Gwneud cais am drawsgrifiad o sylwadau dedfrydu barnwr
Defnyddiwch y ffurflen hon i ofyn am gofnod ysgrifenedig (a elwir yn drawsgrifiad) rhad ac am ddim o sylwadau dedfrydu barnwr mewn achos lladdiad neu drosedd rhywiol difrifol yn Llys y Goron.
Dogfennau
Manylion
Gallwch gael copi rhad ac am ddim o sylwadau dedfrydu barnwr os yw’r canlynol yn berthnasol:
- rydych yn aelod o deulu dioddefwr lladdiad (llofruddiaeth, dynladdiad neu droseddau achosi marwolaeth ar y ffyrdd, fel gyrru’n beryglus) neu
- rydych yn ddioddefwr trais rhywiol neu droseddau rhywiol difrifol a
- cafwyd y diffynnydd yn euog neu ei fod wedi pledio’n euog ac fe’i ddedfrydwyd gan farnwr Llys y Goron
Os nad ydych yn gymwys i wneud cais am gopi rhad ac am ddim o sylwadau dedfrydu’r barnwr, neu os ydych eisiau trawsgrifiad llys hwy, gallwch wneud cais trwy ddefnyddio Ffurflen EX107. Efallai y bydd rhaid i chi dalu costau.
Agor dogfen
Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho yn galluogi defnyddio mwy o nodweddion, fel argraffu.
Mae Adobe Reader yn raglen gweld ffeiliau PDF sydd yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio hwn i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer treial am ddim.
Dilynwch y camau hyn:
- Lawrlwythwch Adobe Reader am ddim.
- Cliciwch gydag ochr dde y llygoden ar y ddolen a dewiswch ‘Save link as’ neu ‘Download linked file’.
- Cadw’r ffurflen (yn eich ffolder ‘documents’, er enghraifft).
- Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen yr ydych wedi’i chadw.
Os nad yw’r ffurflen yn agor o hyd, cysylltwch â [email protected].
Os oes angen fersiwn brintiedig arnoch cysylltwch â’ch llys lleol.
Dewch o hyd i ragor o ffurflenni llys a thribiwnlys fesul categori.
Dewch o hyd i sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn defnyddio’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 28 Mai 2024Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Awst 2024 + show all updates
-
Added a Welsh version of the page
-
Added a Welsh version of the form.
-
First published.