Ffurflen

Sut i newid eich enw trwy weithred newid enw

Diweddarwyd 12 Medi 2024

1. Cyn i chi ddechrau

Defnyddiwch y cyfarwyddyd hwn i’ch helpu i lenwi’r ffurflenni sydd eu hangen arnoch i gofrestru eich enw newydd yn y Llysoedd Barn Brenhinol. Gelwir hyn yn ‘newid eich enw trwy weithred newid enw.

Cyn i chi ddarllen y cyfarwyddyd hwn, dylech yn gyntaf ddarllen y prif gyfarwyddyd ar newid eich enw trwy weithred newid enw.

Os ydych chi am gofrestru newid i enw plentyn, rhaid i chi ddefnyddio’r cyfarwyddyd a’r ffurflenni ar gyfer newid enw eich plentyn trwy weithred newid enw. Ni allwch gofrestru i newid enw eich hun os ydych o dan 18 oed.

Os cawsoch eich geni yn yr Alban, dylech ddilyn y rheolau a’r cyfarwyddyd ar gyfer newid eich enw yn yr Alban.

Beth allwch ei newid a beth na allwch ei newid o ran eich enw trwy weithred newid enw

Gallwch:

  • newid unrhyw ran o’ch enw
  • ychwanegu neu hepgor enwau a chysylltnodau
  • newid sillafiad

Ni allwch:

  • newid eich teitl - er enghraifft, Mr, Mrs, Syr, Arglwyddes neu Doctor
  • newid unrhyw briflythrennau yn eich enw chi

2. Beth fydd ei angen arnoch i newid eich enw trwy weithred newid enw

Mae’n rhaid i chi lenwi ac anfon y ffurflenni canlynol atom:

Rhaid i chi gynnwys gyda’r ffurflenni tystiolaeth eich bod yn ddinesydd Prydeinig, y Gymanwlad neu un o diriogaethau dibynnol Prydain. Gallai hyn fod yn llungopi o’ch:

  • tystysgrif geni
  • pasbort dilys a chyfredol
  • tystysgrif frodori

Bydd angen i chi hefyd ddarparu dogfennau penodol os ydych:

Os nad yw unrhyw un o’ch dogfennau gwreiddiol yn Gymraeg neu’n Saesneg, bydd angen i chi ddarparu cyfieithiad ardystiedig o’r ddogfen. Ystyrir cyfieithiad yn ‘ardystiedig’ os yw’r cyfieithydd wedi cynnwys:

  • cadarnhad ysgrifenedig ar y cyfieithiad ei fod yn ‘gyfieithiad cywir a gwir o’r ddogfen wreiddiol’
  • dyddiad y cyfieithiad
  • ei enw llawn a’i fanylion cyswllt ei hun – nid rhai ei gwmni

Ar gyfer rhai o’r dogfennau y mae’n rhaid i chi eu darparu, bydd angen i chi hefyd gynnwys dalen flaen yr arddangosyn.

Yn olaf, bydd angen i chi hefyd gynnwys eich taliad am y ffioedd neu, fel arall, gallwch dalu dros y ffôn.

Newid eich enw os ydych wedi cael eich mabwysiadu

Os ydych wedi cael eich mabwysiadu ac eisiau newid eich enw, rhaid i chi hefyd anfon llungopïau o’ch dogfennau mabwysiadu atom.

Newid eich enw os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil

Os ydych eisoes yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac yn dymuno newid eich enw, bydd angen i chi hefyd gynnwys caniatâd ysgrifenedig eich gŵr, gwraig neu bartner. Rhaid i chi gynnwys:

  • llythyr ganddynt yn rhoi caniatâd - dylai gynnwys eu henw llawn a’u llofnod a dweud nad oes ganddynt unrhyw wrthwynebiadau i chi newid eich enw
  • llungopi o’ch tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil

Os na allwch gael eu caniatâd, dylech ddarparu affidafid (datganiad ysgrifenedig o’r gwirionedd) yn esbonio pam.

Newid eich enw os ydych wedi ysgaru neu’n weddw

Os ydych wedi ysgaru neu’n weddw, dim ond os ydych eisiau newid i enw newydd y byddwch angen gweithred newid enw.

Nid oes arnoch angen gweithred newid enw os ydych eisiau dychwelyd i ddefnyddio eich enw blaenorol (fel enw cyn priodi).

Fodd bynnag, efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth eich bod wedi ysgaru neu’n weddw, i newid eich enw gyda’ch banc, cyflogwr neu ar eich pasbort. Gallai hyn fod yn:

  • llungopi o’ch dyfarniad absoliwt neu orchymyn terfynol
  • tystysgrif marwolaeth eich gŵr, gwraig neu bartner

3. Y ffi i newid eich enw trwy weithred newid enw

Y ffi ar gyfer newid eich enw trwy weithred newid enw yw £49.32. Mae hyn yn cynnwys:

  • ffi cofrestru’r Llys – £11
  • tâl hysbysebu – £29.52
  • copi o The Gazette gyda’ch enw newydd – £8.80

Gallwch dalu’r ffi gyda:

  • siec
  • archeb bost
  • drafft banc
  • cerdyn credyd neu ddebyd

I dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd ffoniwch ni ar 020 3936 8957 (opsiwn 1).

Nid yw’r cynllun Help i Dalu Ffioedd yn berthnasol wrth wneud cais am weithred newid enw.

4. Ffurflen gweithred newid enw ar gyfer oedolion (LOC020)

Rhaid i chi lenwi’r ffurflen gyda holl fanylion eich enw newydd a’ch hen enw trwy’r holl ffurflen, gan gynnwys unrhyw enwau canol. Mae hon yn ddogfen gyfreithiol, sy’n dod yn weithred newid enw, felly:

  • ni ddylai gynnwys unrhyw groesiadau neu gamgymeriadau
  • dylai fod wedi’i hargraffu ar un ochr o’r papur yn unig

Mae’n rhaid i chi ddatgan eich statws perthynas. Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, bydd angen caniatâd ysgrifenedig eich gŵr, gwraig neu bartner arnoch os ydych yn newid eich enw.

Mae’n rhaid i chi wneud llungopi o’r ffurflen i’w chynnwys yn eich arddangosion. Byddwn yn cadw’r llungopi er mwyn cyfeirio ati ac i wneud copïau os bydd arnoch eu hangen. Byddwn yn dychwelyd y ffurflen gweithred newid enw wreiddiol atoch fel eich copi chi.

Adrannau cenedligrwydd a’r Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig

I newid eich enw trwy weithred newid enw, mae’n rhaid i chi fod yn:

  • Ddinesydd Prydeinig
  • Dinesydd y Gymanwlad
  • Dinesydd un o diriogaethau dibynnol Prydain

Rhaid i chi gynnwys ar y ffurflen yr adran o Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 sy’n eich cymhwyso fel dinesydd.

Adran 1 (1)

Os ydych yn ddinesydd Prydeinig a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 1983.

Adran 11 (1)

Os cawsoch eich geni yn y DU ar neu cyn 31 Rhagfyr 1982 ac rydych yn:

  • ddinesydd Prydeinig
  • dinesydd tiriogaeth ddibynnol Brydeinig neu’r Gymanwlad a anwyd gyda’r hawl i aros yn y DU o dan y Ddeddf Mewnfudo

Adran 37 (1)

Os cawsoch eich geni mewn gwlad yn y Gymanwlad.

Tystion

Mae’n rhaid i chi gael 2 dyst yn bresennol pan fyddwch chi’n llofnodi eich ffurflen gweithred newid enw. Gall y tystion fod wedi eich adnabod am unrhyw gyfnod o amser. Rhaid i’r tystion:

  • lofnodi’r ffurflen gyda beiro, ni chaniateir llofnod digidol
  • peidio â bod yn perthyn i chi trwy enedigaeth neu briodas

Gall eich datganydd hefyd fod yn dyst.

5. Datganiad statudol gweithred newid enw ar gyfer ffurflen oedolion (LOC021)

Mae datganiad statudol yn ddogfen y mae’n rhaid i unigolyn sy’n eich adnabod ei llenwi. Rhaid iddynt lofnodi i ddatgan mai chi yw’r sawl a enwir yn y cais. Cyfeirir atynt yn y datganiad fel y ‘datganydd’.

Mae’n rhaid i’r datganydd:

Os nad yw eich datganydd yn ddeiliad tŷ, rhaid i chi hefyd anfon affidafid atom (datganiad ysgrifenedig o wirionedd) yn esbonio hyn. Yna bydd y barnwr yn penderfynu a ellir derbyn eu datganiad.

Ni all y datganydd fod yn:

  • ŵr neu’n wraig i chi; yn
  • bartner sifil i chi
  • unrhyw berthynas arall i chi (trwy enedigaeth neu briodas)

Os nad ydych wedi adnabod unrhyw un ers 10 mlynedd neu fwy, rhaid i chi gynnwys affidafid sy’n esbonio’r rhesymau dros hynny. Bydd hyn yn cael ei gyfeirio at farnwr yn y Llysoedd Barn Brenhinol, a fydd yn penderfynu a ellir cofrestru eich gweithred newid enw. Os ydych wedi adnabod eich datganydd ers llai na 10 mlynedd, rhaid iddynt lenwi’r ffurflen datganiad statudol o hyd.

Gall y datganydd hefyd lofnodi eich ffurflen gweithred newid enw (LOC020) fel un o’r tystion.

Tyngu i wirionedd y datganiad statudol

Unwaith y bydd y datganydd wedi llenwi datganiad statudol, rhaid iddynt dyngu ei fod yn wir ym mhresenoldeb unigolyn sydd wedi’i awdurdodi i fod yn dyst i ddogfennau cyfreithiol pwysig yn cael eu llofnodi. Gallai hyn fod yn:

  • gyfreithiwr
  • comisiynydd llwon
  • swyddog y llys

Os ydych chi eisiau i swyddog y llys fod yn dyst, rhaid i chi ffonio’r swyddfa gweithred newid enw i drefnu apwyntiad yn y Llysoedd Barn Brenhinol.

Pan fydd y datganydd yn tyngu bod y datganiad yn wir, rhaid iddynt wneud hynny naill ai trwy dyngu llw ar lyfr sanctaidd neu drwy roi cadarnhad, a dyna lle darllenir y datganiad o wirionedd.

Rhaid i’r cyfreithiwr, comisiynydd llwon neu swyddog y llys hefyd argraffu a llofnodi’r ffurflen datganiad statudol.

Codir ffi arnoch pan fydd y datganydd yn tyngu llw neu’n cadarnhau. Os gwneir y llw neu’r cadarnhad yn y llys, y ffi yw £14. Gall y ffi fod yn wahanol os yw’r llw neu’r cadarnhad yn cael ei wneud ym mhresenoldeb cyfreithiwr neu gomisiynydd llwon.

Mae’n rhaid i’r datganiad statudol gael ei argraffu ar un ochr o’r papur yn unig.

Arddangosion i’r datganiad statudol

Mae ‘arddangosiad’ yn ddogfen a ddefnyddir yn y llys fel tystiolaeth. Mae’r llys angen arddangosion fel prawf o bwy mae’ch cais yn dweud yr ydych chi.

Yn y datganiad statudol, cyfeirir at yr arddangosion ar ffurf llythrennau:

  • Arddangosyn A – llungopi o’ch ffurflen gweithred newid enw (LOC020)
  • Arddangosyn B - llungopi o’ch tystiolaeth eich bod yn ddinesydd Prydeinig, y Gymanwlad neu un o diriogaethau dibynnol Prydain
  • Arddangosyn C – llungopi o’ch tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil (os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil)

Dylech gynnwys dalen flaen ar gyfer pob arddangosyn gyda’r geiriad perthnasol ac wedi ei lofnodi gan yr un cyfreithiwr, comisiynydd llwon neu swyddog y llys a welodd y datganydd yn tyngu llw neu gadarnhad.

Rhaid i’r taflenni arddangos gynnwys y geiriad canlynol:

“Dyma’r arddangosyn sydd wedi’i farcio gyda ‘A’/B’/’C’ y cyfeirir ato yn natganiad [enter statutory declarant’s name (y sawl sydd wedi eich adnabod am 10 mlynedd neu fwy)] a ddatganwyd ger fy mron [enter name of authorised witness] ar y [day] diwrnod hwn o [month] yn y flwyddyn [year].

Gallwch argraffu a defnyddio’r templed dalen flaen arddangosyn. Fel arall, gallwch ddefnyddio darn gwag o bapur, cyn belled â’i fod yn cynnwys y geiriad gofynnol ac wedi’i lofnodi gan y cyfreithiwr, comisiynydd llwon neu swyddog y llys.

6. Hysbysiad The Gazette ar gyfer oedolion (LOC025)

The Gazette yw cyhoeddwr swyddogol newidiadau enw yn y Llysoedd Barn Brenhinol. Rhaid i chi gwblhau hysbysiad ar gyfer The Gazette eich hun wrth gofrestru gweithred newid enw. Os ydych yn credu y bydd cyhoeddi eich manylion yn The Gazette yn eich rhoi mewn perygl, dylech ysgrifennu a llofnodi affidafid (datganiad ysgrifenedig o wirionedd) gydag unrhyw dystiolaeth ategol a’i gynnwys gyda’ch ffurflenni. Mae’n rhaid i chi dal dalu’r ffi am yr hysbyseb a’r copi o’r Gazette.

Yna bydd y llys yn penderfynu a fydd eich manylion yn cael eu cyhoeddi. Os byddant yn cytuno, byddwch yn cael ad-daliad o’r ffi am yr hysbyseb a’r copi. Wrth lenwi’r ffurflen, gwnewch yn siŵr:

  • fod y dyddiad sydd ar frig a gwaelod y ffurflen yn cyd-fynd â’r dyddiad ar eich ffurflen gweithred newid enw (LOC020)
  • bod eich enw wedi’i ysgrifennu’n llawn trwy gydol y ffurflen
  • bod y ffurflen wedi’i hargraffu ar un ochr o’r papur yn unig

7. Ble i anfon eich ffurflenni gweithred newid enw

Anfonwch eich ffurflenni a’ch dogfennau yn y post i Adran Mainc y Brenin.

Adran Mainc y Brenin
Adran Gorfodi
Ystafell E15
Y Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL

Fel arall, gallwch fynd â’ch ffurflenni a’ch dogfennau i’r blwch postio sydd ym mhrif fynedfa’r Llysoedd Barn Brenhinol rhwng 9am a 5pm.

8. Beth fydd yn digwydd nesaf

Byddwn yn gwirio’ch ffurflenni ac unrhyw ddogfennau ategol i sicrhau eich bod wedi eu llenwi a’u cyflwyno’n gywir. Bydd yn rhaid i ni ddychwelyd eich ffurflenni os oes unrhyw beth yn anghywir.

Os yw’r holl ffurflenni’n gywir, byddwn wedyn yn selio’r weithred newid enw wreiddiol ac yn dyrannu rhif iddo.

Byddwn yn anfon y weithred wreiddiol wedi’i selio atoch - dyma eich tystiolaeth eich bod wedi newid eich enw. Yna gallwch ddefnyddio hwn i ddweud wrth eich banc, cyflogwr neu unrhyw sefydliad arall am eich newid enw.

Byddwn yn anfon yr hysbysiad drafft ymlaen i’r Gazette, a fydd wedyn yn ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo modd. Yna bydd y Gazette yn anfon copi o’r hysbysiad cyhoeddedig atoch.

9. Cael help gyda gweithred newid enw

Os oes arnoch angen gofyn cwestiwn am y weithred o newid eich enw, cysylltwch â’r Tîm Gweithred Newid Enw yn Adran Mainc y Brenin.

Tîm Gweithred Newid Enw
Adran Mainc y Brenin
Y Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL

$C Ffôn: 020 3936 8957 (opsiwn 6)
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 10am tan 4pm
Wedi cau ar wyliau banc
Gwybodaeth am gost galwadau

E-bost: <[email protected]>
Ein nod yw ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.

Mae’r cyfeiriad e-bost uchod ar gyfer ymholiadau yn unig. Ni ddylech ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost hwn i gyflwyno ffurflenni gweithred newid enw.

Gallwch hefyd gysylltu â’r Tîm Gweithred Newid Enw os oes gennych ymholiad am weithred bresennol sy’n 5 oed neu lai.

Os oes gennych ymholiad am weithred newid enw sy’n hŷn na 5 mlynedd, cysylltwch â’r Archifau Cenedlaethol.