Ffurflen

Sut i atal grant profiant drwy'r post

Diweddarwyd 13 Tachwedd 2024

Pwy all wneud cais

Gallwch wneud cais i atal cais am brofiant (a elwir hefyd yn ‘cyflwyno cafeat’) os oes gennych anghydfod am:

  • pwy all wneud cais am brofiant
  • p’un a oes ewyllys ai peidio

Gallwch wneud cais os ydych chi’n 18 oed a throsodd ac yn:

  • ysgutor a enwir mewn ewyllys
  • parti â diddordeb
  • ymarferydd profiant (megis cyfreithiwr)

Ffi

Mae’n costio £3 i atal cais am 6 mis.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais ar-lein i atal cais am brofiant.

Os ydych chi’n ysgutor a enwir mewn ewyllys neu’n barti sydd â diddordeb, gallwch hefyd wneud cais drwy’r post.

Os ydych chi’n ymarferydd profiant, gallwch hefyd wneud cais drwy’r post neu drwy e-bost.

Gallwch wneud cais i atal y cais am brofiant cyn neu ar ôl i’r cais ddod i law.

Os byddwch yn llwyddiannus, fe gewch ‘gafeat’ sy’n atal y grant profiant rhag cael ei gyflwyno, sy’n para am 6 mis.

Gwneud cais drwy’r post

  1. Lawrlwythwch y ffurflen.
  2. Llenwch yr holl adrannau.
  3. Argraffwch y ffurflen.
  4. Llofnodwch a dyddiwch y ffurflen.
  5. Talwch y ffi gwneud cais o £3 drwy anfon siec yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF’ gyda’ch ffurflen.
  6. Anfonwch eich ffurflen i:

Cofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds
York House
31 York Place
Leeds
LS1 2BA

Gwneud cais drwy e-bost fel ymarferydd profiant

  1. Lawrlwythwch y ffurflen.
  2. Llenwch yr holl adrannau.
  3. Llofnodwch a dyddiwch y ffurflen.
  4. Talwch y ffi gwneud cais o £3 gan ddefnyddio Trosglwyddiad Cyfrif.
  5. Anfonwch y ffurflen drwy e-bost i [email protected]

Cysylltu â ni

Os oes angen help arnoch wrth lenwi’r ffurflen hon, gallwch gysylltu â llinell gymorth profiant.

Llinell gymorth profiant
Rhif ffôn: 0300 303 0648
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 1pm
Ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc

Gwybodaeth am gost galwadau