Gwneud cais am gofrestriad grŵp TAW neu newid eich manylion
Defnyddiwch ffurflen VAT50/51 er mwyn gwneud cais i gofrestru neu newid grŵp TAW sy’n bodoli eisoes.
Dogfennau
Manylion
Defnyddiwch y ffurflen hon er mwyn:
-
gwneud cais i gofrestru:
- 2 neu fwy o gwmnïau
- cyrff corfforaethol eraill fel un endid gydag un rhif cofrestru TAW
- ychwanegu cwmnïau at grŵp TAW sy’n bodoli eisoes neu dynnu cwmnïau oddi wrth grŵp TAW sy’n bodoli eisoes
- gofyn am gael diddymu grŵp TAW sy’n bodoli eisoes
Mae angen i chi uwchlwytho’r VAT50/51 i’ch cofrestriad TAW ar-lein.
Cyn i chi ddechrau
Os ydych yn defnyddio porwr hŷn, er enghraifft, Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr (yn Saesneg).
Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol. Dylech gasglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau llenwi’r ffurflen.
Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig
Cael rhagor o wybodaeth am sut i wneud newidiadau i grŵp TAW sy’n bodoli eisoes (yn Saesneg).
Dysgwch am gofrestru grwpiau ac adrannau (yn Saesneg) ac am y ffurflenni y mae angen i chi eu defnyddio er mwyn gwneud cais.
Defnyddiwch ffurflen VAT56 er mwyn gwneud cais am gael newid yr aelod cynrychiadol ar gyfer grŵp TAW (yn Saesneg).
Defnyddiwch ffurflen VAT53 er mwyn awdurdodi asiant i ffurfio neu ddiwygio grŵp TAW (yn Saesneg).
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 13 Medi 2021Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Mehefin 2022 + show all updates
-
The 'who controls the group' section of form VAT50/51 has been updated.
-
A Welsh version of the guide has been added.
-
First published.