Ffliw adar: posteri i reolwyr tir
Posteri i reolwyr tir ac awdurdodau lleol i rybuddio'r cyhoedd bod risg o ffliw adar yn yr ardal.
Dogfennau
Manylion
Tri phoster i reolwyr tir ac awdurdodau lleol eu defnyddio mewn ardaloedd lle mae risg o ffliw adar.
Poster 1: mae ffliw adar wedi’i ganfod yn yr ardal hon, peidiwch â chymryd y risg o’i ledaenu
Mae’r poster hwn yn dweud:
- cadwch ar y llwybr troed, a chadwch gŵn ar dennyn
- peidiwch â chodi na chyffwrdd adar sydd wedi marw neu sy’n sâl
- peidiwch â chyffwrdd plu adar gwyllt nac arwynebau sydd wedi’u halogi â gwastraff adar gwyllt
- os ydych chi’n cadw dofednod neu fathau eraill o adar, golchwch eich dwylo, glanhewch a diheintiwch eich esgidiau cyn trin eich adar
Os byddwch chi’n dod o hyd i unrhyw adar gwyllt marw, rhowch wybod amdanynt ar-lein neu ffoniwch linell gymorth Defra ar 03459 33 55 77.
Efallai y bydd APHA yn casglu rhai o’r adar marw ar gyfer profion gwyliadwriaeth. Fel arall, gall yr awdurdod lleol neu berchnogion y tir waredu’r adar yn ddiogel, os bydd angen.
Poster 2: mae ffliw adar wedi’i ganfod yn yr ardal hon, peidiwch â chymryd y risg o’i ledaenu
Mae’r poster hwn yn dweud:
- cadwch ar y llwybr troed, a chadwch gŵn ar dennyn
- peidiwch â bwydo adar dŵr gwyllt
- peidiwch â chodi na chyffwrdd adar sydd wedi marw neu sy’n sâl
- peidiwch â chyffwrdd plu adar gwyllt nac arwynebau sydd wedi’u halogi â gwastraff adar gwyllt
- os ydych chi’n cadw dofednod neu fathau eraill o adar, golchwch eich dwylo, glanhewch a diheintiwch eich esgidiau cyn trin eich adar
Os byddwch chi’n dod o hyd i unrhyw adar gwyllt marw, rhowch wybod amdanynt ar-lein neu ffoniwch linell gymorth Defra ar 03459 33 55 77.
Efallai y bydd APHA yn casglu rhai o’r adar marw ar gyfer profion gwyliadwriaeth. Fel arall, gall yr awdurdod lleol neu berchnogion y tir waredu’r adar yn ddiogel, os bydd angen.
Poster 3: peidiwch â chymryd y risg o ledaenu ffliw adar
Mae’r poster hwn yn dweud:
- cadwch ar y llwybr troed, a chadwch gŵn ar dennyn
- peidiwch â chodi na chyffwrdd adar sydd wedi marw neu sy’n sâl
- peidiwch â chyffwrdd plu adar gwyllt nac arwynebau sydd wedi’u halogi â gwastraff adar gwyllt
- os ydych chi’n cadw dofednod neu fathau eraill o adar, golchwch eich dwylo, glanhewch a diheintiwch eich esgidiau cyn trin eich adar
Os byddwch chi’n dod o hyd i unrhyw adar gwyllt marw, rhowch wybod amdanynt ar-lein neu ffoniwch linell gymorth Defra ar 03459 33 55 77.
Efallai y bydd APHA yn casglu rhai o’r adar marw ar gyfer profion gwyliadwriaeth. Fel arall, gall yr awdurdod lleol neu berchnogion y tir waredu’r adar yn ddiogel, os bydd angen.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 31 Awst 2022Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Ebrill 2023 + show all updates
-
Content available in Welsh language
-
Updated the posters with new reporting criteria for dead wild birds. Added instructions for land managers about using these posters.
-
Updated the posters with links to new guidance about reporting dead wild birds.
-
Added QR codes to the posters. The public can scan these to access web pages about bird flu.
-
Updated the posters with more information about reporting dead wild birds.
-
First published.