Sut i apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (SSCS7A)
Diweddarwyd 27 Tachwedd 2024
1. Ynglŷn â’r cyfarwyddyd hwn
Bwriad y cyfarwyddyd hwn yw eich helpu i apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (NHSBSA) ynghylch hawliad o dan y Cynllun Taliad Niwed Trwy Frechiad. Mae ‘apêl’ yn golygu gwneud cais i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (GLlTEF) am ddyfarniad annibynnol ynghylch a yw penderfyniad gan NHSBSA yn gywir.
Gall eich apêl gael ei hystyried gan dribiwnlys sy’n rhan o’r system llysoedd a thribiwnlysoedd sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch hawliau pobl. Mae’r tribiwnlys yn delio yn bennaf ag anghydfodau ynghylch budd-daliadau nawdd cymdeithasol. Yn y mwyafrif o achosion, mae’n gwneud penderfyniad annibynnol ar apeliadau mewn gwrandawiad.
Ynglŷn â’ch hawliad
Mae’r wybodaeth a geir yn y cyfarwyddyd hwn yn berthnasol yn unig i apeliadau yn erbyn penderfyniadau a wnaed gan NHSBSA ynghylch hawliad o dan y cynllun Taliad Niwed Trwy Frechiad. Nid yw’n berthnasol i apeliadau a wneir yn erbyn penderfyniadau a wnaed ynghylch mathau eraill o fudd-daliadau. Ar gyfer mathau eraill o fudd-daliadau, gweler y ffurflenni a’r cyfarwyddiadau ynghylch penderfyniadau am:
- nawdd cymdeithasol – ffurflen SSCS1
- cynhaliaeth plant – ffurflen SSCS2
- adennill iawndal – ffurflen SSCS3
- adennill costau GIG – ffurflen SSCS4
- credydau treth, budd-dal plant neu lwfans gwarcheidwad – ffurflen SSCS5
- mesothelioma – ffurflen SSCS6
Darllenwch fwy am ba ffurflen i’w defnyddio i apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal.
Cyn y gallwch apelio i’r tribiwnlys, mae’n rhaid i chi yn gyntaf ofyn i NHSBSA ystyried eu penderfyniad ar eich hawliad eto. Gelwir hyn yn ‘gorfodi i ystyried gwrthdroi’. Bydd NHSBSA yn ailystyried eu penderfyniad ac yna’n dweud wrthych os ydynt wedi’i newid neu ei gadarnhau.
Os ydych chi wedyn yn dymuno apelio yn erbyn eu penderfyniad, dylech lenwi ffurflen SSCS7 a’i hanfon at y tribiwnlys gyda chopi o’r hysbysiad gwyrdroi gorfodol y mae NHSBSA wedi’i anfon atoch.
2. Beth i’w ystyried
P’un a allwch chi apelio
I apelio, rhaid bod gennych chi hawl i apelio dan y gyfraith. Gallwch ond apelio yn erbyn penderfyniad y NHSBSA ynghylch Taliad Niwed Trwy Frechiad os ydych chi wedi dilyn y broses ac wedi cael canlyniad y broses gorfodi i ystyried gwrthdroi. Pan fyddwch chi’n cael llythyr swyddogol yn rhoi penderfyniad, bydd yn dweud a oes gennych chi hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol a roddir ar NHSBSA.
I’ch cynorthwyo:
- mae gennych hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau ynghylch a ydych yn gymwys i gael taliad, ac os felly, faint
- nid oes gennych chi hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau sy’n ymwneud â materion gweinyddol, megis sut neu pa bryd byddwch chi’n cael eich talu
Os yw’r llythyr penderfyniad yn dweud nad oes gennych chi hawl i apelio, ond eich bod chi’n credu bod NHSBSA wedi gwneud camgymeriad ac y dylai fod gennych hawl i apelio, gallwch anfon eich apêl atom a chael dyfarniad cyfreithiol ynghylch a oes hawl cyfreithiol i wrando eich achos ai peidio. Efallai yr hoffech drafod y mater hwn gyda NHSBSA yn gyntaf.
Mae’n rhaid i chi nodi’n glir yn sail eich apêl eich bod yn credu bod gennych hawl i apelio ac egluro pam. Bydd hyn yn ein galluogi i adnabod y pwynt rydych yn anghytuno yn ei gylch a chymryd y camau angenrheidiol. Os bydd y tribiwnlys yn dyfarnu bod gennych chi hawl i apelio, gall yr apêl barhau.
Ond, os bydd y tribiwnlys yn dyfarnu nad oes gennych chi hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw (hynny yw, bod eich apêl ‘allan o awdurdodaeth’), bydd eich apêl yn dod i ben. Mae’r mathau hyn o achosion yn anghyffredin, a byddai’n well i chi gael cyngor gan rywun sydd â dealltwriaeth neu brofiad i wneud yn siŵr eich bod yn gywir.
A ddylech chi apelio
Mae’r cyfarwyddyd hwn yn egluro sut i apelio. Ni all ddweud wrthych a oes gennych chi achos da ai peidio. Bydd ein staff yn hapus i helpu ag ymholiadau dros y ffôn, e-bost neu dros y we ynghylch eich apêl wrth iddi fynd drwy’r broses. Fodd bynnag, ni allant roi eu barn ynghylch a ydych chi’n debygol o ennill neu golli, neu a ddylech chi gymryd cam penodol ai peidio. Rhywbeth i chi ei benderfynu yw hynny. Efallai y bydd modd i chi gael cyngor ynghylch a oes gennych chi achos da ai peidio gan:
- Cyngor ar Bopeth
- gwasanaeth hawliau lles
- canolfan gynghori
- canolfan y gyfraith
- cyfreithiwr
- undeb llafur
Efallai y bydd rhai ohonynt yn fodlon eich helpu i baratoi eich achos a dod i’r gwrandawiad tribiwnlys gyda chi. Gallwch gael mwy o wybodaeth am ffynonellau cymorth gan wasanaethau gwybodaeth eich cyngor lleol neu ar-lein.
Bydd llawer o’r bobl sy’n gwneud apêl yn dewis cael cyngor a chymorth proffesiynol. Os ydych chi’n penderfynu cael cyngor, mae’n well gwneud hynny cyn gynted â phosib - pan fyddwch chi’n ystyried apelio. Peidiwch ag aros nes bydd eich apêl wedi cychwyn.
Wrth ystyried apelio neu beidio, mae angen i chi hefyd wybod beth all ac ni all y tribiwnlys ei wneud i chi. Nid oes gan dribiwnlysoedd bwerau diderfyn - gallant ond wneud yr hyn y mae’r gyfraith yn caniatáu iddynt ei wneud. Gallant benderfynu p’un a oes gennych chi hawl gyfreithiol i gael cefnogaeth ariannol. Gallant hefyd gadarnhau’r penderfyniad a wnaed gan NHSBSA.
Ni all y tribiwnlys:
- newid y gyfraith - mae’n rhaid iddo weithredu’r gyfraith fel y mae, hyd yn oed os yw hynny’n arwain at ganlyniad sy’n annheg yn eich barn chi
- delio â chwynion gweinyddol, megis oedi neu ddiffyg cwrteisi - os ydych chi’n credu eich bod wedi cael gwasanaeth gwael gan NHSBSA, dylech gysylltu â’u gwasanaeth cwsmeriaid nhw.
3. Eich apêl
Y gyfraith
Mae’r gyfraith yn cynnwys rheolau penodol ynghylch apeliadau a gallwn ond dderbyn eich apêl os yw’n bodloni’r meini prawf cyfreithiol hyn. Rhaid i’ch apêl:
- fod yn ysgrifenedig
- bod wedi’i hysgrifennu yn Gymraeg neu’n Saesneg
- cynnwys copi o’r hysbysiad gwyrdroi gorfodol
- rhoi rhesymau dros yr apêl
- fod wedi’i llofnodi gennych chi, neu ar eich rhan os yw NHSBSA neu lys wedi penodi rhywun arall i weithredu ar eich rhan
Os nad yw eich apêl yn bodloni’r meini prawf hyn, efallai y bydd rhaid i ni ei dychwelyd i chi. Efallai na fyddwn yn ystyried eich apêl o gwbl oni bai eich bod yn darparu’r manylion hyn.
Oherwydd y gofyniad cyfreithiol i gynnwys gwybodaeth benodol, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio ffurflen apêl SSCS7 i wneud eich apêl. Mae’r ffurflen yn eich helpu i gasglu’r wybodaeth berthnasol fesul cam ac mae’n cynnwys rhestr wirio i’ch helpu i wybod beth i’w wneud. Mae’r ffurflen hefyd yn gofyn cwestiynau i chi ynghylch pa fath o wrandawiad yr hoffech, unrhyw ddyddiadau yr hoffech i ni eu hosgoi ac a oes gennych chi unrhyw ofynion hygyrchedd.
Os byddai’n well gennych, cewch wneud eich apêl drwy ysgrifennu llythyr yn unig. Fodd bynnag, byddwch mewn risg o adael allan rhywfaint o’r wybodaeth sy’n ofynnol dan y gyfraith. Hefyd, efallai y bydd rhaid i ni ysgrifennu atoch i ofyn am eich gofynion o ran y gwrandawiad a’r dyddiadau rydych ar gael, a byddai hyn yn achosi oedi yn y broses. Os ydych chi eisiau gwneud apêl drwy ysgrifennu eich llythyr eich hun, defnyddiwch y ffurflen apêl fel arweiniad a rhowch yr holl wybodaeth y mae’r ffurflen apêl yn gofyn amdani yn eich llythyr chi.
Os oes arnoch angen cyngor ar lenwi’r ffurflen apêl, gallwch ffonio neu anfon e-bost i’r llinell gymorth apeliadau budd-daliadau:
- os ydych chi’n byw yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu tu allan i’r DU ac yn siarad Cymraeg, ffoniwch 0300 303 5170 neu anfonwch e-bost i [email protected]. Gall siaradwyr Saesneg ffonio 0300 123 1142 neu anfon neges e-bost i [email protected]
- os ydych chi’n byw yn yr Alban – 0141 354 8400 neu [email protected]
4. Llenwi ffurflen SSCS7
Nid oes angen i chi lenwi pob rhan o’r ffurflen os nad ydynt yn berthnasol i chi. Fodd bynnag, mae’n rhaid i bawb lenwi adrannau 1, 4, 5, ac 8.
Dylech ddefnyddio inc du i lenwi’r ffurflen gan fod rhaid i ni ei sganio ai hanfon at NHSBSA - nid yw inc lliw nad yw’n ddu yn dangos yn dda mewn sganiau neu lungopïau. Dylech hefyd ddefnyddio PRIFLYTHRENNAU i lenwi’r ffurflen fel bod yr holl fanylion pwysig yn glir - oni bai fod yr adran ar y ffurflen yn dweud wrthych am wneud fel arall.
Adran 1 - Eich manylion
Pan rydym yn cyfeirio atoch ‘chi’ rydym yn golygu’r unigolyn sy’n gwneud yr apêl. Bydd angen i chi ddweud wrthym pwy ydych chi a ble’r ydych chi’n byw fel y gallwn ysgrifennu atoch. Bydd NHSBSA angen yr wybodaeth hon hefyd i allu adnabod pwy ydych chi pan fyddwn ni’n gofyn iddynt egluro pam y daethant i’w penderfyniad.
Yn yr adran hon bydd angen i chi roi eich:
- teitl (e.e. Mr, Mrs neu Miss)
- enw cyntaf
- cyfenw
- dyddiad geni
- rhif yswiriant gwladol
- cyfeiriad
- rhif ffôn
- cyfeiriad e-bost
Mae arnom angen eich rhif ffôn rhag ofn y byddwn angen cysylltu â chi ar fyr rybudd. Er enghraifft:
- os daw dyddiad gwrandawiad ar gael yn gynt na’r disgwyl
- os byddai’n haws egluro rhywbeth i chi dros y ffôn yn hytrach na’n ysgrifenedig
Adran 2 - Ynglŷn â’r unigolyn y cawsoch eich penodi i’w helpu
Dim ond os ydych chi’n apelio ar ran rhywun rydych chi gofalu am ei faterion y dylech chi lenwi’r adran hon. Gallai fod yn blentyn rydych chi’n rhiant iddo/i, neu gallai fod yn oedolyn na all reoli ei fudd-daliadau ei hun. Os yw’r unigolyn yn oedolyn, mae’n rhaid bod gennych chi ddogfen sy’n dangos eich bod chi’n rheoli eu materion neu ystad. Yn yr adran hon bydd angen ichi ddarparu eu:
- teitl
- enw cyntaf
- cyfenw
- dyddiad geni
- rhif yswiriant gwladol
- cyfeiriad
Os ydych chi ond yn cynorthwyo’r unigolyn gyda’i apêl ar sail cytundeb anffurfiol, byddwch yn gweithredu fel cynrychiolydd a bydd angen i chi lenwi adran 3 yn lle’r adran hon.
Adran 3 - Ynglŷn â’ch cynrychiolydd (os oes gennych un)
Os nad oes gennych chi gynrychiolydd, gallwch anwybyddu’r adran hon a symud i adran 4.
Mae gennych hawl i gael cynrychiolydd o’ch dewis chi, ond mae’n rhaid i chi drefnu hyn eich hun. Nid oes rhaid i’ch cynrychiolydd fod â chymhwyster cyfreithiol - gallant fod yn ffrind neu’n aelod o’r teulu. Fodd bynnag, bydd eich cynrychiolydd yn cael gweld y dystiolaeth sy’n berthnasol i’r apêl, megis adroddiadau meddygol a fyddwch chi efallai yn ystyried yn gyfrinachol. Wrth ddewis cynrychiolydd, dylech gofio beth yw swyddogaeth cynrychiolydd mewn tribiwnlys.
Dylai cynrychiolydd allu:
- eich cynghori ynghylch y math o dystiolaeth fydd yn helpu eich achos
- cael gafael ar dystiolaeth i chi neu eich helpu i gael gafael arni
- cysylltu â NHSBSA i weld a ellir setlo’r achos heb fynd i wrandawiad tribiwnlys
- ymchwilio i’r gyfraith
- paratoi datganiad ysgrifenedig i’r tribiwnlys yn crynhoi eich achos
- eich cynghori ar faterion cysylltiedig, gan gynnwys budd-daliadau eraill
- delio â goblygiadau penderfyniad y tribiwnlys
Mae’r mwyafrif o bobl sydd â chynrychiolydd yn cael eu cynrychioli gan sefydliad proffesiynol megis canolfan gynghori neu wasanaeth hawliau lles.
Yn yr adran hon o’r ffurflen bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am eich cynrychiolydd, gan gynnwys:
- enw’r unigolyn sy’n eich cynrychioli (os ydych chi’n ei wybod)
- enw’r sefydliad (os ydynt yn gweithio i un)
- cyfeiriad
- rhif ffôn
- cyfeiriad e-bost
Byddwn yn cysylltu â’ch cynrychiolydd ynghylch eich apêl a byddwn yn dweud wrthynt am bethau fel dyddiadau gwrandawiadau. Byddwn yn gofyn i NHSBSA anfon copi o bapurau eich apêl atyn nhw ac atoch chi.
Os ydych chi eisiau cael cynrychiolydd ond nid ydych wedi llwyddo i gysylltu ag asiantaeth gyngor hyd yna, gallwch dal gyflwyno’ch apêl. Yna gallwch roi’r manylion angenrheidiol i ni yn hwyrach ymlaen pan fydd gennych gynrychiolydd. Rhaid i chi wneud hyn yn ysgrifenedig gan fod arnom angen eich caniatâd ysgrifenedig i gymryd cyfarwyddiadau gan rywun sy’n gweithredu ar eich rhan. Gan amlaf, bydd eich cynrychiolydd yn trefnu hyn ar eich cyfer.
Hyd yn oed os oes gennych chi gynrychiolydd, mae’n debyg y bydd y tribiwnlys eisiau siarad yn uniongyrchol â chi yn y gwrandawiad - gan ofyn cwestiynau i chi a gwrando ar eich atebion. Mae hyn oherwydd y bydd gennych yr wybodaeth a phrofiad uniongyrchol o’r pethau y bydd y tribiwnlys eisiau clywed amdanynt fwyaf. Dim ond fersiwn ail-law y gallai eich cynrychiolydd ei roi.
Adran 4 - Y rhesymau dros eich apêl
Ysgrifennwch y rhesymau pam rydych chi’n meddwl bod y penderfyniad yn anghywir. Nid oes angen i chi ddefnyddio PRIFLYTHRENNAU i lenwi’r adran hon.
Nid oes rhaid i’ch rhesymau fod yn hir neu wedi eu hysgrifennu mewn iaith gyfreithiol - ond mae angen i chi ddweud mwy na dim ond, ‘Rwy’n anghytuno’. Dylech esbonio mewn ffordd syml pam rydych chi’n credu bod y penderfyniad rydych chi’n apelio yn ei erbyn yn anghywir. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi ddarllen eich hysbysiad gwyrdroi gorfodol neu eich llythyr penderfyniad ac ysgrifennu beth rydych yn anghytuno ag o, a pham. Efallai y byddai hefyd yn ddefnyddiol i chi ddweud beth rydych chi’n meddwl y dylai’r penderfyniad cywir fod.
Y mwyaf penodol ydych chi ynghylch y pwyntiau sy’n destun dadl, yr hawsaf y bydd hi i’r tribiwnlys ddeall pam rydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad a chanolbwyntio ar hyn cyn y gwrandawiad. Gallwch atodi tystiolaeth a allai gefnogi eich apêl, neu gallwch ei hanfon yn hwyrach ymlaen, ond ni ddylech oedi cyn apelio tra rydych chi’n dod o hyd i’r dystiolaeth.
Os oes arnoch angen mwy o le i ysgrifennu eich rhesymau, gallwch atodi darn o bapur ar wahân.
Adran 5 - Ynglŷn â’ch gwrandawiad apêl
Byddwn fel arfer yn trefnu gwrandawiad ar gyfer eich apêl. Cynhelir y gwrandawiad dros y ffôn, drwy fideo neu wyneb yn wyneb. Gelwir hyn yn ‘gwrandawiad llafar’. Fe ddisgwylir i chi a’ch cynrychiolydd gymryd rhan.
Mewn gwrandawiad llafar byddwch chi, a’ch cynrychiolydd (os oes gennych un), yn cael cyfle i siarad â’r tribiwnlys, cyflwyno eich achos ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gan y tribiwnlys. Mae gan NHSBSA hefyd yr hawl i gymryd rhan mewn gwrandawiad llafar a chyflwyno eu hachos.
Y dewis arall yn hytrach na gwrandawiad llafar yw bod y tribiwnlys yn dod i benderfyniad ynghylch eich achos heb wrandawiad. Ni fyddwch chi na NHSBSA yn cymryd rhan, a bydd y tribiwnlys yn dod i benderfyniad ar sail yr hyn sydd ym mhapurau’r apêl. Bydd y tribiwnlys yn ystyried eich llythyr apêl, unrhyw dystiolaeth ategol yr ydych wedi’i darparu ac ymateb NHSBSA i’ch apêl. Gelwir hyn yn ‘penderfynu ar sail y papurau’. Bydd hyn yn digwydd os bydd pob parti yn cytuno iddo, nid oes neb wedi gofyn am wrandawiad llafar ac y mae’r tribiwnlys yn ystyried y gall benderfynu ar eich apêl heb wrandawiad llafar.
Bydd NHSBSA hefyd yn cael cyfle i ddweud pa fath o wrandawiad y byddent yn ei ffafrio.
Os ydych chi eisiau newid y math o wrandawiad a gynhelir, mae’n rhaid i chi ddweud wrthym cyn gynted â phosib. Os nad ydych eto wedi cael dyddiad gwrandawiad, gallwch wneud hyn dros y ffôn. Os ydych chi wedi cael dyddiad gwrandawiad, bydd angen i chi ofyn yn ysgrifenedig i’r math o wrandawiad gael ei newid.
Pan fyddwch chi’n dewis math o wrandawiad, efallai y byddwch eisiau gwybod ble byddai gwrandawiad eich apêl yn cael ei gynnal. Os ydych chi eisiau cymryd rhan mewn gwrandawiad wyneb yn wyneb, bydd angen i chi deithio i’r gwrandawiad.
Rydym yn cynnal gwrandawiadau apêl mewn dros 100 o leoliadau gwahanol ledled Cymru, Lloegr a’r Alban. Mae yna leoliad tribiwnlys yn y mwyafrif o ddinasoedd a threfi. Byddwn yn ceisio trefnu i’ch gwrandawiad gael ei gynnal yn y lleoliad sydd agosaf atoch chi. Ysgrifennwch atom os yw’r lleoliad rydym yn ei gynnig i chi yn anghyfleus.
Dod o hyd i lys neu dribiwnlys
Mae’r mwyafrif o leoliadau tribiwnlys yn hygyrch i bobl ag anableddau. Rydym yn deall y gall anableddau fod yn gorfforol ac yn feddyliol. Os ydych chi eisiau gwneud y siŵr bod y lleoliad yn addas ar gyfer eich anghenion unigol chi, rhowch fanylion eich gofynion yn adran 6 o’r ffurflen.
Gallwch hefyd ofyn i wrandawiad gael ei gynnal dros y ffôn neu drwy gyswllt fideo drwy roi tic yn y blwch perthnasol. Os ydych chi eisiau cymryd rhan mewn gwrandawiad dros y ffôn, byddwch angen rhywle tawel a phreifat i siarad, a byddwn angen eich rhif ffôn. Os ydych chi eisiau cymryd rhan mewn gwrandawiad trwy gyswllt fideo, byddwch angen mynediad i gyfrifiadur neu ddyfais symudol gyda chysylltiad da â’r rhyngrwyd. Byddwch hefyd angen rhywle tawel a phreifat i siarad, a byddwn angen eich cyfeiriad e-bost.
Bydd eich cais am y math o wrandawiad y byddech yn ei ffafrio yn cael ei roi gerbron barnwr tribiwnlys i benderfynu.
Ar ôl i chi benderfynu pa fath o wrandawiad rydych eisiau, ticiwch un o’r blychau sy’n dweud:
- Rwyf eisiau cymryd rhan yn y gwrandawiad
- Nid wyf eisiau cymryd rhan yn y gwrandawiad
Os ydych chi’n ticio’r blwch i ddweud eich bod eisiau cymryd rhan mewn gwrandawiad, ewch ymlaen i adran 5a a dewiswch wrandawiad dros y ffôn, gwrandawiad drwy gyswllt fideo neu wrandawiad wyneb yn wyneb. Os ydych chi’n ticio’r blwch i ddweud nad ydych chi eisiau cymryd rhan mewn gwrandawiad, gallwch fynd yn syth i adran 8
Adran 6 - Cymorth yn eich gwrandawiad
Os oes arnoch angen ysgrifennu yn unrhyw un o’r blychau yn yr adran hon, mae angen i chi ddefnyddio PRIFLYTHRENNAU.
Rhowch wybod i ni os byddwch angen cyfieithydd ar y pryd yn y gwrandawiad. Bydd y tribiwnlys yn defnyddio cyfieithwyr ar y pryd a dehonglwyr iaith arwyddion annibynnol a phroffesiynol - ni allwch ddefnyddio rhai eich hun. Pan fyddwn yn trefnu eich gwrandawiad, byddwn yn gwneud yn siŵr y darperir cyfieithydd ar y pryd/dehonglydd iaith arwyddion sy’n bodloni eich anghenion.
Gallai’r cyfieithydd ar y pryd fod yn rhywun sy’n cyfieithu ar lafar o’r Saesneg i iaith arall, neu yng Nghymru o Gymraeg i Saesneg, neu gall fod yn ddehonglydd iaith arwyddion sy’n cyfieithu iaith lafar i Iaith Arwyddion Prydain. Os ydych chi angen cyfieithydd ar y pryd neu ddehonglydd iaith arwyddion, mae’n rhaid i chi nodi pa iaith a thafodiaith sydd eu hangen.
Os byddwch eisiau teithio i’r gwrandawiad, mae angen i ni wneud yn siŵr fod eich gwrandawiad yn cael ei gynnal mewn lleoliad sy’n addas i chi ac y gallwch gael mynediad iddo’n rhwydd. Gallwch ddweud wrthym am unrhyw anghenion sydd gennych, neu unrhyw addasiadau rhesymol yr hoffech i ni wneud, i’ch galluogi i fynychu gwrandawiad. Gall hyn fod yn rhywbeth fel dolen glyw neu ofynion eraill oherwydd anabledd neu broblem symudedd. Gall hyn fod ar gyfer amrywiaeth o anableddau corfforol a meddyliol.
Adran 7 - Eich argaeledd ar gyfer gwrandawiad
Yn yr adran hon mae angen i chi gadarnhau:
- y byddwch ar gael pa bryd bynnag y bydd y gwrandawiad yn cael ei drefnu, neu
- rydych angen dweud wrth y tribiwnlys am ddyddiadau yn y 3 i 8 mis nesaf pan na allwch fynychu gwrandawiad
Fel arfer byddwn yn rhoi o leiaf 14 diwrnod o rybudd o wrandawiad. Fodd bynnag, os byddwch yn dweud wrthym y gallwch fod yn rhydd pa bryd bynnag y cynhelir y gwrandawiad, byddwn yn cymryd hyn fel caniatâd i roi llai na 14 diwrnod o rybudd i chi os bydd dyddiad gwrandawiad ar gael yn gynharach na’r disgwyl. Yna gallwch fynd yn syth i adran 8.
Os oes dyddiadau pan na fyddwch ar gael, mae’n rhaid i chi ddweud wrth y tribiwnlys beth yw’r dyddiadau hynny. Efallai bod dyddiad rheolaidd pan nad ydych ar gael - er enghraifft, pob dydd Iau oherwydd ymrwymiadau gwaith, bywyd cartref neu ymrwymiadau eraill. Neu efallai eich bod yn ymwybodol o ddyddiadau penodol pan na fyddwch ar gael, er enghraifft oherwydd apwyntiadau ysbyty neu wyliau rydych wedi’i drefnu’n barod.
Dylech ystyried eich argaeledd ar gyfer y 3 i 8 mis nesaf. Gallwch wastad ddweud wrthym am unrhyw newidiadau i’ch argaeledd drwy ein ffonio, anfon neges e-bost neu ysgrifennu atom.
Adran 8 - Llofnodi a phostio
Mae’n ofyniad cyfreithiol i chi lofnodi eich apêl. Ysgrifennwch eich enw mewn PRIFLYTHRENNAU yn y blwch priodol, yna llofnodwch eich enw yn y blwch o dan eich enw a chofnodwch y dyddiad pan wnaethoch lofnodi’r ffurflen.
Os na fyddwch yn llofnodi eich ffurflen apêl, efallai y bydd rhaid i ni ei dychwelyd i chi er mwyn i chi ei llofnodi. Os ydych chi wedi enwi cynrychiolydd yn adran 3, bydd llofnodi’r ffurflen apêl yn rhoi caniatâd i ni ohebu a thrafod eich apêl â nhw petai angen i ni wneud hynny.
Os ydych chi’n byw yng Nghymru, Lloegr neu yn rhannau eraill o’r DU neu diriogaethau dibynnol y goron o fewn Ynysoedd Prydain (ar wahân i’r Alban), er enghraifft Gogledd Iwerddon, Ynys Jersey ac Ynys Manaw, dylech anfon eich apêl i:
Canolfan Apeliadau Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant GLlTEF
Blwch Post 1203
Bradford
BD1 9WP
Os ydych chi’n byw yn yr Alban, dylech anfon eich apêl i:
Canolfan Apeliadau Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant GLlTEF
Blwch Post 27080
Glasgow
G2 9HQ
Cofiwch gynnwys copi o’ch hysbysiad gwyrdroi gorfodol.
5. Ar ôl i chi anfon eich apêl
Byddwn yn gwirio eich apêl i wneud yn siŵr ei bod yn bodloni’r holl ofynion cyfreithiol er mwyn iddi gael ei derbyn fel apêl ddilys.
Os oes unrhyw broblemau gyda’ch apêl, byddwn yn ei dychwelyd atoch gyda llythyr yn esbonio beth yw’r broblem a beth y gallwch ei wneud i ddatrys y broblem. Os na wnewch hynny, efallai y bydd y tribiwnlys yn dod â’ch apêl i ben (‘ei dileu’) oherwydd nad ydych wedi darparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani.
Weithiau gall yr apêl barhau hyd yn oed os nad yw eich cais yn cynnwys rhywfaint o’r gofynion angenrheidiol. Gelwir hyn yn ‘hepgor gofyniad’. Gall y rhesymau dros hyn amrywio, felly mae’n rhaid i chi ddarparu’r holl wybodaeth ofynnol. Peidiwch â dibynnu ar y gallu i hepgor gofyniad.
Os gellir derbyn eich apêl fel un ddilys, byddwn yn anfon llythyr cydnabod atoch. Os nad ydych eisoes wedi darparu manylion eich gofynion ar gyfer y gwrandawiad ar y ffurflen apêl neu mewn llythyr, efallai y byddwn yn anfon ffurflen arall atoch i holi beth yw’r rhain.
Byddwn hefyd yn anfon copi o’ch apêl at NHSBSA ac yn gofyn iddynt ddarparu ‘ymateb’ i’ch apêl. Adroddiad ynghylch eich apêl gan NHSBSA yw’r ymateb, sy’n esbonio sut y daethant i’w penderfyniad. Mae yna derfyn amser o 28 diwrnod ar gyfer darparu ymateb. Mae gan NHSBSA yr hawl i ofyn am estyniad amser hefyd. Os byddant yn gwneud hyn, bydd barnwr yn ystyried eu cais. Byddwn yn ysgrifennu atoch os bydd hyn yn digwydd.
Unwaith y bydd gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, byddwn yn cysylltu â chi ac yn dweud wrthych sut y gallwch ddarparu rhagor o dystiolaeth i’r tribiwnlys.
6. Beth fydd NHSBSA yn gwneud gyda’r apêl
Ystyried yr apêl
Bydd NHSBSA yn ailedrych ar eu penderfyniad gan ystyried yr wybodaeth rydych wedi’i rhoi yn eich apêl ac unrhyw dystiolaeth newydd neu ychwanegol rydych wedi’i darparu.
Gall NHSBSA, ar unrhyw adeg hyd at y gwrandawiad tribiwnlys, newid y penderfyniad rydych yn apelio yn ei erbyn os ydynt yn credu bod rhesymau dros wneud hyn. Os byddant yn penderfynu newid y penderfyniad fel ei fod o’ch plaid chi, byddant yn rhoi gwybod i ni a bydd eich apêl yn dod i ben yn awtomatig. Byddwn yn ysgrifennu atoch os bydd hyn yn digwydd.
Bydd gennych hefyd hawl i apelio yn erbyn penderfyniad newydd NHSBSA. Os yw NHSBSA yn bwriadu gwneud hyn, byddant yn cysylltu â chi yn gyntaf i wirio eich bod yn cytuno â’r penderfyniad newydd a byddant ond yn parhau os ydych chi’n cytuno.
Gwrthwynebu’r apêl.
Mae gan NHSBSA hawl i wrthwynebu eich apêl. Gallant wrthwynebu apêl am nifer o resymau, megis:
- mae’n erbyn penderfyniad sydd heb yr hawl i apelio
- mae’n hwyr ac mae’r rhesymau dros gyflwyno’r apêl yn hwyr yn afresymol
- nid yw’n cynnwys digon o wybodaeth i ganfod y penderfyniad neu’n cynnwys seiliau’r apêl
- mae’n annhebygol iawn o lwyddo
Os bydd NHSBSA yn gwrthwynebu eich apêl, byddant yn ysgrifennu atom. Efallai y byddwn wedyn yn anfon copi o’u gwrthwynebiad atoch chi ac yn eich gwahodd i wneud sylwadau arno cyn ei gyfeirio at farnwr. Bydd y barnwr yn adolygu eich achos ac yn penderfynu p’un a yw unrhyw un o ddadleuon NHSBSA yn ddilys.
Os bydd eich apêl yn mynd yn ei blaen heb wrthwynebiad, bydd NHSBSA yn anfon atoch chi a ni, gopi o’u ‘hymateb’ i’ch apêl. Bydd hwn yn cyrraedd fel bwndel o bapurau, a allai gynnwys hyd at 150 o dudalennau neu fwy, gan ddibynnu ar y math o fudd-dal a hanes yr hawliad. Peidiwch â gadael i faint y bwndel eich digalonni - byddwch eisoes yn gyfarwydd â llawer o’r cynnwys, megis copïau o’ch ffurflen hawlio. Gall rhai ymatebion fod yn llawer byrrach oherwydd y materion dan sylw. Mae’r ymateb yn cynnwys:
- y penderfyniad rydych yn apelio yn ei erbyn
- crynodeb o’r ffeithiau perthnasol
- y rhesymau dros y penderfyniad
- dyfyniadau o’r gyfraith berthnasol
- copi o’ch ffurflen neu lythyr apêl
- copïau o ddogfennau sy’n berthnasol i’r apêl (e.e. ffurflen hawlio, adroddiadau meddygol neu lythyrau)
Dylech gael yr ymateb o fewn 28 diwrnod i NHSBSA gael ei hysbysu am apêl ddilys. Os ydych chi wedi rhoi enw cynrychiolydd ar eich ffurflen apêl, anfonir copi o’r ymateb atyn nhw hefyd.
Dylech ddarllen yr ymateb pan fyddwch chi’n ei gael neu siarad â’ch cynrychiolydd (os oes gennych un). Bydd eich cynrychiolydd yn pwyso a mesur achos NHSBSA ac yn eich cynghori os yw eich apêl dal i fod yn rhesymol. Os nad oes gennych gynrychiolydd, mae’n rhaid i chi ddarllen drwy’r papurau a dod i benderfyniad eich hun.
Os byddwch yn penderfynu peidio â pharhau â’ch apêl (‘tynnu eich apêl yn ôl’), rhaid i chi roi gwybod i ni neu byddwn yn parhau gyda’ch achos. Gallwch dynnu eich apêl yn ôl drwy ein ffonio neu ysgrifennu atom.
Os ydych chi’n byw yng Nghymru, Lloegr neu yn rhannau eraill o’r DU neu diriogaethau dibynnol y goron o fewn Ynysoedd Prydain (ar wahân i’r Alban), er enghraifft Gogledd Iwerddon, Ynys Jersey ac Ynys Manaw, dylech gysylltu â:
Canolfan Apeliadau Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant GLlTEF
Blwch Post 1203
Bradford
BD1 9WP
Rhif ffôn ar gyfer siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5170
Rhif ffôn ar gyfer siaradwyr Saesneg: 0300 123 1142
Gwybodaeth am gost galwadau
Os ydych chi’n byw yn Yr Alban, dylech gysylltu â:
Canolfan Apeliadau Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant GLlTEF
Blwch Post 27080
Glasgow
G2 9HQ
Rhif ffôn: 0300 790 6234
Gwybodaeth am gost galwadau
7. Ar ôl i NHSBSA ymateb
Beth fydd yn digwydd nesaf
Unwaith y byddwn wedi cael ymateb NHSBSA, byddwn yn dechrau trefnu i’ch apêl gael ei gwrando.
Os ydych chi wedi gofyn i’ch apêl cael ei phenderfynu ar sail y papurau, byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau ein bod ni nawr yn barod i roi eich apêl gerbron y tribiwnlys. Byddwn hefyd yn egluro os oes gennych chi unrhyw dystiolaeth bellach i’w chyflwyno i gefnogi eich apêl, dylech ei hanfon atom o fewn 28 diwrnod, neu roi gwybod i ni os oes arnoch angen mwy o amser. Gwnewch yn siŵr ein bod ni wedi cofnodi’ch gofynion yn gywir. Dywedwch wrthym os oes unrhyw newid i’r manylion rydych wedi’u cyflwyno’n barod. Er enghraifft, eich:
- dewis o wrandawiad - gallwch ofyn i wrandawiad gael ei gynnal dros y ffôn neu drwy gyswllt fideo (bydd eich cais yn cael ei roi gerbron barnwr tribiwnlys i benderfynu)
- cyfeiriad
- cynrychiolydd
- rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost
Ffoniwch ni neu ysgrifennwch atom os ydych chi eisiau gwneud newid. Mae’n rhaid i chi ysgrifennu atom i ddweud wrthym am newid i’r unigolyn sy’n eich cynrychioli.
Os nad ydych chi eisiau apelio mwyach, gallwch ddweud wrthym eich bod eisiau tynnu’r apêl yn ôl. Gwnewch hyn yn syth ar ôl i chi wneud y penderfyniad, neu fel arall byddwn yn parhau i drefnu gwrandawiad. Gallwch wneud hyn drwy ffonio’r rhif ffôn sydd yn y llythyr.
Os ydych chi wedi gofyn am wrandawiad llafar, byddwn hefyd yn ysgrifennu atoch i gadarnhau’r manylion sydd gennym amdanoch. Os ydych chi wedi darllen ymateb NHSBSA a bod unrhyw beth wedi newid y dylem wybod amdano, rhowch wybod i ni cyn gynted ag y gallwch. Gallai hyn fod yn:
- ddyddiad pan nad ydych ar gael
- eich bod wedi newid eich meddwl ac yr hoffech i’ch apêl gael ei phenderfynu ar sail y papurau yn hytrach na chael gwrandawiad llafar y byddech yn ei fynychu.
Rhoi eich achos gerbron y tribiwnlys
Os ydych chi wedi gofyn i’ch apêl gael ei phenderfynu ar sail y papurau, ni fyddwn yn rhoi gwybod i chi pryd fydd eich achos yn cael ei ystyried.
Os ydych chi wedi gofyn i gael gwrandawiad llafar, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ddyddiad y gwrandawiad yn ysgrifenedig. Byddwn yn rhoi o leiaf 14 diwrnod o rybudd o ddyddiad y gwrandawiad i chi, oni bai eich bod wedi rhoi gwybod i ni y byddwch yn derbyn llai o rybudd na hyn. Bydd y llythyr yn dweud wrthych beth yw dyddiad ac amser y gwrandawiad, a chyfeiriad y ganolfan wrandawiadau tribiwnlys. Bydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am:
- hawlio treuliau, megis am deithio
- cyfarwyddiadau i’r ganolfan wrandawiadau
- cysylltiadau trafnidiaeth
- hygyrchedd a chyfleusterau yn y lleoliad
Ar ôl trefnu dyddiad, byddwn yn gwneud ein gorau i osgoi canslo. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylech ofyn i’r gwrandawiad gael ei ohirio, megis oherwydd salwch neu brofedigaeth. Os na allwch fynychu, mae’n rhaid i chi ofyn i’r gwrandawiad gael ei ohirio yn ysgrifenedig neu drwy ffonio. Byddwn y cyfeirio’r cais at farnwr tribiwnlys a fydd yn gwneud penderfyniad yn ei gylch. Gall y tribiwnlys wrando’ch apêl yn eich absenoldeb. Felly mae’n bwysig nad ydych yn cymryd yn ganiataol y bydd yr apêl yn cael ei gohirio hyd nes y byddwn wedi cadarnhau hynny.
Os byddwch mewn sefyllfa lle na allwch roi llawer o rybudd nad ydych ar gael, ac ni allwch wneud cais ysgrifenedig am ohiriad, dylech ffonio swyddfa’r tribiwnlys cyn gynted â phosib. Byddwn yn rhoi gwybod i’r tribiwnlys am eich amgylchiadau a bydd y tribiwnlys yn penderfynu a fydd yn gwneud penderfyniad ynghylch eich apêl yn eich absenoldeb ynteu’n gohirio’r gwrandawiad tan ddiwrnod arall pan fyddwch chi’n gallu bod yn bresennol.
8. Paratoi ar gyfer y gwrandawiad tribiwnlys
Tystiolaeth
Bydd NHSBSA wedi nodi yn eu hymateb pa dystiolaeth a ddefnyddiwyd i wneud y penderfyniad rydych wedi apelio yn ei erbyn. Mae’n anarferol i NHSBSA gyflwyno tystiolaeth newydd yn y gwrandawiad tribiwnlys.
Dylech ystyried pa dystiolaeth fydd ei hangen arnoch i gefnogi’ch achos, gan fod rhyw anghydfod ynghylch ffeithiau yn y rhan fwyaf o apeliadau.
Yn gyntaf oll, y math o dystiolaeth y gallech ei chyflwyno yw’r hyn y gallwch ddweud wrth y tribiwnlys. Mae’n hawdd anghofio bod yr hyn yr ydych yn ei ddweud wrth y tribiwnlys yn cael ei ystyried yn ‘dystiolaeth’.
Efallai y bydd pobl eraill hefyd yn gallu rhoi tystiolaeth i’r tribiwnlys. Gallwch ddod ag un tyst eu fwy gyda chi os byddai hynny’n eich helpu. Er enghraifft, os yw eich apêl yn ymwneud â’r anhawster sydd gennych wrth edrych ar ôl eich hun oherwydd eich bod yn anabl, gallech ddod â’ch prif ofalwr gyda chi i ddweud wrth y tribiwnlys ynglŷn â faint o gymorth sydd ei angen arnoch.
Os ydych chi wedi gofyn i rywun fynychu gwrandawiad fel tyst, gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod pryd a ble i fynd. Dywedwch wrthym os ydych chi’n bwriadu dod ag unrhyw dystion gyda chi. Os ydych chi eisiau i rywun o NHSBSA fod yn dyst (er enghraifft, aelod o staff a gynhaliodd gyfweliad â chi), gwnewch gais ysgrifenedig i swyddfa berthnasol y NHSBSA. Gallwch ysgrifennu atom os byddant yn gwrthod a bydd barnwr yn ystyried os oes angen iddynt roi rhagor o gyfarwyddiadau.
Os oes gennych ddogfennau rydych eisiau eu defnyddio i gefnogi eich apêl, anfonwch nhw (neu lungopïau ohonynt) atom mor fuan â phosib yn y broses apelio. Peidiwch ag aros nes byddwch yn y gwrandawiad tribiwnlys. Gallai cyflwyno dogfennau pwysig ar y funud olaf olygu bod y tribiwnlys yn penderfynu bod rhaid gohirio’r gwrandawiad. Gallai fod angen gwneud hyn fel bod gan y tribiwnlys a NHSBSA gyfle teg i ystyried y dystiolaeth hwyr yn llawn.
Byddwn yn gwneud copïau ohonynt ac yn eu hanfon at NHSBSA cyn eu dychwelyd i chi. Yn gyffredinol, mae gan NHSBSA hawl i weld unrhyw ddogfennau rydych yn eu hanfon atom. O ran tegwch, dylai’r ddwy ochr gael cyfle i weld a herio’r dystiolaeth a gyflwynir gerbron y tribiwnlys. Mae yna ychydig o eithriadau prin i’r rheol hon. Mewn achosion lle mae tystiolaeth feddygol wedi dod i law a all achosi poen meddwl, efallai y bydd y tribiwnlys yn penderfynu atal yr wybodaeth honno. Er enghraifft, mae’r dystiolaeth yn cynnwys gwybodaeth am brognosis nad ydych chi’n ymwybodol ohono eto a all achosi gofid.
Gall tystiolaeth feddygol fod yn ddefnyddiol wrth benderfynu ynghylch apêl. Gallai hyn fod yn:
- lythyr gan feddyg
- adroddiad gan ymgynghorydd (er enghraifft, a baratowyd mewn cysylltiad â hawliad yn dilyn damwain)
- copi o gofnodion meddygol
- adroddiad gan ymarferydd meddygol sy’n archwilio sy’n arbenigo mewn asesu anabledd
Mae’n bwysig bod unrhyw dystiolaeth feddygol yn berthnasol ac yn amserol. Os byddwch yn anfon llythyr neu adroddiad, mae’n rhaid i chi anfon pob tudalen yr ydych eisiau i’r tribiwnlys ei darllen. Weithiau rydym yn cael llythyrau gan bobl sy’n gwahodd y tribiwnlys i ffonio neu ysgrifennu at eu meddyg i ofyn am wybodaeth. Ni fydd y tribiwnlys yn gwneud hynny. Eich cyfrifoldeb chi yw paratoi eich achos. Mae’r tribiwnlys yn niwtral.
Fel claf, mae gennych hawl i gael copi o’ch cofnodion meddygol gan eich meddyg. Os ydych chi’n cael tystiolaeth feddygol, anfonwch y dystiolaeth honno atom cyn gynted â phosib. Peidiwch ag aros tan ddyddiad eich gwrandawiad.
Ymchwilio i’r gyfraith
Bydd penderfyniad y tribiwnlys yn seiliedig ar gymhwyso’r gyfraith berthnasol i ffeithiau’r achos. Yn aml iawn mae cyfraith nawdd cymdeithasol a chynnal plant yn gymhleth ac yn agored i gael ei dehongli’n wahanol. Gallwch ddod o hyd i gyfarwyddyd ar ystyr y gyfraith sydd wedi’i phasio gan y Senedd ym mhenderfyniadau Uwch Dribiwnlys a’r llysoedd. Gallwch ymchwilio i’r gyfraith:
- mewn llyfrgelloedd cyhoeddus
- ar wefannau fel legislation.gov.uk ar gyfer deddfau seneddol a rheoliadau, a GOV.UK ar gyfer penderfyniadau’r Uwch Dribiwnlys
- mewn cyfeirlyfrau cyfreithiol (bydd y rhain gan gynrychiolwyr proffesiynol).
Efallai y gwelwch fod yr ymateb a gewch gan NHSBSA yn cynnwys cyfeiriadau at benderfyniadau’r Uwch Dribiwnlys y mae NHSBSA yn ystyried yn berthnasol i’r materion cyfreithiol yn eich apêl. Gallwch chi, neu eich cynrychiolydd, gyflwyno penderfyniadau eraill yr Uwch Dribiwnlys. Os byddwch yn gwneud hyn, anfonwch y manylion atom mewn da bryd cyn y gwrandawiad. Ni allwn ymchwilio i’r gyfraith ar eich rhan na darparu detholiadau i chi.
Paratoi eich ymateb eich hun
Os ydych chi’n credu nad yw’r ymateb gan NHSBSA yn rhoi crynodeb cywir o’ch achos, gallwch baratoi eich ymateb eich hun, yn nodi’r ffeithiau fel yr ydych chi’n eu gweld a’r gyfraith fel yr ydych chi’n ei dehongli. Dylech anfon eich ymateb atom mewn da bryd cyn y gwrandawiad. Byddwn yn anfon copi at NHSBSA.
Byddwn yn anfon yr holl bapurau sy’n ymwneud â’r apêl at aelodau’r tribiwnlys o leiaf 14 diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r tribiwnlys astudio’r papurau a chanfod unrhyw broblemau a all effeithio ar gynnal y gwrandawiad. Mae hyn yn lleihau’r risg o orfod gohirio’r gwrandawiad ac yn cwtogi hyd y gwrandawiad. Mae’n rhaid i chi felly anfon eich tystiolaeth ysgrifenedig ac unrhyw sylwadau rydych eisiau eu gwneud atom mewn da bryd cyn y gwrandawiad.
Byddwn yn anfon copi o unrhyw dystiolaeth a gawn gennych at NHSBSA. Gorau po gyntaf y bydd NHSBSA yn cael eich tystiolaeth, er mwyn iddo allu penderfynu a ddylid newid ei benderfyniad.
9. Pethau y mae angen i ni wybod amdanynt os byddant yn newid
Rhaid i chi roi gwybod i ni os bydd unrhyw un o’ch amgylchiadau’n newid er mwyn i ni sicrhau y gallwn ddarparu’r math o wrandawiad yr ydych eisiau, ymateb i unrhyw anghenion arbennig sydd gennych a chyfathrebu â chi yn y cyfeiriad cywir. Rydym yn annibynnol ar NHSBSA, felly hyd yn oed os ydych chi wedi hysbysu NHSBSA am gyfeiriad newydd, bydd rhaid i chi hefyd ei roi i ni. Gallwch wneud hyn yn ysgrifenedig, drwy anfon neges e-bost neu dros y ffôn.
Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym:
- os yw eich cyfeiriad cartref wedi newid
- os yw eich rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost wedi newid
- os oes gennych gynrychiolydd newydd yn gweithredu ar eich rhan, neu fod eich cynrychiolydd wedi newid
- os ydych chi wedi newid eich meddwl ynghylch y math o wrandawiad rydych eisiau
- os na allwch fod yn bresennol neu os ydych chi wedi penderfynu nad ydych am fod yn bresennol mewn gwrandawiad sydd wedi’i drefnu
- os nad ydych chi eisiau apelio mwyach (‘tynnu eich apêl yn ôl’)
Os oes gennych chi gynrychiolydd newydd, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni yn ysgrifenedig gan fod arnom angen eich caniatâd ysgrifenedig i gymryd cyfarwyddiadau gan rywun sy’n gweithredu ar eich rhan. Fel arfer, bydd eich cynrychiolydd yn trefnu hyn ar eich cyfer.
10. Mynychu’ch gwrandawiad
Y rhybudd o wrandawiad
Byddwn yn rhoi gwybod i chi yn ysgrifenedig am ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad. Gan amlaf mae tribiwnlysoedd yn gwrando apeliadau rhwng 10am a 12.45pm a 2pm a 4.45pm rhwng dydd Llun a dydd Gwener. Gellir parhau tu hwnt i’r oriau hynny er mwyn gallu cwblhau apêl sydd wedi cychwyn. Yr amser sydd ar eich rhybudd o wrandawiad yw’r amser y disgwylir y bydd eich gwrandawiad yn cael ei gynnal.
Mynychu gwrandawiad wyneb yn wyneb
Os ydych chi angen help i dalu am eich costau teithio i’r gwrandawiad, gallwn ad-dalu costau teithio rhesymol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus neu gostau tanwydd. Gallwch wneud cais am hyn drwy lenwi ffurflen hawlio ar ôl eich gwrandawiad a bydd taliad yn cael ei wneud i’ch cyfrif banc. Mewn amgylchiadau eithriadol iawn mi wnawn dalu costau teithio cyn y gwrandawiad. Cysylltwch â ni cyn y gwrandawiad os oes arnoch angen cymorth gyda theithio. Mae’n rhaid i chi gadw unrhyw dderbynebau a thocynnau teithio i brofi eich bod wedi teithio a chynnwys y rhain gyda’ch hawliad.
Os na allwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, er enghraifft, oherwydd anabledd, gallwn dalu am dacsi. Gallwn ond wneud hyn os bydd yn cael ei gytuno ymlaen llaw. Bydd eich rhybudd o wrandawiad yn esbonio’r rheolau ynghylch hawlio costau teithio. Cynlluniwch eich taith fel eich bod yn cyrraedd o leiaf 15 munud cyn dechrau’r gwrandawiad. Dewch ag ymateb NHSBSA gyda chi ac unrhyw ddogfennau gwreiddiol yr ydych wedi’u hanfon i ni fel tystiolaeth.
Er budd diogelwch y cyhoedd, fe gynhelir gwiriadau diogelwch yn ein lleoliadau. Efallai y byddwch yn cael eich chwilio.
Os ydych chi’n debygol o fod yn hwyr ar gyfer eich gwrandawiad, ffoniwch ni ac fe rown wybod i’r tribiwnlys.
Os ydych chi’n penderfynu peidio â mynychu’r gwrandawiad, ffoniwch ni i roi gwybod i ni. Bydd hyn yn sicrhau na fydd y tribiwnlys yn aros i chi gyrraedd ac nid oes angen i’n staff gysylltu â chi.
Yn y gwrandawiad
Pan fyddwch chi’n cyrraedd lleoliad y tribiwnlys, bydd clerc y tribiwnlys yno i’ch cyfarfod. Aelod o staff GLlTEF yw clerc y tribiwnlys sy’n sicrhau bod gwrandawiadau’n mynd rhagddynt mor rhwydd â phosib. Cyfrifoldeb y clerc yw:
- egluro’r broses i chi
- ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych
- delio â hawliadau teithio neu dreuliau eraill
- delio â’r tasgau gweinyddol sy’n gysylltiedig â’ch gwrandawiad
Bydd y clerc hefyd yn cadw mewn cysylltiad â’r tribiwnlys, gan ddweud wrthynt pwy sydd wedi cyrraedd a chynorthwyo’r tribiwnlys gyda theipio’r hysbysiad o benderfyniad a delio ag unrhyw waith papur. Mae’r clerc hefyd yn cadw mewn cysylltiad â swyddfa’r tribiwnlys, gan ddelio ag unrhyw negeseuon funud olaf, megis negeseuon gan bobl sy’n rhedeg yn hwyr.
Bydd y tribiwnlys yn ceisio cychwyn eich gwrandawiad ar yr amser a nodir yn eich rhybudd gwrandawiad. Fodd bynnag, oherwydd nad yw bob amser yn bosib rhagweld faint o amser y bydd pob apêl yn cymryd, efallai y bydd yr amser cychwyn ychydig yn hwyrach.
Pan fyddwch chi’n cyrraedd, bydd y clerc yn mynd â chi i ystafell aros ac yn rhoi syniad i chi pa bryd y bydd eich gwrandawiad apêl yn debygol o gychwyn. Bydd y clerc yn delio ag unrhyw hawliadau am gostau sydd gennych ac yn ateb unrhyw gwestiynau funud olaf ynghylch trefniadau’r gwrandawiad. Ni all y clerc roi cyngor i chi ar eich apêl neu sut y dylech gyflwyno eich achos.
Bydd y clerc hefyd yn bresennol yn ystafell y tribiwnlys ar adegau yn ystod y gwrandawiad neu drwy gydol y gwrandawiad, rhag ofn y bydd y tribiwnlys angen cymorth gweinyddol. Nid yw’r clerc yn cymryd unrhyw ran ym mhroses benderfynu’r tribiwnlys.
Fel sy’n wir am y mwyafrif o adeiladau’r llywodraeth, bydd staff diogelwch hefyd yn bresennol ar y safle.
Gwrandawiadau o bell
Y barnwr fydd yn penderfynu a ddylid cynnal y gwrandawiad drwy gyswllt fideo neu dros y ffôn os yw’n fodlon ei fod er lles cyfiawnder i bawb sy’n rhan o’r achos. Byddwn yn anfon rhybudd o wrandawiad atoch i gadarnhau a fydd eich gwrandawiad yn cael ei gynnal drwy gyswllt fideo neu dros y ffôn. Bydd y rhybudd yn cynnwys yr holl wybodaeth fydd ei hangen arnoch i gymryd rhan yn y gwrandawiad.
Os cynhelir eich gwrandawiad drwy gyswllt fideo, byddwn yn gofyn i chi am eich cyfeiriad e-bost er mwyn i ni allu anfon gwahoddiad atoch i’r gwrandawiad fideo. Os ydyw gennym yn barod, efallai y bydd y rhybudd o wrandawiad yn cynnwys dolen we i ymuno â’r gwrandawiad. Os nad yw gennym, byddwn yn gofyn amdano yn y rhybudd o wrandawiad ac yn anfon neges e-bost ar wahân atoch gyda’r ddolen pan fyddwn wedi’i gael gennych. Gwiriwch eich ffolder ‘spam’ os nad ydych wedi’i gael.
Os cynhelir eich gwrandawiad dros y ffôn, byddwn yn eich ffonio amser y gwrandawiad. Efallai y byddwn yn defnyddio rhif ffôn anhysbys i’ch ffonio. Os ydych chi’n defnyddio gwasanaeth gwahardd galwadau, dylech ei droi i ffwrdd er mwyn i ni allu eich ffonio.
Defnyddiwch y manylion cyswllt yn eich rhybudd o wrandawiad i ddweud wrthym cyn gynted â phosib:
- beth yw’r manylion cyswllt yr hoffech i ni eu defnyddio
- os ydych chi eisiau rhywun gyda chi sydd ddim yn eich cynrychioli, er enghraifft, gweithiwr cefnogi.
- os oes arnoch angen cyfieithydd ar y pryd, neu gymorth arall i ymuno â’r gwrandawiad.
- os oes rheswm pam na allwch ymuno, megis:
- dim mynediad at gyfrifiadur neu ddyfais symudol
- dim mynediad neu fynediad cyfyngedig â’r rhyngrwyd
- anabledd sy’n golygu eich bod angen cymorth gyda’r gwrandawiad drwy gyswllt fideo
Bydd y tribiwnlys yn ystyried eich cais ac yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau eich bod yn gallu cymryd rhan yn y gwrandawiad. Gallai hyn olygu y byddwch yn ymuno mewn ffordd wahanol. Os nad yw hyn yn bosibl, efallai y byddwn yn gohirio’r gwrandawiad.
Os ydych chi’n cael problemau technegol neu os na allwch ymuno â’r gwrandawiad ar y diwrnod, ffoniwch y ddesg cymorth dechnegol ar 0300 303 5177.
Mae’n drosedd i recordio, cyhoeddi manylion neu dynnu lluniau o wrandawiad tribiwnlys heb ganiatâd.
Y tribiwnlys
Panel a benodir gan Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd yw’r tribiwnlys. I gael eu penodi, mae’n rhaid i aelodau’r panel fod wedi cymhwyso yn y gyfraith, meddygaeth, cyfrifyddiaeth neu yn y maes anabledd. Mae’n rhaid bod ganddynt hefyd rinweddau personol sy’n briodol i ddalwyr swyddi barnwrol, megis annibyniaeth a’r gallu i fod yn ddiduedd.
Mae cyfansoddiad y tribiwnlys wedi’i nodi yn y gyfraith. Nid oes gennych hawl i ddewis.
Os ydych chi’n adnabod aelod o’r tribiwnlys, dylech ddweud wrth y tribiwnlys ar ddechrau’r apêl. Gall fod yn amhriodol i’r unigolyn hwnnw fod yn gysylltiedig â’ch achos. Os bydd aelod o banel y tribiwnlys yn eich adnabod chi, ni fyddant yn gallu ystyried eich achos.
Pobl eraill a fydd yn bresennol
Gall NHSBSA anfon cynrychiolydd (a elwir yn ‘swyddog cyflwyno’) i gymryd rhan yng ngwrandawiad eich apêl. Bydd NHSBSA yn astudio pob apêl yn unigol a byddant ond yn anfon swyddog cyflwyno os byddant o’r farn bod angen gwneud hyn. Gallwch chi neu eich cynrychiolydd gwrdd â’r tribiwnlys ar eich pen eich hun.
Yn ôl y gyfraith, mae gwrandawiadau tribiwnlys yn agored i’r cyhoedd, ond mae’n anarferol i aelod o’r cyhoedd fynychu. Gallwch ofyn i’r tribiwnlys wahardd y cyhoedd rhag mynychu’r gwrandawiad er mwyn eich preifatrwydd personol.
Trefn y tribiwnlys
Mae tribiwnlysoedd yn rhannu rhai o nodweddion y llysoedd, ond nid y cyfan ohonynt.
Mae tribiwnlysoedd yn debyg i lysoedd o ran eu bod:
- yn gweithredu o fewn set o reolau a osodir gan y gyfraith
- yn gweithredu’n annibynnol ar y llywodraeth
- yn farnwyr cwestiynau ynghylch ffeithiau a’r gyfraith
- yn penderfynu ar ffeithiau ar sail gwrando a phrofi tystiolaeth
- yn gorfod bod yn deg â’r ddwy ochr neu bob ochr
Mae tribiwnlysoedd yn wahanol i lysoedd o ran:
- mae ystafelloedd tribiwnlys wedi’u gosod mewn ffordd llai ffurfiol
- nid oes neb yn gwisgo wig na gŵn
- cyfeirir at aelodau’r tribiwnlys fel Mr, Mrs, Miss, Ms neu Dr ac yna eu cyfenw
- mae pobl yn rhoi tystiolaeth wrth eistedd wrth fwrdd, nid o flwch tystion
- fel arfer, nid yw tystiolaeth yn cael ei rhoi ar lw neu gadarnhad
- wrth wrando tystiolaeth, bydd aelodau’r panel tribiwnlys yn arwain o ran gofyn cwestiynau
Mater i’r barnwr tribiwnlys yw penderfynu sut y cynhelir y gwrandawiad. Mae’r gyfraith yn rhoi’r pŵer hwnnw i’r barnwr. Bydd trefn gwrandawiadau yn amrywio o un achos i’r llall, yn dibynnu ar natur y materion i’w penderfynu. Weithiau bydd y tribiwnlys wedi penderfynu, o ddarllen papurau’r apêl, bod yr apêl yn ymwneud ag un mater. Efallai y bydd wedyn yn penderfynu canolbwyntio ar y pwynt hwnnw o ddechrau’r gwrandawiad.
Fodd bynnag, gan amlaf bydd y gwrandawiad yn dilyn prosesau arferol gwrando achos.
Cyflwyniadau
Bydd y barnwr tribiwnlys yn cyflwyno pawb sy’n bresennol ac yn dweud sut byddant yn cymryd rhan yn yr achos, ac yn gwirio bod unrhyw wasanaethau cyfieithu neu arwyddo sydd eu hangen yn addas. Bydd y barnwr hefyd yn gwneud yn siŵr bod gan bawb yr holl setiau papurau angenrheidiol. Bydd y gwrandawiad yn cael ei recordio, a dyma fydd ‘y cofnod o’r achos’.
Datganiadau agoriadol
Bydd y barnwr tribiwnlys yn crynhoi’r materion yn yr apêl yn ôl y papurau ac yn cytuno â’r partïon sy’n bresennol beth y mae angen rhoi sylw iddo yn y gwrandawiad ac ym mha drefn. Mae hwn yn gyfle i gynrychiolwyr wneud datganiad agoriadol yn amlinellu eu hachos, os yw’r barnwr tribiwnlys yn eu gwahodd i wneud hynny.
Rhoi tystiolaeth
Mewn tribiwnlys, lle mae’n anghyffredin i unrhyw ochr fod â chynrychiolydd cyfreithiol, mae’r tribiwnlys yn cymryd y cyfrifoldeb am ofyn y cwestiynau. Dylech fod yn ymwybodol:
- y bydd y tribiwnlys eisiau canolbwyntio ar y materion sy’n destun anghydfod, felly peidiwch â phoeni os nad ydynt yn gofyn cwestiynau ynghylch pob agwedd ar eich achos
- os oes anghysondebau yn y dystiolaeth (er enghraifft, os ydych chi’n nodi un peth yn eich ffurflen hawlio ond yn dweud rhywbeth gwahanol wrth y tribiwnlys), efallai y bydd y tribiwnlys yn gofyn cwestiynau i ganfod beth yw’r gwir ffeithiau
- bydd y tribiwnlys yn gwneud ei orau i wneud yn siŵr nad ydych chi’n anghofio neu’n methu unrhyw bwyntiau yn eich achos
- efallai y bydd y tribiwnlys yn holi am faterion personol neu faterion a allai achosi embaras, yn enwedig mewn achosion sy’n ymwneud ag anabledd - ond bydd yn gwneud hyn mewn ffordd sensitif
- mae rhoi tystiolaeth yn rhan fawr a phwysig o’r gwrandawiad, ac ni ddylech adael i gynrychiolwyr neu unrhyw arall dynnu eich sylw - bydd pawb yn cael cyfle i siarad
- ar ôl i’r tribiwnlys orffen gofyn ei gwestiynau, os ydych chi’n meddwl ei fod wedi methu rhywbeth, yna dylech ddweud wrth y barnwr - bydd cyfle hefyd i unrhyw gynrychiolwyr ofyn cwestiynau perthnasol
Archwiliad meddygol
Ni fydd y gwrandawiad yn cynnwys archwiliad meddygol. Yn ôl y gyfraith, dim ond fel rhan o wrandawiadau tribiwnlys ar gyfer apeliadau sy’n ymwneud ag anafiadau diwydiannol y caniateir archwiliadau meddygol.
Tystion
Ar ôl i chi roi eich tystiolaeth, bydd unrhyw dystion yn rhoi eu tystiolaeth nhw. Ni fydd y swyddog cyflwyno ar ran y NHSBSA yn dyst fel arfer, oherwydd ei bod yn annhebygol y byddant wedi chwarae unrhyw ran flaenorol wrth ddelio â’ch hawliad.
Datganiadau cloi
Ar ôl i bawb orffen rhoi tystiolaeth, bydd y barnwr yn gofyn am ddatganiadau cloi. Mae hwn yn gyfle i gynrychiolwyr o’r ddwy ochr grynhoi’r achos.
Y penderfyniad
Bydd y tribiwnlys yn ystyried y dystiolaeth a’r datganiadau yn breifat. Ar y pwynt hwn, bydd clerc y tribiwnlys yn mynd â chi’n ôl i’r ystafell aros. Yn y mwyafrif o achosion bydd y barnwr yn gofyn i chi aros tra bydd y tribiwnlys yn gwneud ei benderfyniad. Fodd bynnag, os bydd y barnwr yn credu ei bod yn annhebygol y gellir gwneud penderfyniad yn gyflym, bydd y tribiwnlys yn postio’r penderfyniad atoch. Os bydd y tribiwnlys yn gallu rhoi ei benderfyniad ar y diwrnod, bydd y barnwr yn eich gwahodd yn ôl i’r ystafell tribiwnlys i glywed y penderfyniad. Bydd y tribiwnlys hefyd yn rhoi hysbysiad o benderfyniad ysgrifenedig i chi. Pan fydd y barnwr yn cyhoeddi’r penderfyniad, bydd yr apêl yn dod i ben ac ni fydd unrhyw drafodaethau pellach yn digwydd.
Gohirio
Efallai y bydd y tribiwnlys yn penderfynu na all wneud penderfyniad ar sail y dystiolaeth y mae wedi’ch clywed ar y diwrnod. Efallai y bydd yn penderfynu ‘gohirio’r achos, sef gofyn i ddyddiad gwrandawiad arall gael ei bennu. Pan fydd y tribiwnlys yn gohirio’r achos bydd yn anelu at bennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad nesaf. Byddant yn darparu arweiniad a chyfarwyddiadau i helpu i leihau’r risg o unrhyw oedi pellach i’r achos.
11. Ar ôl i’r tribiwnlys wneud ei benderfyniad
Gweithredu’r penderfyniad
Os ydych chi wedi cael gwrandawiad llafar, bydd y tribiwnlys yn rhoi’r penderfyniad i chi a NHSBSA neu bydd yn ei bostio atoch y diwrnod hwnnw.. Os yw eich achos wedi’i benderfynu ar sail y papurau, bydd y tribiwnlys yn postio’r penderfyniad atoch chi a NHSBSA - dylech ei gael diwrnod neu ddau ar ôl i’r apêl gael ei phenderfynu.
Yn wahanol i lysoedd, nid oes gan y tribiwnlys bwerau cyfreithiol i orfodi ei benderfyniadau. Os yw’r penderfyniad yn dweud bod rhaid i NHSBSA dalu arian i chi, ni fydd y tribiwnlys yn gallu eich helpu i’w orfodi i dalu.
Yn y mwyafrif o achosion mae NHSBSA yn cydymffurfio â phenderfyniad y tribiwnlys. Bydd ond yn gwrthod os yw’n bwriadu apelio yn erbyn penderfyniad y tribiwnlys. Os byddant yn penderfynu apelio, mae ganddynt hawl i beidio â thalu unrhyw arian y mae’r tribiwnlys wedi penderfynu bod rhaid iddynt roi i chi.
Unwaith y bydd y tribiwnlys wedi gwneud ei benderfyniad, dylech ofyn i NHSBSA am sut fydd y penderfyniad yn cael ei weithredu, gan mai eu cyfrifoldeb nhw yw hyn. Bydd yna ychydig o oedi ar ôl i’r penderfyniad gael ei wneud tra bydd NHSBSA yn ystyried y camau nesaf.
Cywiriadau
Os ydych chi’n credu bod yr hysbysiad o benderfyniad yn cynnwys gwall, gallwch ysgrifennu atom i ofyn i ni ei gywiro. Dim ond os mai camgymeriad damweiniol yn unig yw’r gwall a wnaed y bydd yn cael ei gywiro. Gall NHSBSA hefyd ofyn am gywiriadau.
Canslo’r penderfyniad – ‘rhoi o’r naill du’
Gallwch chi, neu NHSBSA wneud cais i benderfyniad y tribiwnlys gael ei ganslo - gelwir hyn yn ‘rhoi o’r naill du’. Os bydd hyn yn digwydd, yna gellir trefnu gwrandawiad newydd. Dim ond mewn nifer fach o amgylchiadau y gallwch wneud hyn, sef
- ni chafodd dogfen sy’n ymwneud â’r achos (er enghraifft, rhybudd o’r gwrandawiad) ei hanfon neu ni wnaeth gyrraedd mewn pryd
- cynhaliwyd gwrandawiad ond nid oeddech chi, eich cynrychiolydd neu NHSBSA yn bresennol ac y mae’r tribiwnlys yn derbyn yr esboniad am ddiffyg presenoldeb
- bod anghysondeb arall wedi codi o ran y trefniadau.
Bydd y tribiwnlys yn canslo’r penderfyniad os bydd un o’r amodau hyn yn berthnasol a’i fod yn ystyried ei fod yn iawn i wneud hynny.
Rhaid i chi wneud cais ysgrifenedig cyn pen mis o ddyddiad yr hysbysiad o benderfyniad neu’r datganiad o’r rhesymau, pa bynnag un yw’r hwyraf. Hysbysiad sy’n egluro sut a pam bod y tribiwnlys wedi gwneud ei benderfyniad yw ‘datganiad o’r rhesymau’ - gallwch ofyn am hyn os ydych chi eisiau apelio yn erbyn y penderfyniad. Gall y tribiwnlys ymestyn y terfyn amser ar gyfer cais i ganslo penderfyniad os bydd y barnwr yn penderfynu bod yna resymau da dros wneud hyn.
Apêl bellach
Gallwch chi neu NHSBSA wneud cais i’r Uwch Dribiwnlys am ganiatâd i apelio yn erbyn y penderfyniad.
Y cam cyntaf wrth wneud cais am ganiatâd i apelio yw gofyn am ddatganiad o’r rhesymau dros benderfyniad y tribiwnlys. Rhaid i chi wneud cais ysgrifenedig i ofyn am hwn o fewn un mis i ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad o benderfyniad. Bydd y barnwr a wnaeth wrando eich apêl yn ysgrifennu’r datganiad.
Unwaith y byddwch wedi darllen y datganiad o’r rhesymau, gallwch ond apelio os ydych chi’n credu bod ‘gwall cyfreithiol’ wedi’i wneud. Mae enghreifftiau o ‘wall cyfreithiol’ yn cynnwys bod y tribiwnlys wedi:
- cymhwyso’r gyfraith yn anghywir
- cynnal yr achos heb ddilyn y drefn gywir
- methu â chanfod y ffeithiau’n ddigonol neu roi rhesymau digonol dros ei benderfyniad.
Mae’n rhaid i chi wneud cais drwy lenwi ffurflen y bydd y tribiwnlys yn ei hanfon atoch ar gais. Mae gennych un mis o ddyddiad cyhoeddi’r datganiad i wneud cais am ganiatâd. Gall y tribiwnlys ymestyn y terfyn amser ar gyfer rhoi penderfyniad o’r naill du os oes rhesymau da dros wneud hynny.
Bydd eich cais yn cael ei ystyried gan uwch farnwr tribiwnlys. Gall y barnwr:
- roi caniatâd - yna gallwch anfon eich apêl ymlaen i’r Uwch Dribiwnlys
- gwrthod caniatâd - yna gallwch ofyn i’r Uwch Dribiwnlys yn uniongyrchol am ganiatâd
- penderfynu canslo penderfyniad y tribiwnlys heb fod angen cyfeirio’r achos at yr Uwch Dribiwnlys - efallai y bydd y barnwr yn ail-benderfynu’r achos neu’n cyfarwyddo bod angen i dribiwnlys newydd wrando’r achos
Os bydd yr apêl yn mynd ymlaen i’r Uwch Dribiwnlys, mae ganddo’r pŵer i ganslo penderfyniad y tribiwnlys a chyfeirio’r achos at dribiwnlys newydd, neu i wneud penderfyniad newydd ei hun.