraeth.